Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gwnaeth sefydliadau diwylliannol yn Nhorfaen helpu i ddatblygu sgiliau cyflogaeth pobl a’u helpu i ganfod gwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Awdurdod lleol bach sy'n gwasanaethu nifer o gymunedau ôl-ddiwydiannol yw Torfaen. Mae llawer o'r cymunedau hynny'n wynebu problemau'n ymwneud â thangyrhaeddiad a diweithdra/tangyflogaeth. Mae'n cynnwys dau glwstwr Cymunedau yn Gyntaf.

Canfu'r Partneriaid Ardal Arloesi Torfaen, dan arweiniad yr awdurdod lleol, fod dau faes lle y gallai diwylliant gyfrannu'n ystyrlon at anghenion trigolion Cymunedau yn Gyntaf. Un o'r rhain oedd helpu i roi profiadau ystyrlon a diddorol i'r rhai a oedd wedi ymddieithrio o addysg ffurfiol neu'r rhai heb lawer o gymwysterau er mwyn rhoi hwb i'w hyder a'u cyflogadwyedd. 

Mae saith corff diwylliannol yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli, profiad gwaith a lleoliadau i drigolion lleol. Bydd y rhain yn cynnwys Cadw (Gwaith Haearn Blaenafon), Archifau Gwent, Able Radio, Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange, Randomz a Celf ar y Blaen. Bydd data ar niferoedd a chyfranogiad ar gael yn gynnar yn 2016. 

Y maes cymorth arall yw cyfoethogi'r cwricwlwm ysgol yn lleol drwy brofiadau diwylliannol. Mae'r holl weithgareddau'n canolbwyntio ar ysgolion sy'n gwasanaethu ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac sydd wedi'u cynllunio i gyfoethogi'r cwricwlwm ac ennyn diddordeb dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio neu sydd eisoes wedi gwneud hynny.

Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys gweithdai gan Llenyddiaeth Cymru a Llantarnam Grange, prosiect drama a ddatblygwyd gan Cadw, digwyddiad Kids in Museums  gyda'r Farwnes Andrews, yn ogystal â'r fenter Turner yn Nhorfaen lle yr aethpwyd â darn o waith gwreiddiol gan Turner o'r Llyfrgell Genedlaethol i ysgol gynradd yng Nghwmbrân. Bydd gwerthusiad yn ceisio asesu effaith profiadau o'r fath ar gynnydd a chyrhaeddiad y bobl ifanc.