Canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun.
Cynnwys
A yw COVID-19 wedi diflannu?
Nid yw COVID-19 wedi diflannu a bellach rydym yn byw gyda COVID-19 fel un o nifer o heintiau anadlol.
Rydym yn debygol o weld patrymau heintio sy’n newid ledled y byd am sawl blwyddyn. Po fwyaf o bobl ym mhob gwlad sy'n cael eu brechu, y lleiaf yw'r risg i bawb, gan gynnwys yn y DU.
Mae parhau â phatrymau ymddygiad sy’n ein hamddiffyn yn bwysig ac yn helpu i leihau ein cysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaeniad, yn ogystal â heintiau anadlol a chlefydau eraill.
Mae ymddygiadau cyffredinol sy’n ein hamddiffyn yn cynnwys:
- cael eich brechu os ydych yn gymwys
- aros gartref os ydych yn sâl ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill
- sicrhau hylendid dwylo da
- gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur dan do neu fannau caeedig, gan gynnwys lleoliadau iechyd a gofal
- cwrdd ag eraill yn yr awyr agored
- mewn lleoliadau dan do, cynyddu’r awyru a gadael awyr iach i mewn os yw’n bosibl
Oes angen imi wisgo gorchudd wyneb?
Nid yw gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus eraill o dan do bellach yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
Er nad yw bellach yn ofyniad cyfreithiol drwy wisgo gorchudd wyneb byddwch yn helpu i amddiffyn pobl eraill o'ch cwmpas, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed.
Parchwch ddewisiadau pobl eraill, p'un a ydynt yn dewis gwisgo gorchudd wyneb ai peidio.
Gall busnesau a lleoliadau eraill hefyd ddewis gofyn i'w staff neu eu cwsmeriaid wisgo gorchudd wyneb pan fyddant ar eu safle, er nad oes eu hangen yn gyfreithiol arnynt. Mae angen i weithredwyr safleoedd hefyd gadw mewn cof na all rhai pobl wisgo gorchuddion wyneb am amrywiol resymau dilys.
Dylech hefyd barchu unrhyw benderfyniadau gan safleoedd unigol ynghylch y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i mewn i'w safle neu o’i fewn.
Nid wyf wedi cael fy mrechu, a yw'n rhy hwyr?
Brechu yw ein hamddiffyniad gorau o hyd yn erbyn COVID-19. Maent wedi achub bywydau ac wedi atal llawer o bobl rhag gorfod cael triniaeth ysbyty.
Hyd yn oed os ydych wedi cael COVID-19, mae’n dal yn bwysig eich bod yn cael y pigiad i gynyddu eich amddiffyniad, os ry’ch chi’n gymwys.
Rydyn ni'n annog y rheini sy'n gymwys i gael eu brechu pan fyddan nhw'n cael eu gwahoddiadau.
Mae fy nghyflogwr yn dweud na allaf weithio gartref bellach, beth allaf ei wneud?
Nid yw gweithio gartref yn ofyniad cyfreithiol bellach. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn fesur effeithiol i reoli iechyd y cyhoedd er mwyn lleihau cysylltiad pobl â'r coronafeirws a'i ledaeniad, yn ogystal â heintiau anadlol a chlefydau eraill.
Mae busnesau a chyflogwyr yn cael eu hannog i ystyried trefniadau gweithio gartref fel rhan o'u dyletswyddau cyffredinol o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a Gwaith.
Efallai fod yna angen busnes neu les gwirioneddol sy'n golygu na ellir gwneud eich gwaith o gartref. Os ydych yn credu y gallwch weithio gartref, dylech drafod hyn gyda'ch cyflogwr neu’ch undeb llafur yn y lle cyntaf. Os na allwch ddatrys y mater, cysylltwch â’ch undeb llafur neu gofynnwch am gyngor gan Acas.
Beth allaf ei wneud os ydw i’n poeni am y mesurau diogelu yn fy ngweithle?
Rydym yn cydnabod, wrth ddileu mesurau diogelu cyfreithiol sy'n benodol i'r coronafeirws, y gallai rhai unigolion fod yn bryderus am eu hiechyd a'u diogelwch yn y gweithle, yn enwedig wrth i fwy o bobl ddychwelyd i amgylchedd gwaith wyneb yn wyneb.
Os oes gennych bryderon bod eich iechyd a’ch diogelwch yn cael eu cyfaddawdu yn y gwaith, dylech drafod hyn gyda'ch cyflogwr neu’ch undeb llafur yn y lle cyntaf. Os na allwch ddatrys y mater, cysylltwch â’ch undeb llafur neu gofynnwch am gyngor gan Acas.
Rydw i ar fin teithio dramor, beth sydd angen imi ei wneud?
Er nad oes rheolau mewn grym yng Nghymru bellach, efallai bod rheolau teithio ar waith mewn gwledydd eraill. Os ydych yn byw yng Nghymru, darllenwch gyngor teithio tramor GOV.UK ar gyfer unrhyw wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi.
Does dim rheolau teithio COVID-19 ar waith ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd Cymru o dramor.