Neidio i'r prif gynnwy

Darperir amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2018 ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2019 sy’n defnyddio’r data gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer pob agwedd ar gyfranogiad; mae hyn yn cynnwys rhywfaint o ddata terfynol, rhywfaint o ddata dros dro a rhywfaint o fodelu.

Mae’r datganiad hwn yn darparu’r ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer un o’r 46 dangosydd lles cenedlaethol.

1. Prif bwyntiau

Pobl ifanc 16 i 18 oed

  • Cyfranogiad pobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg a hyfforddiant wedi cynyddu i 78.3% yn 2019 o gymharu â 77.6% yn 2018.
  • Y gyfran mewn cyflogaeth wedi gostwng o 38.5% yn 2018 i 36.3% yn 2019. Cyn hyn, roedd y gyfran wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2011.
  • Cyfran y rhai sy’n NEET wedi cynyddu i 11.1% yn 2019 o 10.6% yn 2018.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

  • Mae cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg neu hyfforddiant wedi cynyddu i 39.5% yn 2019 o 38.8% yn 2018.
  • Y gyfran mewn cyflogaeth wedi gostwng 64.0% yn 2018 i 63.4% yn 2019. Roedd y gyfran hon wedi cynyddu bob blwyddyn rhwng 2013 a 2018.
  • Y gyfran a oedd yn NEET yn 2019 oedd 15.7%, gostyngiad bychan o gymharu ag 16.0% yn 2018. Mae’r gyfran hon wedi gostwng bob blwyddyn dros y 7 mlynedd diwethaf.

2. Cyfranogiad pobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg ac yn y farchnad lafur

Mae Siart 1 yn dangos y tueddiadau cyfranogiad mewn addysg neu hyfforddiant, ac mewn cyflogaeth i bobl ifanc 16 i 18 oed ers 2004.

Cyn 2008, arhosodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd mewn addysg neu hyfforddiant ar yr un lefel fwy neu lai, sef 74% i 76%. Yn dilyn dechrau’r dirwasgiad yn 2008, cafwyd cynnydd yng nghyfran pobl ifanc 16 i 18 oed a oedd mewn addysg neu hyfforddiant, i lefelau o tua 80%. Yna, gostyngodd y gyfran hon rhwng 2013 a 2018 cyn cynyddu ychydig i fod yn 78.3%.

Mewn cyferbyniad, gostyngodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed mewn cyflogaeth yn gyffredinol o 2004, gyda gostyngiadau ychydig yn fwy rhwng 2007 a 2009. Rhwng 2011 a 2018 cynyddodd cyn gostwng i 36.3% yn 2019.

Image
Mae Siart 1 yn dangos cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed sydd mewn addysg neu hyfforddiant ac sydd mewn swydd. Roedd cynnydd bach o 77.6% i 78.3% yn y rhai mewn addysg neu hyfforddiant

Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar gyfer StatsCymru

Cyflogaeth

  • Yn 2019, roedd 36.3% o bobl ifanc 16 i 18 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser.
  • Amcangyfrifwyd bod 25.7% o bobl ifanc 16 i 18 oed mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant ac mewn cyflogaeth yn 2019, ychydig o ostyngiad o gymharu â 26.8% yn 2018. Myfyrwyr mewn addysg lawn amser a oedd hefyd yn gweithio’n rhan-amser oedd y rhan fwyaf o’r rhain.
  • Yn ogystal, roedd 10.6% mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser ond nid mewn addysg na hyfforddiant yn 2019, gostyngiad o 2018 (11.8%).

Addysg a hyfforddiant

  • Roedd 78.3% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn cymryd rhan mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant (llawn amser neu ran-amser) yn 2019.
  • Roedd cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn 64.2%, yr un fath â 2018.
  • Roedd cyfran uwch o ferched 16 i 18 oed mewn addysg lawn amser. 67.9% o gymharu â 60.7% o fechgyn yn 2019.
  • Yn ôl blwyddyn oedran unigol, roedd 72.9% o’r holl bobl ifanc 16 oed mewn addysg lawn amser yn 2019 o gymharu â 64.5% o bobl ifanc 17 oed a 55.4% o bobl ifanc 18 oed. 
  • Roedd mwy o fechgyn na merched yn cymryd rhan mewn hyfforddiant. Roedd 6,800 o bobl ifanc 16 i 18 oed yn cymryd rhan mewn hyfforddiant (cyrsiau dysgu seiliedig ar waith a hyfforddiant cysylltiedig â swydd) yn 2019. Mae hyn oddeutu 8.4% o’r holl fechgyn yn y grŵp oedran hwn o gymharu â 5.0% o ferched.

Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

  • Amcangyfrifwyd bod 11,200 o bobl ifanc 16 i 18 oed (11.1%) yn NEET, o gymharu â 10,800 (10.6%) yn 2018.
  • Roedd hyn yn cynnwys 4,100 o bobl ifanc ddi-waith a 7,100 a oedd yn economaidd anweithgar.
  • Roedd 12.2% o fechgyn 16 i 18 oed yn NEET o gymharu â 10.0% o ferched.

3. Cyfranogiad pobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg ac yn y farchnad lafur

Mae Siart 2 yn Dangos y tueddiadau cyfranogiad mewn addysg neu hyfforddiant ac mewn cyflogaeth i bobl ifanc 19-24 oed ers 2004.

Arhosodd y gyfran mewn addysg neu hyfforddiant ar yr un lefel fwy neu lai dros y cyfnod hwn, sef 37% i 39%. Cynyddodd y gyfran hon i 39.5% yn 2019. Mewn cyferbyniad, gostyngodd y gyfran mewn cyflogaeth ar ôl dechrau dirwasgiad 2012 i 2017. Yna, cynyddodd bob blwyddyn hyd at 2018 cyn gostwng ychydig i fod yn 63.4% yn 2019.

Image
Mae Siart 2 yn dangos bod cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed sydd mewn addysg neu hyfforddiant yn 39.5% yn 2019 o gymharu â 38.8% yn 2018

Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar gyfer StatsCymru

Cyflogaeth

  • Yn 2019, roedd 63.4% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser.
  • Roedd 44.8% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser ond nid mewn addysg neu hyfforddiant yn 2019.
  • Yn ogystal, amcangyfrifwyd bod 18.6% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant ac mewn cyflogaeth yn 2019. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain naill ai’n fyfyrwyr mewn addysg lawn amser a oedd hefyd yn gweithio’n rhan-amser neu’n fyfyrwyr mewn addysg neu hyfforddiant rhan-amser a oedd hefyd yn gweithio’n llawn amser.

Addysg a hyfforddiant

  • Roedd 39.5% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn cymryd rhan mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant (llawn amser neu ran-amser) yn 2019.
  • Roedd 29.3% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg lawn amser yn 2019, i fyny o 28.2% yn 2018.
  • Roedd cyfran uwch o ferched, 31.8% mewn addysg lawn amser o gymharu â 27.1% o fechgyn 19 i 24 oed yn 2019. 
  • Roedd 13,900 (5.8%) o bobl ifanc 19 i 24 oed yn cymryd rhan mewn hyfforddiant (cyrsiau dysgu seiliedig ar waith a hyfforddiant cysylltiedig â swydd) yn 2019, gyda chyfranogiad ymysg merched yn 5.5% a bechgyn yn 6.1%.
  • Roedd cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn gostwng gydag oedran. O’r holl bobl ifanc 19 oed, roedd 54.4% mewn addysg lawn amser yn 2019 o gymharu ag 19.8% o bobl ifanc 22 oed a 9.0% o bobl ifanc 24 oed.

Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

  • Amcangyfrifwyd bod 37,400 o bobl ifanc 19 i 24 oed (15.7%) yn NEET yn 2019, gostyngiad o gymharu ag 16.0% yn 2018.
  • Roedd 16.3% o ferched 19 i 24 oed yn NEET o gymharu â 15.2% o fechgyn yn 2019.
  • Roedd y 37,400 o bobl ifanc 19 i 24 oed yr amcangyfrifwyd eu bod yn NEET yn 2019 yn cynnwys 11,600 o bobl ifanc ddi-waith a oedd yn economaidd anweithgar.

Mae Siart 3 yn cymharu cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn ôl lefel astudio yn 2019 o gymharu â’r sefyllfa yn 2014. Er bod cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn gostwng gydag oedran, roedd cyfraddau cyfranogiad pobl ifanc 18 i 24 oed yn uwch yn 2019 na 5 mlynedd ynghynt. I’r rhai 16 oed, gostyngodd cyfranogiad mewn addysg lawn amser 8.8 pwynt canran yn 2019 o gymharu â 2014. I’r rhai 17 oed, gostyngodd y cyfranogiad hwn 7.7 pwynt canran.

Image
Mae Siart 3 yn dangos cyfranogiad mewn addysg amser llawn yn ôl lefel astudio ac oedran. Mae cymryd rhan mewn addysg amser llawn yn lleihau gydag oedran.

Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar gyfer StatsCymru

4. Cyd-destun Polisi/Gweithredol

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno cipolwg blynyddol ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur. Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r ystadegau i fonitro tueddiadau yn lefel cyfranogiad addysg a hyfforddiant, a chyfran pobl ifanc sy’n NEET.

Cyhoeddwyd y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid ym mis Ionawr 2013, a chynllun gweithredu ym mis Hydref 2013. Mae’r Fframwaith yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y bobl ifanc 11 i 25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae’r fframwaith yn seiliedig ar 6 elfen allweddol:

  • Nodi pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio
  • Gwell broceriaeth a chydgysylltu o ran cymorth
  • Prosesau tracio a phontio cryfach drwy’r system i bobl ifanc
  • Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion pobl ifanc
  • Atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i gael cyflogaeth
  • Gwell atebolrwydd i sicrhau gwell deilliannau i bobl ifanc

Mae lleihau nifer y bobl ifanc sy’n NEET hefyd yn rhan o Ffyniant i Bawb: Cynllun Cyflogadwyedd.

Mae dangosyddion ynghylch cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn rhan o asesiad cynnydd blynyddol y Strategaeth Tlodi Plant.

5. Gwybodaeth allweddol o ansawdd

Perthnasedd

Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r ystadegau i fonitro tueddiadau yn lefel cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant, a chyfran pobl ifanc sy’n NEET.

Mae defnyddwyr allweddol eraill yr ystadegau hyn yn cynnwys:

  • aelodau o’r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil Senedd Cymru
  • adrannau eraill y llywodraeth
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion

Cywirdeb

Amrywioldeb wrth Samplu

Mae cyfrannau statws economaidd yn cael eu hamcangyfrif o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Felly, bydd yr amcangyfrifon hyn yn amrywio yn sgil camgymeriadau samplu a chamgymeriadau eraill a dylid eu trin yn ofalus. O ganlyniad, mae angen dehongli newidiadau mewn tueddiadau yn ofalus, gan y gallent ddeillio o effeithiau samplu yn ogystal ag effeithiau go iawn. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl gwahaniaethu rhwng yr effeithiau hyn.

Polisi diwygiadau

Bydd ffigurau dros dro 2019 yn cael eu datgan yn derfynol yng nghyhoeddiad y flwyddyn nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021. Mae’r tabl canlynol yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2018 a gyhoeddwyd yn natganiad y llynedd a’r amcangyfrif terfynol a gyhoeddwyd ar gyfer y gyfres allweddol o’r gyfran sy’n NEET, a’r gyfran sydd mewn addysg neu hyfforddiant.

  NEET   Mewn addysg neu hyfforddiant  
  Nifer Y cant Nifer Y cant
16 i 18 oed        
Dros dro 2018 10,300 10.3 78,900 78.3
Terfynol 2018 10,800 10.6 78,700 77.6
Gwahaniaeth 400 0.3 -200 -0.7
19 i 24 oed        
Dros dro 2018 39,100 16.2 93,200 38.4
Terfynol 2018 38,500 16.0 93,700 38.8
Gwahaniaeth -600 -0.2 500 0.4

Dim ond yn unol â diwygiadau i ddata gwreiddiol y gwneir diwygiadau ar gyfer blynyddoedd cynharach. Yn ddiweddar, ail-bwyswyd data'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn ôl i 2012, ac mae'r gyfres wedi'i diweddaru gyda'r data newydd hyn. Efallai na fydd y cyfansymiau'n cyfateb oherwydd talgrynnu.

Cymariaethau â blynyddoedd blaenorol

Gwnaed newidiadau i’r ffynonellau data a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gael yr amcangyfrifon cyfranogiad a gyflwynwyd ar gyfer diwedd blwyddyn 2004. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu’r amcangyfrifon hyn gydag amcangyfrifon o ddiwedd blwyddyn 2004 ymlaen. Cysylltwch â ni am gyngor cyn defnyddio cymariaethau â blynyddoedd blaenorol.

Yn arbennig, mae angen ystyried y newidiadau canlynol wrth wneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol.

Amseroldeb a phrydlondeb

Cyhoeddir y datganiad ystadegol hwn bob blwyddyn ym mis Gorffennaf ac mae’n cwmpasu diwedd y flwyddyn flaenorol (data dros dro) a’r flwyddyn gynt (data terfynol). 

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cael ei gyn-gyhoeddi ac yna ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru. Mae’r holl ddata sylfaenol ar gyfer y datganiad hwn a blynyddoedd eraill ar gael ar wefan StatsCymru.

Agweddau cymharydd a chydlyniant

Ar gyfer y datganiad hwn, amcangyfrifwyd cyfranogiad mewn addysg ac yn y farchnad lafur drwy ddefnyddio data poblogaeth, addysg a dysgu seiliedig ar waith ynghyd â’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol i amcangyfrif statws y farchnad lafur. Mae rhagor o wybodaeth am y ffynonellau hyn a tharddiad yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn ar gael yn ein nodyn methodoleg.

Yn ogystal â’r datganiad hwn rydym yn cyhoeddi bwletin Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) i ddarparu ystadegau NEET mwy amserol a manwl (ond nid yn llai cadarn yn ystadegol) i ddefnyddwyr yn seiliedig ar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn unig.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac sy’n arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus uchaf.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, yn cynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a thrafodaeth. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2012 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Wedi cynnwys nifer o ddelweddau gweledol yn dangos tueddiadau hirdymor yn ogystal â sylwadau ar y tueddiadau hyn
  • Cael gwared ar dablau diangen o’r datganiad gan eu bod ar gael ar StatsCymru

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’u hailgyflwyno pan fydd safonau’n cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol:

  • (22) Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf mae’n rhaid cyfeirio atynt mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)  2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. E-bostiwch yr adborth i ystadegau.addysgol16@llyw.cymru.

6. Contact details

Ystadegydd: Jonathan Ackland
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image removed.

SFR 95/2020

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 319 KB.

Maint Ffeil 319 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.