Neidio i'r prif gynnwy

Gan gynnwys pa mor aml, pam bod hyn yn bwysig a'r hyn sy'n digwydd os bydd y prawf yn bositif.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n rhaid inni ddod o hyd i anifeiliaid sydd wedi'u heintio, a'u symud, cyn gynted â phosibl er mwyn rheoli'r clefyd hwn.  

Pam mae hyn yn bwysig

Yn y gorffennol, roedd achosion dynol o TB gwartheg o ganlyniad i yfed llefrith heb ei drin. Mae pobl wedi'u diogelu bellach drwy'r broses o basteureiddio llefrith ac archwilio cig.   

Mae achosion clinigol o TB mewn gwartheg bellach yn brin, oherwydd rhaglenni profi TB.

Bydd dangos nad oes TB mewn buchesi unigol, mewn rhanbarthau penodol, a ledled Cymru yn:

  • arbed arian i'r trethdalwr
  • bwysig i fasnachu anifeiliaid a nwyddau byw yn y dyfodol
  • gwella ein henw da yn y byd amaethyddol.

Dod o hyd i’r clefyd

Rydym yn defnyddio prawf croen yng ngwddf gwartheg i ddod o hyd i anifeiliaid sydd wedi'u heintio. Mae hyn yn cymharu ymateb sensitif iawn i'r pigiad tuberculin buchol ac adar. Ar y cyfan, mae anifeiliaid sy'n adweithio i'r tuberculin buchol yn fwy nac i'r tuberculin adar yn cael eu hystyried yn adweithyddion prawf croen. Mae hwn yn brawf hen iawn, ond yn parhau i gael ei ddefnyddio ledled y byd fel y prif brawf gwyliadwriaeth ar gyfer rhaglenni rheoli TB. Mae'r prawf yn debygol o ddod o hyd i ddim ond un 'positif ffug' ym mhob 5000 o wartheg heb y clefyd sy'n cael eu profi. Ond, ar ei orau, mae'n bosibl mai dim ond 80% o'r anifeiliaid sydd wedi'u heintio fydd yn bosibl dod o hyd iddynt. Nid oes ar hyn o bryd unrhyw brawf, na chyfuniad o brofion, fyddai yn:

  • dod o hyd i bob buwch sydd wedi'i heintio â TB, ac
  • yn dod o hyd i bob buwch sydd heb ei heintio fel anifeiliaid negatif

Bydd prawf gwaed Interferon-gamma hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn rhai buchesi i helpu i ddod o hyd i anifeiliaid eraill sydd wedi'u heintio.

Rydym yn profi:

  • pob buches pob blwyddyn 
  • unrhyw anifail cyn iddo symud oddi ar y fferm, ac eithrio: 
    • lloi o dan 42 diwrnod oed, neu
    • anifeiliaid sy'n cael eu symud i ladd-dy, crynhoad cigydda neu ganolfan gasglu, lle mae'r holl anifeiliaid yn cael eu hanfon i'w lladd

Rydym yn archwilio anifeiliaid yn y lladd-dy i ddod o hyd i unrhyw un sydd wedi'i heintio â TB, sydd heb eu canfod yn y rhaglen goruchwylio profion.

Rydym yn cosbi ceidwaid da byw sydd ddim yn cadw at ein rhaglen brofi.

Delio â ffynhonnell yr haint

Os ydych yn amau bod anifail wedi'i heintio â TB:

  • rydym yn eu hynysu o'r fuches
  • rydym yn lladd yr anifail, yn trefnu am bost-mortem ar y corff ac yn ceisio creu meithriniad o'r organeb
  • rydym yn cynnal asesiad epidemiolegol i ddod o hyd i darddiad yr haint
  • rydym yn cyfyngu ar symudiadau'r fuches gyfan
  • rydym yn trefnu profion mewn buchesi cyfagos
  • rydym yn olrhain anifeiliaid sydd wedi'u prynu a gellir trefnu profi'r fuches wreiddiol

Ei ddileu

Os bydd anifail yn profi'n bositif am TB:

  • bydd trefniadau'n cael eu gwneud i roi gwerth ac i ladd yr anifail yn fuan wedyn
  • cynnal gwaith profi pellach ar y fuches yn rheolaidd.   Mae'r gwaith profi yn parhau tan nad oes unrhyw adweithyddion yn cael eu canfod, fel arfer ar ôl 2 brawf yn olynol.
  • rydym yn dod o hyd i anifeiliaid sy'n cael eu symud o'r fuches yn ystod y cyfnod o risg, cyn inni ganfod y clefyd. Rydym yn cynnal rhagor o brofion arnynt

Os nad ydym yn dod o hyd i'r gwartheg sydd wedi'u heintio nac yn eu symud, gallant fod yn anifeiliaid peryglus o fewn y fuches am sawl blwyddyn. Weithiau yn heintio anifeiliaid eraill yn y fuches yn raddol. Weithiau'n arwain at achosion niferus o'r clefyd.

Ble yr ydym yn parhau i ddod o hyd i anifeiliaid adweithiol mewn buches 18 mis wedi'r achos cyntaf:

  • rydym yn gofyn i'r asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) edrych ar yr achos
  • Bydd APHA yn gweithio gyda'r ceidwad a'u milfeddyg preifat i wybod beth yw'r achos
  • a byddant yn llunio cynllun gweithredu wedi'i dargedu i'w rheoli.

Ein nod yw cefnogi'r buchesi hyn i fod yn glir o TB.

Ei rwystro rhag dychwelyd

Caiff cyfyngiadau symud eu codi o'r buchesi sydd wedi bodloni y rhaglen profi achosion.

Mae buchesi sydd wedi'u rhyddhau o gyfyngiadau yn ddiweddar yn fwy tebygol o ddioddef o achos o TB. Mae oddeutu 30% o achosion yn ail-godi o fewn 2 flynedd i godi cyfyngiadau.

Mae'r rhesymau dros weld TB yn ail-godi yn cynnwys: 

  • cyflwyno haint newydd o fywyd gwyllt Mae mesurau ymarferol y gall geidwaid eu mabwysiadu i rwystro cysylltiad rhwng gwartheg a moch daear mewn ardaloedd o'r fferm sydd â risg uchel
  • cyflwyno clefyd newydd drwy brynu anifail wedi'i heintio. Ceidwaid yn chwilio am anifail, sy'n addas ar gyfer eu gofynion am y pris iawn, ond yn anwybyddu'r perygl o gyflwyno TB i'w buchesi.
  • anifeiliaid wedi'u heintio yn aros yn y fuches er gwaethaf ein rhaglen profi achosion. Mae'n rhaid i achosion hirdymor fodloni mesurau profi pellach. Mae hyn yn lleihau'r risg o anifeiliaid wedi'u heintio yn aros yn y fuches ar ddiwedd achos o TB yn y fuches.