A ydych chi’n gymwys i gael triniaethau COVID-19.
Mae cleifion y GIG sy’n wynebu risg uwch yn sgil COVID-19 yn gymwys i gael triniaeth gartref.
Brechu yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed. Mae brechu yn diogelu pobl rhag salwch yn sgil COVID-19. Golyga hyn bod llai o risg o lawer erbyn hyn y bydd pobl yn dioddef salwch difrifol, ac na fyddant yn elwa o driniaethau gwrthfeirol.
Gall rhai pobl gael triniaethau gwrthfeirol os ydynt yn parhau i wynebu risg uchel o gael COVID-19 yn ddifrifol.
Triniaeth COVID-19 i bobl sydd â risg uchel o gael COVID-19 yn ddifrifol
Mae'n bosibl y gall pobl sydd â risg uchel o fod yn ddifrifol sâl yn sgil COVID-19 dderbyn triniaeth gartref.
Mae’r grŵp risg uchaf yn cynnwys pobl sydd â’r cyflyrau canlynol:
- anhwylderau cromosomaidd sy’n effeithio ar y system imiwnedd, gan gynnwys syndrom Down
- mathau penodol o ganser, neu wedi cael tynnu canser yn y 12 mis diwethaf
- wedi cael naill ai radiotherapi neu gemotherapi yn y 12 mis diwethaf
- clefyd y crymangelloedd
- cyflyrau penodol sy’n effeithio ar y gwaed, neu wedi cael trawsblaniad bôn-gelloedd haematolegol
- clefyd cronig yn yr arennau (CKD) cam 4 neu 5
- clefyd difrifol yr afu
- wedi cael trawsblaniad organ
- rhai clefydau awto-imiwn neu gyflyrau llidiol y mae angen meddyginiaeth benodol ar eu cyfer fel:
- arthritis gwynegol
- clefyd llid y coluddyn
- HIV neu AIDS
- cyflwr niwrolegol prin fel:
- sglerosis ymledol
- clefyd Huntington
- clefyd niwronau motor
- myasthenia gravis
- system imiwnedd wan naill ai oherwydd cyflwr neu feddyginiaethau penodol
Os ydych yn perthyn i’r grwpiau a restrir uchod, ac yn profi’n bositif ar gyfer COVID-19, gallech fod yn gymwys i gael triniaethau. Mae triniaethau’n helpu i reoli eich symptomau a lleihau’r risg o fynd yn sâl oherwydd COVID-19.
Os ydych yn cael canlyniad positif i brawf COVID-19, cewch eich asesu i weld a ydych yn gymwys i gael triniaeth.
Beth sydd angen i chi ei wneud i gael y driniaeth
Os ydych yn perthyn i un o’r grwpiau a restrir uchod, dylech gadw profion llif unffordd yn eich cartref. Gwybodaeth am sut i gael gafael ar brofion llif unffordd COVID-19.
Cymerwch brawf cyn gynted ag y byddwch yn cael symptomau COVID-19. Os yw eich prawf yn negatif ond bod eich symptomau’n parhau, dylech gymryd prawf arall y diwrnod wedyn (diwrnod 2). Os yw’n parhau’n negatif, gwnewch brawf arall ar ddiwrnod 3. Os yw eich profion ar ddiwrnodau 2 a 3 yn negatif, mae’n annhebygol bod COVID-19 arnoch.
Beth ddylech chi ei wneud os byddwch yn profi’n bositif am COVID-19?
Os ydych yn perthyn i un o'r grwpiau uchod ac rydych yn gymwys i gael triniaeth, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu a dweud:
- bod gennych symptomau COVID-19
- eich bod wedi profi’n bositif am COVID-19
- eich bod chi'n credu eich bod yn perthyn i'r grŵp risg uchaf ac yn gymwys i gael triniaeth
Bydd eich meddyg teulu yn gallu asesu eich symptomau ac, os yw'n briodol, bydd yn gallu rhagnodi meddyginiaethau gwrthfeirol i chi.
Pa driniaethau sydd ar gael?
Triniaethau gwrthfeirysol
- Paxlovid (nirmatrelvir a ritonavir) 3 tabled, ddwywaith y dydd am 5 diwrnod. Gall y dos amrywio ar gyfer rhai unigolion, felly cofiwch ofyn i weithiwr iechyd proffesiynol os nad ydych yn siŵr.
- Efallai y bydd rhai pobl nad yw Paxlovid yn addas ar eu cyfer yn cael cynnig triniaeth gyda Lagevrio (molnupiravir) 4 capsiwl, ddwywaith y dydd am 5 diwrnod.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am driniaethau COVID-19.
Gwasanaethau Gwrthfeirysol ledled Cymru – Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru
Cael cymorth neu gyngor wrth gael triniaeth
Dylech gysylltu â’ch meddygfa, clinig arbenigol neu GIG 111 os ydych, yn ystod eich triniaeth, yn:
- parhau i deimlo’n sâl
- teimlo bod eich symptomau’n gwaethygu
Beth ddylech chi ei wneud os ydych wedi gwrthod triniaeth, ond bellach yn dymuno cael triniaeth ar gyfer COVID-19?
Os hoffech gael triniaeth COVID-19 nawr, ffoniwch eich meddygfa a byddant yn gallu rhoi’r arweiniad addas i chi.
Os ydych yn byw mewn cartref gofal
Os ydych yn byw mewn cartref gofal a bod gennych symptomau COVID-19, dylai aelod o staff drefnu bod eich bwrdd iechyd yn cynnal math arall o brawf. Bydd hyn yn penderfynu a oes gennych COVID-19 neu salwch anadlol arall fel y ffliw. Os byddwch yn profi'n bositif, bydd staff y bwrdd iechyd sy'n cynnal y prawf wedyn yn trefnu i chi gael eich asesu ar gyfer triniaeth.
