Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Trafodiadau Tir
Mae'r adroddiad chwarterol hwn ar gyfer Treth Trafodiad Tir yn sylw ar:
- nifer y trafodiadau, treth yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd
- dadansoddiad o drafodiadau preswyl ac amhreswyl yn ôl gwerth
- rhyddhadau treth
- ad-daliadau cyfradd uwch y dreth breswyl
- arian a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Cyllid Cymru
Newidiadau cyfraddau Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19)
Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19) a newidiadau dilynol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ar 27 Gorffennaf 2020 a 22 Rhagfyr 2020. Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a’r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod gwahanol rannau o 2020-21 a 2021-22, gyda chwymp sylweddol ar ddechrau’r flwyddyn yn cael ei wrthbwyso’n rhannol gan godiadau amlwg yn ddiweddarach. Dylid cofio hyn wrth edrych ar newidiadau rhwng y cyfnodau amser a gynhwysir yma, ac unrhyw ffigurau cyfatebol flwyddyn ynghynt.
Gwybodaeth bellach
Gweler yr adran ‘Data’ isod am daenlen gyda’r tablau data a’r data siartiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad chwarterol hwn. Hefyd, mae’r setiau data Treth Trafodiadau Tir manwl i’w gweld ar wefan StatsCymru.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau misol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.
- Mae ystadegau misol yn ddiweddariadau data yn unig heb unrhyw sylwebaeth. Gall yr ystadegau misol fod â mwy o ddata cyfoes nag ystadegau chwarterol neu flynyddol.
- Mae ystadegau blynyddol yn rhoi mwy o fanylion. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ionawr i Mawrth 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 92 KB
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 454 KB
Cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 0300 025 4729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.