Kiera Dwyer
Enillydd
Mae Kiera Dwyer wedi dangos penderfyniad, ymroddiad ac ymrwymiad wrth sicrhau cyfres o gymwysterau i gefnogi ei gwaith mewn fferyllfa gymunedol yn Abercynon.
Mae Kiera, 24, o Rydyfelin, Pontypridd, sydd â Syndrom Irlen, a elwir hefyd yn straen gweledol, wedi cymryd cyfrifoldeb ychwanegol er mwyn rhoi mwy o amser i fferyllwyr yn Fferyllfa Sheppards, sy’n rhan o grŵp Avicenna, i ymdrin â chleifion rheng flaen. O ganlyniad, caiff y fferyllfa sgôr o hyd at 100% gan gleifion.
Cwblhaodd Brentisiaeth Rhaglen Hyfforddi Technegydd Fferylliaeth Cyn-gofrestru a oedd yn cynnwys Diploma BTEC Lefel 3 mewn Gwyddor Fferyllol trwy’r corff dyfarnu Pearson a City & Guilds Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferylliaeth.
Cyflwynwyd y brentisiaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gyda chymorth gan ALS Training.