Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith Cyfuno yn cefnogi sefydliadau diwylliannol i wella lles a sgiliau cyflogaeth pobl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyfuno yw ein rhaglen a ddatblygwyd fel ymateb i'r adroddiad Diwylliant a Thlodi a ysgrifennwyd gan y Farwnes Andrews ac a gyhoeddwyd yn 2014.

Mae'n annog cydweithio rhwng sefydliadau diwylliant a threftadaeth a chyrff fel awdurdodau lleol, i gynyddu cyfleoedd i'r rheini mewn ardaloedd o anfantais economaidd. Mae'r cyfleoedd hyn yn cynnwys:

  • mynediad i wirfoddoli
  • cydweithio â chymunedau
  • profiad gwaith
  • gwella sgiliau digidol
  • blynyddoedd cynnar
  • dysgu teuluol
  • gwella dulliau dysgu a lles.

Mae'r cynlluniau cyflawni Cyfuno a'r Ffeithluniau yn dangos trosolwg o'r rhaglen gyfredol a chyflawniadau diweddar.

Mae'r Cynllun Grant Her yn cael ei ddarparu gan y cydgysylltwyr Cyfuno yn y meysydd canlynol:

  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Conwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Caerffili
  • mewn partneriaeth ag amrywiaeth o bartneriaid diwylliannol a threftadaeth lleol a chenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys:
    • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    • Amgueddfa Genedlaethol Cymru
    • Cyngor Celfyddydau Cymru
    • Cadw

Mae'r rhaglen Cyfuno wedi darparu cyllid ar gyfer mentrau eraill megis:

Roedd y prosiectau hyn i gyd yn rhan o amcanion ehangach y rhaglen Cyfuno.

I gael rhagor o wybodaeth am Fusion, cysylltwch â DiwylliantAChwaraeon@llyw.cymru

Adroddiadau

Ein hadroddiadau yn amlinellu sut rydym yn cael sefydliadau diwylliant a threftadaeth i weithio'n agosach â chyrff fel awdurdodau lleol drwy ein rhaglen Cyfuno.

Astudiaeth achos

Astudiaethau achos yn dangos Cyfuno ar waith.

Ffeithlun

Ffeithluniau sy'n dangos sut mae Cyfuno yn helpu i wella bywydau pobl ledled Cymru.