Dyddiau Cynnar
Does dim ots faint o Gymraeg rwyt yn gallu ei ddeall neu ei siarad, mae siarad Cymraeg â dy fabi o’r crud yn bwysig ac yn rhoi’r dechrau gorau posibl iddo.
Dechreua ddod i'r arfer o siarad Cymraeg o'r cychwyn cyntaf - rho gynnig ar ychydig eiriau y dydd os wyt yn ansicr. Mae'n amser gwych i ti fagu hyder yn dy Gymraeg.
Mae canu yn ffordd dda o gyfathrebu â dy fabi. Ceisia ganu rhai hwiangerddi Cymraeg neu chwarae CD o rai. Edrych ar ein Calendr Digwyddiadau i weld a yw dy Fenter Iaith leol neu sefydliadau eraill yn cynnal grwpiau penodol eraill yn dy ardal di e.e. ioga babi neu gerddoriaeth babi .
O 6 mis ymlaen, bydd sgiliau iaith dy faban yn datblygu yn gyflym. Dyma'r amser i ddechrau darllen storïau syml a throi tudalennau llyfrau lluniau gyda'ch gilydd. Gofyn i dy lyfrgell leol am lyfrau Cymraeg neu ddwyieithog - mae yna lawer gyda geiriau Cymraeg a Saesneg syml ochr yn ochr.
Dyma'r cyfnod y bydd dy fabi yn dechrau dynwared synau a chysylltu geiriau gyda gwrthrychau. Defnyddia eiriau Cymraeg bob dydd gyda dy blentyn wrth sgwrsio a gwranda ar ei ymateb.