Yn y canllaw hwn
4. Myfyrwyr
Os ydych hi’n fyfyriwr, fydd dim rhaid ichi dalu’r Dreth Gyngor os ydych:
- yn byw mewn fflat neu dŷ ar ben eich hun
- yn byw mewn fflat neu dŷ gyda dim ond myfyrwyr eraill
- yn byw mewn neuadd breswyl
Os yw’r uchod yn berthnasol i chi, fydd dim rhaid ichi dalu treth gyngor ar eich eiddo hyd yn oed os yw’n wag ar adegau e.e. yn ystod y gwyliau. Ar yr amod eich bod wedi byw yn yr eiddo am o leiaf 6 wythnos, cewch eich eithrio rhag treth am hyd at 4 mis pan fo’n wag.
Os ydych yn byw gyda rhywun sydd ddim yn fyfyriwr, fyddwch chi ddim yn cael eich cyfrif ar gyfer Bil Treth Gynmgor yr eiddo.
Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol.