Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i awdurdodau lleol ar addysg o’r blynyddoedd cynnar hyd at fyd gwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Addysg a gofal plentyndod cynnar

Mae gan blant sy'n byw mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru, waeth beth fo'u statws mewnfudo, hawl i gael addysg ysgol, gan gynnwys darpariaeth addysg gynnar. Efallai y bydd rhai plant hefyd yn gallu manteisio ar ddarpariaeth gofal plant a ariennir gan y llywodraeth cyn dechrau yn yr ysgol.

Yng Nghymru, ystyr "y blynyddoedd cynnar" yw'r cyfnod rhwng 0 i 7 oed, sy'n cwmpasu'r blynyddoedd cyn-ysgol pwysig a'r blynyddoedd cychwynnol yn yr ysgol. Cyfeirir at ddarpariaeth a ariennir ar gyfer plant cyn oed ysgol yn gyfunol fel Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar. Mae tair rhaglen graidd ar gyfer y blynyddoedd cynnar yng Nghymru:

  • Dechrau'n Deg
  • Dysgu Sylfaen (addysg gynnar)
  • Cynnig Gofal Plant Cymru 

Dechrau'n Deg yw prif raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Mae'n targedu meysydd penodol ac yn cynnwys pedair elfen graidd sy'n gysylltiedig â'i gilydd ac sydd ar gael i bob rhiant a phob plentyn o dan 4 oed sy'n byw yn yr ardaloedd hynny:

  • gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel a ariennir gan y llywodraeth i bob plentyn 2 i 3 oed
  • gwasanaeth Ymweliadau Iechyd Ychwanegol
  • rhaglenni rhianta a chymorth rhianta
  • cymorth ar gyfer datblygu Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

O fewn ardaloedd Dechrau’n Deg, cynigir gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni pob plentyn 2 i 3 oed cymwys am 2.5 awr y diwrnod, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Mae gan Awdurdodau Lleol rywfaint o hyblygrwydd. Hefyd, yn ystod gwyliau'r ysgol mae tua 15 sesiwn o ddarpariaeth gofal plant a/neu ddarpariaeth chwarae i blant ar gael.

Mae Dechrau'n Deg yn cael ei ehangu fesul cam i alluogi pob plentyn 2 oed yng Nghymru i gael manteisio ar ddarpariaeth Dechrau'n Deg dros amser. Dechreuodd Cam 1 ym mis Medi 2022, a bydd hwnnw’n cyrraedd 2500 mwy o blant.

Mae Dysgu Sylfaen (y Cyfnod Sylfaen gynt) yn cynnig addysg gynnar i bawb. Dylai awdurdodau lleol ddarparu Dysgu Sylfaen am o leiaf 10 awr yr wythnos am 39 o wythnosau y flwyddyn cyn oedran ysgol statudol. Mae hyn ar gyfer pob plentyn yn dilyn eu trydydd pen-blwydd. Gellir rhoi’r ddarpariaeth mewn ysgol neu mewn lleoliad gofal plant a ariennir. Mae canllawiau ar ddarparu addysg gynnar ar gael i awdurdodau lleol.

Mae pa bryd fydd plentyn yn gymwys i fanteisio ar y lle hwnnw yn dibynnu ar ddyddiad pen-blwydd y plentyn.

Pen-blwydd y plentyn

Dechrau Cyfnod Sylfaen ar ddechrau’r tymor

1 Medi i 31 Rhagfyr

Ar neu ar ôl 1 Ionawr

1 Ionawr i 31 Mawrth

Ar neu ar ôl 1 Ebrill

1 Ebrill i 31 Awst

Ar neu ar ôl 1 Medi

Mae’r cyfnod dysgu hwn yng Nghymru yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu actif ac arbrofol. Mae ‘chwarae’ yn ffordd o ddysgu. Mae tystiolaeth bod hon yn ffordd o gefnogi dysgu a datblygiad plant iau cyn iddynt ddechrau addysg ffurfiol. Mae dysgu drwy wneud yn allweddol a rhoddir pwysigrwydd ar ddefnyddio’r awyr agored i estyn y dysgu y tu hwnt i ffiniau’r ystafell ddosbarth.

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys sydd â phlant 3 a 4 oed, a hynny am 48 o wythnosau y flwyddyn. Mae hyn yn golygu Dysgu Sylfaen (addysg gynnar i bawb) yn ystod y tymor o 39 o wythnosau y flwyddyn ac oriau ychwanegol o ofal plant a ariennir hyd at uchafswm o 30 awr. Am y 9 wythnos sy'n weddill, mae'r Cynnig yn ariannu 30 awr o ofal plant yr wythnos. Mae'r Cynnig Gofal Plant wedi cael ei ehangu yn ddiweddar. Bellach mae rhieni sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Addysg Uwch ac Addysg Bellach o leiaf 10 wythnos o hyd, yn gallu manteisio ar gael 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth hefyd.

Mae'r rhai o Wcráin sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra yn gallu manteisio ar y Cynnig Gofal Plant hefyd.

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r cynlluniau hyn a’r meini prawf cymhwystra ar gael gan Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.

Addysg Ysgol Gynradd ac Uwchradd

Mae gan bob plentyn sy'n byw yng Nghymru yr hawl i fynd i'r ysgol beth bynnag fo'u cenedligrwydd. Mae’r cod derbyn i ysgolion yn berthnasol i blant o Wcráin yn yr un modd ag y mae i bob plentyn arall.

Mae'r rhan fwyaf o blant yn dechrau ysgol 'gynradd' yn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed. Byddant yn parhau i fynychu'r ysgol gynradd nes byddant yn 11 oed. Rhwng 11-16 oed bydd plant yn mynychu ysgolion 'uwchradd'. 

Dylai awdurdodau lleol gefnogi rhieni neu ofalwyr plant o Wcráin gyda’r canlynol:

Rhaid i awdurdodau derbyn gymhwyso’r trefniadau derbyn a bennwyd ganddynt.

Nid oes blaenoriaeth ychwanegol ar gyfer derbyn plant o Wcráin i ysgolion yng Nghymru. Dylai awdurdodau lleol helpu teuluoedd sy'n cyrraedd o Wcráin i wneud cais am le mewn ysgolion. Dylai'r awdurdod lleol roi cyngor i rieni neu ofalwyr ar y broses o ymgeisio am le mewn ysgol. Dylai'r awdurdod lleol roi gwybod iddynt ble mae lleoedd gwag a sut i wneud cais. Os nad oes lleoedd gwag mewn ysgolion lleol, dylai'r awdurdod lleol ddefnyddio ei "brotocol canol blwyddyn" i leoli plant yn yr ysgol.  Mae hyn yn berthnasol i blant o Wcráin. Lle bo angen, gall hyn fod yn uwch na chapasiti arferol yr ysgolion hynny.

Dylai teuluoedd sy'n dod i Gymru neu'r DU gysylltu â thîm derbyniadau ysgolion yr awdurdod lleol yn yr ardal y maent yn mynd iddi i gael cymorth a chyngor ar wneud cais am leoedd mewn ysgolion.

Dylai plant ddechrau mynychu'r ysgol yn fuan ar ôl cyrraedd ardal.

Mae’r Cod Derbyn i Ysgolion yn nodi’r canlynol:

“dylai awdurdodau derbyn geisio rhoi gwybod i rieni am ganlyniad cais am le mewn ysgol o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr, pa un bynnag fydd gyntaf.”

Lle mae teuluoedd o Wcrain wedi cael cynnig lle mewn ysgol, dylent ymateb i’w hawdurdod lleol a dweud a ydynt yn derbyn y cynnig.

Os bydd teulu'n gwrthod y cynnig, yna dylai'r awdurdod lleol gysylltu ymhellach i benderfynu a yw'r teulu'n gwneud ei drefniadau addysgol ei hun.

Lle mae teulu'n dewis addysgu eu plant yn y cartref, dylai'r awdurdod lleol gynnig ymweld â'r teulu i drafod yr addysg a ddarperir ac unrhyw gymorth y gallai fod ei angen ar y teulu.

Integreiddio disgyblion o Wcráin i'r system addysg genedlaethol

Dylai ysgolion gynnig yr un addysg o ansawdd uchel i ddisgyblion o Wcráin ag a gynigir i ddisgyblion presennol. Dylai ysgolion ddarparu eu cwricwlwm arferol. Efallai y bydd disgyblion o Wcráin hefyd yn croesawu cael deunyddiau dysgu Wcreinaidd yn y cyfnod cyntaf hwn.

Er mwyn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin a'r plant hynny sydd wedi’u dadleoli yn sgil y gwrthdaro, mae Gweinyddiaeth Addysg a Gwyddoniaeth Wcráin (MoES) wedi cyhoeddi cwricwlwm Wcreinaidd.

Efallai y bydd ysgolion am rannu'r deunyddiau addysgol Wcreinaidd hyn â disgyblion a theuluoedd o Wcráin. Gellid defnyddio'r adnoddau hyn i ategu addysg disgyblion, er enghraifft, i'w defnyddio gartref neu mewn ysgolion atodol, ond ni ddylid eu defnyddio i gymryd lle cwricwlwm arferol ysgolion.

Mae gan blant o Wcráin hawl i gael prydau ysgol am ddim os yw eu teuluoedd yn cael taliadau cymorth penodol. Yr un rheolau sy’n gymwys i blant o Gymru. O fis Medi 2022 ymlaen roedd awdurdodau lleol wedi dechrau cynnig prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd, gan ddechrau gyda dosbarthiadau Meithrin. Mae hyn yn cynnwys plant o Wcráin.

Mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn i gynnig prydau ysgol am ddim os nad yw teulu'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd arferol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn nodi pa bryd y dylid defnyddio disgresiwn lleol. Er enghraifft, gellid ei ddefnyddio lle mae teulu o Wcráin wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ond yn aros am eu taliad misol cyntaf.

Grant Datblygu Disgyblion: Mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn i ganiatáu disgyblion nad ydynt yn gallu cael mynediad at arian cyhoeddus i ymgeisio am y grant hwn. Mae gan ddisgyblion nad ydynt yn gallu cael mynediad at arian cyhoeddus sy’n mynd i’r Blynyddoedd Meithrin i Flwyddyn 11 hawl i gael cymorth o dan y grant hwn.

Addysg Bellach a Chweched Dosbarth Mewn Ysgolion

Yng Nghymru, gall myfyrwyr dros 16 oed ddewis symud ymlaen i addysg ôl-16. Nid yw addysg ôl-16 yn orfodol yng Nghymru, er bod gennym Warant i Bobl Ifanc sy'n ei gwneud yn hawdd i bawb o dan 25 oed gael mynediad at addysg, hyfforddiant, gwaith neu hunangyflogaeth.

Mae gan fyfyrwyr yr opsiwn i astudio mewn chweched dosbarth mewn ysgol nes y byddant yn 18 oed, mewn coleg addysg bellach, mewn hyfforddeiaeth neu ddysgu seiliedig ar waith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno bod pobl ifanc o Wcráin yn gymwys ar unwaith i gael addysg neu hyfforddiant ôl-16 yn y coleg ac maent hefyd yn gymwys ar gyfer rhaglenni prentisiaeth.

Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael o Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Addysg Bellach Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am addysg neu hyfforddiant ôl-16 ar gael gan Gyrfa Cymru.

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn swyddi sy'n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig fel y gall y person weithio, dysgu ac ennill cyflog ar yr un pryd.

Mae rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ar gael gan Gyrfa Cymru.

Cyngor gyrfa

Mae Gyrfa Cymru yn rhoi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad gyrfa proffesiynol i bobl ifanc mewn addysg. Mae cynghorwyr gyrfaoedd yn helpu pobl ifanc i gynllunio eu gyrfaoedd, i baratoi i gael swydd ac i ddod o hyd i’r prentisiaethau, cyrsiau a hyfforddiant cywir ac ymgeisio amdanynt. I gael rhagor o gyngor neu gefnogaeth, cysylltwch â Gyrfa Cymru drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0800 028 4844.

Gall gwasanaeth Cymru’n Gweithio ddarparu cyngor gyrfaoedd arbenigol personol a chymorth cyflogaeth. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n 16 oed a hŷn ac sy'n byw yng Nghymru.

Gall Cymru'n Gweithio helpu drwy gynnig y canlynol:

  • gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd
  • help i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith
  • cymorth gyda CV ac cheisiadau
  • paratoi ar gyfer cyfweliadau swydd
  • cymorth mewn perthynas â cholli swydd a diweithdra
  • cymorth i wneud cais am gyllid
  • cyngor ac anogaeth mewn perthynas â newid gyrfa
  • help i uwchsgilio a chael mynediad at hyfforddiant
  • cyfeiriadau at wasanaethau cyflogadwyedd eraill

Gall Cymru’n Gweithio hefyd helpu pobl sy’n ceisio noddfa drwy ddarparu mynediad at y canlynol:

  • llinell iaith ar gyfer cyfieithu ar y pryd mewn apwyntiadau
  • cynghorwyr sy’n arbenigo mewn cymorth i ffoaduriaid a’r rhai sy’n ceisio noddfa
  • newid cymwysterau tramor yn gymwysterau cyfatebol sy’n gydnabyddedig yn y DU i’r rhai sy’n ymgeisio am waith neu hyfforddiant

Manylion cyswllt Cymru’n Gweithio:

Addysg i Oedolion ac Addysg yn y Gymuned

Mae cyrsiau addysg i oedolion a rhai yn y gymuned ar gael ledled Cymru. Efallai y bydd pobl yn gallu mynychu'r cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim os ydynt yn cael budd-daliadau penodol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Addysg Oedolion Cymru.

Addysg Uwch

Mae Gweinyddiaeth Addysg a Gwyddoniaeth Llywodraeth Wcráin (MoES) yn awyddus i gefnogi'r sector Addysg Uwch yn Wcráin i fod yn wydn a pharhau i ddarparu addysg uwch o ansawdd uchel. Er mwyn cefnogi hyn mae prifysgolion yng Nghymru yn gefeillio â phrifysgolion yn Wcráin i gynnig cymorth i'r academyddion a'r myfyrwyr hynny sydd wedi dianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin. Dylai unrhyw fyfyriwr a oedd wedi bod yn astudio yn Wcráin yn flaenorol gysylltu â'u prifysgol i ofyn am addysg a chymorth o bell. Gall myfyrwyr hefyd gysylltu â swyddogion derbyn mewn prifysgolion i holi ynghylch y cymorth y gallant ei gynnig, megis mynediad i lyfrgelloedd, labordai a chyfleusterau ar y campws, i'w helpu i barhau i ddysgu o bell.

Gall pobl o Wcráin wneud cais i astudio yng Nghymru. Dylent siarad yn uniongyrchol â’r swyddfa derbyniadau y brifysgol neu gofrestru a gwneud cais drwy broses glirio UCAS.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i’n rheoliadau sy’n ymwneud â chymorth i fyfyrwyr i sicrhau bod pobl o Wcráin sy'n byw yng Nghymru yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr os ydynt am astudio mewn prifysgol yn y DU. O 1 Medi ymlaen, gall unrhyw un o Wcráin sy'n byw yng Nghymru gael cymorth cyllid myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys help gyda chostau byw. Mae prifysgolion yn y DU yn codi ffioedd dysgu ac mae cymorth ar gael i dalu'r costau hyn.

Mae rhagor o wybodaeth am gyllid i fyfyrwyr ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae myfyrwyr o Wcráin yn gymwys i gael:

  • cymorth israddedig neu ôl-raddedig
  • statws ffioedd cartref
  • cap ar ffioedd dysgu israddedig

Rhaid i’r myfyrwyr sy’n aros yn y DU fod:

  • o dan un o Gynlluniau Cartrefi i Wcráin y Swyddfa Gartref neu
  • â chaniatâd i aros yn y DU y tu allan i'r rheolau mewnfudo am reswm sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro yn Wcráin

Rhaid bod myfyrwyr wedi bod yn byw yn y DU ers cael statws mewnfudo a rhaid iddynt fod yn byw yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Mae cymorth ariannol ar gael ar ffurf grantiau nad ydynt yn ad-daladwy a benthyciadau ad-daladwy. Codir llog ar fenthyciadau.

Mae'r math o gymorth sydd ar gael yn dibynnu ar y canlynol:

  • y math o gwrs maent wedi’i ddewis
  • lle maent yn astudio - yng Nghymru neu rywle arall yn y DU
  • a ydynt yn dilyn cwrs amser llawn ynteu ran-amser
  • a oes ganddynt gymwysterau blaenorol neu a ydynt wedi dilyn astudiaethau addysg uwch cyn hyn
  • incwm yr aelwyd
  • a oes ganddynt blant neu oedolion dibynnol

Cyrsiau lefel israddedig (gradd gyntaf)

Sylwer: Nid yw pob cwrs yn dechrau ym mis Medi. Gall y flwyddyn academaidd ar gyfer cwrs ddechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf.

Bydd darparwr y cwrs yn cadarnhau dyddiad dechrau'r flwyddyn academaidd.

Ffioedd Dysgu 

  • Hyd at £9,250 y flwyddyn i dalu costau ffioedd cyrsiau.
  • Benthyciad yw hwn.
  • Mae llog ar y benthyciad hwn.
  • Telir hyn yn uniongyrchol i ddarparwr y cwrs ar ddechrau pob tymor.
  • Nid yw hwn yn dibynnu ar incwm y cartref.
  • Rhaid ad-dalu'r benthyciad Ffioedd Dysgu ar ôl i'r cwrs gael ei gwblhau ac ar ôl i'r myfyriwr ddechrau gweithio.

Cymorth Cynhaliaeth

  • Hyd at £10,710 y flwyddyn i dalu am gostau byw.
  • Mae rhywfaint o hwn yn grant ac mae rhywfaint ohono yn fenthyciad.
  • Mae llog ar swm y benthyciad.
  • Telir hwn mewn rhandaliadau ar ddechrau pob tymor.
  • Mae faint mae'r myfyriwr yn ei gael yn dibynnu ar incwm y cartref, pa brifysgol y maen nhw'n mynd iddi a ble maen nhw'n byw i fynd i'r brifysgol.
  • Penderfynir ar swm y grant a swm y benthyciad ar ôl i'r cais gael ei asesu.
  • Rhaid ad-dalu'r Benthyciad Cynhaliaeth ar ôl i'r cwrs gael ei gwblhau ac ar ôl i’r myfyriwr ddechrau gweithio.
  • Mae hwn yn dibynnu ar faint mae'r myfyriwr yn ei ennill.
  • Nid oes rhaid talu'r grant Cynhaliaeth yn ôl.

Grant Gofal Plant

  • Hyd at 85% o gostau gofal plant i uchafswm o £184 yr wythnos ar gyfer 1 plentyn, neu £315 yr wythnos ar gyfer 2 blentyn neu ragor.
  • Mae hyn yn dibynnu ar incwm y cartref a nifer y modiwlau cwrs y mae'r myfyriwr yn eu cymryd.

Lwfans Dysgu i Rieni

  • Rhwng £50 a £1,862 y flwyddyn.
  • Grant yw hwn i dalu am rai o'r costau ychwanegol lle mae gan fyfyriwr israddedig blant dibynnol.
  • Mae hyn yn dibynnu ar incwm y cartref a nifer y modiwlau cwrs y mae'r myfyriwr yn eu cymryd.
  • Grant Oedolion Dibynnol
  • Hyd at £3,262 y flwyddyn.
  • Grant yw hwn i dalu am rai o'r costau ychwanegol lle mae gan fyfyriwr israddedig oedolion dibynnol.
  • Mae hyn yn dibynnu ar incwm y cartref.

Cyrsiau Ôl-raddedig

Cwrs meistr

  • £18,430 i dalu'r holl gostau ar gyfer y cwrs cyfan.
  • Mae rhywfaint o hwn yn grant ac mae rhywfaint ohono yn fenthyciad.
  • Mae llog ar swm y benthyciad.
  • Telir hwn mewn rhandaliadau ar ddechrau pob tymor.
  • Mae faint mae'r myfyriwr yn ei gael yn dibynnu ar incwm y cartref.
  • Penderfynir ar swm y grant a swm y benthyciad ar ôl i'r cais gael ei asesu.
  • Rhaid ad-dalu'r benthyciad ar ôl cwblhau'r cwrs ac ar ôl i’r myfyriwr ddechrau gweithio.
  • Mae hyn yn dibynnu ar faint mae'r myfyriwr yn ei ennill.
  • Nid oes rhaid talu'r grant yn ôl.

Cwrs doethurol

  • £27,880 i dalu'r holl gostau ar gyfer y cwrs cyfan.
  • Benthyciad yw hwn.
  • Mae llog ar swm y benthyciad.
  • Telir hwn mewn rhandaliadau ar ddechrau pob tymor.
  • Nid yw faint mae'r myfyriwr yn ei gael yn dibynnu ar incwm y cartref.
  • Rhaid ad-dalu'r benthyciad ar ôl i'r cwrs gael ei gwblhau ac ar ôl i’r myfyriwr ddechrau gweithio.
  • Mae hyn yn dibynnu ar faint mae'r myfyriwr yn ei ennill.

Lwfans Myfyrwyr Anabl

  • Cynnydd o £32,546 i dalu am gostau ychwanegol fel offer a chymorth anfeddygol.
  • Grant yw hwn.
  • Mae hwn ar gael ar gyfer pob astudiaeth addysg uwch, israddedig, ôl-raddedig, amser llawn neu ran-amser.
  • Mae hwn yn seiliedig ar angen y myfyriwr nid ar incwm y cartref.

Y broses ymgeisio am gymorth i fyfyrwyr

  • Rhaid i fyfyrwyr greu cyfrif myfyriwr Cyllid Myfyrwyr Cymru gan ddefnyddio gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
  • Rhaid i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais ac mae gan y ffurflen ar-lein nodiadau i'w helpu.
  • Dylai myfyrwyr gasglu'r dystiolaeth a’r wybodaeth i gyd cyn gwneud cais.
  • Gellir cyflwyno ceisiadau drwy ddefnyddio ffurflen bapur.
  • Ni ellir asesu cymhwysedd a hawl i gymorth i fyfyrwyr hyd nes y bydd y myfyriwr wedi cwblhau a chyflwyno ei gais.
  • Bydd yr asesiad yn cael ei ohirio os bydd gwybodaeth neu dystiolaeth ar goll.
  • Efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr dalu unrhyw gostau yr eir iddynt os ydynt yn dechrau cwrs cyn derbyn yr Hysbysiad o Hawl gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
  • Mae cymorth ar gael gan gynghorydd Cyllid Myfyrwyr Cymru cyn gwneud cais.

Manylion cyswllt:

  • 0300 200 4050 ar gyfer ceisiadau israddedig.
  • 0300 100 0494 ar gyfer ceisiadau ôl-raddedig.