Yn y canllaw hwn
10. Eiddo gwag
Pan fo eiddo gwag yn cael ei werthu wedi marwolaeth y perchennog, bydd yr eiddo wedi ei eithrio rhag Treth Gyngor am 6 mis ar ôl y Grant Profiant.
Fydd rhai cartrefi ddim yn cael bil Treth Gyngor tra byddant yn aros yn wag. Mae’r rhain yn cynnwys cartrefi gwag:
- rhywun sydd yn y carchar (heblaw am beidio talu dirwy neu’r dreth gyngor)
- rhywun sydd wedi mynd i fyw mewn cartref gofal neu ysbyty
- rhywun yr adfeddiannwyd ei eiddo
- nad oes hawl preswylio ynddynt yn ôl y gyfraith, e.e. adfail
Efallai y byddwch yn gymwys i gael disgownt ar y Dreth Gyngor os yw’ch cartref yn cael gwaith atgyweirio mawr neu newidiadau strwythurol mawr.
Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol.