Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Trafodiadau Tir
Mae'r adroddiad chwarterol hwn ar gyfer Treth Trafodiad Tir yn sylw ar:
- nifer y trafodiadau, treth yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd
- dadansoddiad o drafodiadau preswyl ac amhreswyl yn ôl gwerth
- rhyddhadau treth
- ad-daliadau cyfradd uwch y dreth breswyl
- arian a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Cyllid Cymru
Newid cyfradd Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19)
Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun yr achosion o coronafeirws (COVID-19). Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod hanner cyntaf 2020-21. Felly mae'n effeithio ar y cymariaethau a wnaed rhwng y cyfnod hwn a'r un cyfnod yn 2019-20.
Arweiniodd y cyfnod clo cenedlaethol a osodwyd ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai gan mwyaf hyd nes iddi gael ei hailagor yn rhannol ar 22 Mehefin. Yr adeg hynny, gellid mynd i weld tai os oedd yr eiddo’n wag, ynghyd â symud tŷ os oedd y gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Yna agorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd â newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 31 Mawrth 2021. Er bod rhai cloeon lleol pellach wedi’u gweithredu tuag at ddiwedd y cyfnod yr adroddir arno yn y datganiad hwn (diwedd Medi 2020) nid ydynt fe ymddengys wedi cael unrhyw effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau.
Gwybodaeth bellach
Gweler yr adran ‘Data’ isod am daenlen gyda’r tablau data a’r data siartiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad chwarterol hwn. Hefyd, mae’r setiau data Treth Trafodiadau Tir manwl i’w gweld ar wefan StatsCymru.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau misol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.
- Mae ystadegau misol yn ddiweddariadau data yn unig heb unrhyw sylwebaeth. Gall yr ystadegau misol fod â mwy o ddata cyfoes nag ystadegau chwarterol neu flynyddol.
- Mae ystadegau blynyddol yn rhoi mwy o fanylion. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Gorffennaf i Medi 2020 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 607 KB
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 706 KB
Cyswllt
Adam Al-Nuaimi
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.