Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gwnaeth sefydliadau diwylliannol yng Ngwynedd annog teuluoedd i fod yn rhan o addysg eu plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Llofnod Dysgu Teulu yn offeryn cynllunio i helpu awdurdodau addysg i wella cyrhaeddiad, presenoldeb ac ymddygiad, yn enwedig gyda theuluoedd anodd eu cyrraedd a dysgwyr sydd wedi ymddieithrio. Defnyddir data'r Llofnod Dysgu Teulu i adnabod ar gam cynnar ddysgwyr a theuluoedd a allai ymddieithrio yn y dyfodol ac i nodi'r mathau o ymyriadau sy'n debygol o fod yn effeithiol.

Ar hyn o bryd mae'n cael ei ddefnyddio gan ysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector sy'n gweithio gyda phobl ifanc a theuluoedd sy'n agored i niwed ar draws y DU i wella presenoldeb, ymddygiad a chyrhaeddiad, lleihau gwaharddiadau ac atal pobl ifanc rhag ymddieithrio o addysg. Mae eisoes yn cael ei ddefnyddio ym mhob ysgol yng nghlwstwr Cymunedau yn Gyntaf Gwynedd.

Ar ôl ffurfio'r Ardal Arloesi, sy'n cael ei chydgysylltu gan yr awdurdod lleol, nododd y clwstwr Cymunedau yn Gyntaf lleol ei fod yn awyddus i ddyfnhau'r ymgysylltiad â'r Llofnod i sicrhau mwy o effaith barhaol, ond ei fod wedi cael trafferth dod o hyd i weithgareddau diddorol a chyffrous i bobl ifanc a'u teuluoedd. Gwelwyd cyfle i fanteisio ar hanes a diwylliant cyfoethog Gwynedd ac mae wyth o gyrff diwylliannol wedi cytuno i gydweithio i gynorthwyo'r clwstwr Cymunedau yn Gyntaf i weithredu'r Llofnod drwy ddatblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar ddiwylliant wedi'u targedu at deuluoedd.

Darparodd Archifau Gwynedd, Llyfrgell Gwynedd, Amgueddfa Gwynedd, Cadw, Amgueddfa Lechi Cymru, Galeri, Pontio a Llenyddiaeth Cymru ymyriadau ym mis Ionawr a Chwefror 2016 yn dilyn gweithgaredd datblygu a hyfforddi. Cymerodd 69 o deuluoedd ran mewn 31 o sesiynau addysgiadol. Roedd 84% o deuluoedd wedi ysbrydoli I gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd, a 98% yn teimlo’n fwy hyderus wrth gefnogi dysgu eu plant. Bydd y dull yn cael ei werthuso er mwyn nodi effaith ar ymddygiad, ymgysylltiad a chyrhaeddiad. 

Defnyddiwyd cyllid canolog yr Ardal Arloesi i drefnu gweithdai a hyfforddiant i'r cyrff diwylliannol sy'n gysylltiedig â'r prosiect, gan sicrhau bod pob un yn gweithio o fewn rhaglen gydlynol. Caiff y gweithgareddau eu hunain eu darparu gan ddefnyddio adnoddau presennol pob sefydliad partner.