Is-bwnc
Lefel rhybudd 4
Mae Cymru oll ar lefel rhybudd 4.
Newidiadau diweddar a newidiadau i ddod
O 27 Chwefror
Gall aelwydydd gydag un neu fwy o blant o dan 1 oed ffurfio swigen gydag un aelwyd arall.
Os ydych yn 16 neu yn 17 mlwydd oed ac yn byw ar eich pen eich hun, neu gydag eraill o’r un oed â chi heb unrhyw oedolion, gallwch ffurfio swigen gefnogaeth gydag un aelwyd arall.
O 1 Mawrth
Gall lleoliadau sy’n “fangreoedd cymeradwy” agor dim ond er mwyn cynnal:
- priodas neu seremoni partneriaeth sifil
- math arall o seremoni briodas megis priodas ddyneiddiol