Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gyfer awdurdodau derbyn wrth brosesu ceisiadau o wlad arall.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Canllawiau

Sut y dylai awdurdodau derbyn ac awdurdodau lleol brosesu ceisiadau a wneir o wlad arall ar gyfer ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Dylai rhieni a gofalwyr gysylltu â'r awdurdod lleol am ganllawiau ar wneud cais am le mewn ysgol.  

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan blant sy'n cyrraedd o wlad dramor yr hawl i fynychu ysgolion yng Nghymru. Ni ddylai awdurdodau derbyn ysgolion wrthod derbyn plant ar sail eu cenedligrwydd neu statws mewnfudo na'u tynnu oddi ar y gofrestr ar y sail hon. Mater i rieni a gofalwyr yw cadarnhau bod gan eu plant hawl i astudio mewn ysgol o dan amodau mynediad eu fisa.

Er mwyn helpu rhieni a gofalwyr, argymhellwn y dylai awdurdodau lleol gynghori gwladolion tramor sy'n dod i mewn i'r DU, sy'n dymuno gwneud cais am le mewn ysgol a gynhelir, gadarnhau bod ganddynt hawl preswylio neu fod amodau eu statws mewnfudo fel arall yn caniatáu iddynt fynychu ysgol a gynhelir. Gall awdurdodau lleol wneud hyn drwy ychwanegu neges atgoffa at eu gwefan derbyniadau a'u prosbectws cyfansawdd.

Hyd at 31 Rhagfyr 2020, o dan gyfraith mewnfudo'r DU, bydd pob plentyn yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ('AEE') a'r Swistir yn parhau i fod â'r hawl i ddod i'r wlad i astudio mewn ysgol. Mae unrhyw wladolyn o'r AEE neu'r Swistir sy'n cyrraedd y DU hyd at 31 Rhagfyr 2020 yn gymwys i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr EU, a pharhau i allu astudio mewn ysgolion yng Nghymru fel y maent ar hyn o bryd os bydd ei gais yn llwyddiannus.

Caiff plant dan 18 oed eu hystyried yn blant dibynnol os ydynt yn blant i wladolion tramor sydd â statws preswylydd sefydlog yn y DU, neu sy'n dod i mewn i'r DU ar fisa gwaith neu fisa myfyriwr, neu sy'n rhan o deulu sy'n dod i mewn i'r DU neu'n byw yn y DU o dan y llwybr mewnfudo i ddinasyddion sy'n Wladolion Prydeinig (Tramor) a'u dibynyddion.

Mae hawl gan y plant dibynnol hyn i ddod i mewn i'r wlad ac astudio mewn ysgol a gynhelir neu ysgol annibynnol ar ôl iddynt gyrraedd y DU.

Byddai angen i blant dibynnol nad ydynt yn cyrraedd i’r DU ar yr un pryd â’u rhieni wneud cais am fisa ar wahân, fel plentyn dibynnol.

Gall plant ar eu pen eu hunain ddod i mewn i'r DU er mwyn astudio mewn ysgol hefyd. Er mwyn cydymffurfio â thelerau eu fisa, wrth gael addysg yng Nghymru rhaid i blant gwladolion tramor ar eu pen eu hunain, a phobl ifanc (gan gynnwys gwladolion yr AEE a’r Swisdir sy'n dod i mewn i'r DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020) sy'n dod i mewn i'r DU ar fisa myfyriwr sy'n blentyn neu fisa myfyriwr, astudio yn yr ysgol annibynnol, y coleg chweched dosbarth, neu'r coleg addysg bellach sydd wedi cynnig lle diamod iddynt ar gwrs ac sydd yn noddwr myfyrwyr trwyddedig.

Ni all gwladolion tramor ddefnyddio'r fisa Ymwelydd Safonol chwe mis, na'r fisa Astudio Byrdymor 11 mis (iaith Saesneg), i ddod i mewn i'r DU i gofrestru fel dysgwr mewn ysgol. Gallwch gael gwybodaeth am yr hyn y gellir defnyddio'r fisâu hyn ar ei gyfer ar y dudalen ar fisâu ymwelwyr safonol.

Darllenwch ragor o wybodaeth am fisâu a mewnfudo a Chynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE ar gyfer dinasyddion yr AEE a'r Swistir.

Ni fydd hawl dinasyddion Gwyddelig i fyw yn y DU yn newid. Ni fydd angen iddynt wneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE, ond bydd angen i aelodau eu teulu nad ydynt yn ddinasyddion Gwyddelig neu Brydeinig wneud cais.

Os bydd ysgol yn pryderu nad oes gan blentyn hawl i ddod i'r wlad i astudio mewn ysgol a gynhelir, rhaid iddi wrthod lle iddo neu ei dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol. Dylai ysgolion gynghori rhieni a gofalwyr i gadarnhau eu hawliau neu e-bostio tîm atgyfeiriadau ysgolion y Swyddfa Gartref er mwyn ymchwilio ymhellach.

Atgyfeiriadau'r Swyddfa Gartref

Os bydd gan ysgol neu awdurdod lleol bryderon am statws mewnfudo plentyn penodol, dylai gysylltu â'r Swyddfa Gartref drwy: schoolreferrals@homeoffice.gov.uk

Nid fydd yn rhaid i'r awdurdod lleol nac awdurdod derbyn yr ysgol ddweud wrth rieni neu ofalwyr y plentyn ei fod wedi cysylltu â'r Swyddfa Gartref, ond mae'n arfer da iddo wneud hynny. Bydd y Swyddfa Gartref yn anelu at ymateb i'r ysgol o fewn 48 awr.

Os bydd y Swyddfa Gartref yn canfod nad yw fisa'r plentyn yn rhoi'r hawl iddo ddod i mewn i'r wlad i fynychu ysgol a gynhelir, mater i'r Swyddfa Gartref fydd cymryd unrhyw gamau pellach y bydd yn eu hystyried yn briodol. Ni ddylai awdurdod lleol, awdurdod derbyn nac ysgol wrthod lle i blentyn, na'i dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol, ar sail canfyddiadau'r Swyddfa Gartref.

Prosesu ceisiadau gan rieni a gofalwyr sy'n symud i Gymru

Mae'r cyngor hwn yn nodi sut y dylai awdurdodau derbyn ysgolion ac awdurdodau lleol brosesu ceisiadau am leoedd i blant sy'n byw mewn gwlad arall pan gaiff y cais ei wneud.

Dylai rhieni nad ydynt yn wladolion o'r DU neu Iwerddon wirio bod ganddynt hwy, a'u plant, hawl i breswylio yn y DU cyn gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghymru. Nid cyfrifoldeb yr awdurdod derbyn na'r awdurdod lleol cydgysylltiedig yw gwirio.

Ni all awdurdod derbyn ysgol wrthod derbyn plentyn tan fod yr ysgol y mae'r rhieni a gofalwyr wedi gwneud cais iddi yn llawn, er enghraifft tan ei bod wedi cyrraedd nifer y derbyniadau a gyhoeddwyd ganddi. Felly, rhaid i geisiadau am le mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru a wneir gan rieni a gofalwyr sy'n symud/dychwelyd i Gymru/y DU gael eu hystyried. Os gwrthodir lle, rhaid i awdurdodau derbyn gynnig apêl i banel apeliadau annibynnol.

Fel sy'n wir am awdurdodau derbyn yn fwy cyffredinol, nid oes dim mewn deddfwriaeth sy'n atal awdurdod lleol rhag derbyn cais gan deulu sy'n byw mewn gwlad arall neu wedi'i leoli dramor ond sy'n symud/dychwelyd i Gymru/y DU fel bod y plentyn y byw yn yr ardal pan fydd yn dechrau'r ysgol.

Os bydd awdurdod lleol yn gwrthod cais am le gan rieni a gofalwyr sy'n byw mewn gwlad arall ar hyn o bryd ond sy'n symud/dychwelyd i Gymru, byddai awdurdod derbyn ar ran yr ysgol yn ei chael hi'n anodd iawn cymhwyso ei drefniadau derbyn yn gyfreithlon.

Argymhellwn y dylai awdurdodau derbyn ac awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai hynny â chynlluniau cydgysylltiedig a bennwyd, ddilyn y broses a bennir yn y cyngor hwn. Hefyd, argymhellir y dylai trefniadau derbyn a phrosbectysau cyfansawdd gynnwys manylion am y math o dystiolaeth y bydd angen i rieni a gofalwyr ei darparu er mwyn profi eu bod eisoes yn byw yn yr ardal neu'n bwriadu dychwelyd iddi mewn pryd i gael lle mewn ysgol.

Ceisiadau yn y cylch derbyniadau arferol a cheisiadau hwyr

Os daw cais i law o wlad arall, dylai awdurdod derbyn neu awdurdod lleol ystyried y cais fel prawf digonol o fwriad i symud/dychwelyd i ardal a'i gynnwys yn ei broses dderbyn neu broses gydgysylltiedig yr awdurdod lleol.

Ni ddylai awdurdod derbyn nac awdurdod lleol wrthod cais a wneir o dramor (neu o'r Alban, Lloegr, Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel), ar y sail nad yw'r ymgeisydd yn byw yn ei ardal ar y pryd. Gall awdurdod derbyn neu awdurdod lleol ofyn yn rhesymol am y dystiolaeth a nodir isod, fel bod ganddo wybodaeth ddigonol i wneud penderfyniad ynghylch y cais.

Ceisiadau yn ystod y flwyddyn

Os bydd awdurdod lleol yn cydlynu ceisiadau yn ystod y flwyddyn ar ran ysgol, ni ddylai ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fyw yn yr ardal (neu'r wlad) cyn cyflwyno'r cais i'r awdurdod derbyn i'w ystyried.

Os na fydd awdurdod lleol yn cydlynu ceisiadau yn ystod y flwyddyn, ac os caiff ceisiadau eu gwneud yn uniongyrchol i awdurdodau derbyn ysgolion, dim ond ar sail 'rhagfarn' fel y'i diffinnir mewn deddfwriaeth (er enghraifft, mae'r ysgol yn llawn) y gall yr ysgolion hynny wrthod y cais. Ni ddylai'r awdurdod derbyn perthnasol ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod yn byw yn yr ardal ar y pryd cyn ystyried eu ceisiadau.

Canfod cyfeiriad 'cartref'

Mae'n gyffredin i drefniadau derbyn roi rhywfaint o flaenoriaeth yn ôl lle mae ymgeisydd yn byw. Mewn achosion o'r fath, bydd angen cyfeiriad ar awdurdodau derbyn er mwyn cymhwyso eu trefniadau derbyn a sgorio ymgeiswyr ar gyfer eu meini prawf os ceir mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael.

Gallai awdurdodau derbyn ofyn i rieni sy'n bwriadu symud/dychwelyd ble y byddant yn byw. Gallai hyn gynnwys p'un a yw rhieni a gofalwyr:

  • yn berchen ar eiddo neu'n ei rentu yn yr ardal y maent yn bwriadu dychwelyd iddi
  • yn weision y goron neu'n aelodau o luoedd y DU ac yn dychwelyd i'r ardal
  • wedi darparu tystiolaeth gymhellol arall i ddangos eu bod yn dychwelyd i'r ardal

Gall awdurdodau derbyn ysgolion ac awdurdodau lleol benderfynu pa dystiolaeth y mae’n ofynnol i rieni a gofalwyr ei darparu i ddangos eu bod yn bwriadu dychwelyd i’r ardal, ond gallai hyn gynnwys:

  • cytundeb morgais neu rentu ar gyfer eiddo yn yr ardal
  • gweithredoedd eiddo yn yr ardal
  • llythyr gan gyflogwr sy’n dangos dyddiad trosglwyddo i’r ardal
  • cofrestriad â meddyg teulu lleol

Rhaid i awdurdodau derbyn ystyried pob cais yn ystod y flwyddyn ac ni ddylent wrthod cais yn syml am fod rhiant/gofalwr neu blentyn yn byw mewn gwlad arall.

Os na all rhiant neu ofalwr ddarparu tystiolaeth i ddangos ei fod yn dychwelyd i’r ardal (cyn y flwyddyn ysgol newydd ar gyfer ceisiadau yn y cylch derbyniadau arferol neu erbyn dechrau’r tymor nesaf ar gyfer ceisiadau yn ystod y flwyddyn), gallai awdurdodau derbyn gymhwyso polisi dalgylch neu dorri’r ddadl ar sail pellter gan ddefnyddio preswylfa’r rhieni a gofalwyr ar yr adeg y gwneir y cais. Os yw'r breswylfa hon mewn gwlad arall, byddai’n rhoi llai o flaenoriaeth i’r plentyn ar gyfer lle yn y rhan fwyaf o ysgolion.

Ceisiadau gan weision y goron neu aelodau o luoedd y DU

Fel y nodir ym mharagraffau 3.65 i 3.67 o’r Cod Derbyn i Ysgolion, rhaid i awdurdodau derbyn brosesu ceisiadau gan weision y goron neu aelodau o luoedd y DU gyda thystiolaeth gan eu cyflogwyr neu eu prif swyddogion i ddangos eu bod yn dychwelyd i’r ardal cyn iddynt symud. Rhaid iddynt dderbyn unrhyw gyfeiriad lleoli neu letya fel cyfeiriad ‘cartref’ yn absenoldeb unrhyw gyfeiriad cartref gwirioneddol.

Tynnu cynigion o leoedd yn ôl

Pan fydd cais yn cael ei wneud o gyfeiriad mewn gwlad arall, gall yr awdurdod lleol a/neu’r ysgol ofyn am dystiolaeth cyn i’r flwyddyn neu’r tymor ysgol ddechrau i gadarnhau bod y plentyn bellach yn byw yn yr ardal. Os na fydd y plentyn yn mynychu’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf y tymor, gallai’r awdurdod derbyn dynnu’r cynnig yn ôl a dyrannu’r lle i blentyn ar y rhestr aros.

Cyn gwneud hyn, dylai’r awdurdod lleol a’r awdurdod derbyn gysylltu â’r rhiant/rhieni neu’r gofalwr/gofalwyr er mwyn rhoi cyfle iddo/iddynt egluro pam y bu oedi cyn cymryd y lle a chanfod pryd y gallai’r plentyn ddechrau mynychu’r ysgol.

Mae paragraff 3.40 o’r Cod Derbyn i Ysgolion yn nodi: ‘Ar ôl i awdurdod derbyn gynnig lle mewn ysgol, dim ond dan amgylchiadau prin iawn y caiff dynnu’r cynnig hwnnw yn ei ôl yn gyfreithlon. Gallai’r amgylchiadau hynny gynnwys sefyllfa lle mae’r awdurdod derbyn wedi cynnig y lle ar sail cais twyllodrus neu gais sy’n fwriadol gamarweiniol gan riant neu berson ifanc (er enghraifft, honiad ffug ynglŷn â phreswylio yn y dalgylch) a hynny mewn gwirionedd wedi golygu bod lle wedi’i wrthod i blentyn â hawl gryfach, neu sefyllfa lle y cynigiwyd lle gan yr awdurdod lleol, yn hytrach na gan yr awdurdod derbyn, drwy gamgymeriad.’

Os na fydd yr awdurdod lleol/ysgol yn cael ymateb wedi hynny, mae Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn caniatáu iddo/iddi dynnu’r plentyn oddi ar y gofrestr ar ôl 20 diwrnod ysgol. Gall yr awdurdod lleol wedyn ddyrannu’r lle gwag i blentyn ar y rhestr aros.

Diogelu

Os bydd awdurdodau derbyn neu ysgolion yn pryderu am ddiogelwch plant o dramor sy’n destun trefniadau maethu preifat, dylent weithredu ar y pryderon hynny yn unol â'u dyletswyddau diogelu. Nodir y dyletswyddau hynny yng nghanllawiau statudol Llywodraeth Cymru, sef cadw dysgwyr yn ddiogel, ac yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.

Ysgolion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Er bod yr un polisi mewnfudo yn berthnasol ar draws pob gwlad yn y DU, mae gan bob gwlad ei system addysg, ei chanllawiau a'i chyfreithiau ei hun.