Noddwyr
Diolch i bob un o’r noddwyr ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
Ein noddwyr | Sefydliad |
---|---|
Prif noddwr | Openreach |
Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu a Lefel 1) | ACT Ltd |
Y Llawlyfr | Prifddinas Ranbarth Caerdydd |
Hysbysebu a’r cyfryngau cymdeithasol | Buddsoddwyr mewn Pobl |
Prentis Sylfaen y Flwyddyn | Academi Sgiliau Cymru |
Prentis y Flwyddyn | City & Guilds |
Prentis Uwch y Flwyddyn | Educ8 / ISA Training |
Cyflogwr Canolig y Flwyddyn | Wales England Care |
Cyflogwr Mawr y Flwyddyn | Babcock International Group |
Macro-gyflogwr y Flwyddyn | PeoplePlus Cymru |
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith (Asesydd a Thiwtor) | Agored Cymru |
ACT
Meddai Caroline Cooksley, Cyfarwyddwr Datblygu ACT:
"Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ffordd wych o glodfori'r unigolion dawnus sydd wedi ffynnu diolch i raglenni Dysgu Seiliedig ar Waith ac wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae ACT yn falch o noddi'r Categori Cyflogadwyedd gan gydnabod yr unigolion hynny sydd wir wedi rhagori."
Openreach
Dywedodd Connie Dixon, cyfarwyddwr partneriaethau Openreach yng Nghymru:
“Rydym wrth ein bodd o gael cefnogi’r digwyddiad ardderchog hwn eleni eto a hoffem longyfarch pawb sydd yn y rownd derfynol am gyrraedd mor bell.
“Mae prentisiaethau wedi bod yn rhan allweddol o strategaeth recriwtio Openreach erioed. Yn ogystal â dod ag egni, cyffro a brwdfrydedd i’n busnes, maen nhw’n dod â sgiliau newydd, profiadau newydd a syniadau newydd. Pob hwyl i bawb sydd yn y rownd derfynol.”
Os hoffech noddi Gwobrau Prentisiaethau Cymru, e-bostiwch Karen Smith Karen Smith yn Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru neu ffoniwch 029 2049 5861/ 07425 621709.
Defnyddir yr holl arian nawdd i wella Gwobrau Prentisiaethau Cymru.