Gwybodaeth am ddeilliad yr ystadegau a gyhoeddir yn ein datganiad blynyddol cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur.
Cynnwys
Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd yn ein datganiad blynyddol, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, yn rhoi gwybodaeth am weithgareddau dysgu pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru a'u statws o ran y farchnad lafur ar ddiwedd y flwyddyn galendr. Maent yn deillio o nifer o ffynonellau gwahanol, a ddisgrifir isod.
Mae pob datganiad blynyddol yn darparu'r data terfynol ar gyfer blynyddoedd blaenorol ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf. Mae'r amcangyfrifon dros dro yn seiliedig ar y data gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer pob agwedd ar gyfranogiad. Mae'r rhain yn cynnwys rhywfaint o ddata terfynol, rhywfaint o ddata dros dro a rhywfaint o fodelu, gan ddibynnu ar y gwahanol ffynonellau data. Mae'r amcangyfrifon ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn ystyried data terfynol nad oeddent ar gael ar yr adeg pan gyhoeddwyd yr amcangyfrifon yn wreiddiol.
Roedd y datganiad Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025 yn cynnwys diwygiadau i amcangyfrifon pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), o 2012 i 2022.
- Mae'r data poblogaeth a ddefnyddir wrth lunio'r ffigurau wedi cael ei ddiwygio o 2012 i gynnwys amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn wedi'u hail-seilio gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)).
- Mae'r fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu data'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) wedi'i diweddaru o flwyddyn academaidd 2022/23, gan effeithio ar amcangyfrifon NEET o 2022 ymlaen. Bach iawn yw effaith y newid hwn yn y fethodoleg ar yr amcangyfrifon yn fach. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Addysg Uwch isod.
Mae'r datganiad hefyd yn cynnig ffynhonnell bendant ar gyfer amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc NEET yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am hyn a'r ffynonellau eraill o ystadegau NEET yng Nghymru ar gael yn ein canllaw i ddeall y ffynonellau gwahanol o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Ffynonellau data gweinyddol
Niferoedd y disgyblion ysgol
Cesglir gwybodaeth ym mis Ionawr bob blwyddyn o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Oherwydd lefelau’r achosion o'r coronafeirws (COVID-19) ym mis Ionawr 2022, gohiriwyd dyddiad cyfrifiad 2022 i 15 Chwefror 2022. Oherwydd bod yr ysgolion ar gau rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021 yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19), gohiriwyd dyddiad cyfrifiad 2021 tan 20 Ebrill 2021.
Mae'r oedrannau yn seiliedig ar ffigurau 31 Awst cyn dechrau'r flwyddyn academaidd. Dim ond ffigur cyfunol y mae'r cyfrifiad yn gofyn amdano ar gyfer pobl ifanc 19 oed neu'n hŷn – dim ond ar gyfer y bobl ifanc 19 hynny y caiff y ffigurau hyn eu cynnwys. Mae'r CYBLD yn cynnwys pob ysgol a gynhelir ac ysgol annibynnol.
Caiff unrhyw newidiadau i ddata dros dro CYBLD eu hadlewyrchu yn amcangyfrifon cyfranogiad terfynol.
Addysg uwch
Caiff gwybodaeth am y rhai mewn darpariaeth addysg uwch ei chasglu gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Mae'r casgliad hwn yn cynnwys y rhai sy'n astudio cyrsiau addysg bellach gyda darparwyr addysg uwch hyd at 2016/17. O 2016/17 ymlaen, mae hefyd yn cynnwys y rhai sy'n astudio ar lefel addysg uwch mewn colegau addysg bellach yng Nghymru.
Cyn 2022/23, dad-ddyblygwyd data ar sail dynodwr unigryw myfyriwr, fel mai dim ond un cofnod a gadwyd fesul dynodwr unigryw. O 2022/23 ymlaen, dad-ddyblygwyd data yn seiliedig ar gyfuniad dynodwr unigryw a darparwr addysg uwch y myfyriwr, gan nad yw'n ofynnol bellach i fyfyrwyr gadw eu dynodwr unigryw os ydynt yn astudio gyda gwahanol ddarparwyr. Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr sy'n astudio gyda mwy nag un darparwr gael eu cyfrif fwy nag unwaith.
Mae ‘sex unknown’ ac ‘other’ wedi'u cyfuno oherwydd materion ansawdd data hysbys sy'n gysylltiedig â'r maes adnabod rhyw yn y data HESA.
Ar gyfer blynyddoedd academaidd cyn 2022/23, mae'r dadansoddiad yn y datganiad hwn yn seiliedig ar boblogaeth 1 Rhagfyr (DecPop). O 2022/23, nid yw poblogaeth 1af Rhagfyr bellach yn cael ei nodi yn uniongyrchol yng nghofnod myfyrwyr HESA. Yn hytrach, o 2022/23 ymlaen, caiff gweithgarwch ar 1 Rhagfyr ei bennu gan sesiynau cwrs myfyrwyr a nodwyd fel rhai ‘active’ neu ‘writing up’ ar 1 Rhagfyr (SesActDec). Mae'r ddau ddull ychydig yn wahanol oherwydd newidiadau yn strwythur y cofnod HESA. Fodd bynnag, dangosodd profion ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 gan ddefnyddio'r boblogaeth sylfaenol o fyfyrwyr (y boblogaeth gofrestru safonol) fod defnyddio'r SesActDec wedi arwain at lai nag 1% yn llai o fyfyrwyr nag y byddai wedi'i ddisgwyl pe bai'r DecPop ar gael ar gyfer 2022/23, gan awgrymu bod parhad yn bosibl rhwng y ddau ddull at ddibenion cyfres amser.
Mae'r oedrannau'n hyd at 31 Awst cyn dechrau'r flwyddyn academaidd. Mae’r data'n ymwneud â chyfanswm nifer y myfyrwyr, er y gallai myfyrwyr sy’n astudio gyda gwahanol ddarparwyr ar yr un pryd gael eu cyfrif fwy nag unwaith.
Caiff amcangyfrifon diwedd blwyddyn dros dro eu modelu gan ddefnyddio'r Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES), a gesglir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Medr), sy'n rhoi arwydd cynnar o nifer y myfyrwyr AU ym mlwyddyn academaidd ddiweddaraf. Caiff data terfynol HESA eu cyflwyno yn lle'r amcangyfrifon dros dro hyn yn natganiad y flwyddyn nesaf.
Rydym hefyd yn defnyddio ffigurau ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sy'n astudio yn y Brifysgol Agored. Ffigurau "blwyddyn gyfan" yw'r rhain, h.y. maent yn cynnwys cofrestriadau drwy gydol y flwyddyn. Y pwynt cyfeirio ar gyfer oedran yw 1 Ionawr. Data dros dro yw'r data ar gyfer blwyddyn academaidd ddiweddaraf a chaiff data terfynol eu cyflwyno yn eu lle yn natganiad y flwyddyn nesaf.
Addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth am gofrestriadau mewn sefydliadau addysg bellach (SABau) a dysgu seiliedig ar waith drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
Mae'r dadansoddiad yn y datganiad hwn yn seiliedig ar gofrestriadau yn ystod wythnos 1 Rhagfyr. Mae ddata ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiweddaraf yn dal i gael eu dilysu felly mae amcangyfrifon dros dro yn seiliedig ar ddata a ddychwelwyd yn gynnar. Lle bo dysgwr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau mewn mwy nag un math o ddarpariaeth, cafodd ei neilltuo i un math penodol yn y drefn ganlynol: dysgu seiliedig ar waith mewn SABau, addysg uwch mewn SABau, math arall mewn SABau, dysgu seiliedig ar waith gyda darparwyr hyfforddiant eraill. Caiff dysgwyr sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu seiliedig ar waith gyda darparwyr hyfforddiant eraill a gweithgareddau dysgu mewn SABau eu cynnwys o dan y gweithgaredd yn y SAB. Caiff data terfynol eu cyhoeddi yn lle'r amcangyfrifon cynnar hyn yn natganiad y flwyddyn nesaf.
Ffynonellau data anweinyddol
Poblogaeth
Mae'r SYG yn cyfrifo amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth breswyl yn ôl blwyddyn oedran unigol ar 30 Mehefin. Ar gyfer y datganiad hwn, mae'r poblogaethau diwedd blwyddyn yn seiliedig ar yr amcangyfrifon canol blwyddyn diweddaraf ac amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol 2018. Mae'r amcangyfrifon hyn wedi'u haddasu i ystyried oedran ar 31 Awst.
Mae'r amcangyfrifon yn y datganiad diweddaraf wedi'u diwygio o 2012 i gynnwys amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn wedi'u hail-seilio gan ddefnyddio Cyfrifiad 2021, a gyhoeddwyd gan y SYG ym mis Tachwedd 2023.
Gweithgarwch economaidd
Amcangyfrifir gweithgarwch economaidd o ddata arolwg gan ddefnyddio cyfrannau sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef arolwg o gartrefi a gynhelir gan ONS. Mae’r Arolwg Blynyddol o Gartrefi yn cyfuno samplau wedi’u cyfnerthu yr Arolwg o’r Farchnad Lafur ac yn darparu data pedwar chwarter treigl. Mae’r data diweddaraf hyn yn cwmpasu blwyddyn galendr.
Mae rhai o’r amcangyfrifon yn seiliedig ar samplau bach a chanddynt ffin cyfeiliornad mawr o bosibl. O ganlyniad, mae angen i dueddiadau cyfranogiad yn y farchnad lafur gael eu dehongli’n ofalus, oherwydd gellid priodoli’r newidiadau i effeithiau samplu yn ogystal ag effeithiau gwirioneddol. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl gwahaniaethu rhwng yr effeithiau hyn.
Mae'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi gweld gostyngiad ym meintiau’r samplau dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw wedi cael ei ailbwysoli yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, gan arwain at fwy o anwadalrwydd ac ansicrwydd mewn amcangyfrifon a gynhyrchir o'r arolwg. Mae'n dal i fod yn briodol defnyddio'r ystadegau yn y datganiad hwn, ond dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol bod mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrifon.
Defnyddir yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i amcangyfrif y cyfrannau canlynol:
- Statws y rhai mewn addysg llawn amser o ran y farchnad lafur;
- Statws y rhai mewn addysg rhan amser o ran y farchnad lafur;
- Cyflogaeth llawn amser a rhan amser y rhai ar raglenni dysgu seiliedig ar waith, sy’n gyflogedig;
- Hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith a noddir gan y cyflogwr i’r rhai mewn cyflogaeth.
Noder bod statws cyflogaeth dysgwyr seiliedig ar waith yn seiliedig ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn hytrach na’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Yna, caiff y cyfrannau hyn eu cymhwyso at y niferoedd y gwyddys eu bod mewn addysg, dysgu seiliedig ar waith a chyfanswm y boblogaeth i amcangyfrif cyfranogiad yn ôl addysg a chyflogaeth. O ran dysgwyr seiliedig ar waith, caiff statws o ran y farchnad lafur ar ddechrau’r rhaglen ddysgu a gesglir drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ei ddefnyddio ynghyd â rhywfaint o ddata o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i amcangyfrif y cyfrannau mewn cyflogaeth llawn amser a rhan amser.
Mae’r ddogfen isod yn rhoi rhagor o fanylion am y fethodoleg a ddefnyddir i amcangyfrif cyfranogiad yn ôl addysg a gweithgarwch economaidd.
Dogfennau
