Yn y canllaw hwn
2. Lloriau
Trosolwg
Bydd angen i lawr ddarparu ar gyfer un neu ragor o'r swyddogaethau a ganlyn:
- Cynhaliaeth strwythurol i gynnwys a defnyddwyr yr ystafell a phwysau'r llawr ei hun; ac
- Os yw'n llawr gwaelod, gwrthsefyll:
- Lleithder o'r ddaear; a
- Cholli gwres (inswleiddio thermol)
Mae tri dull cyffredinol o adeiladu llawr gwaelod:
- Llawr concrit solet, sy'n gorffwys ar y ddaear
- Llawr pren crog
- Llawr concrit crog
Garej
Yn gyffredinol, bydd llawr nodweddiadol ar gyfer garej yn cynnwys seiliau caled, tywod llenwi, croen atal lleithder, a choncrit. Ystyrir ei bod yn arfer da gosod rhwyll atgyfnerthu yn y concrit, oherwydd gall hynny leihau'r perygl iddo gracio dan lwyth (pwysau) cerbyd. Ni fydd angen inswleiddio'r llawr fel rheol.
Adeiladau storio, rhandai a hafdai
Gall y lloriau yn y mathau hyn o adeiladau fod yn un o'r tri math cyffredinol a amlinellir uchod. Bydd yr union fanyleb ar gyfer y llawr yn dibynnu ar sut y bwriedir defnyddio'r adeilad ac a fwriedir ei wresogi. Gellir cael gafael ar ragor o wybodaeth am bob math o lawr yn yr adran ar loriau ar gyfer estyniadau.