Neidio i'r prif gynnwy

Y ffordd rydyn ni’n darparu cymorth ar gyfer gweithgareddau trawsffiniol a rhyngwladol i annog cydweithredu economaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cymru Ystwyth

Nod Cymru Ystwyth yw sicrhau cydweithredu economaidd trawsffiniol a rhyngwladol pan fydd buddiannau cyffredin. Mae'n cynnwys cynlluniau grant hyblyg i gefnogi cydweithredu ar draws themâu a sectorau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Cymru Ysywyth.

Fframwaith Môr Iwerddon

Rydyn ni’n datblygu fframwaith anffurfiol i gynyddu'r cydweithredu economaidd ar draws ardal Môr Iwerddon.

Bydd y fframwaith yn esblygu ac yn ategu'r holl bolisïau, strategaethau a rhaglenni perthnasol. Bydd hyn yn cynnwys Iwerddon-Cymru Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd a rhaglenni Interreg 2021 i 2027.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Fframwaith Môr Iwerddon.

Os hoffech chi ymuno â'n rhwydwaith o Randdeiliaid Môr Iwerddon e-bostiwch dîm Cymru Ystwyth yn AgileCymru@llyw.cymru.

 

Ymchwil ac Arloesi Rhyngwladol

Horizon Ewrop yw'r rhaglen drawswladol fwyaf erioed ar gyfer cefnogi ymchwil ac arloesi. Mae'n cael ei chynnal gan y Comisiwn Ewropeaidd tan 2027, ac mae ganddi gyllideb o €100 biliwn.

Mae statws y DU fel aelod cyswllt o'r rhaglen wedi cael ei gadarnhau wedi cael ei gytuno mewn egwyddor.

Mae hyn yn golygu, ar gyfer rhaglen waith 2024, bydd sefydliadau o Gymru yn gymwys i wneud cais am gyllid Ewropeaidd gan raglen Horizon Ewrop.

Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar sut i wneud cais ar gael ar dudalen Horizon Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch HorizonEurope@llyw.cymru.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni ar AgileCymru@llyw.cymru i gael rhagor o fanylion.