Neidio i'r prif gynnwy
Paratoi Cymru: Y berthynas newydd â’r UE

Gadawodd y DU yr UE ar 31 Ionawr 2020. Fodd bynnag, cyflwynodd Cytundeb Tynnu’n Ôl y DU-UE gyfnod pontio tan 31 Rhagfyr 2020, a olygai fod y DU yn aros o fewn Undeb Marchnad Sengl ac Undeb y Tollau yr UE. Yn ystod yr amser hwn nid oedd fawr o wahaniaeth i'r ffyrdd o wneud busnes a symud o amgylch yr UE.

Ers i’r broses ymadael â’r UE ddechrau, mae gennym ni wedi ceisio gweithio’n adeiladol tuag at berthynas yn y dyfodol a fyddai er lles pennaf ein dinasyddion a’n busnesau. Mae hyn wedi’i nodi’n glir mewn cyhoeddiadau ers Refferendwm yr UE, yn benodol Diogelu Dyfodol Cymru ac Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru

Tra’r oedd y broses negodi yn mynd rhagddi, buddsoddwyd adnoddau sylweddol gennym i gynllunio a pharatoi ar gyfer pob canlyniad posibl (fel y nodir yn ein Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2020) a rhoi arweiniad i ddinasyddion, busnesau a sefydliadau drwy ein gwefan.

Cytunwyd ar y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar 24 Rhagfyr 2020. Er nad dyna'r fargen yr oeddem ei eisiau, gwnaethom gefnogi’r dewis a fyddai’n darparu’r berthynas agosaf posibl â’r UE ac felly cyn lleied o amharu â phosibl.

Beth yw'r gwahaniaethau yn ein perthynas newydd â'r UE?

Daeth diwedd y cyfnod trosglwyddo â newidiadau i'n perthynas â'r UE.Ydym mwyach yn rhan o’r trefniant rhyddid i symud, o ran pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf, rhwng y DU a’r 27 o Aelod-wladwriaethau’r UE. O ganlyniad, byddwn yn wynebu rhwystrau newydd i fasnach mewn nwyddau a gwasanaethau ac i’n hawliau i deithio, byw a gweithio mewn gwledydd eraill yn Ewrop.

Beth mae’n ei olygu i bobl sy’n byw yng Nghymru

  • Bydd angen i deithwyr o Gymru i’r UE fod yn ymwybodol o’r rheolau a’r cyfyngiadau newydd a fydd yn berthnasol iddynt
  • Ar gyfer gofal iechyd, mae'r TCA yn cynnwys cynllun tebyg i'r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd presennol ar gyfer teithwyr
  • Ni fydd teithwyr o Brydain Fawr bellach yn gallu manteisio’n llawn ar gynllun Teithio Anifeiliaid Anwes yr UE
  • Nid oes gan wladolion y DU hawl awtomatig nawr i fyw neu weithio yn yr UE
  • Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â chymryd rhan yn Erasmus+.

Beth mae’n ei olygu i fusnesau a gweithwyr Cymru

Ar gyfer masnachu nwyddau:

  • Er mwyn elwa o fasnach ddi-dariff, rhaid i fusnesau gael prawf bod nwyddau yn tarddu o’r DU neu’r UE, gan gadw at ofynion y rheolau tarddiad yn y TCA
  • Bydd angen i fusnesau sy’n masnachu â’r UE gael rhif Adnabod a Chofrestru Gweithredwr Economaidd (EORI) Prydain Fawr er mwyn gallu gwneud datganiadau tollau
  • Mae angen i fusnesau sy’n masnachu ar draws ffiniau’r UE gytuno â’i gilydd pwy sy’n gyfrifol am bob cam yn y gadwyn gyflenwi gan gynnwys clirio tollau
  • Gallai busnesau wynebu’r angen i fodloni dwy set o safonau a rheoliadau ar gyfer eu cynnyrch yn y dyfodol
  • Hyd yn oed pan fydd safonau yr un fath, wrth fasnachu nwyddau bydd angen i fusnesau ddilyn gweithdrefnau asesiad cydymffurfio

Ar gyfer masnachu gwasanaethau:

  • Rhaid i fusnesau sy’n allforio gwasanaethau i’r UE fodloni rheolau ar gyfer trydydd gwledydd a gaiff eu gosod gan bob Aelod-wladwriaeth – sy’n golygu bod angen cadw at hyd at 27 o wahanol setiau o reoliadau.

Beth mae’n ei olygu i’n diogelwch (security)

Mae’r UE yn ceisio sicrhau diogelwch holl ddinasyddion yr UE, yn bennaf drwy ei strwythurau datblygedig i gefnogi gwaith gorfodi’r gyfraith a chydweithredu barnwrol rhwng Aelod-wladwriaethau, strwythurau y chwaraeodd y DU rôl flaenllaw ynddynt tra’r oedd yn aelod.
O ran polisi ac amddiffyn tramor, mae Polisi Cyffredin yr UE ar Faterion Tramor a Diogelwch (CFSP) yn gosod y fframwaith ar gyfer strwythurau gwleidyddol a milwrol yr UE, a theithiau a gweithrediadau milwrol a sifiliaid dramor. Ei amcanion yw diogelu heddwch, cryfhau diogelwch rhyngwladol, hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol, a datblygu ac atgyfnerthu democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a pharch at hawliau dynol a rhyddid sylfaenol.

Wrth ymadael â’r UE, ni fydd y DU bellach yn cymryd rhan mewn llawer o’r mentrau hyn, er bod y TCA a’r cytundebau cysylltiedig yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi cydweithredu parhaus mewn rhai ohonynt. Heb os, mae’r TCA yn gwanhau strwythurau gorfodi’r gyfraith a diogelwch sy’n helpu i amddiffyn dinasyddion yng Nghymru ac ar draws yr UE.

Beth mae’n ei olygu i’n cymunedau a’n cymdeithas

Mae cymunedau Cymru wedi elwa ar aelodaeth o’r UE mewn sawl ffordd, gan gynnwys amddiffyniadau cyfreithiol mewn meysydd polisi pwysig megis hawliau gweithwyr a Safonau amgylcheddol.

Ers degawdau, mae Cymru wedi elwa ar gyllid sylweddol drwy raglenni’r UE, gwerth cyfanswm o ymhell dros £700m y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf yr addewidion a wnaed yn ystod ymgyrch refferendwm 2016 na fyddai Cymru ar ei cholled o ganlyniad i ymadael â’r UE, mae penderfyniadau Llywodraeth y DU wedi gadael Cymru a’n cymunedau yn brin.

Mae dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) a’r Cytundeb Masnach Rydd Ewropeaidd (EFTA) sydd wedi dod i fyw a gweithio yng Nghymru yn chwarae rhan hollbwysig yn ein cymdeithas – maent yn cael eu cyflogi yn ein sectorau busnes allweddol, yn darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ac yn cryfhau’r rhagoriaeth academaidd yn ein prifysgolion. Yn sgil diwedd y rhyddid i symud, nid oes gan ddinasyddion yr EEA na’r EFTA (ac eithrio’r rhai o Weriniaeth Iwerddon) yr hawl awtomatig mwyach i fyw a gweithio yn y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno system fewnfudo newydd yn seiliedig ar bwyntiau sydd bellach yn berthnasol i bob unigolyn sy’n dymuno symud i’r DU.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Nid yw’r TCA ond yn darparu fframwaith ar gyfer perthynas a fydd angen esblygu ymhellach a bydd y berthynas rhwng y DU a’r UE nawr yn cael ei rheoli gan set gymhleth o drefniadau.

Byddyn yn parhau â’n hymrwymiad i weithio’n adeiladol i feithrin perthynas newydd â’n cymdogion Ewropeaidd. Byddwn hefyd yn gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gymru lais yn y trefniadau llywodraethu hynny.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu goblygiadau’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE, a nodir yn y TCA a dogfennau cysylltiedig, ar gyfer dinasyddion, busnesau a chymunedau Cymru yn ogystal â’n diogelwch yn y dyfodol.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Nesaf: Pobl anabl >