Neidio i'r prif gynnwy

Mae croesawu eich babi bach i’r byd yn foment arbennig iawn.

Mae croesawu eich babi bach i’r byd yn foment arbennig iawn. Mae babis yn cyfathrebu mewn nifer o ffyrdd – does dim rhaid i chi aros iddyn nhw grio cyn rhoi cwtsh iddyn nhw neu chwarae gyda nhw. Ni fyddwch chi’n sbwylio eich babi os byddwch yn rhoi llawer o gwtshys a sylw iddo. Bydd yn dysgu bod y byd yn lle diogel, a bydd yn teimlo’n ddiogel.

Bydd yn cymryd amser i ddod i arfer â chael babi a cheisio deall beth sydd eisiau arno. Does dim angen rhuthro i gael trefn yn syth. Cymerwch amser i ddod i adnabod eich babi newydd a mwynhau amser gyda’ch gilydd. Bydd y cyfnod arbennig hwn yn helpu’r cwlwm rhyngoch i dyfu.

Mae’r e-lyfr ‘Naw Mis a Mwy’, sydd wedi’i ysgrifennu gan rieni, gweithwyr iechyd proffesiynol a seicolegwyr plant, ar gael i’ch arwain ar hyd y daith newydd hon. Mae pum rhan i’r llyfr: Bod yn feichiog, Geni, Chi a’ch babi newydd, Eich babi’n tyfu ac Eich plentyn bach. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod, i gyd mewn un lle.

Ar hyd y daith, cofiwch:

1. Gofalwch amdanoch chi eich hun

Gall fod yn gyfnod dwys ac mae’n bosibl y byddwch yn teimlo llawer o emosiynau gwahanol. Mae’n newid eich bywyd, ond cofiwch ofalu amdanoch chi eich hun hefyd!

Mae’n debygol y bydd grwpiau cymorth i rieni newydd ar gael yn eich ardal leol. Dyma reswm gwych i fynd allan, ac mae’n gyfle i gwrdd â rhieni newydd eraill a rhannu profiadau. Gofynnwch i’ch bydwraig, ymwelydd iechyd, neu cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol. Dewch o hyd i’ch gwasanaeth lleol drwy Dewis Cymru.

Efallai y byddwch yn sylwi bod eich hwyliau’n newid, efallai y byddwch yn fwy byr eich amynedd neu’n ddagreuol. Weithiau, gelwir hyn yn y felan, neu ‘baby blues’ yn Saesneg, a gall bara am ychydig wythnosau. Fodd bynnag, os bydd eich symptomau’n para am gyfnod hwy, mae’n bosibl mae iselder ô l-enedigol ydyw. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Mind.

Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych yn poeni am deimlo dan straen neu’n isel eich ysbryd, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu eich Meddyg Teulu.

2. Gwenwch yn siŵr bod eich partner yn cael ei gynnwys

Os oes dau ohonoch yn magu’r plentyn, mae eich partner yn bwysig iawn hefyd. Os nad chi yw’r prif ddarparwr gofal, efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich gadael allan. Os yw’n cael eu cynnwys wrth fagu’r plentyn, mae’n bwysig cofio bod y partner yn bwysig hefyd. Mae ymchwil wedi dangos bod Tadau yn cael effaith gadarnhaol ar fywyd eu plentyn o adeg ei eni. Gallwch chi a’ch partner gryfhau’r berthynas gyda’ch babi drwy roi cwtshys iddo, siarad, canu, gwenu a chadw cyswllt llygaid.

3. Gofalwch am eich perthynas

Os ydych yn magu’r plentyn gyda’ch gilydd, gall nosweithiau di-gwsg a babi sy’n crio roi straen ar eich perthynas gyda’ch partner. Ceisiwch gefnogi eich gilydd a pheidiwch â chynhyrfu wrth i chi ddysgu beth mae eich babi ei angen. Cymerwch dro i fynd am nap. Ceisiwch gysgu pan fydd eich babi yn cysgu. I gael rhagor o wybodaeth am gydberthnasau pan fyddwch yn dod yn rieni am y tro cyntaf, ewch i Couple Connection neu Relate.

4. Siarada â fi

Yn y mis cyntaf, gall eich babi weld a chlywed, ac efallai y bydd yn troi tuag at synau cyfarwydd fel eich llais. O fewn yr ychydig wythnosau cyntaf, bydd eich babi yn dechrau sylw mwy ar eich llais, eich gwên, a bydd yn adnabod ei Fam a’i Dad neu ei ofalwr. Mae angen cwtshys a sylw ar blentyn, ac mae angen i chi siarad ag ef er mwyn i’w ymennydd ddatblygu.

Er mwyn eu helpu i ddatblygu, gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â’ch babi mor aml â phosibl. Mae’r BBC wedi llunio rhai argymhellion defnyddiol ar sut i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, iaith a lleferydd eich babi. Gallwch hefyd ddarllen i’ch babi, ond daliwch y llyfr yn agos gan nad yw babis newydd yn gallu gweld yn bell iawn. Mae mwy o syniadau am sut i siarad a chwarae gyda’ch babi ar gael gan y National Literary Trust ac mae cefnogaeth ar gael i fagu eich plentyn yn Gymraeg hefyd. Hyd yn oes os nad ydych chi’n rhugl, mae siarad ychydig o eiriau o Gymraeg hyd yn oed yn rhoi’r dechrau gorau i’ch babi at gael bywyd dwyieithog. Gallech chi a’ch plentyn hefyd ganu hwiangerddi Cymraeg, sydd i’w cael ar wefan y Mudiad Meithrin. Mae’r caneuon hyn yn cynnwys nifer o eiriau syml sy’n ei gwneud yn hawdd i blant bach amsugno’r Gymraeg.

5. Cadw eich babi’n ddiogel

Gallwch gadw eich babi’n ddiogel mewn nifer o wahanol ffyrdd. Ydych chi wedi ystyried:

  • cysgu’n ddiogel
  • effeithiau smygu goddefol – mae mwg ail-law yn niweidio eich babi. Cadwch eich babi i ffwrdd o fwg yn eich cartref, y car a phan fyddwch yn mynd allan. Os ydych chi neu aelod o’ch teulu am roi’r gorau i smygu, ewch i wefan Helpa fi i Stopio neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0808 274 4179
  • hawliau’r plentyn – Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawliau. Yng Nghymru, mae gennym Gomisiynydd Plant. Ei gweledigaeth yw i blant fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel. Mae ei rôl yn cynnwys edrych ar sut y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn gwneud penderfyniadau a sut y maent yn effeithio ar hawliau plant. I ddeall mwy am hawliau plant yng Nghymru, dilynwch Hawliauplantcymru / ChildrensRightsWales ar Facebook, Twitter ac Instagram.
  • sut i ymdopi pan fydd eich babi yn crio – mae gofalu am fabi sy’n crio yn gallu bod yn waith caled a gall eich digalonni. Os yw’r cyfan yn mynd yn ormod i chi, rhowch eich babi mewn lle diogel a gadewch yr ystafell am eiliad tan eich bod yn teimlo’n well. Peidiwch byth â siglo’ch babi. Gall hyn achosi niwed i’w ymennydd. Dylech gefnogi gwddf a phen y babi wrth ei godi neu ei roi lawr i orwedd bob tro. Mae gan yr NSPCC lyfryn yn dangos ffyrdd diogel o ddal eich babi. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, peidiwch ag ofni gofyn am help. Mae Cry-sis yn rhoi cymorth i ymdopi â babis sy’n crio a ddim yn cysgu. Gallwch ffonio’r llinell gymorth ar 08451 228 669 (mae llinellau ar agor rhwng 9am a 10pm, 7 diwrnod yr wythnos)
  • Beth i wneud os ydych yn credu bod eich babi’n sâl – Os oes ganddo dymheredd uchel, mae’n bosibl bod eich babi’n sâl. Os ydych chi’n credu bod rhywbeth o’i le, cysylltwch â GIG 111 Cymru i gael cyngor.