Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

4. Waliau islaw lefel y ddaear

Gan ddibynnu a yw'r sylfaen ar gyfer adeilad sengl newydd yn ddwfn neu'n fas, gallai fod angen gwneud ychydig neu lawer o waith adeiladu waliau islaw lefel y ddaear (a elwir yn is-strwythur). Bydd y waliau sydd uwchlaw lefel y ddaear (a elwir yn uwchstrwythur) yn cael eu hadeiladu ar y waliau hynny sydd islaw lefel y ddaear.

Y prif beth y mae angen i’r is-strwythur ei wneud yw sicrhau bod digon o gynhaliaeth yn cael ei rhoi i’r uwchstrwythur. Dylai'r is-strwythur (brics neu flociau a morter) fod yn effeithiol, a dylai allu gwrthsefyll rhew yn ogystal â sylffadau yn y ddaear.