Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur: 2020 a 2021 (dros dro)
Gwybodaeth am y gweithgareddau dysgu a statws y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar gyfer 2020 a 2021 (dros dro).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Darperir amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2020 ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2021 sy’n defnyddio’r data gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer pob agwedd ar gyfranogiad; mae hyn yn cynnwys rhywfaint o ddata terfynol, rhywfaint o ddata dros dro a rhywfaint o fodelu.
Mae’r datganiad hwn yn darparu’r ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer un o’r 46 dangosydd lles cenedlaethol.
Mae amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2020 ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2021 yn cynnwys rhan o gyfnod pandemig y Coronafeirws (COVID-19). Mae’n bosibl fod rhai o’r newidiadau a nodwyd yn deillio o amodau a achoswyd gan y pandemig. Er enghraifft dysgu a ohiriwyd neu a fethwyd, newidiadau i arholiadau ac asesiadau a newidiadau yn amgylchiadau’r farchnad lafur yn ystod cyfnod y pandemig.
Mae ansicrwydd ychwanegol ynghylch yr amcangyfrifon hyn, oherwydd problemau gyda rhai o'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd. Darperir esboniad yn yr adran am wybodaeth ansawdd allweddol.
Prif bwyntiau
Pobl ifanc 16 i 18 oed
- Cyfranogiad pobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg a hyfforddiant wedi gostwng o 78.0% yn 2020 i 76.3% yn 2021.
- Y gyfran mewn cyflogaeth wedi cynyddu o 32.0% yn 2020 i 35.3% yn 2021.
- Mae’r amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2020 yn dangos bod y gyfran a oedd yn NEET wedi aros heb ei newid rhwng 2019 a 2020 ar 11.7%. Mae amcangyfrifon dros dro'n awgrymu bod y gyfran hon wedi cynyddu wedyn i 13.6% yn 2021, sef y lefel uchaf erioed. Mae'r cynnydd hwn yn ymwneud yn bennaf â chynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, er bod cynnydd bach mewn diweithdra hefyd.
Pobl ifanc 19 i 24 oed
- Mae cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg neu hyfforddiant wedi cynyddu o 38.4% yn 2020 i 41.9% yn 2021. Dyma’r lefel uchaf a gofnodwyd erioed.
- Y gyfran mewn cyflogaeth wedi gostwng ychydig o 62.2% yn 2020 i 62.0% yn 2021.
- Mae’r amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2020 yn ddangos bod y gyfran a oedd yn NEET wedi gostwng ychydig o 16.1% yn 2019 i 15.8% yn 2020. Mae amcangyfrifon dros dro'n awgrymu bod y gyfran wedi cynyddu wedyn i 16.3% yn 2021.
Cyfranogiad pobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg ac yn y farchnad lafur
Mae Siart 1 yn dangos y tueddiadau cyfranogiad mewn addysg neu hyfforddiant, ac mewn cyflogaeth i bobl ifanc 16 i 18 oed ers 2003.
Cyn 2008, arhosodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd mewn addysg neu hyfforddiant ar yr un lefel fwy neu lai, sef 74% - 76%. Yn dilyn dechrau’r dirwasgiad yn 2008, cafwyd cynnydd yng nghyfran pobl ifanc 16 i 18 oed a oedd mewn addysg neu hyfforddiant, i lefelau o tua 80%. Rhwng 2014 a 2021 gostyngodd y gyfran yn raddol i 76.3% yn 2021.
Mewn cyferbyniad, gostyngodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed mewn cyflogaeth yn gyffredinol o 2004, ac yn benodol o 44.4% yn 2006 i 27.9% yn 2011. Fe wnaeth y gyfran gynyddu rhwng 2011 a 2018 ac wedyn gostwng 6.5 pwynt canran i 32.0% rhwng 2018 a 2020. Yn dilyn hyn, gwelwyd cynnydd o 3.2 pwynt canran i 35.3% yn 2021.
(p) Dros dro
Noder: Gall unigolyn fod mewn addysg/hyfforddiant a chyflogaeth.
Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar gyfer StatsCymru
Cyflogaeth
- Yn 2021, roedd 35.3% o bobl ifanc 16 i 18 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser.
- Amcangyfrifwyd bod 25.1% o bobl ifanc 16 i 18 oed mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant ac mewn cyflogaeth yn 2021, cynnydd o’i gymharu â 21.7% yn 2020. Myfyrwyr mewn addysg lawn amser a oedd hefyd yn gweithio’n rhan-amser oedd y rhan fwyaf o’r rhain.
- Yn 2021, roedd 10.1% o bobl ifanc 16 i 18 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser ond nid mewn addysg na hyfforddiant, gostyngiad o 10.3% yn 2020.
Addysg a hyfforddiant
- Roedd 76.3% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn cymryd rhan mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant (llawn amser neu ran-amser) yn 2021, gostyngiad o 78.0% yn 2020
- Roedd cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn 64.7%, gostyngiad o 2.2 pwynt canran ers 2020.
- Roedd cyfran uwch o ferched 16 i 18 oed mewn addysg lawn amser – 67.8% o gymharu â 61.7% o fechgyn yn 2021.
- Yn ôl blwyddyn oedran unigol, roedd 72.8% o’r holl bobl ifanc 16 oed mewn addysg lawn amser yn 2021 o gymharu â 66.8% o bobl ifanc 17 oed a 54.0% o bobl ifanc 18 oed.
- Roedd mwy o fechgyn na merched yn cymryd rhan mewn hyfforddiant. Mewn cyfanswm, roedd 6,500 o bobl ifanc 16 i 18 oed yn cymryd rhan mewn hyfforddiant (cyrsiau dysgu seiliedig ar waith a hyfforddiant cysylltiedig â swydd) yn 2021. Mae hyn oddeutu 7.7% o’r holl fechgyn yn y grŵp oedran hwn o gymharu â 4.6% o ferched.
Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- Amcangyfrifwyd bod 14,200 o bobl ifanc 16 i 18 oed (13.6%) yn NEET yn 2021, o gymharu â 11,900 (11.7%) yn 2020.
- Roedd nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd yn NEET yn cynnwys 4,400 (4.2%) o bobl ifanc di-waith a 9,800 (9.4%) a oedd yn economaidd anweithgar (ac eithrio myfyrwyr) yn 2021 o gymharu â 4,100 (4.0%) o bobl ifanc di-waith a 7,800 (7.6%) a oedd economaidd anweithgar (ac eithrio myfyrwyr) yn 2020.
- Roedd 14.7% o ddynion 16 i 18 oed yn NEET yn 2021, sy’n gynnydd o 4.0 pwynt canran o gymharu â 2020. Roedd 12.4% o fenywod yn NEET yn 2021 o'i gymharu â 12.6% yn 2020.
Cyfranogiad pobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg ac yn y farchnad lafur
Mae Siart 2 yn dangos y tueddiadau cyfranogiad mewn addysg neu hyfforddiant ac mewn cyflogaeth i bobl ifanc 19-24 oed ers 2003.
Arhosodd y gyfran mewn addysg neu hyfforddiant ar yr un lefel fwy neu lai dros y cyfnod hwn, sef 37% - 39%, cyn cynyddu 3.5 pwynt canran rhwng 2020 a 2021 i 41.9%. Dyma’r lefel uchaf a gofnodwyd erioed.
Mewn cyferbyniaeth, crebachodd y gyfran mewn cyflogaeth ar ôl dechrau dirwasgiad 2008 hyd nes 2010. Yna cynyddodd bob blwyddyn o 2012 i gyrraedd 65.9% yn 2017 cyn gostwng eto i 62.0% yn 2021.
(p) Dros dro
Noder: Gall unigolyn fod mewn addysg/hyfforddiant a chyflogaeth.
Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar gyfer StatsCymru
Cyflogaeth
- Yn 2021, roedd 62.0% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser.
- Roedd 41.8% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser ond nid mewn addysg neu hyfforddiant yn 2021.
- Yn ogystal, amcangyfrifwyd bod 20.1% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant ac mewn cyflogaeth yn 2021. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain fyfyrwyr mewn addysg lawn amser a oedd hefyd yn gweithio’n rhan-amser, fyfyrwyr dan hyfforddiant a oedd hefyd yn gweithio’n llawn-amser neu’n fyfyrwyr mewn addysg lawn amser a oedd hefyd yn gweithio’n llawn-amser.
Addysg a hyfforddiant
- Mewn cyfanswm, roedd 41.9% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn cymryd rhan mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant (llawn amser neu ran-amser) yn 2021. Dyma’r lefel uchaf a gofnodwyd erioed.
- Roedd 32.2% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg lawn amser yn 2021, i fyny o 28.8% yn 2020.
- Roedd cyfran uwch o ferched, 35.7% mewn addysg lawn amser o gymharu â 29.1% o fechgyn 19 i 24 oed yn 2021.
- Roedd 12,100 (5.2%) o bobl ifanc 19 i 24 oed yn cymryd rhan mewn hyfforddiant (cyrsiau dysgu seiliedig ar waith a hyfforddiant cysylltiedig â swydd) yn 2021, gyda chyfranogiad ymysg merched yn 5.1% a bechgyn yn 5.4%.
- Roedd cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn gostwng gydag oedran. O’r holl bobl ifanc 19 oed, roedd 57.9% mewn addysg lawn amser yn 2021 o gymharu ag 22.9% o bobl ifanc 22 oed a 10.2% o bobl ifanc 24 oed.
Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- Amcangyfrifwyd bod 37,800 o bobl ifanc 19 i 24 oed (16.3%) yn NEET yn 2021, cynnydd o gymharu ag 15.8% yn 2020.
- Roedd 15.9% o ferched 19 i 24 oed yn NEET yn 2021, cynnydd 1.6 pwynt canran o gymharu â 2020. Roedd 16.7% o fechgyn yn NEET yn 2021 o gynharu ag 17.2% yn 2020.
- Roedd y 37,800 o bobl ifanc 19 a 24 oed yn NEET yn 2021 yn cynnwys 10,700 (4.6%) o bobl ifanc di-waith a 27,100 (11.7%) a oedd yn economaidd weithgar (ac eithrio myfyrwyr). Roedd y ddwy gyfran wedi cynyddu ychydig ers 2020 (4.2% a 11.6%, yn y drefn honno).
Mae Siart 3 yn cymharu cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn ôl lefel astudio yn 2021 o gymharu â’r sefyllfa yn 2016. Er bod cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn gostwng gydag oedran, roedd cyfraddau cyfranogiad pobl ifanc 19 i 24 oed yn uwch yn 2021 na 5 mlynedd ynghynt. I’r rhai 16 oed, gostyngodd cyfranogiad mewn addysg lawn amser 7.6 pwynt canran yn 2021 o gymharu â 2016. I’r rhai 17 oed, gostyngodd y cyfranogiad hwn 3.3 pwynt canran ac i’r rhai 18 oed, gostyngodd 1.7 pwynt canran.
Dangosydd cenedlaethol a charreg filltir genedlaethol
Mae’r datganiad yma yn cynnwys data ar gyfer un o’r dangosyddion lleisiant cenedlaethol (22: Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran).
Mae carreg filltir genedlaethol yn gysylltiedig â'r dangosydd 'Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050’. Er bod y datganiad hwn yn ystyried data ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed a phobl ifanc 19 i 24 oed ar wahân, mae'r garreg filltir genedlaethol yn seiliedig ar yr ystod oedran 16 i 24 llawn.
Mae amcangyfrifon dros dro yn dangos bod 84.5% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2021, i lawr o 85.4% yn 2020.
Cyd-destun polisi a gweithredol
Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno cipolwg blynyddol ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur. Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r ystadegau i fonitro tueddiadau yn lefel cyfranogiad addysg a hyfforddiant, a chyfran pobl ifanc sy’n NEET.
Cyhoeddwyd y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn wreiddiol yn 2013 ac fe'i adnewyddwyd ym mis Medi 2022. Mae’r Fframwaith yn fecanwaith systematig i adnabod ac ymateb i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET, sydd yn NEET a/neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae'n canolbwyntio ar bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ac yn cynnwys 6 cydran craidd:
- Adnabod unigolion yn gynnar
- Broceru
- Monitro cynnydd
- Darpariaeth
- Cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth
- Atebolrwydd
Mae'r ystadegau hyn yn berthnasol i Cymru Gryfach, Tecach, Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau. Mae'r atodiad technegol ar gyfer y strategaeth yn cyfeirio at y dangosydd cenedlaethol yn seiliedig ar ddata o'r datganiad hwn (gweler hefyd yr adran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol isod). Mae'r ystadegau hyn hefyd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc.
Gwybodaeth o safon
Perthnasedd
Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r ystadegau i fonitro tueddiadau yn lefel cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant, a chyfran pobl ifanc sy’n NEET.
Mae defnyddwyr allweddol eraill yr ystadegau hyn yn cynnwys:
- aelodau o’r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil Senedd Cymru
- adrannau eraill y llywodraeth
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
Cywirdeb
Amrywioldeb wrth Samplu
Mae cyfrannau statws economaidd yn cael eu hamcangyfrif o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Felly, bydd yr amcangyfrifon hyn yn amrywio yn sgil camgymeriadau samplu a chamgymeriadau eraill a dylid eu trin yn ofalus. O ganlyniad, mae angen dehongli newidiadau mewn tueddiadau yn ofalus, gan y gallent ddeillio o effeithiau samplu yn ogystal ag effeithiau go iawn. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl gwahaniaethu rhwng yr effeithiau hyn.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi ailgalibradu pwysoliad setiau data’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol ar gyfer cyfnodau sy'n cwmpasu'r flwyddyn sy'n dod i ben yn chwarter 1 2020 i'r flwyddyn sy'n dod i ben yn chwarter 4 2021. Ceir rhagor o wybodaeth am yr ailbwysoliad hwn a'i effaith mewn erthygl a gyhoeddwyd gan yr ONS ar Effaith ailbwysoli ar yr Arolwg o’r Llafurlu (Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Polisi diwygiadau
Bydd ffigurau dros dro 2021 yn cael eu datgan yn derfynol yng nghyhoeddiad y flwyddyn nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2023. Mae’r tabl canlynol yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2020 a gyhoeddwyd yn natganiad y llynedd a’r amcangyfrif terfynol a gyhoeddwyd ar gyfer y gyfres allweddol o’r gyfran sy’n NEET, a’r gyfran sydd mewn addysg neu hyfforddiant.
NEET: nifer | NEET: y cant | Mewn addysg neu hyfforddiant: nifer | Mewn addysg neu hyfforddiant: y cant | |
---|---|---|---|---|
Dros dro | 11,300 | 11.1 | 80,900 | 79.2 |
Terfynol | 11,900 | 11.7 | 79,600 | 78.0 |
Gwahaniaeth | 600 | 0.6 | -1,300 | -1.2 |
NEET: nifer | NEET: y cant | Mewn addysg neu hyfforddiant: nifer | Mewn addysg neu hyfforddiant: y cant | |
---|---|---|---|---|
Dros dro | 36,400 | 15.2 | 96,400 | 40.4 |
Terfynol | 37,700 | 15.8 | 91,600 | 38.4 |
Gwahaniaeth | 1,300 | 0.5 | -4,800 | -2.0 |
Mae’r rhain yn ddiwygiadau mwy na’r rhai a welir gan amlaf pan fo amcangyfrifon dros dro’n cael eu diweddaru â’r data terfynol. Mae hyn yn rhannol oherwydd diwygiadau i lawr yn nifer y bobl ifanc mewn addysg amser llawn a rhan-amser rhwng data dros dro y llynedd a'r data terfynol sydd ar gael ar gyfer y datganiad hwn.
Dim ond yn unol â diwygiadau i ddata gwreiddiol y gwneir diwygiadau ar gyfer blynyddoedd cynharach. Efallai na fydd y cyfansymiau'n cyfateb oherwydd talgrynnu.
Data ar y boblogaeth
Caiff amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth hyd at ac yn cynnwys 2020 (yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011), ynghyd â rhagamcanion o’r boblogaeth sy'n seiliedig ar 2020, eu defnyddio i gyfrif yr amcangyfrifon cyfranogiad hyn. Mae'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 yn dangos bod poblogaeth Cymru yn is nag amcangyfrif canol blwyddyn 2020 a rhagamcan 2021. Gwelir gwahaniaethau mwy mewn grwpiau oedran iau. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth wedi'u hailsylfaenu a'r rhagamcanion wedi'u diweddaru yn 2023. O ganlyniad, rydym yn bwriadu adolygu amcangyfrifon cyfranogiad a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y datganiad y flwyddyn nesaf.
Gallai hyn effeithio hefyd ar ddata o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
Cymariaethau â blynyddoedd blaenorol
Gwnaed newidiadau i’r ffynonellau data a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gael yr amcangyfrifon cyfranogiad a gyflwynwyd ar gyfer diwedd blwyddyn 2004. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r amcangyfrifon cynharach hyn gydag amcangyfrifon o ddiwedd y flwyddyn 2004 ymlaen.
Cysylltwch â ni am gyngor cyn defnyddio cymariaethau â blynyddoedd blaenorol.
Yn arbennig, mae angen ystyried y newidiadau canlynol wrth wneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol:
Addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith
Disodlodd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru y Cofnod Myfyriwr Unigol o ddechrau blwyddyn academaidd 2004/05, felly mae’n bosibl y bydd diffyg dilyniant yn deillio o'r newid yn y broses o gasglu data. Cyn blwyddyn academaidd 2004/05 casglwyd gweithgarwch dysgu seiliedig ar waith drwy'r Gronfa Ddata Hyfforddeion Genedlaethol. Roedd y Gronfa Ddata honno yn cynnwys hyfforddeion Dysgu Seiliedig ar Waith yn y coleg, a oedd hefyd wedi'u cynnwys yn nifer y cofrestriadau AB. Mae'r cyfrif dwbl hwn wedi'i ddileu drwy gasglu gweithgarwch Dysgu Seiliedig ar Waith drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru drwy gyflwyno dynodydd unigryw sy'n gysylltiedig â'r dysgwr ni waeth ble mae ei weithgaredd yn digwydd.
Gweithgarwch economaidd
Ar gyfer 2001 i 2003 roedd gweithgarwch economaidd yn seiliedig ar Arolygon Llafurlu Lleol Cymru, ac roedd maint y sampl yn debyg i'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Cyn 2001/02, amcangyfrifwyd gweithgarwch economaidd drwy ddefnyddio'r Arolwg o'r Llafurlu.
Amseroldeb a phrydlondeb
Cyhoeddir y Datganiad Ystadegol hwn yn flynyddol, fel arfer ym mis Gorffennaf, ac mae'n cynnwys diwedd y flwyddyn flaenorol (data dros dro) a'r flwyddyn gynt (data terfynol). Fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddarach eleni oherwydd y gwaith o ail-bwysoli’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
Hygyrchedd ac eglurder
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cael ei gyn-gyhoeddi ac yna ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru. Mae’r holl ddata sylfaenol ar gyfer y datganiad hwn a blynyddoedd eraill ar gael ar wefan StatsCymru.
Agweddau cymharydd a chydlyniant
Ar gyfer y datganiad hwn, amcangyfrifwyd cyfranogiad mewn addysg ac yn y farchnad lafur drwy ddefnyddio data poblogaeth, addysg a dysgu seiliedig ar waith ynghyd â’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol i amcangyfrif statws y farchnad lafur. Mae rhagor o wybodaeth am y ffynonellau hyn a tharddiad yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn ar gael yn ein nodyn methodoleg.
Yn ogystal â’r datganiad hwn rydym yn cyhoeddi bwletin Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) i ddarparu ystadegau NEET mwy amserol a manwl (ond nid yn llai cadarn yn ystadegol) i ddefnyddwyr yn seiliedig ar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn unig.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac sy’n arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus uchaf.
Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, yn cynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a thrafodaeth. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2012 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- Wedi cynnwys nifer o ddelweddau gweledol yn dangos tueddiadau hirdymor yn ogystal â sylwadau ar y tueddiadau hyn
- Cael gwared ar dablau diangen o’r datganiad gan eu bod ar gael ar StatsCymru
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’u hailgyflwyno pan fydd safonau’n cael eu hadfer.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol sef:
- (22) Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf mae’n rhaid cyfeirio atynt mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.
Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.
Yn y datganiad hwn, mae dangosydd 22 ‘Canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran’, yn cyfateb i garreg filltir genedlaethol:
- Bydd o leiaf 90% o’r rhai 16-24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050
Rhagor o wybodaeth am ’Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Rydym am gael eich adborth
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. E-bostiwch yr adborth i ystadegau.addysgol16@llyw.cymru.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Jonathan Ackland
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 207/2022