Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Rydym (Awdurdod Cyllid Cymru) yn cyflwyno'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni wedi'u derbyn erbyn 18 Ebrill 2022.

Mae Ffigur 1.1 isod yn dangos:

  • yr amcangyfrifon chwarterol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022
  • y newid o ran canran yn erbyn ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 (a wnaed ym mis Ebrill 2020)

Rydym yn egluro pam y gwneir y cymariaethau hyn yn Adran 1 y datganiad hwn (‘Cymariaethau â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt’). Yn y rhifyn hwn o'r datganiad, fel arfer byddai cymariaethau’n cael eu gwneud yn erbyn amcangyfrifon ar gyfer Ionawr i Fawrth 2021. Fodd bynnag, nid ydym yn argymell y gymhariaeth hon oherwydd effeithiau cymhleth cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau treth.

Ffigur 1.1 Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, y dreth sy'n ddyledus a’r newid o ran % o’r amcangyfrif blaenorol dwy flwyddyn ynghynt [1] [2]
Math o drafodiad Ionawr i Fawrth 2022 (p) Newid o ran % (o gymharu â Ionawr i Fawrth 2020) [6]
Trafodiadau (nifer)
Preswyl 13,050 11%
o'r rhain: cyfraddau uwch preswyl 3,350 0%
Amhreswyl [3] 1,560 6%
Pob trafodiadau [4] 14,610 10%
Treth yn ddyledus (£ miliwn)
Preswyl 66.1 72%
o'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [5] 24.5 57%
Amhreswyl [3] 32.9 106%
Pob trafodiadau [4] 99.0 82%

[1] Mae'r gwerthoedd yn y tabl hwn wedi cael eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf a’r £0.1 miliwn agosaf ar gyfer treth yn ddyledus.
[2] Sylwch fod y tabl hwn yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Ffigur 1.2.
[3] Mae’r categori ‘eiddo amhreswyl’ yn cynnwys eiddo nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl (sef, y rheini sy’n cynnwys elfennau preswyl a masnachol).
[4] Mae’r cyfanswm wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
[5] Nodwch mai dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch. 
[6] Amcangyfrifon ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 a wnaed ym mis Ebrill 2020.
(p) Mae'r gwerth yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ffigur 1.2 Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym (£ miliwn)
  2018-19 2019-20 2020-21
Trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr [1] . 28.2 0
Trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (er mwyn gwarchod cyfrinachedd) [2] . 2 0

[1] Nifer fechan o drafodiadau sector cyhoeddus a dim arall yw’r ‘trafodiadau annodweddiadol o fawr’ yn 2019-20. Mae’r trafodiadau hyn yn ymwneud â phryniant ased rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd yng Nghymru gan Drafnidiaeth Cymru oddi wrth Network Rail. Cyflwynir manylion y trafodiadau hyn yma er mwyn sicrhau tryloywder y trafodiad sector cyhoeddus mawr hwn, gyda chytundeb y prynwr (Trafnidiaeth Cymru) a'r gwerthwr (Network Rail). Mae mwy o wybodaeth am y trafodiadau hyn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
[2] Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach. Dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.
. Amherthnasol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

Gan gymharu Ionawr i Fawrth 2022 gyda’r un cyfnod tri-mis yn 2020:

  • cynyddodd yr holl drafodiadau o 10% ac cynyddodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 82%
  • cynyddodd trafodiadau preswyl a threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 11% a 72% yn y drefn honno.
  • dim newid yn thrafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch
  • cynyddodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 57%, er y dylid bod yn ofalus wrth wneud y gymhariaeth hon. I gael mwy o wybodaeth, gweler yr adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’ yn y datganiad.
  • bu cynnydd o 6% mewn trafodiadau anhreswyl. Cynnyddodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 106%.

Nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys y trafodiadau ychwanegol a gyflwynir yn Ffigur 1.2 uchod. Dylid defnyddio'r gwerthoedd yn Ffigur 1.2 os am gael gwerth ar gyfer cyfanswm y refeniw Treth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn, yn unig.

Yn Ionawr i Fawrth 2022, ychydig y cododd niferoedd pob math o drafodiad, o gymharu â dwy flynedd ynghynt, ac eithrio trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a arhosodd yn wastad. Fodd bynnag, cododd refeniw lawer yn fwy yn ystod yr amser hwn.

Yn Ionawr i Fawrth 2022, arhosodd refeniw o bob trafodiad preswyl a refeniw ychwanegol o gyfraddau preswyl uwch ar lefelau cymharol uchel o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Nid oedd y refeniw ar gyfer y chwarter mor uchel ag ail hanner 2021, yn gyson â thueddiadau tymhorol a ddisgwylir yn y farchnad eiddo. Arhosodd y refeniw o drafodiadau amhreswyl ar lefelau cymharol uchel.

Yn y sector preswyl, gellir priodoli'r refeniw chwarterol uchel erioed i adferiad cryf yn y farchnad eiddo ers haf 2020, gyda chynnydd yng ngwerth yr eiddo a drafodwyd. Mae Adran 3 y datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiad pellach o werth trafodiadau preswyl.

Syrthiodd refeniw preswyl misol ym mis Gorffennaf 2021 yn dilyn y refeniw uchaf erioed a welwyd ym mis Mehefin 2021, a oedd yn cyd-fynd â diwedd y cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth. Yna cynyddodd refeniw preswyl, gyda refeniw misol o fis Medi i fis Rhagfyr 2021 yr uchaf a welwyd hyd yn hyn, ac eithrio brig Mehefin 2021. Roedd refeniw preswyl misol Ionawr, Chwefror a Mawrth 2022 yn is na’r hyn a welwyd ddiwedd 2021, yn gyson â thueddiadau tymhorol a ddisgwylir yn y farchnad eiddo.

Bu adferiad cryf mewn trafodiadau preswyl a refeniw ers haf 2020, Roedd refeniw preswyl misol Ionawr, Chwefror a Mawrth 2022 yn is na’r hyn a welwyd ddiwedd 2021, yn gyson â thueddiadau tymhorol a ddisgwylir yn y farchnad eiddo.

Mae refeniw dibreswyl hefyd wedi gweld adferiad cryf cryf ers haf 2020. Mewn bron i dair blynedd rhwng Ebrill 2018 a Chwefror 2021, dim ond ar bum achlysur y cyrhaeddodd refeniw amhreswyl misol rhwng £8 miliwn a £10 miliwn. Fodd bynnag, o fis Mawrth 2021 ymlaen, roedd refeniw amhreswyl yn fwy na £8 miliwn bob mis (ac eithrio Mai 2021). Mae’n bosibl bod patrwm cyfnewidiol o drafodiau yn ystod adferiad COVID-19 yn cyfrannu at y duedd hon. Er enghraifft, mae tystiolaeth o niferoedd ychydig yn uwch o bryniannau llwyr eiddo amhreswyl, o gymharu â lesoedd newydd. Mae pryniannau'n tueddu i gynhyrchu mwy o refeniw na lesoedd ond mae'n dal yn aneglur pa effaith y gallai hyn ei chael ar refeniw yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i fonitro'r tueddiadau hyn yn y dyfodol.

Nôl i dop y dudalen

Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir

Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19). Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus, yn enwedig ym misoedd cyntaf y pandemig.

Arweiniodd cynfyngiadau cenedlaethol a osodwyd ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai gan mwyaf hyd nes iddi gael ei hailagor yn rhannol ar 22 Mehefin 2020. Yr adeg hynny, gellid mynd i weld tai os oedd yr eiddo’n wag, ynghyd â symud tŷ os oedd y gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Yna agorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd â newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar y dyddiad hwn, sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Ar 3 Mawrth 2021, cyhoeddwyd y byddai'r cyfnod lleihau treth dros dro yn cael ei ymestyn 3 mis, i ddod i ben ar 30 Mehefin 2021.

Er bod gyfyngiadau lleol a chyfyngiadau cenedlaethold pellach wedi'u cyflwyno ers y newidiadau cychwynnol yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ym mis Gorffennaf 2020, fe ymddengys na chafodd y rhain unrhyw effaith ar nifer y trafodiadau.

Daeth newidiadau pellach i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir i rym o 22 Rhagfyr 2020. Mae’r newidiadau hyn wedi ei gwneud hi’n angenrheidiol golygu ein tablau data amhreswyl gan gyflwyno rhaniad mwy manwl o fandiau treth gwerth is.

Sylwch y bydd rhai trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2020 wedi cael eu codi ar y cyfraddau a fodolai cyn 22 Rhagfyr, a rhai ar y cyfraddau ar ôl 22 Rhagfyr. Rydym yn amcangyfrif bod tua 100 o drafodiadau cyfraddau uwch a 10 o drafodiadau amhreswyl o fewn y data mis Rhagfyr 2020 hynny eu cyhuddo ar y cyfraddau ar ôl 22 Rhagfyr.

Effaith y newidiadau yng nghyfraddau y Dreth Trafodiadau Tir

Nid yw'n bosibl ynysu effaith y newidiadau yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir oddi wrth yr adferiad cyffredinol sy'n debygol o fod wedi digwydd oherwydd lleddfu cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19). Fodd bynnag, gallwn feintioli’r effaith ar fesul y trafodiad.

Roedd y newid cyntaf yn berthnasol i drafodiadau preswyl ar y brif gyfradd yn unig. Nid oedd newid yn y cyfraddau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfradd uwch a thrafodiadau amhreswyl. Ar gyfer y trafodiadau prif gyfradd hyn, codwyd y trothwy ar gyfer codi cyfraddau Treth Trafodiadau Tir o £180,000 i £250,000, fel bod y dreth ar bob trafodiad sydd â gwerth o £250,000 neu lai a oedd yn gostwng i sero. Er bod y cyfraddau Treth Trafodiadau Tir ar werth eiddo uwch na £250,000 yn ddigyfnewid, mae'r trafodiadau ar y brif gyfradd hynny hefyd a oedd yn elwa o'r trothwy uwch ar £250,000 cyntaf eu gwerth. Yn yr achosion hyn, mae Treth Trafodiadau Tir yn cael ei ostwng £2,450 o'i gymharu â'r hyn a fyddai wedi'i godi’n flaenorol. Cafodd y newid hwn ei wrthdroi ar ôl 310 Mehefin 2021, ar ba dyddiad ddaeth cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth i ben.

Cyflwynodd yr ail newid mewn cyfraddau o 22 Rhagfyr 2020 y canlynol a mae’n parhau i fod yn berthnasol:

  • cynnydd o 1% ar draws yr holl fandiau ar gyfer y cyfraddau treth preswyl uwch
  • ar gyfer trafodiadau amhreswyl, cynyddodd y band cyfradd sero a godir ar bremiymau lesoedd ac aseiniadau, a throsglwyddiadau eiddo rhydd-ddaliadol o £150,000 i £225,000
  • cynyddodd band cyfradd sero y dreth a godir ar elfen rent lesoedd amhreswyl o £150,000 i £225,000

Gellir gweld effaith gyfunol y pandemig coronafeirws a'r newid cyntaf yn y gyfradd yn Ffigur 2.1. Bu cwymp sydyn i ddechrau ym mis Ebrill a mis Mai 2020 ac adferiad cyson yn nifer y trafodiadau ers hynny. Roedd 2,140 o drafodiadau preswyl ac amhreswyl mewn grym ym mis Ebrill 2020, a oedd ychydig yn llai na hanner y nifer a welwyd ym mis Ebrill 2019. Gwelodd yr adferiad yn y farchnad eiddo a ddilynodd, drafodiadau preswyl yn cynyddu ond maent yn parhau i fod yn is na lefelau 2019-20, hyd at ddiwedd Medi 2020. Rhwng mis Hydref 2020 a Thacwedd 2021, roedd y niferoedd yn uwch nag yn yr un misoedd mewn blynyddoedd blaenorol ar wahân i Ionawr 2021 pan oeddent yn is na, sy'n adlewyrchu'r adferiad y cyfeiriwyd ato uchod. Ers mis Rhagfyr 2021, mae'r niferoedd wedi bod yn is na'r rhai o gymharu â'r un mis yn y flwyddyn flaenorol.

Yn wahanol i'r set cyntaf o gyfyngiadau COVID-19 cenedlaethol a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2020, caniatawyd i'r farchnad eiddo barhau i gryn raddau yn y gyfyngiadau o bythefnos ddiwedd mis Hydref 2020 a’r cyfyngiadau pellach a gyflwynwyd ar 20 Rhagfyr 2020. Nid yw'r gostyngiad mewn trafodiadau eiddo a welwyd yn y set cyntaf o gyfyngiadau ym mis Mawrth 2020 wedi'i weld i'r un graddau eto yn ystod y cyfyngiadau hwyrach hyn a gyflwynwyd yn fwy diweddar.

Mae Ffigur 2.1 yn dangos cynnydd sydyn yn nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ddiwedd Mehefin 2021, sy’n cyd-fynd â diwedd y cyfnod dros dro o ostyngiad yn y dreth. Dilynwyd hyn gan ddychweliad i lefelau wythnosol mwy arferol o drafodiadau’n cael eu cyflwyno ddechrau mis Gorffennaf.

Nôl i dop y dudalen

1. Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Trafodiadau Tir i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir

Rydym yn anogu defnyddwyr ein hystadegau i ddarllen yr erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Mae cyfraddau uwch yn faes Treth Trafodiad Tir cymhleth a gellir ei gamddehongli. Bwriad yr erthygl yw helpu defnyddwyr ein hystadegau o ran sut i ddehongli'r data hwn.

Data ar gael dros Treth Trafodiadau Tir

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Hefyd, yn flynyddol, rydym yn cyhoeddi setiau data daearyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • awdurdod lleol
  • Etholaeth y Senedd (trafodiadau preswyl yn unig)
  • lefel amddifadedd, yn ddefnyddio’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (trafodiadau preswyl yn unig)
  • ardaloedd adeiledig (trafodiadau preswyl yn unig)
  • Parciau Cenedlaethol (trafodiadau preswyl yn unig)

Ar gyfer data ar lefel Cymru, rydym yn darparu dolenni i'r setiau data StatsCymru perthnasol trwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Yn ein polisi ar gyfer cyhoeddi ystadegol, rydym yn esbonio’r amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Mawrth 2022, y chwarter Ionawr i Fawrth 2022, y flwyddyn 2021-22, ac amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau a ffurflennau treth neywdd yn cael eu derbyn. Mae rhesymau am hyn yn cynnwys:

  • ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol
  • trethdalwyr yn anfon ffurflenni treth sy'n ymwneud â thrafodiadau eiddo yng Nghymru i Gyllid a Thollau EM ar gam. Ar ôl sylweddoli eu camgymeriad, gall gymryd peth amser i'r trethdalwr anfon y ffurflen yn gywir i Awdurdod Cyllid Cymru.

Cymhariaethau â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref, ac lefelau is yn a gaeaf a gwanwyn. Gall fod wedyn yn ddefnyddiol cymharu'r cyfnod cyfredol (Ionawr i Fawrth 2022) â data am yr un cyfnod flwyddyn neu dwy flynedd ynghynt. Fodd bynnag, mae'r newidiadau yn 2020-21 wedi cael eu heffeithio'n arbennig gan newidiadau COVID-19 a newidiadau yng nghyfraddau Treth Trafodiadau Tir. Felly mae'n fwy priodol cymharu'r cyfnod cyfredol yn erbyn Ionawr i Fawrth 2020 (nag yn erbyn Ionawr i Fawrth 2021).

Dylid nodi bod yn bob argraffiad o’n ystadegau Treth Trafodiadau Tir, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Ionawr i Fawrth 2020 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022 wedi cael ei ddywygio eto. Yn y dyfodol, bydd hefyd rhywfaint o ddiwygiadau am i fyny i werth Ionawr i Fawrth 2022 oherwydd trafodiadau hwyr.

Felly yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu:

  • data ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022; ac
  • ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 (a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill 2020)

Yn ein datganiad Treth Trafodiadau Tir blynyddol nesaf (i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022), byddwn yn cymharu data ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022 â data ar gfyer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae hyn yn caniatáu’r cymariaethau tecaf dros amser. Fodd bynnag, dylid ystyried pob cymhariaeth yng ngoleuni effeithiau coronafeirws (COVID-19) a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad
  • mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd

Mynediad i’n hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau

Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn yr amser hynny. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft yn ystod Ebrill 2020 i Fawrth 2021, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 4% a 5% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

Nôl i dop y dudalen

2. Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ryddhau diweddariad ar gyhoeddi ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru oherwydd coronafeirws (COVID-19). Gwnaethom nodi y byddem, yn ein datganiad ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, yn edrych ar unrhyw effeithiau posibl y coronafeirws (COVID-19) ar ein hystadegau.

Er mwyn deall yr effeithiau ar nifer y trafodiadau, y dreth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd, dylai defnyddwyr gyfeirio at adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’ y datganiad hwn.

Image
Mae Ffigur 2.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru bob wythnos rhwng Ebrill 2019 a Ebrill 2022. Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2022.

Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (MS Excel)

Mae Ffigur 2.1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’16.04’ yn 2022-23 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 16 i 22 Ebrill 2022 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn 2021-22 yn rhedeg rhwng 17 i 23 Ebrill 2021 (yn gynwysedig).

Sylwch fod Ffigur 2.1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn.

Roedd y nifer wythnosol o drafodiadau a gyflwynwyd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020 yn amrywio rhwng 40% a 60% o'r nifer a welwyd yn yr un wythnos yn 2019 ac ar gyfartaledd o tua 50% dros y cyfnod cyfan. Ers hynny, bu adferiad graddol mewn trafodiadau, gyda lefelau’n debyg neu'n uwch na'r rhai a welwyd yn y flwyddyn flaenorol o fis Hydref 2020 ymlaen.

Bu uchafbwynt sydyn yn y trafodiadau a gyflwynwyd tua diwedd Mehefin 2021. Mae'r uchafbwynt yn gysylltiedig â'r cyfnod lleihau treth dros dro a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Cyflwynwyd 2,840 o drafodiadau, sef y nifer mwyaf erioed yn ystod yr wythnos yn dechrau 26 Mehefin 2021, gyda llawer ohonynt yn cael eu cyflwyno ar 30 Mehefin 2021. Yna gostyngodd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i lefel fwy arferol yng Ngorffennaf i Hydref 2021, ac eithrio uchafbwynt llai o 1,670 o drafodion a welwyd yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Medi 2021. Mae’r gostyngiad mewn trafodidau yn yr wythnos yn dechrau 16 Ebrill 2022 yn cyd-daro â gwyliau cyhoeddus.

Image
Mae Ffigur 2.2 yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.2 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (mae hefyd yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Ar ddiwedd 18 Ebrill 2022, derbynion ni fanylion 14,610 o drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym yn Ionawr i Fawrth 2022. Mae hyn yn is na’r uchafbwynt a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2021, ond mae'n cynrychioli cynnydd o 10% o'i gymharu â Ionawr i Fawrth 2020 (amcangyfrifwyd ym mis Ebrill 2020).

Y newidiadau cyfatebol ar gyfer trafodiadau preswyl, trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl oedd cynnydd o 11%, dim newid, a chynnydd o 6%, yn y drefn honno. Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.5a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y gwahanol dueddiadau ers Ebrill 2020 ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.5b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Yn Ionawr i Fawrth 2022, roedd 89% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 11% yn rhai amhreswyl, yn debyg i'r cyfnod o dri mis blaenorol.

Image
Mae Ffigur 2.3 yn dangos y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.3 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (mae hefyd yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Mae cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Ionawr i Fawrth 2022 oedd £99.0 miliwn. Mae hyn yn 82% yn uwch nag Ionawr i Fawrth 2020 (amcangyfrifwyd ym mis Ebrill 2020). Y newidiadau cyfatebol ar gyfer treth yn ddyledus o breswyl, trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl oedd cynnyddiadau o 72%, 57%, a 106%, yn y drefn honno.

 Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.6a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y gwahanol dueddiadau ers Ebrill 2020 ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.6b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Fel y nodwyd yn Ffigur 2.3 uchod, nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys unrhyw dreth oedd yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Ffigur 1.2.

Image
Mae Ffigur 2.4 yn dangos gwerth yr eiddo oedd yn agored i’r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl y chwarter y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.4 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (mae hefyd yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Ionawr i Fawrth 2022 oedd £3.7 biliwn. Mae hyn yn uwch na'r £2.6 biliwn a welwyd yn Ionawr i Fawrth 2020. Mae hyn yn gyson â chynnydd yng ngwerth trafodiadau yn y ddwy flynedd rhwng hynny. Mae Adran 3 y datganiad hwn yn disgrifio tueddiadau mewn trafodiadau preswyl a’r dreth sy'n ddyledus yn ôl gwerth.

(heb ei ddangos yn Ffigur 2.4) Ar wahân i hynny, yn Ionawr i Fawrth 2022, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £314 miliwn. Roedd y ffigur cyfatebol yn Ionawr i Fawrth 2020 yn £304 miliwn.

Image
Mae Ffigur 2.5a yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2022 ar gyfer trafodiadau preswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar. Mae Ffigur 2.9 yn ein datganiad ystadegol blynyddol yn dangos bod gan bron i hanner y trafodiadau ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Yn dilyn cyfyngiadau COVID-19 sy’n cael eu cyflwyno ym mis Mawrth 2020, gostyngodd nifer misol y trafodiadau preswyl yn sylweddol ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae wedi adfer yn raddol, gan godi uwchlaw'r niferoedd a welwyd yn y flwyddyn flaenorol rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Ionawr 2021, gostyngodd y niferoedd ond ers hynny maent wedi codi eto yn uwch na'r niferoedd a welwyd blwyddyn ynghynt. O fewn y nifer hwn, mae trafodiadau preswyl cyfradd uwch wedi adfer. Ym mis Mehefin 2021, gwelwyd y nifer misol uchaf erioed o drafodiadau preswyl, yn cyd-fynd â'r cyfnod dros dro o ostyngiad yn y dreth a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Mae trafodiadau preswyl ers mis Gorffennaf 2021 wedi bod yn cyson â neu ychydig yn uwch y lefelau arferol (a welwyd yn ystod y misoedd cyfatebol yn Ebrill).

Image
Mae Ffigur 2.5b yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2022 ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Sylwch fod graddfa Ffigur 2.5b yn wahanol i raddfa Ffigur 2.5a.

Ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror) mewn trafodiadau amhreswyl. Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2022, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros fis Chwefror, ac nid yw'r rhesymau am hyn wedi dod i'r amlwg eto.

Mae’n fwy anodd gweld effaith cyfyngiadau COVID-19 mewn trafodiadau amhreswyl. Mae hyn yn rhannol oherwydd y nifer is o drafodiadau’n gyffredinol, a’r natur afreolaidd o’r sector amrheswyl.

Image
Mae Ffigur 2.6a yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2022 ar gyfer trafodiadau preswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Fel y gellir disgwyl, gwelir tueddiadau tebyg yn y dreth breswyl fisol sy'n ddyledus ag y nifer misol y trafodiadau. Bu adferiad hyd yn oed yn fwy mewn refeniw ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch nag ar gyfer pob trafodiad preswyl ers yr haf yn 2020. Rhoddwyd hwb pellach i hyn pan gynyddwyd yr holl fandiau cyfradd uwch 1% o 22 Rhagfyr 2020.

Parhaodd yr adferiad yn 2021 gyda'r refeniw preswyl uchaf erioed i'w weld ym mis Mehefin 2021 cyn gostwng ym mis Gorffennaf 2021. Roedd hyn oherwydd bod rhai trafodiadau wedi cael eu dwyn ymlaen yn ystod y flwyddyn er mwyn elwa o'r cyfnod o ostyngiad dros dro yn y dreth.

Yna cynyddodd refeniw preswyl, gyda refeniw misol o fis Medi i fis Rhagfyr 2021 yr uchaf a welwyd hyd yn hyn, ac eithrio brig Mehefin 2021. Mae hyn yn gyson â chynnydd yng ngwerth trafodiadau preswyl, a ddisgrifir yn Adran 3 y datganiad hwn. Gostyngodd refeniw preswyl ym mis Ionawr 2022 ac yna cynyddodd ym mis Chwefror a mis Mawrth, er ei fod yn parhau i fod yn is na'r refeniw misol a welwyd ddiwedd 2021. Mae hyn yn gyson â'r tueddiadau tymhorol disgwyliedig yn y farchnad eiddo.

Image
Mae Ffigur 2.6b yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2022 ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Roedd refeniw amhreswyl yn gyson ym mis Ebrill 2020, oherwydd nifer fach o drafodiadau mawr yn y mis hon. Roedd refeniw amhreswyl yn disgyn i'r lefel isaf a welwyd hyd yma ym mis Mai 2020 (£1.5 miliwn), cyn gwella'n gyffredinol ym misoedd canlynol.

Yn Ebrill 2021, gwelwyd y refeniw uchaf erioed o ganlyniad i nifer fechan o drafodiadau amhreswyl gwerth uchel. Yna gostyngodd refeniw ym Mai 2021, cyn codi dros y misoedd canlynol. Mae'r cynnydd diweddar hwn mewn refeniw yn cael ei yrru'n bennaf gan drawsgludiadau neu drosglwyddo perchnogaeth.

Mewn bron i dair blynedd rhwng Ebrill 2018 a Chwefror 2021, dim ond ar bum achlysur y cyrhaeddodd refeniw amhreswyl misol rhwng £8 miliwn a £10 miliwn. Fodd bynnag, o fis Mawrth 2021 ymlaen, roedd refeniw amhreswyl yn fwy na £8 miliwn bob mis (ac eithrio Mai 2021). Mae’n bosibl bod patrwm cyfnewidiol o drafodiau yn ystod adferiad COVID-19 yn cyfrannu at y duedd hon. Er enghraifft, mae tystiolaeth o niferoedd ychydig yn uwch o bryniannau llwyr eiddo amhreswyl, o gymharu â lesoedd newydd. Mae pryniannau'n tueddu i gynhyrchu mwy o refeniw na lesoedd ond mae'n dal yn aneglur pa effaith y gallai hyn ei chael ar refeniw yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i fonitro'r tueddiadau hyn yn y dyfodol.

Mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol (nag ar gyfer trafodiadau preswyl). Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Image
Mae Ffigur 2.7 yn dangos canran y trafodiadau oedd yn ymwneud â thrawsgludo / trosglwyddo perchenogaeth, rhoi lesoedd newydd neu aseinio lesoedd, ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022. Rhoddir canrannau ar wahân ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn Ionawr i Fawrth 2022 yn £3.5 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.7).

Roedd y mwyafrif o’r trafodiadau yn gysylltiedig â thrawsgludo neu drosglwyddo perchnogaeth. Roedd y ffigur hwn yn 94% ar gyfer trafodiadau preswyl a 70% ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Rhoddwyd les newydd mewn 26% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 1% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer cyfnodau o dri mis a blynyddoedd blaenorol.

Nôl i dop y dudalen

3. Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Image
Mae Ffigur 3.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a’r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.
Image
Mae Ffigur 3.2 yn dangos y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 3.1 a 3.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Er gwaethaf effaith coronafeirws (COVID-19), a'r adferiad y cyfeiriwyd ato’n flaenorol, mae tueddiadau tymhorol i’w gweld yn nifer y trafodiadau o hyd. Mae mwyafrif o'r bandiau treth yn dangos gostyngiad yn Ionawr i Fawrth (o'i gymharu â'r Hydref i Ragfyr blaenorol). Mae tueddiadau tymhorol mewn refeniw yn fwy cymhleth, gan fod effeithiau coronafirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol i lawer o 2020-21 ac 2021-22. Er mwyn deall y tueddiadau hyn, dylai defnyddwyr gyfeirio at adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’ y datganiad hwn.

Yn Ebrill i Fehefin 2021, cafwyd y niferoedd uchaf o drafodiadau ym mhob band a welwyd hyd yma (ac eithrio eiddo a brynwyd am hyd at a chan gynnwys £180,000). Yn y cyfnodau o dri mis ers hynny, mae nifer y trafodiadau ym mhob band wedi gostwng yn gyffredinol, er y bu cynnydd mewn rhai bandiau rhwng yn Hydref i Ragfyr 2021.

Ar gyfer pob un o’r pedwar band a ddangosir yn Ffigur 3.2, symiau’r dreth a oedd yn ddyledus yn Hydref i Ragfyr 2021 oedd y gwerthoedd uchaf a welwyd hyd yma (ac eithrio eiddo a brynwyd am hyd at £180,000). Mae’r cynnydd hwn mewn treth sy’n ddyledus yn cael ei yrru’n bennaf gan gynnydd yng ngwerth yr eiddo dan sylw. Ym mhob band, gostyngodd y dreth a oedd yn ddyledus yn Ionawr i Fawrth 2022 o’r chwarter blaenorol, fel y gellid disgwyl oherwydd y tueddiadau tymhorol yn y farchnad eiddo.

Yn ôl y disgwyl, rhwng Ebrill i Fehefin 2021 a Gorffennaf i Fedi 2021, mae cynnydd yng ngwerth cyfartalog y dreth sy'n ddyledus fesul trafodiad rhwng £180,000 a £250,000 yn y chwarter diweddaraf. Hyd at Fehefin 2021, roedd y gostyngiad dros dro yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau preswyl prif gyfradd a gyflwynwyd ar 27 Gorffennaf 2020 yn fwy na gwrthbwyso’r cynnydd yn elfen cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ar 22 Rhagfyr 2020. Gyda chyfnod y gostyngiad dros dro mewn cyfraddau wedi dod i ben ar 30 Mehefin, cynyddodd gwerth cyfartalog y dreth a oedd yn ddyledus yn y band hwn yng Ngorffennaf i Fedi 2021.

Image
Mae Ffigur 3.3 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl a faint o dreth oedd yn ddyledus, yn ôl band treth preswyl. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau neu'r dreth oedd yn ddyledus ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ionawr i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Yn Ionawr i Fawrth 2022, roedd 50% o'r trafodiadau preswyl o fewn y band treth cyntaf (pris prynu £180,000 neu is). Er bod y prif gyfradd dreth yn 0% ar drafodiadau preswyl hyd at £180,000, roedd y trafodiadau hyn yn dal i fod i gyfrif am 14% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, sydd i gyd yn ymwneud ag elfen cyfraddau uwch preswyl y dreth.

Roedd yr 21% o drafodiadau yn yr ail fand treth (pris prynu £180,001 i £250,000) i gyfrif dim ond 11% o'r dreth oedd yn ddyledus Fodd bynnag, yn y trydydd band treth (pris prynu £250,001 i £400,000), roedd dim ond 20% o’r trafodadau i gyfrif am 31% o’r dreth oedd yn ddyledus.

Gan gyfuno'r pedwerydd, pumed a'r chweched band (pris prynu o fwy na £400,000), roedd y rhain i gyfrif am 8% o'r trafodiadau. Fodd bynnag, roedd y dreth a oedd yn ddyledus am y trafodiadau hyn i gyfrif am 44% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus. Mae'r ddwy ganran hon wedi codi’n gyffredinol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan adlewyrchu cynnydd yn niferoedd y trafodiadau gwerth uwch.

Nôl i dop y dudalen

4. Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Image
Mae Ffigur 4.1 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.
Image
Mae Ffigur 4.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Mae Ffigur 4.1 yn dangos bod nifer y trafodiadau ym mhob band gwerth wedi gostwng i'r gwerthoedd chwarterol isaf a welwyd hyd yma yn Ebrill i Fehefin 2020, cyn adfer dros y misoedd dilynol. Er mwyn deall y tueddiadau hyn, dylai defnyddwyr gyfeirio at adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’ y datganiad hwn. Ers Ebrill 2021, roedd y dreth chwarterol oedd yn ddyledus yn y categori ‘Gwerth nad yw’n rhent: £1m+’ yn arbennig o uchel. Roedd hyn oherwydd niferau fechan o drafodiadau mawr.

Ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, mae tua 50% i 80% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ym mhob cyfnod o dri mis hyd at Mawrth 2021, mae tua 10% i 30% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl. Gostyngodd y ganran hon i tua 5% i 10% ym mhob cyfnod o dri mis o fis Ebrill 2021 (a ddangosir yn Ffigur 4.4).

Image
Mae Ffigur 4.3 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ionawr i Fawrth 2022.
Image
Mae Ffigur 4.4 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ionawr i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Mae Ffigur 4.3 yn dangos yn Ionawr i Fawrth 2022, 6% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn. Roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 77% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4). Fel y soniwyd yn gynharach, yn Ionawr i Fawrth 2022, cafwyd nifer fechan o drafodiadau amhreswyl arbennig o fawr, a ddylanwadodd ar y canran hwn.

Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos 25% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hyn, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).

Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 9% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

Nôl i dop y dudalen

5. Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • i sero, a elwir yn rhyddhad llawn
  • neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol
Image
Mae Ffigur 5.1 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Roedd 300 o drafodiadau yn Ionawr i Fawrth 2022 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is na Ionawr i Fawrth 2020.

Roedd y gwerth chwarterol isaf a welwyd hyd yma yn 160 trafodiadau a ryddhawyd yn Ebrill i Fehefin 2020. Mae hyn yn gyson â thueddiadau yn niferoedd y trafodiadau yn eu cyfanrwydd a dylid eu darllen yng nghyd-destun yr adran gynharach ar effaith y coronafeirws (COVID-19) ar lefelau trafodiadau o fis Ebrill 2020 a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir.

Ar gyfartaledd, ym mhob cyfnod o dri mis mae tua 120 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth.

Er enghraifft, mae rhai o'r rhain rhyddhadau a hawliwyd drwy gamgymeriad yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Image
Mae Ffigur 5.2 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Ar gyfer pob cyfnod o dri mis, cafodd niferoedd uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl. Mae gwerth y rhyddhadau a hawlir ym mhob cyfnod o dri mis amrywio'n sylweddol dros amser, ynghyd â chyfran y gwerth o drafodiadau preswyl neu amhreswyl. Ym mhob cyfnod o dri mis, trafodiadau amhreswyl gyfranodd dros hanner i gyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd.

Fodd bynnag, yn y cyfnodau canlynol, cyfrannodd sawl trafodiad preswyl mawr at y ffaith bod ryddhadau preswyl yn sylweddol fwy na rhyddhadau amhreswyl:

  • Ebrill i Fehefin 2019
  • Hydref i Ragfyr 2020
  • Hydref i Ragfyr 2021
  • Ionawr i Fawrth 2022

Mae rhagor o ddata ar ryddhadau ar gael ar StatsCymru drwy'r ddolen uchod, gan gynnwys data chwarterol yn ôl math o ryddhad.

Nôl i dop y dudalen

6. Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Cyllid Cymru hyd at a chan gynnwys 18 Ebrill 2022.

Image
Mae Ffigur 6.1 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau treth cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl chwarter yr oedd y trafodiad gwreiddiol mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

(heb ei ddangos yn Ffigur 6.1) Yn ngronnol, roedd 6,040 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym ers Ebrill 2018, gyda £56.6 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd yr holl gwerthoedd yn Ffigur 6.1 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau a siartau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl, yn ôl dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad

Ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch yw defnyddio'r dyddiad pan gafodd yr ad-daliad ei gymeradwyo gan Awdurdod Cyllid Cymru. Gellir gweld set ddata sy'n defnyddio'r dyddiadau hyn a dyddiad dod i rym y trafodiad gwreiddiol ar wefan StatsCymru ar y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl (ar sail arian parod)

Mae rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

Bwriad i hawlio ad-daliad o’r elfen cyfraddau uwch

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

Nôl i dop y dudalen

7. Treth a dalwyd

Image
Mae Ffigur 7.1 yn dangos symiau misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd i’r Awdurdod, ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2022.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn Ionawr i Fawrth 2022, derbyniodd Awdurdod Cyllid Cymru £92.7 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Dyma'r gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma ac mae'n sylweddol uwch na'r £52.5 miliwn a dderbyniwyd yn Ionawr i Fawrth 2020. Fel y disgrifir yn adran 1 o'r datganiad hwn ('Ynglŷn â'r ystadegau yma'), mae'n fwy priodol cymharu'r cyfnod presennol yn erbyn Ionawr i Fawrth 2020 na'r un cyfnod yn 2021. Mae hyn oherwydd effeithiau cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) a newidiadau cyfraddau treth ar weithgaredd y farchnad dai yn 2020-21.

Mae'r gwerthoedd hyn yn wahanol na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.3 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i ddata cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Mae gwahaniaeth ym mis Ebrill 2018 gan mai dim ond yn ystod y mis hwnnw y dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu'r dreth. Felly, nid oedd unrhyw daliadau yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym yn ystod misoedd blaenorol yn berthnasol.

Sylwch hefyd fod:

  • y data yn Ffigur 7.1 yn cael ei gyflwyno’n net o ad-daliadau cyfradd uwch sy'n cael eu talu mewn mis penodol
  • ni fydd yn cynnwys swm bach o Treth Trafodiadau Tir heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Roedd y derbyniadau misol uchaf a welwyd hyd yma ym mis Rhagfyr 2021 (£43.1 miliwn). Fel arfer, mae tueddiadau misol mewn taliadau a wnaed yn cael eu dylanwadu’n rhannol gan dreth sy’n ddyledus a adroddwyd ar ddiwedd y mis blaenorol. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol bod treth sy'n ddyledus a adroddwyd ym mis Rhagfyr yn cael ei thalu ym mis Rhagfyr. Mae hyn oherwydd gwyliau'r Nadolig a lefelau isel o drafodiadau a adroddwyd a threth a dalwyd ddiwedd mis Rhagfyr.

Nôl i dop y dudalen

Atodiad A: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn dadansoddi yr effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni tri amcangyfrif ar gyfer mis Ionawr 2022. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 25 Chwefror 2022, yr ail amcangyfrif ar 25 Mawrth 2022 a'r trydydd amcangyfrif ar 28 Ebrill 2022.

Image
Mae Ffigur A1 yn dangos y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, fesul mis dod i rym. Dangosir canrannau ar gyfer y newid yn nifer y trafodiadau.
Image
Mae Ffigur A2 yn dangos y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, fesul mis dod i rym. Dangosir canrannau ar gyfer y newid yn y dreth oedd yn ddyledus.

Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym (MS Excel)

Mae Ffigurae A1 ac A2 yn dangos bod lefelau uwch o adolygiadau i’w gweld yn gyffredinol yn y misoedd cynharaf y dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu Treth Trafodiadau Tir. Felly y mae pethau, yn arbennig ar gyfer y dreth sy’n ddyledus ar drafodiadau sydd â’r dyddiad dod i rym ym mis Ebrill 2018, pan roedd 30% o gynnydd yn amcangyfrif y dreth sy’n ddyledus (o’r amcangyfrif cyntaf i’r ail amcangyfrif am y mis). Disgwylid diwygio ym mis Ebrill 2018 oherwydd byddai defnyddwyr yn llai cyfarwydd â’r system, a hefyd oherwydd bod dyddiad terfynol cynharach wedi cael ei ddefnyddio yn y mis canlynol i echdynnu’r data.

Fodd bynnag, mae’r ffigwr ar gyfer Ebrill 2018 o 30% yn y dreth sy’n ddyledus lawer yn uwch na’r ffigwr cyfatebol yn nifer y trafodiadau (11%). Yr esboniad yw nad oedd Awdurdod Cyllid Cymru wedi cael gwybod am rai trafodiadau mawr, sydd â dyddiad dod i rym yn hwyr ym mis Ebrill 2018, tan yn ddiweddarach ym mis Mai (cyn y terfyn llenwi, sef 30 diwrnod, ond ar ôl y dyddiad terfynol ar gyfer eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2018).

Mae Ffigurae A1 ac A2 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers mis Hydref 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod i fyny a rhwng 0 a 5%. Yr eithriadau diweddar oedd:

  • mis Ebrill 2019 pan oedd y dreth yn ddyledus yn adolygu i lawr 3% rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif.
  • mis Mehefin 2019 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 9%)
  • mis Medi 2019 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 16%)
  • mis Ionawr 2020 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 27%)
  • mis Mawrth 2020 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 6%)
  • mis Mehefin 2021 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 9%)
  • mis Hydref 2021 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 8%)

Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni gwerth mwy yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at Awdurdod Cyllid Cymru dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r data. Er i ni weld diwygiadau uwch ar gyfer amcangyfrifon Gorffennaf 2018 na’r misoedd o’i gwmpas, nid ydym yn gweld unrhyw debygrwydd amlwg yn y data ar gyfer 2019. Ac ynmhellach, mae effeithiau coronafirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir wedi effeithio’n sylweddol ar ddata ar gyfer Ebrill 2020 ymlaen. Felly, bydd angen gwerth blwyddyn arall o ddata arnom er mwyn asesu unrhyw ddiwygiadau o ran effeithiau tymhorol.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau A1 a A2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Rydym yn dadansoddi ad-daliadau yn adran 6 o'r datganiad ystadegol hwn.

Yn y dyfodol, gallen ni fod yn ystyried cymhwyso ffactor grosio i amcangyfrifon cyntaf mis. Gallai hyn fod yn gymorth i ostwng nifer y diwygiadau sydd eu hangen ar amcangyfrif cyntaf y mis. Gan fod y data’n ymddangos yn anwadal hyd yma, mae’n debygol y bydd angen i ni gael sawl blwyddyn o ddata Treth Trafodiadau Tir i gyfrifo ffactorau grosio priodol.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Nôl i dop y dudalen

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Nôl i dop y dudalen

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo