Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pob babi yn crio ac weithiau mae'n gallu bod yn anodd ymdopi. Crio yw ffordd eich babi o ddweud wrthych chi beth mae'n ei feddwl a'i deimlo, a bod angen eich help i'w gysuro. Gydag amser, byddwch chi'n dod i adnabod eich babi, a beth mae ei wahanol synau yn ei olygu.

Efallai fydd eich babi yn crio pan fydd yn:

  • Llwglyd - efallai fydd angen i'ch babi fwydo'n amlach nag ydych chi'n ei feddwl. Os yw hi wedi bod awr ers y bwyd diwethaf, efallai fod eich babi yn llwglyd.
     
  • Unig - mae'ch babi'n teimlo'n ddiogel pan fydd yn gallu gweld eich wyneb, clywed eich llais, eich arogli a theimlo eich cyffyrddiad. Crio yw ei ffordd o ofyn i gael ei ddal i deimlo'n ddiogel.
     
  • Gwlyb neu fudr - edrychwch i weld os yw ei gewyn yn wlyb neu'n fudr, a'i newid os ydyw.
     
  • Wedi blino - ceisiwch ei siglo’n dyner mewn ystafell eithaf tywyll.
     
  • Rhy boeth neu rhy oer – am gyngor ar dymheredd diogel a gwisgo gweler: www.lullabytrust.org.uk/safer-sleep-advice/baby-room-temperature/ (Saesneg). 
     
  • Anghyfforddus - efallai fod eich babi'n teimlo'n anghyfforddus oherwydd bod rhywbeth yn ei grafu fel tocyn neu sip ar ddilledyn.
     
  • Wedi’i orgyffroi - efallai fod eich babi wedi cyffroi gormod, yn enwedig os oes llawer o ymwelwyr neu bethau wedi digwydd, a llawer o synau, golygfeydd ac arogleuon. Ceisiwch fynd â'ch babi i ystafell heb bobl eraill ac yn ymyl wal blaen.
     
  • Cael trafferth gyda gwynt – mae aer sy’n sownd yn gallu bod yn boenus. Ceisiwch rwbio cefn eich babi i gael gwared ar y gwynt.
     
  • Sâl neu â thwymyn - os oes tymheredd uchel, efallai ei fod yn sâl. Os ydych yn meddwl bod rhywbeth o'i le cysylltwch â GIG 111 Cymru (www.111.wales.nhs.uk) am gyngor. Gallwch eu ffonio ar 111.

Ffyrdd o geisio cysuro babi sy’n crio

  • Dal eich babi lle bydd yn gallu eich gweld yn hawdd neu deimlo curiad cyfarwydd eich calon. Yn ystod mis cyntaf babi, dim ond cyn belled ag wyneb y person sy'n ei ddal y mae’n gallu ei weld.
     
  • Daliwch eich babi'n agos, gwenwch arno, siarad, canu neu fwmian. Mae mwmian hefyd yn tawelu oedolion, gan greu dirgryniadau rhythmig.
     
  • Ceisiwch rwbio cefn eich babi neu ei siglo yn ysgafn i greu rhythm sy'n cysuro.
     
  • Gall cyswllt croen i groen fel tylino, gysuro’ch babi ac efallai y bydd yn gwneud i chi ymlacio hefyd.
     
  • Os ydych chi'n bwydo ar y fron cynigiwch y fron.
     
  • Os ydych chi'n bwydo o botel ystyriwch gynnig dymi. Dylech sterileiddio dymis fel gyda photeli. Peidiwch â’u rhoi nhw mewn unrhyw beth melys a cheisiwch gyfyngu ar eu defnydd.
     
  • Rhowch fath i'ch babi neu ceisiwch fynd am dro gyda'ch gilydd.

Cofiwch beidio byth ag ysgwyd eich babi. Gall hyn niweidio ei ymennydd. Cefnogwch wddf a phen eich babi bob amser pryd bynnag y byddwch chi'n ei godi neu ei roi i lawr.

Os yw'n mynd yn ormod i chi, rhowch eich babi mewn lle diogel (e.e. crud clir, diogel, i ffwrdd o anifeiliaid) a gadael yr ystafell am rai munudau yn unig nes i chi deimlo'n dawelach. Neu gofynnwch i ffrind neu aelod o'r teulu ofalu am eich babi am ychydig er mwyn i chi gael amser i deimlo'n well. Gallai ffonio llinell gymorth Cry-sis (Saesneg) ar 08451 228 669 fod o gymorth hefyd.

Os ydych chi'n poeni bod eich babi yn crio, gofynnwch i'ch ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu am gyngor. Efallai y byddai’n helpu i gadw cofnod o ba mor aml a phryd mae'ch babi'n crio.

Mae'n iawn gofyn am help

Mae gwasanaethau a sefydliadau all roi cymorth a chyngor i chi. Efallai y bydd y llinellau cymorth hyn yn ddefnyddiol:

  • Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned (C.A.L.L.) - callhelpline.org.uk - ar 0800 132 737 (gwasanaeth 24 awr), neu decstio 'help' i 81066. Mae hon yn llinell gymorth gyfrinachol sy'n cynnig cymorth emosiynol ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig.
  • Y Samariaid (samaritans.org) ar 116 123 (gwasanaeth cyfrinachol 24 awr). Gallwch gysylltu am unrhyw beth sy'n eich poeni, ni waeth pa mor fawr neu fach yw’r mater.

Ble i gael cyngor a chefnogaeth

Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg (os wyt yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg) a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael.

Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (www.ggd.cymru) lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy'n digwydd yn dy ardal.