Y ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cyhoeddiad diweddaraf

Cyhoeddiadau blaenorol

Dangosyddion llesiant cenedlaethol

Adroddiad ansawdd

Ymateb i adborth gan yr arolwg defnyddwyr

Cefndir

Beth yw'r adroddiad hwn?

Mae'r adroddiadau hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant. Mae'n adroddiad statudol sy'n ofynnol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n adroddiad sy'n edrych ar gynnydd Cymru gyfan fel gwlad. Nid yw'n adroddiad am berfformiad sefydliad unigol. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf ym mis Medi 2017. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Y bwriad yw gwneud i gyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy ynghylch y tymor hir, gan weithio'n well gyda phobl a chymunedau, a gyda'i gilydd, mynd ati i atal problemau, a gweithredu mewn ffordd fwy cyson. 

Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod saith nod llesiant ar gyfer Cymru fwy llewyrchus, iach, cydnerth, cyfartal a chyfrifol ar lefel byd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Beth yw dangosyddion cenedlaethol Cymru?

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod dangosyddion cenedlaethol i asesu'r cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Rhwng mis Medi 2015 a mis Ionawr 2016 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus eang i nodi pa gyfres fach o ddangosyddion y dylid eu datblygu i fesur cynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Cyhoeddwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ym mis Mawrth 2016 ac fe'u gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Lluniwyd y dangosyddion cenedlaethol i gynrychioli'r canlyniadau i Gymru a'i phobl a fydd yn helpu i ddangos y cynnydd tuag at y 7 nod llesiant. Nid oes bwriad iddynt fod yn ddangosyddion perfformiad ar gyfer sefydliad unigol.

Ceir disgrifiad llawn o'r dangosyddion cenedlaethol gan gynnwys eu diffiniad technegol a gwybodaeth am ffynonellau data ac amlder yn y dogfen technegol.

Mapio dangosyddion i'r nodau

Bydd nifer o ddangosyddion cenedlaethol yn helpu i adrodd hanes cynnydd yng Nghymru yn erbyn mwy nag un o'r Nodau Llesiant, neu Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Rydym wedi cynhyrchu dyfais ryngweithiol i fapio'r dangosyddion i'r nodau hynny.

Beth yw'r berthynas â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig?

Mae Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 yn gynllun gwaith trawsnewidiol wedi'i seilio ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig - i roi sylw i heriau argyfyngus byd-eang dros y 15 mlynedd nesaf. Mae nodau byd-eang y Cenhedloedd Unedig yn golygu y bydd yn rhaid i bob gwlad ar y blaned weithredu i drechu tlodi, hyrwyddo llewyrch a llesiant i bawb, diogelu'r amgylchedd a rhoi sylw i'r newid yn yr hinsawdd. Bwriedir i'r nodau hyn fod yn rhai pellgyrhaeddol, cyffredinol a thrawsnewidiol, sy'n canolbwyntio ar bobl. Mae aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig wedi ymrwymo i weithio'n ddiflino i'w rhoi ar waith erbyn 2030, ac fe fydd Cymru'n chwarae ei rhan.

Bydd nifer o ddangosyddion cenedlaethol yn helpu i adrodd hanes cynnydd yng Nghymru yn erbyn un o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Rydym wedi mapio’r dangosyddion yn erbyn y nodau.

Dan y bennod ar gyfrifoldeb  byd-eang rydym wedi amlygu rhai o’r dangosyddion a’r cyd-destun sy’n ymwneud yn uniongyrchol â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig o safbwynt cyfraniad Cymru.

Cerrig milltir cenedlaethol

Yn ogystal â gosod Dangosyddion Cenedlaethol, mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod Cerrig Milltir Cenedlaethol i helpu i fesur a yw cynnydd yn cael ei wneud ar lefel genedlaethol tuag at gyflawni’r nodau llesiant.

Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip datganiad ysgrifenedig ar gynigion ar gyfer datblygu cyfres o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru. Mae gwaith pellach nawr ar y gweill gyda phartneriaid allweddol i fynd a’r cynigion yma yn eu blaen.

Amseroldeb

Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Medi er mwyn sicrhau ei fod mor agos â phosib at ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol, ond ar ôl cyhoeddi Arolwg Cenedlaethol Cymru, sef ffynhonnell 14 o'r dangosyddion cenedlaethol.

Bydd data'r dangosyddion cenedlaethol yn cael eu cadw mor gyfredol â phosib wrth i setiau data newydd gael eu cyhoeddi ar gyfer y dangosyddion hynny. Ym mis Medi bob blwyddyn byddwn yn cyhoeddi diweddariad o adroddiad blynyddol Llesiant Cymru gan gynnwys diweddariad i’r naratif ar gyfer pob nod.

Cwmpas

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar Gymru. Ar gyfer rhai dangosyddion, cyfeirir at y sefyllfa o gymharu â'r DU. Mae'r naratif yn erbyn y nodau ac ar gyfer pob un o'r dangosyddion wedi'u seilio ar gynnydd cenedlaethol yn erbyn y nodau, ac nid yw'n ceisio darparu adroddiad ar gynnydd ar lefelau daearyddol gwahanol. Fodd bynnag, mae data sawl un o'r dangosyddion ar gael ar StatsCymru, neu ar gais, ar lefelau daearyddol manylach.

Hygyrchedd

Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn yn bennaf fel adroddiad rhyngweithiol ar-lein er mwyn manteisio i'r eithaf ar effaith ac effeithlonrwydd defnyddio gwasanaethau data agored Llywodraeth Cymru. Cynhyrchwyd fersiwn flynyddol o'r adroddiad hefyd yn cynnwys y saith adroddiad cynnydd yn erbyn y nodau fel PDF i'w argraffu.

Mae'r rhan fwyaf o'r data sy'n sail i'r adroddiad, gan gynnwys y manylion, ar gael ar StatsCymru a thrwy wasanaethau data agored StatsCymru.

A yw'r holl ddata'n ystadegau swyddogol?

Mae'r rhan fwyaf o'r dangosydd (32) wedi'u seilio ar ffynonellau a gyhoeddwyd fel ystadegau swyddogol, hynny yw sydd wedi'u cyhoeddi gan ystadegwyr y Llywodraeth, neu gyrff cyhoeddus eraill, dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae 24 o'r dangosyddion hynny wedi'u seilio ar ffynonellau a gyhoeddwyd fel Ystadegau Gwladol. Hynny yw mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi pennu'r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, gan ddangos cydymffurfiaeth gyda'r Cod. Golyga hyn eu bod yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Mae 12 o ddangosyddion wedi'u seilio ar ffynonellau eraill, fel data gweinyddol a gedwir gan adrannau'r llywodraeth. Nid oes data ar gyfer 2 o’r dangosyddion.

Er nad yw'r holl ffynonellau data a ddefnyddir yn ystadegau swyddogol, mae'r adroddiad ei hun wedi'i ddatblygu a'i gyhoeddi yn unol â'r Cod.

Mae rhywfaint o’r naratif yn yr adroddiad ynghylch 'cyfrifoldeb byd-eang' wedi’i seilio ar ddatganiadau ffeithiol ynghylch gweithredu rhaglenni a pholisi. Ni chasglwyd y data o ffynonellau ystadegau swyddogol, ac er eu bod yn cael eu hadrodd yma i roi cyd-destun, nid oes modd i ni ddarparu sicrwydd am ansawdd y data.

Beth arall ddylwn i ei wybod am y data?

Mae'r adroddiad ansawdd ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol wrth ochr y datganiad hwn yn darparu dolenni at wybodaeth am ansawdd bob un o'r ffynonellau data a ddefnyddir i fesur dangosyddion cenedlaethol, neu'n rhoi'r wybodaeth honno os nad yw ar gael rywle arall.

Mae’r adroddiad ansawdd ar gyfer gwybodaeth gyd-destunol yn rhoi rhagor o wybodaeth, lle bo ar gael, am y data a ddefnyddiwyd fel gwybodaeth gyd-destunol yn naratif y nodau.

Pwy yw defnyddwyr yr adroddiad hwn?

Disgwylir i'r adroddiad gael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru; Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys Aelodau'r Cynulliad a phwyllgorau); y cyfryngau; a'r cyhoedd yn gyffredinol i (i) helpu i ddeall Llesiant Cymru (ii) y cynnydd yn erbyn y 7 nod llesiant a (iii) lle mae Cymru'n gwneud cynnydd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Pan fydd y dangosyddion cenedlaethol a'r cerrig milltir wedi'u cyhoeddi, gallant helpu cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i gyfraith cenedlaethau'r dyfodol ddeall yn well natur y newid disgwyliedig wrth gyflawni'r nodau llesiant. Dylid ystyried y dangosyddion cenedlaethol fel tystiolaeth ddefnyddiol i helpu cyrff cyhoeddus i ddeall pa brif feysydd sydd angen gweld cynnydd mewn perthynas â'r nodau llesiant.

Bydd swyddogaeth benodol gan y dangosyddion cenedlaethol hefyd gan y bydd yn rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus Cymru gyfeirio atynt wrth ddadansoddi cyflwr economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd.

Dylai'r adroddiad hefyd gael ei ddefnyddio gan gyrff cyhoeddus er mwyn datblygu ac adolygu asesiadau llesiant ac i osod ac adolygu amcanion llesiant gofynnol dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Rhaid i'n hadroddiad llesiant blynyddol hefyd gael ei ystyried gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wrth baratoi a chyhoeddi 'Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol'.

Cyd-destun y DU

Ar gyfer y DU yn gyfan, mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol Raglen Llesiant Genedlaethol. Mae’r dangosfwrdd llesiant, sy’n cael ei ddiweddaru ddwywaith y flwyddyn, yn cynnig trosolwg gweledol o 43 prif dangosydd cenedlaethol, a gellir ei archwilio fesul y 10 adran o fywyd (parth) neu fesul cyfeiriad y newid.

Yn yr Alban, mae Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol yn gosod gweledigaeth ar gyfer llesiant cenedlaethol ac yn mesur yr hyn a gyflawnwyd mewn perthynas â hyn. Lansiwyd y Fframwaith newydd ym Mehefin 2018 yn dilyn proses adolygu eang ac agored, ac mae ganddo sail statudol (Deddf Ymrymuso’r Gymuned (yr Alban) 2015).

Yng Ngogledd Iwerddon, y prif system ar gyfer asesu llesiant cymdeithasol yw fframwaith llesiant o 12 canlyniad a ddatblygwyd gan y Weinyddiaeth flaenorol, a fu'n destun ymgynghoriad ac a fireiniwyd yn ystod 2016-2017. Mae'r fframwaith hwn, sy'n cynnwys 49 o ddangosyddion poblogaeth ategol, yn cynnwys Cynllun Cyflawni Canlyniadau Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon Cynllun ac adroddir ar y cynnydd o ran y canlyniadau a'r dangosyddion ar hyn o bryd drwy Ddangosydd Canlyniadau.