Canllawiau ar gyfer prosiectau gan fod y DU bellach wedi ymadael â’r UE.
Cynnwys
Crynodeb
Nid oes unrhyw newid i’r trefniadau presennol ar gyfer prosiectau cyfredol a ariennir gan yr UE.
Nid yw’r ffordd y caiff y prosiectau eu rheoli wedi newid. Mae hyn yn cynnwys:
- cyflwyno a thalu hawliadau
- rheoli camau dilysu
- cadw cofnodion
Dylai prosiectau barhau i ddefnyddio WEFO Ar-lein i gyflwyno a diweddaru gwybodaeth.
Bydd prosiectau yn parhau i gael cyllid gan yr UE hyd nes y bydd y rhaglenni hynny’n cau yn 2023.
Mae hyn yn cynnwys:
- Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop)
- Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd
- Rhaglen Iwerddon Cymru
Mae’r dyddiad cau presennol ar gyfer cyflawni’r rhaglenni, sef 31 Rhagfyr 2023, yn parhau heb ei newid.
Prosiectau sydd wrthi'n cael eu cyflawni
Bydd prosiectau yn parhau i gael eu cyflawni yn unol â’u cynlluniau busnes cymeradwy, eu proffiliau cyflawni ac fel y nodir o fewn cytundebau cyllid unigol.
Prosiectau a gymeradwywyd ac sy'n cael cyllid
Bydd holl reolau a rheoliadau presennol yr UE yn parhau mewn grym.
Horizon 2020
Cewch wybodaeth am gyllid Horizon Europe yma.
Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd a Rhaglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru
Bydd cyllid yr UE ar gyfer sefydliadau yn y DU sy’n rhan o’r rhaglenni hyn yn parhau hyd nes y bydd rhaglenni’n cau.
Rheolau ynglŷn â rhannu data personol rhwng yr UE a'r DU
Mae’r UE wedi cymeradwyo penderfyniadau ynghylch digonolrwydd ar gyfer GDPR yr UE a’r Gyfarwyddeb Gorfodi’r Gyfraith (LED). Golyga hyn y gall data gael eu trosglwyddo o hyd o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau. Darllenwch y canllawiau gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Saesneg yn unig).