Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r astudiaeth achos hon yn enghraifft o sut mae Cyfuno a'i rwydwaith o bartneriaethau’n gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo a chynnig cyfleoedd drwy'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae swyddogion ieuenctid o un o ardaloedd cynllun y Grant Her yn gweithio'n agos gyda Cyfuno ac amrywiaeth o bartneriaid ym meysydd y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant i gynnig amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu cadarnhaol i'r disgyblion mwyaf difreintiedig. Ym mis Hydref 2016, cafodd Tara* (disgybl Blwyddyn 7) ei chyfeirio at y Swyddog Ieuenctid yn ei hysgol uwchradd oherwydd ei bod yn ddihyder ac am nad oedd ganddi fawr o feddwl ohoni ei hun. Roedd Tara hefyd yn ei chael yn anodd gwneud ffrindiau. Ei nod oedd mynd i’r afael â materion a oedd yn anodd iddi ac ymgynefino â bywyd yr ysgol a meithrin cyfeillgarwch â'i chyfoedion.

Pan oedd ym Mlwyddyn 8, cynigiwyd cyfle i Tara gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwaith grŵp. Cymerodd ran yn y prosiect Hyrwyddwyr Ifanc, ymunodd â grŵp cerdded a lles a bu’n mynd i weithgareddau y tu allan i oriau ysgol a drefnwyd gan y swyddog ieuenctid yn ystod y gwyliau.

Ym Mlwyddyn 9, cymerodd Tara ran yn y prosiect Treftadaeth Nas Cerir sy’n cael ei gefnogi gan Cyfuno ac mae wedi blodeuo a magu hyder ers hynny. Mae wedi bod yn ymwneud â nifer o weithgareddau ym meysydd y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant, gan gynnwys: prosiect sy'n creu barddoniaeth; cloddio ym Mharc Howard; prosiect cerflunio, a phrosiect Llenyddiaeth Cymru. Yn gynharach yn 2019, teithiodd Tara i Ffrainc ar ymweliad cyfnewid. Arweiniodd hynny at roi cyflwyniad ar y prosiect Treftadaeth Nas Cerir. Yn ogystal, mae wedi bod yn gysylltiedig â chreu ffilm fer ac mae wedi cynnal cyfweliadau ag aelodau allweddol o staff yr ysgol. Yn ystod gwyliau'r haf, bu Tara yn rhan o brosiect ieuenctid a gynhaliwyd gan People Speak Up, cwmni celfyddydol yng Nghymru.

A hithau bellach ym Mlwyddyn 10, mae Tara yn rhan o wobr Efydd Dug Caeredin; a’i nod yw cwblhau'r wobr erbyn mis Gorffennaf 2020. Mae hi hefyd yn dysgu canu'r gitâr, wedi dechrau bocsio, ac yn gwirfoddoli’n rheolaidd yn y clwb celfyddyd ar ôl ysgol, gan gefnogi disgyblion Blwyddyn 7 ac 8.  

O ran mesur pa mor bell y mae wedi dod mewn tair blynedd, mae hi bellach yn berson ifanc gwahanol iawn. Ar y dechrau, roedd Tara yn rhy swil i siarad, ond mae wedi manteisio’n llawn ar y cyfleoedd a gynigiwyd iddi ym meysydd y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant. Wrth wneud hynny, mae wedi datblygu’n berson mwy hyderus sy’n ymfalchïo ynddi ei hun ac yn edrych fel pin mewn papur. Mae wedi ffurfio grwpiau cyfeillgarwch cadarnhaol a pherthynas gadarnhaol gyda'i mam. Erbyn hyn, nid oes arni ofn mynd allan a chymdeithasu ac mae wedi derbyn ei rhywioldeb yn llawen.

Bydd Tara yn parhau i gael ei chefnogi a bydd yn cael cynnig cymorth pontio yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Gan weithio gyda phartneriaid, mae Cyfuno wedi cefnogi ei thaith a bydd yn parhau i wneud hynny, pryd bynnag y bydd hynny'n bosibl.

*Mae'r enw wedi cael ei newid i sicrhau nad oes modd adnabod yr unigolyn.