Am y Gwobrau Prentisiaethau Cymru
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith mewn 7 dosbarth gwahanol.
Categorïau
Bydd Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith mewn 9 dosbarth gwahanol.
Prentisiaethau – Dysgwr
- Prentis Sylfaen y Flwyddyn
- Prentis y Flwyddyn
- Prentis Uwch y Flwyddyn
- Doniau Yfory
Prentisiaethau – Cyflogwr
- Cyflogwr Bach a Chanolig y Flwyddyn (1-249 o weithwyr)
- Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn (250-5000+ o weithwyr)
Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith
- Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith
Yn ogystal â’r gwobrau yn y dosbarthiadau uchod, mae’r Beirniaid yn cadw’r hawl i roi Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Beirniaid gyda’r nod o gydnabod rhagoriaeth mewn unrhyw agwedd ar gyflenwi rhaglenni Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau nad yw’n dod yn uniongyrchol o dan Feini Prawf y Gwobrau.
Dyddiadau allweddol
Dechrau’r cyfnod ymgeisio
9 Mai 2023
Dyddiad cau
7 Gorffennaf 2023 (hanner dydd)
Cyhoeddi'r rhestr fer
16 Tachwedd 2023
Seremoni wobrwyo
22 Mawrth 2024
Amodau a thelerau ymgeisio
- Rhaid cyflwyno pob ffurflen gais erbyn 12 o’r gloch, hanner dydd, Amser Haf Prydain (BST) ar 7 Gorffennaf 2023. Sylwch: Caiff y ffurflenni cais eu tynnu oddi ar lein yn awtomatig ar yr amser uchod a bydd unrhyw ddolenni a anfonwyd atoch cyn hynny yn stopio gweithio.
- Dim ond un ffurflen gais y cewch ei hanfon ar gyfer pob ymgeisydd; ni fydd unrhyw geisiadau dilynol a anfonir ar gyfer yr ymgeisydd hwnnw yn cael eu derbyn.
- Bydd angen i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol sicrhau eu bod ar gael at ddibenion cyhoeddusrwydd (ffotograffau, ffilmio a datblygu astudiaethau achos) lle bo’n briodol a bod modd gwneud hynny’n ddiogel, drwy gydol mis Medi, mis Hydref a mis Techwedd 2023.
- Bydd angen i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan mewn Seremoni Wobrwyo ar 22 Mawrth 2024. Os bydd amgylchiadau annisgwyl yn codi, gall cynrychiolydd gymryd rhan yn lle’r cystadleuydd.
- Mae penderfyniad y Beirniaid yn derfynol ac ni fyddant yn cymryd rhan mewn gohebiaeth na thrafodaethau.