Darganfyddwch a ydych chi'n gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg a dysgwch am y gefnogaeth ychwanegol sydd wedi'i chynnwys.
Cynnwys
Ynglŷn â Dechrau'n Deg
Mae 12.5 awr o ofal plant Dechrau'n Deg yn cael ei gyflwyno'n raddol i bob plentyn 2 oed ledled Cymru, gan ddechrau yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig a chanddynt blant sy'n iau na 4 oed yn cael cymorth ychwanegol:
- gofal plant rhan-amser (12.5 awr yr wythnos) o ansawdd dda am ddim ar gyfer plant 2 oed.
- gwasanaeth estynedig gan ymwelwyr iechyd
- mynediad at gymorth rhianta
- cymorth ar gyfer datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu
Sut mae cael mynediad at Dechrau'n Deg
Yn aml, caiff gwybodaeth am ofal plant Dechrau'n Deg ei rhannu â rhieni yn ystod gofal cynenedigol. Mae ymwelwyr iechyd a thimau Dechrau'n Deg lleol hefyd yn cysylltu â theuluoedd cymwys i'w hysbysu.
Os nad ydych wedi cael eich cysylltu, gwiriwch a ydych chi'n gymwys drwy gysylltu â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Ardaloedd cymwys
Mae gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer plant 2 oed yn cael ei gyflwyno ledled Cymru fesul cam.
Mae elfen gofal plant Dechrau'n Deg ar gael i bob plentyn 2 oed sy'n byw yn yr ardaloedd canlynol:
- Abertawe
- Casnewydd
- Merthyr Tudful
- Wrecsam
Mewn rhannau eraill o Gymru, mae gofal plant Dechrau'n Deg yn cael ei wneud ar gael fesul cam. Gan ddechrau gydag ardaloedd lle mae mwy o deuluoedd â phlant 0 i 3 oed ar incwm isel.
Mae gan awdurdodau lleol hyblygrwydd i gefnogi teuluoedd y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg dynodedig. Mewn achosion o'r fath, gallant ddarparu mynediad at wasanaethau yn seiliedig ar anghenion lleol.
I ddarganfod a ydych chi'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.
Lleoliadau gofal plant cymwys
Efallai y byddwch yn byw mewn ardal a ddaw yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg. Os ydych chi'n defnyddio lleoliad gofal plant nad yw wedi'i gofrestru i ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg eto:
- efallai y bydd angen i chi newid darparwr i gael mynediad at ofal plant a ariennir trwy leoliad Dechrau'n Deg
- neu efallai y bydd eich darparwr presennol yn dymuno gwneud cais i ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg
Manteision gofal plant Dechrau'n Deg
Mae gweithlu gofal plant Dechrau'n Deg yn gymwys i gefnogi datblygiad plant ac yn ategu'r fagwraeth a ddarperir yn draddodiadol gan rieni a gofalwyr.
Mae gofal plant o ansawdd yn cyfrannu at feithrin sgiliau a galluoedd, y gallu i gymdeithasu ac i chwarae a chanolbwyntio. Mae'r rhain yn hanfodol, nid yn unig i allu plentyn i ddysgu yn nes ymlaen, ond hefyd i gymryd rhan yn effeithiol mewn grwpiau.
Mae ymchwil yn awgrymu bod Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC) o safon yn arwain at welliant yn natblygiad plant yn y blynyddoedd dilynol, megis:
- sgiliau iaith cyfoethocach
- perfformiad addysgol gwell ym maes mathemateg a darllen;
- cynnydd mewn ymddygiad cadarnhaol
Mae plant sy'n mynd i leoliadau blynyddoedd cynnar o safon yn blant sydd:
- yn fwy annibynnol
- yn canolbwyntio ar chwarae am gyfnod hirach
- yn fwy parod i gydweithio ac yn fwy parod ar gyfer dechrau'r ysgol.
Gall darparu gofal am ddim hefyd alluogi rhieni i weithio neu gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi ac addysg na fyddai efallai wedi bod yn bosibl fel arall.
Sesiynau gofal plant
Mae sesiynau gofal plant Dechrau'n Deg yn 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod sesiynau byrrach, amlach o ansawdd uwch yn arwain at y canlyniadau gorau i'r plentyn.
Mae rhywfaint o hyblygrwydd o ran sut mae'r 5 sesiwn yn cael eu defnyddio yn ystod yr wythnos, os yw hynny er lles gorau'r plentyn. Gallai hyn gynnwys pan fydd rhiant neu ofalwr yn gofyn am drefniant gwahanol oherwydd eu bod yn mynd i gwrs hyfforddi neu'n mynd i'r gwaith.
Gall rhieni a gofalwyr ychwanegu at yr oriau hyn os oes angen gofal plant ychwanegol arnynt.
Mantais gofal plant cyfrwng Gymraeg
Mae sawl mantais i gael mynediad at leoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys pan nad Cymraeg yw'r iaith gyntaf yn eich cartref, megis:
- mwy o allu i ganolbwyntio
- gweithrediad gwybyddol uwch
- gwell cysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol
Yn aml, gall plant sy'n gallu troi at y naill iaith a'r llall ddatblygu dulliau mwy hyblyg o feddwl drwy broblemau.
Rhagor o wybodaeth am fanteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd
Cymorth i rieni
Bydd teuluoedd sy'n gymwys i gael mynediad i'r rhaglen lawn Dechrau'n Deg yn cael cynnig cyrsiau i wella eu sgiliau rhianta. Bydd hyn yn eu helpu i gefnogi datblygiad, gofal a lles eu plentyn.
Os yw teulu yn cael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg ac angen cymorth Dechrau'n Deg pellach, efallai y bydd gan awdurdodau lleol rywfaint o hyblygrwydd i helpu trwy allgymorth.
Cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i ddod o hyd i gymorth rhianta
Gallwch hefyd ddod o hyd i:
Gwnewch gais am y Cynnig Gofal Plant pan fydd eich plentyn yn 3 oed
Yn fuan ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn dair oed, mae angen i chi wneud cais am y Cynnig Gofal Plant.
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant.
- 10 awr o addysg gynnar i bawb
- hyd at 20 awr o ofal plant i'r rhan fwyaf o blant sydd â'i rhieni yn gweithio a rhai plant sydd â'i rhieni mewn addysg a hyfforddiant
Yn fuan ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn dair oed, gwnewch gais am y Cynnig Gofal Plant i Gymru.
