Neidio i'r prif gynnwy

2. Aelwydydd incwm isel

Os yw’ch aelwyd chi ar incwm isel, gallech gael help i dalu rhan, neu’r cyfan, o’ch bil Treth Gyngor, drwy’r Cynllun Gostyngiad Treth Gyngor.

Os ydych chi'n derbyn y budd-daliadau isod, gallwch wneud cais i asesu eich hawl a'i gymhwyso i’ch bil treth gyngor:

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm

Os nad ydych wedi cael gostyngiad yn eich bil, dylech gysylltu ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol.

Bydd unrhyw un sy’n gymwys i gael y budd-daliadau uchod, hyd yn oed os nad ydynt yn eu derbyn, yn gallu cael cymorth i dalu eu Bil Treth Gyngor.

Efallai y cewch gymorth hyd yn oed os nad ydych yn gymwys am y budd-daliadau hyn.

I weithio allan a oes gennych hawl am ostyngiad, a faint fyddai hwnnw, bydd eich awdurdod lleol yn edrych ar eich incwm wythnosol ac ar eich cyfalaf. Bydd cyfalaf yn cynnwys cynilion ac eiddo.

Hefyd, bydd maint y gostyngiad yn dibynnu a ydych o oedran gweithio neu’n bensiynwr.

Nid ydych yn gymwys am ostyngiad os ydych:

  • o dan 65 oed ac yn meddu ar gyfalaf o £16,000 neu fwy
  • dros 65 oed ac yn meddu ar gyfalaf o £16,000 neu fwy (oni bai eich bod chi neu’ch partner yn cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn)

Credyd Cynhwysol

Os ydych yn cael neu ar fin symud i Gredyd Cynhwysol, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol i wneud yn siŵr eu bod wedi eich asesu am ostyngiad yn eich treth gyngor.

Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol.