Sut i ychwanegu neu ddileu defnyddwyr ar-lein o gyfrif ar-lein Treth Trafodiadau Tir eich sefydliad.
Cynnwys
Sut i ychwanegu defnyddwyr ar-lein
I ychwanegu defnyddiwr ar-lein at gyfrif ar-lein eich sefydliad:
- Rhaid i'r defnyddiwr newydd gofrestru ar gyfer eu manylion mewngofnodi eu hunain.
- Rhaid i weinyddwr y sefydliad eu hactifadu er mwyn iddynt allu ffeilio a gweld ffurflenni treth.
Cofrestru ar gyfer eich manylion mewngofnodi unigol
Defnyddiwch y botwm 'Cofrestrwch nawr' ar y dudalen mewngofnodi fel y gwelir yn y sgrinlun isod.
Wrth gofrestru byddwch angen:
-
Rhif cofrestru eich sefydliad.
Gofynnwch i’ch gweinyddwr am hwn os nad yw gennych chi. Gallant ddod o hyd iddo ar eu tudalen 'rheoli defnyddwyr ar-lein'. - Gwirio eich cyfeiriad e-bost.
Bydd cod yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad e-bost gan Microsoft ac mae angen i chi ei ddefnyddio o fewn 10 munud. Os nad ydych yn derbyn y cod hwn, edrychwch yn eich ffolder 'sothach' neu 'sbam'. Cysylltwch â ni os nad ydych wedi ei dderbyn neu fod angen help arnoch.
Pan fyddwch wedi cofrestru, dywedwch wrth eich gweinyddwr. Gallant eich actifadu ar gyfrif y sefydliad.
Actifadu defnyddwyr newydd
Gall gweinyddwyr weld defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein gyda'u sefydliad ar y dudalen 'rheoli defnyddwyr ar-lein'. Ar y dudalen hon gallwch ddewis defnyddwyr sy'n aros i’w hactifadu a newid eu ' statws defnyddiwr’ i wedi’i actifadu
Yna gall defnyddwyr sydd wedi'u hactifadu:
- gyflwyno ffurflenni treth
- gweld ffurflenni drafft a rhai sydd wedi’u cyflwyno gan eich sefydliad
Ychwanegu a thynnu gweinyddwr arall
Gall gweinyddwyr uwchraddio defnyddwyr yn weinyddwyr drwy newid eu 'math o ddefnyddiwr' yn y system ar unrhyw adeg. Gallwch hefyd eu newid yn ôl yn ddefnyddwyr.
Fel gweinyddwr, byddant yn gallu rheoli a diweddaru’r rhestr defnyddwyr.
Dadactifadu defnyddwyr
Os bydd defnyddiwr yn gadael y sefydliad neu os nad oes angen mynediad arno mwyach, dylech ei ddadactifadu ar unwaith.
Os ydynt yn gadael eich sefydliad dros dro gallwch eu dadactifadu a'u hailactifadu’n ddiweddarach.
I actifadu defnyddiwr:
- Ewch i 'rheoli defnyddwyr ar-lein'.
- Dewiswch y defnyddiwr.
- Dewiswch 'golygu manylion y defnyddiwr'.
- Newidiwch statws y defnyddiwr i 'wedi’i ddadactifadu'.
- Cadw.