Neidio i'r prif gynnwy

11. Gwneud cais am ddisgownt neu ostyngiad Treth Gyngor

Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys am ddisgownt neu ostyngiad Treth Gyngor, dylech gysylltu ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’ch bil neu'r symiau yr ydych eisoes wedi’u talu, cysylltwch ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol yn uniongyrchol. 

Peidiwch ag ymateb i alwadau ffôn neu i unrhyw negeseuon testun sy’n awgrymu eich bod yn gymwys i gael ad-daliad. Rydym yn ymwybodol o weithgarwch twyllodrus yn ymwneud â’r dreth gyngor.