Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae’r pandemig COVID yn parhau i effeithio ar waith y Panel gan nad ydym wedi gallu cwrdd ag awdurdodau a’u sefydliadau cynrychioliadol wyneb yn wyneb. Serch hynny, rydym wedi parhau i gynnal cyfarfodydd yn rheolaidd a chynnal trafodaethau ystyrlon gyda’n rhanddeiliaid drwy Microsoft Teams neu Zoom.

Cyhoeddodd y Panel yr Adroddiad drafft ar gyfer ymgynghoriad ar ddiwedd mis Medi 2021 a chynhaliodd gyfarfodydd ymgysylltu i gefnogi'r broses ymgynghori. Cawsom amrywiaeth o safbwyntiau, llawer naill ai'n cefnogi neu'n gwneud dim sylw am y cynnydd arfaethedig. Roedd rhai ymatebwyr yn cwestiynu'r amseru a'r goblygiadau ariannol posibl. Archwiliodd y Panel yr holl ymatebion ac mae wedi penderfynu peidio â gwneud unrhyw ddiwygiadau sylweddol i'r penderfyniadau a geir yn yr Adroddiad drafft. Mae rhagor o fanylion wedi'u cynnwys yn y Crynodeb Gweithredol a'r prif Adroddiad.

Rydym yn ddiolchgar i'r sefydliadau a'r unigolion hynny a roddodd o’u hamser i fynegi eu barn.

Credwn ei bod yn bwysig bod y taliadau i aelodau etholedig prif gynghorau yn deg ac ar lefel nad yw'n anghymhelliad i ddarpar ymgeiswyr. Felly, mae’r Panel wedi penderfynu ailosod cyflogau sylfaenol aelodau etholedig i gyd-fynd yn agosach ag enillion cyfartalog yng Nghymru. Nid yw’r cyflogau wedi cyd-fynd yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd mesurau cyni.

Hwn fydd fy Adroddiad terfynol fel aelod o'r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol gan y byddaf yn sefyll i lawr ddiwedd mis Mawrth. Rwyf wedi cael y fraint o fod yn aelod o'r Panel ers ei sefydlu yn 2008 ac yn Gadeirydd am y 7 mlynedd diwethaf. Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad a’m diolch i'm holl gyd-aelodau, yn y gorffennol a'r presennol, am y gefnogaeth a gefais yn ystod y 13 mlynedd diwethaf. Hefyd, diolch i aelodau ein Hysgrifenyddiaeth sydd wedi fy nghefnogi ac wedi sicrhau bod y Panel yn gweithio'n effeithlon.

Credaf fod y Panel wedi dylanwadu'n sylweddol ac yn fuddiol ar werth aelodau etholedig llywodraeth leol yng Nghymru ar bob lefel ac mewn perthynas â'r holl awdurdodau sydd o fewn ei gylch gwaith. Mae'n adlewyrchiad trist bod llawer o safbwyntiau'r cyhoedd am wleidyddion yn cael eu halogi gan weithredoedd ychydig o unigolion o fewn democratiaeth gynrychioliadol. Yr wyf wedi ymwneud â llywodraeth leol ar hyd fy mywyd gwaith ac yn ystod y cyfnod hwnnw yr wyf wedi cyfarfod ac adnabod aelodau di-rif. Mae'r mwyafrif llethol yn gweithio'n ddiflino dros eu cymunedau ac yn gwneud hynny am ychydig iawn o wobr ariannol. Credaf y dylai pawb mewn cymdeithas gael y cyfle i sefyll mewn etholiad os dymunant ac na ddylai fod unrhyw rwystrau ariannol i atal hyn. Mae'r Adroddiad hwn yn gam mawr ymlaen tuag at gyflawni'r amcan hwn. Mae'r Panel wedi pwysleisio'n gyson y ffaith nad yw democratiaeth yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, rhaid inni gydbwyso'r tegwch i aelodau etholedig yn erbyn y gost i'r pwrs cyhoeddus. Rydym yn fodlon bod y cydbwysedd hwn wedi’i gyflawni ar gyfer 2022 i 2023

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y Panel wedi cael effaith fuddiol ar wella gwerth y cynghorydd lleol. Mae'n hanfodol nad yw hyn yn cael ei danseilio gan yr aelodau hynny sy'n gwrthod cynnydd yn y taliadau am resymau’n ymwneud â mantais wleidyddol. Mae gweithredoedd o'r fath yn tanseilio gwerth yr holl aelodau etholedig.

Yn olaf, diolch i holl aelodau a swyddogion cynghorau Cymru, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yr wyf wedi cael y pleser o’u cyfarfod ac ymwneud â nhw dros y 13 blynedd diwethaf.

John Bader

Cadeirydd

Aelodau’r Panel

  • John Bader, Cadeirydd
  • Saz Willey, Is-gadeirydd
  • Joe Stockley
  • Ruth Glazzard
  • Helen Wilkinson

Ceir gwybodaeth fanwl am yr aelodau ar y wefan: Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Amserlen

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Adroddiad Blynyddol y Panel ddod i rym o 1 Ebrill. Yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, mae hyn yn unol â threfniadau ariannol a gweinyddol yr holl awdurdodau. Fodd bynnag, pan fydd cynghorau newydd yn cael eu hethol bydd rhai o benderfyniadau’r Panel yn effeithiol ar gyfer tymor newydd y cyngor.

Ar 9 Mai 2022, daw trefniadau newydd i rym yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol. Felly mae dau ddyddiad gweithredu gwahanol i’r Adroddiad Blynyddol hwn fel y nodwyd isod:

Crynodeb gweithredol

Dyma bedwerydd Adroddiad Blynyddol ar ddeg Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, i gael ei gyhoeddi o dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (fel y’i diwygiwyd).

Wrth i Gymru adfer o’r pandemig COVID, mae aelodau etholedig cynghorau lleol yn chwarae rhan bwysig o ran cefnogi gwydnwch eu cymunedau a'u heconomïau. Cynhelir etholiadau lleol yng Nghymru ar 5 Mai 2022. Mae'r etholiadau hyn yn gyfle pwysig i dynnu sylw at wasanaethau cyhoeddus ac i bwysleisio pwysigrwydd cynghorwyr o ran cynnal democratiaeth yng Nghymru. 

O'r cychwyn cyntaf, mae'r Panel wedi dadlau'n gyson nad yw democratiaeth leol a llywodraethu gwasanaethau cyhoeddus lleol yn rhad ac am ddim ac na ddylai rhwystrau ariannol gyfyngu ar gyfleoedd unrhyw un i gymryd rhan. Dylai taliadau fod yn ddigonol i annog a galluogi i amrywiaeth o bobl barod a galluog i fynd ati i lywodraethu’n lleol, trwy’r rolau y cânt eu hethol iddynt, eu penodi iddynt neu eu cyfethol iddynt.

Mae'r Panel yn rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Nid yw cyfansoddiad cynghorwyr Cymru ar hyn o bryd yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru. Dylai gwasanaethau cyhoeddus fod yn atebol i bobl sy'n adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a dylai’r gwasanaethau cyhoeddus gael eu cyflawni gan y bobl hyn yn ogystal. Mae tystiolaeth yn dangos bod amrywiaeth profiadau a barn yn ehangu safbwyntiau ac yn gwella'r broses o wneud penderfyniadau.

Mae'r Panel eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig llywodraeth leol yng Nghymru wedi cyd-fynd â chwyddiant na chymaryddion posibl eraill ers 2009 oherwydd cyni a’r pwysau ar gyllid cyhoeddus yn bennaf. (Mae'r rhain yn cynnwys Mynegai Prisiau Manwerthu, Mynegai Prisiau Defnyddwyr, NJC (gweithwyr y sector cyhoeddus), Cyflog Byw Cenedlaethol (LlGC), cyfraddau Cyflog Byw'r Sefydliad Cyflog Byw(LWF), Aelodau Senedd Cymru, ac ASau a hefyd yr Arolwg Blynyddol o Enillion Fesul Awr (ASHE)). Effaith hyn yw bod aelodau prif gynghorau wedi cael eu tanbrisio'n sylweddol dros amser. 

Cynnydd canrannol blynyddol i gyflog sylfaenol, meincnodau a mesurau amgen 2013 i 2021

 

2013

2014

2015

2016

2017

2018

2019

2020

2021

IRPW Sylfaenol

0.00

0.00

0.95

0.00

0.00

0.75

3.49

2.52

1.06

ASHE*

4.00

0.60

1.00

2.70

1.00

2.10

5.10

1.20

3.90

NLW

1.90

3.00

3.10

7.50

4.20

4.40

4.90

6.20

2.18

LWF

3.47

2.68

2.61

5.10

2.42

3.55

2.86

3.33

2.15

* Mae ASHE ar gyfer 2020 wedi'i ddiwygio ac mae ffigur 2021 yn un dros dro.

Maer Panel o'r farn mai etholiadau mis Mai yw'r amser cywir i ailsefydlu'r cysylltiad rhwng tâl cynghorwyr prif gynghorau ac enillion cyfartalog yng Nghymru. Bydd y rhai a etholir yn aelodau o'r 22 prif gyngor yn cael, yn gyfatebol, yr un cyflog cyfartalog cyffredinol a gafodd etholwr yng Nghymru yn 2020. Ceir rhagor o fanylion yn Taliadau i Aelodau Etholedig Prif Gynghorau.

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel roi sylw i oblygiadau ariannol ei benderfyniadau. Ymchwiliodd y Panel i’r gost a thrafododd faterion fforddiadwyedd gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Eu consensws cyffredinol oedd, yng nghyd-destun cyfanswm cyllideb cyngor, na fydd penderfyniadau'r Panel yn cael effaith sylweddol. Mae'r Panel o'r farn bod y cynigion hyn yn bodloni'r gofyniad deddfwriaethol ac yn sicrhau cydbwysedd priodol o ran tegwch i gynghorwyr a threthdalwyr.

Wrth baratoi'r Adroddiad Blynyddol hwn, cynhaliodd y Panel ymgynghoriad helaeth ar gynnwys yr Adroddiad Drafft. Gwerthfawrogir ehangder, dyfnder a gonestrwydd yr adborth ac ystyriwyd pob barn. Mae'r Panel yn gobeithio bod yr adroddiad terfynol hwn yn haws i'w ddeall a'i weithredu.

Roedd yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad drafft yn cefnogi safbwynt y Panel ar barhau i annog amrywiaeth ymhlith cynrychiolwyr etholedig lleol. Tynnodd llawer o sylwadau sylw at y ffaith bod lefelau isel o gydnabyddiaeth ariannol wedi bod yn rhwystr i wella amrywiaeth mewn democratiaeth leol. Cododd rhai bryderon. Ysgrifennodd un ymatebydd yn rymus am yr effaith andwyol ar fenywod, a grwpiau â nodweddion gwarchodedig eraill a oedd yn cael eu tangynrychioli mewn democratiaeth leol, a diwylliant lle'r oedd pobl yn teimlo eu bod wedi'u gorfodi i fforffedu taliadau y maent yn gymwys i'w cael. Bydd gwerth rôl cynghorwyr yn cael ei danseilio os bydd aelodau unigol yn gwrthod codiadau a bennir gan Banel annibynnol.

Roedd pob ymatebydd yn cytuno y dylai cynghorwyr gael eu gwerthfawrogi'n briodol a bod angen i gydnabyddiaeth ariannol adlewyrchu gofynion a chymhlethdod y rôl. Cadarnhaodd y rhan fwyaf fod y broses o wneud penderfyniadau a llywodraethu lleol yn mynd yn fwy cymhleth a bod y pwysau ar gynghorwyr, a oedd eisoes yn cynyddu cyn y pandemig, wedi dwysáu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys bod ar gael bob amser o'r dydd a'r nos gan fod y cyhoedd (a'r cyfryngau) yn disgwyl ac yn mynnu eu bod yn hyblyg, a’u bod yn ymateb i ymholiadau a phryderon ar unwaith yn aml. Mae'n amlwg o'r ymatebion bod symud i weithio hybrid a orfodir gan bandemig COVID yn gofyn am fuddsoddi mewn seilwaith, offer a chymorth hyfforddi i alluogi cynghorwyr i gyflawni eu tasgau'n effeithiol.

Mae’r amgylchedd y mae gwleidyddion – lleol a chenedlaethol – yn gweithio ynddo yn heriol. Nodwyd diogelwch fel mater allweddol yn 2021 yn dilyn marwolaeth drasig Aelod Seneddol y DU, Syr David Amess, a’r adborth a gafwyd o’r ymgynghoriad.

Roedd llawer o unigolion a rhai prif awdurdodau yn cefnogi holl benderfyniadau'r Panel. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad i'r egwyddor o alinio tâl aelodau prif gynghorau â chyflog cyfartalog Cymru. Roedd rhai o'r farn y dylai'r cynnydd arfaethedig fod wedi bod yn fwy ac y dylai fod wedi'i wneud yn gynharach. Roedd un ymatebydd o'r farn y dylai cynnydd yn y gorffennol fod wedi bod yn unol â chwyddiant ond nid oedd wedi nodi pa fesur mynegai yr oedd yn ei ffafrio. Mae'r Panel yn nodi pe bai hyn wedi digwydd, y byddai taliadau 2022 wedi bod yn fwy. 

Dywedodd rhai ymatebwyr y byddai'n well ganddynt i'r cynnydd ddigwydd yn raddol dros y tymor pum mlynedd nesaf. Nid yw'r Panel yn cytuno. Mae'r Panel o'r farn ei bod yn hanfodol bod darpar ymgeiswyr ac etholwyr yn gwybod y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu'n deg, gan y gallai hyn ddenu mwy o amrywiaeth o unigolion i wneud cais a chyflwyno eu hunain i gael eu dewis a'u hethol. 

Nododd rhai ymatebwyr a oedd yn mynegi pryder am lefel y cynnydd arfaethedig mai’r rheswm dros hyn oedd oherwydd ymateb anffafriol posibl yn y cyfryngau a barn y cyhoedd am gynnydd canrannol mor fawr. Mae'r Panel yn nodi'r pryderon hyn ond nid yw’n argyhoeddedig bod unrhyw un o'r materion a godwyd yn deilwng o newid yn y symiau arfaethedig ac nid yw o’r farn bod achos dros gynnydd cynyddrannol. Mae'r Panel yn glir mai etholiadau lleol 2022 yw'r amser cywir i ailsefydlu'r cysylltiad rhwng tâl prif gynghorwyr ac enillion cyfartalog yng Nghymru. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cyni a phwysau ar gyllid cyhoeddus.

Mae'r Panel yn pryderu bod gwybodaeth am daliadau a ddarperir gan awdurdodau perthnasol yn dangos mai ychydig iawn o aelodau sy'n defnyddio'r ddarpariaeth yn y fframwaith ar gyfer cymorth ariannol mewn perthynas â gofal.  Mae’n hanfodol bod Pwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd yn parhau i gymryd camau i annog a hwyluso’r defnydd o’r elfen hon o’r Fframwaith Cydnabyddiaeth Tâl fel nad yw aelodau sydd â chostau gofalu o dan anfantais ariannol. Mae annog aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu i fanteisio ar gymorth ariannol yn anfon neges gadarnhaol bod aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu yn cael eu croesawu a'u gwerthfawrogi. Mae ffyrdd o fyw (a disgwyliadau) pobl wedi newid yn ystod y degawd diwethaf gyda mwy o ofynion a disgwyliadau ar gyfer dull hyblyg o gefnogi pobl â phwysau teuluol a phwysau gofalu er mwyn eu galluogi i gymryd rhan a chyfrannu yn y gwaith ac o fewn bywyd cyhoeddus, drwy rannu swyddi, a chynnig hyblygrwydd ac absenoldeb teuluol. Mae'r taliadau gofal yn adlewyrchu hyn.

Bydd taliadau i aelodau awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub Cymru yn cynyddu o ganlyniad i'r cynnydd a gynigir ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau. Fel y nodwyd uchod, bydd y cynnydd hwn yn weithredol o 1 Ebrill 2022, sef y flwyddyn ariannol newydd. Ystyriodd y Panel y dewis arall ar gyfer ei weithredu yn dilyn cyfarfod blynyddol pob awdurdod, ond gallai hyn olygu oedi sylweddol i unigolion sy'n derbyn y taliadau newydd.

Ar ddechrau 2021 dechreuodd y Panel adolygiad mawr o'r Fframwaith Cydnabyddiaeth Tâl mewn perthynas â chynghorau cymuned a thref a chynhaliwyd ymgynghoriad cynhwysfawr gyda'r sector. Roeddem yn gwerthfawrogi lefel yr ymgysylltiad gan gynghorau unigol a'u sefydliadau cynrychioliadol. Roedd pandemig COVID wedi cyfyngu ar gyfleoedd y Panel i ymgysylltu wyneb yn wyneb yn ystod 2020/2021. Fodd bynnag, roedd ymgysylltiad digidol y Panel yn sylweddol.

Mae’r Panel yn cydnabod bod amrywiadau eang o ran daearyddiaeth, cwmpas a graddfa ar draws y 700 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru, o gynghorau cymuned bychain â gwariant cymharol isel ac ychydig iawn o gyfarfodydd, i gynghorau tref mawr ag asedau a chyfrifoldebau sylweddol. Mae ein penderfyniadau ar gyfer y fframwaith newydd wedi'u nodi yn y Taliadau i Aelodau Cynghorau Cymuned a Thref.

Mae annibyniaeth y Panel oddi wrth Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol wedi’i gynnwys mewn cyfraith. Gwneir penderfyniadau'r Panel ar ei egwyddorion, ei amcanion a'i dystiolaeth, yn rhydd o ddylanwad gwleidyddol, ystyriaethau pleidleiswyr a'r cyfryngau. Wrth ddod i’r casgliadau yn yr adroddiad hwn, ystyriodd y Panel:

Penderfyniadau 2022 i 2023

Atodiad 5 isod yn crynhoi’r penderfyniadau newydd a diweddaraf yn Adroddiad Blynyddol eleni sydd wedi’u llywio gan ein cred a’n rhesymeg dros fuddsoddi mewn democratiaeth leol a gwasanaethau cyhoeddus, a’r egwyddorion a amlinellir uchod.

Mae Atodiad 1 yn amlinellu holl benderfyniadau’r Panel ar gyfer 2022 i 2023.

Crynodeb o’r penderfyniadau newydd a diweddaraf yn yr adroddiad hwn

Prif Gynghorau

  • Penderfyniad 1: Bydd y cyflog sylfaenol yn 2022/23 ar gyfer aelodau etholedig o brif gynghorau yn £16,800.
  • Penderfyniad 2: Bydd lefelau uwch-gyflogau yn 2022/23 ar gyfer aelodau o brif gynghorau fel y’u nodir yn Nhabl 4.
  • Penderfyniad 3: Rhaid talu cyflog Band 3 o £25,593 i bennaeth dinesig pan fo'n cael ei dalu, yn unol â thabl 4.
  • Penderfyniad 4: Rhaid talu cyflog Band 5 o £20,540 i ddirprwy bennaeth dinesig pan fo'n cael ei dalu, yn unol â thabl 4.
  • Penderfyniad 5: Rhaid i aelod llywyddol, os penodir un ac os yw'n cael cydnabyddiaeth ariannol, gael £25,593 yn unol â Thabl 4.

Cynorthwywyr i’r Weithrediaeth

  • Penderfyniad 13: Bydd y Panel yn penderfynu fesul achos ar yr uwch-gyflog priodol, os o gwbl, ar gyfer cynorthwywyr y weithrediaeth.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

  • Penderfyniad 23: Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau cyffredin o APC fydd £4,738, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.
  • Penderfyniad 24: Yr uwch-gyflog ar gyfer cadeirydd APC fydd £13,531, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.
  • Penderfyniad 25: Rhaid talu uwch-gyflog APC o £8,478 i ddirprwy gadeirydd os penodir un.
  • Penderfyniad 26: Gellir talu i gadeiryddion pwyllgorau neu uwch-swyddi eraill. Y tâl fydd £8,478.

Awdurdodau Tân ac Achub

  • Penderfyniad 30: Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau cyffredin o ATA fydd £2,369, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.
  • Penderfyniad 31: Yr uwch-gyflog ar gyfer cadeirydd ATA fydd £11,162, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.
  • Penderfyniad 32: Rhaid talu uwch-gyflog ATA o £6,109 i ddirprwy gadeirydd os penodir un.
  • Penderfyniad 33:Gellir talu i gadeiryddion pwyllgorau neu uwch-swyddi eraill. Y tâl fydd £6,109.

Cyfraniad tuag at Gostau Gofal a Chymorth Personol (CPA)

  • Penderfyniad 43: Mae’n rhaid i’r holl awdurdodau perthnasol ddarparu taliad tuag at gostau angenrheidiol gofalu am blant ac oedolion dibynnol (sy’n cynnwys gofal a ddarperir gan ofalwyr ffurfiol ac anffurfiol) ac am anghenion cymorth personol fel a ganlyn:
    • Costau gofal ffurfiol (cofrestrwyd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) i’w talu fel y nodwyd.
    • Costau Costau gofal anffurfiol (heb gofrestru) i’w talu hyd at gyfradd uchaf sy’n gyfwerth â Chyflog Byw Gwirioneddol y DU fel y’i diffinnir gan y Living Wage Foundation ar yr adeg pan aethpwyd i’r costau. Rhaid i hyn fod ar gyfer y costau ychwanegol y mae aelodau’n eu talu i’w galluogi i wneud eu busnes swyddogol neu ddyletswyddau a gymeradwywyd. Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir yn cysylltu’n briodol â busnes swyddogol neu ddyletswydd a gymeradwywyd. Gwneir y taliad ar ôl i’r darparwr gofal ddarparu derbynebau.

Cynghorau Tref a Chymuned

  • Penderfyniad 44: Rhaid i gynghorau cymuned a thref sicrhau bod taliad o £150 y flwyddyn ar gael i bob un o’u haelodau fel cyfraniad tuag at gostau a threuliau.
  • Penderfyniad 45: Mae’r taliad ar gyfer aelodau sy’n ymgymryd ag uwch-swyddogaeth yn swm blynyddol o £500 fel y nodwyd yn Nhabl 11.
  • Penderfyniad 48: Gall cynghorau cymuned a thref dalu iawndal am golledion ariannol i bob un o’u haelodau, os yw hynny’n berthnasol, am wneud dyletswyddau a gymeradwywyd fel a ganlyn:
    • Hyd at £57.20 am bob cyfnod nad yw’n hirach na 4 awr
    • Hyd at £114.40 am bob cyfnod sy’n hirach na 4 awr ond heb fod yn fwy na 24 awr
  • Penderfyniad 49: Gall pob cyngor benderfynu cyflwyno lwfans presenoldeb i’r aelodau. Ni chaiff unrhyw daliad fod yn fwy na £30. Ni fydd gan aelod sydd mewn colled ariannol hawl i gael lwfans presenoldeb ar gyfer yr un digwyddiad.
  • Penderfyniad 52:Manylion y Fframwaith Cydnabyddiaeth Tâl yn ôl Grŵp.

Fframwaith y Panel: Egwyddorion Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau

Cynnal ymddiriedaeth a hyder

Mae gan ddinasyddion yr hawl i ddisgwyl bod pawb sy'n dewis gwasanaethu mewn awdurdodau lleol yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd trwy goleddu'r gwerthoedd a'r foeseg sy'n ymhlyg mewn gwasanaeth cyhoeddus o’r fath. Mae’r egwyddorion hyn yn sylfaen i’r cyfraniad y mae gwaith y Panel a’i Fframwaith yn ei wneud tuag at gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.

Symlrwydd

Mae'r Fframwaith yn glir ac yn ddealladwy. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i'r Panel allu cyfleu ei Benderfyniadau yn effeithiol i bawb yr effeithir arnynt gan ei waith neu sydd â diddordeb ynddo.

Cydnabyddiaeth ariannol

Mae'r Fframwaith yn darparu ar gyfer taliadau i aelodau o awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldeb am wasanaethu eu cymunedau. Ni ddylai lefel y gydnabyddiaeth ariannol fod yn rhwystr i ymgymryd â’r gwaith na pharhau ag ef. Ni ddylai fod unrhyw ofyniad bod adnoddau sy'n angenrheidiol i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n cael eu hariannu o'r taliad. Mae'r Fframwaith yn rhoi taliadau ychwanegol i'r rhai y rhoddir mwy o gyfrifoldeb iddynt.

Amrywiaeth

Caiff democratiaeth ei chryfhau pan fo aelodaeth o awdurdodau lleol yn adlewyrchu'n ddigonol gyfansoddiad demograffig a diwylliannol y cymunedau a wasanaethir gan y cyfryw awdurdodau. Bydd y Panel bob amser yn ystyried pa gyfraniad y gall ei fframwaith ei wneud i annog y rhai a dangynrychiolir yn sylweddol i gyfranogi ar lefel awdurdod lleol.

Atebolrwydd

Mae gan drethdalwyr a dinasyddion yr hawl i gael gwerth am arian o arian cyhoeddus sydd wedi'i neilltuo i roi cydnabyddiaeth ariannol i’r rhai a etholir, a benodir, neu a gyfetholir i wasanaethu er budd y cyhoedd. Mae'r Panel yn disgwyl bod pob awdurdod yn trefnu bod gwybodaeth am weithgareddau ei aelodau a chydnabyddiaeth ariannol a roddir iddynt ar gael yn rhwydd ac yn briodol.

Tegwch

Bydd yn bosibl cymhwyso'r fframwaith yn gyson i aelodau pob awdurdod sydd o fewn cylch gwaith y Panel fel modd i sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg, yn fforddiadwy ac yn gyffredinol dderbyniol.

Ansawdd

Mae'r Panel yn cydnabod bod y cymysgedd cymhleth o ddyletswyddau llywodraethu, craffu a rheoleiddio sydd ar aelodau yn golygu bod yn rhaid iddynt ymgysylltu â phroses o wella ansawdd yn barhaus. Mae'r Panel yn disgwyl i aelodau ymgymryd â'r cyfleoedd hyfforddi a datblygiad personol hynny sy'n angenrheidiol i gyflawni’r dyletswyddau y cânt gydnabyddiaeth ariannol amdanynt mewn modd priodol.

Tryloywder

Mae er budd y cyhoedd i sicrhau tryloywder cydnabyddiaeth ariannol aelodau. Mae rhai aelodau yn derbyn lefelau ychwanegol o gydnabyddiaeth ariannol am eu bod wedi'u hethol, neu eu penodi, i fwy nag un corff cyhoeddus. Mae'r Fframwaith yn fodd i sicrhau bod gwybodaeth am yr holl gydnabyddiaeth ariannol y mae pob aelod yn ei chael ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd.

Cydnabyddiaeth Ariannol i Benaethiaid Gwasanaeth Cyflogedig

Mae’r Panel yn cymhwyso’r egwyddorion hyn, sef tegwch, atebolrwydd a thryloywder, yn ei holl benderfyniadau ynghylch cydnabyddiaeth ariannol i aelodau o’r holl awdurdodau sydd o fewn ei gylch gwaith. Mae’r un egwyddorion yn berthnasol hefyd pan fo’n ofynnol i’r Panel wneud argymhellion mewn perthynas â chydnabyddiaeth ariannol i benaethiaid gwasanaeth cyflogedig yr awdurdodau hyn.

 

Taliadau i Aelodau Etholedig o Brif Gynghorau: Cyflogau Sylfaenol, Uwch-gyflogau a Chyflogau Dinesig

Cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig o brif gynghorau

Yn 2009, penderfynodd y Panel mai ymrwymiad gwaith cynghorydd etholedig mewn prif gyngor, ar gyfartaledd, yw tri diwrnod gwaith. Nodwyd mai’r uchafswm cyfnod sylfaenol oedd £13,868. Roedd hyn yn adlewyrchu tair rhan o bump o enillion gros canolrifol gweithwyr gwrywaidd amser llawn sy’n byw yng Nghymru, fel y nodwyd yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd y Panel yn credu ei bod yn briodol i ddefnyddio’r ffigur hwn, gan y gellir ei gymharu â chyflog yr etholwyr, wedi’i addasu ar gyfer natur rhan-amser gwaith aelod heb gyfrifoldebau uwch. Pan gyflwynwyd mesurau cyni, lleihawyd y cyflog sylfaenol i £13,175 a thorrwyd y cysylltiad ag ASHE. Ers hynny, ni fu unrhyw gysylltiad rhwng cyflog cynghorwyr ac etholwyr. Yn 2019, cymerodd y Panel gamau i atal y bwlch rhag cynyddu gan adolygu dewisiadau i symud tuag at ailosod y cysylltiad gydag ASHE neu feincnod addas arall. Mae papur esboniadol manwl sy’n nodi’r cyd-destun hanesyddol a dadansoddiad ar gael ar wefan y Panel. Y materion allweddol yw:

Ers 2009, mae’r Panel wedi cyflawni ei ddyletswydd i ystyried fforddiadwyedd a derbynioldeb ac wedi gosod symiau ar gyfer cyflog sylfaenol sydd wedi amrywio ond heb gyd-fynd â mesurau chwyddiant neu gymaryddion eraill. Mae tabl 1 yn dangos y cynnydd canrannol i’r cyflog sylfaenol a detholiad o feincnodau eraill rhwng 2013 a 2021.

Rhwng 2013 a 2020 cynyddodd cyflog sylfaenol aelodau etholedig eraill Cymru 9% (£13,175 i £14,368). Cynyddodd cyflog Aelod o Senedd Cymru 28.6% (£53,852 i £69,272) a chynyddodd cyflog Aelod o Senedd y DU 23.4% (£66,396 i £81,932). Aildrefnwyd cyflogau Aelodau Senedd Cymru yn 2017 ac Aelodau Senedd y DU yn 2015.

Gan edrych ar rannau eraill y deyrnas Unedig, mae cynghorwyr yr Alban yn cael £18,604 y flwyddyn ac yn 2018 roedd cynghorwyr Gogledd Iwerddon yn cael £15,486. Mae’n anoddach dwyn cymhariaeth gyda Lloegr oherwydd bod strwythur llywodraeth leol yn wahanol yn y wlad honno, er bod enghreifftiau lle bydd aelodau’n cael mwy o gyflog na’u cymheiriaid yng Nghymru.

Mae tabl 1 yn dangos bod cyflog sylfaenol cynghorwyr y meinciau cefn bellach lawer iawn yn is na chyflog cyfartalog (canolrifol) Cymru a chyflog y sector cyhoeddus.

Tabl 1: Cynnydd canrannol blynyddol i’r cyflog sylfaenol, meincnodau a mesurau amgen 2013 i 2021

 

2013

2014

2015

2016

2017

2018

2019

2020

2021

IRPW Sylfaenol

0.00

0.00

0.95

0.00

0.00

0.75

3.49

2.52

1.06

ASHE*

4.00

0.60

1.00

2.70

1.00

2.10

5.10

1.20

3.90

NJC **

1.00

0.43

2.05

1.00

1.00

2.00

2.60

2.75

1.75

Aelod o Senedd Cymru

0.00

0.00

0.00

1.00

17.70

2.10

3.50

0.00

2.40

Aelod o Senedd y DU

1.00

1.00

10.30

1.30

1.40

1.80

2.70

3.10

0.00

RPI***

3.00

2.40

1.00

1.80

3.60

3.30

2.60

1.50

 3.80

CPI ****

2.60

1.50

0.00

0.70

2.70

2.50

1.80

0.90

 2.00 

NLW

1.90

3.00

3.10

7.50

4.20

4.40

4.90

6.20

2.18

LWF

3.47

2.68

2.61

5.10

2.42

3.55

2.86

3.33

2.15

*Mae ASHE ar gyfer 2020 wedi’i ddiwygio ac mae ffigur 2021 yn un dros dro;

** cynnig cyflogwyr terfynol NJC Gorffennaf 2021;

*** RPI a CPI**** ar gyfer Gorffennaf 2021.

Enillion wythnosol gros Cyfartaledd Canolrifol Cymru (canolrif) yn ôl ardal leol yng Nghymru a’r flwyddyn (£) (llyw.cymru)          

Tabl 2: Cyflog blynyddol sylfaenol a chyflog cyfartaledd cenedlaethol Cymru cyfwerth ag amser llawn a 3 diwrnod (60%) 2013 i 2021

 

Cyflog sylfaenol IRPW

ASHE Canolrifol Cymru: amser llawn 

ASHE Canolrifol Cymru: 3 diwrnod

2013

13,175

24,499

14,699

2014

13,175

24,655

14,793

2015

13,300

24,915

14,949

2016

13,300

25,643

15,386

2017

13,300

25,904

15,542

2018

13,400

26,476

15,886

2019

13,868

27,828

16,697

2020

14,218

28,166*

16,900*

2021

14,368

29,274*

17,564*

Wrth wneud penderfyniadau ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol hwn, ystyriodd y Panel gynnydd yr amryw o ffigurau meincnod a amlinellwyd uchod ar gyfer y cyfnod rhwng 2013 a 2021 a’r codiadau cyflog.

Fel yr amlinellwyd yn ein Crynodeb Gweithredol, mae’r Panel yn credu bod yr etholiadau leol ym mis Mai 2022 yn adeg addas i gywiro’r anghydbwysedd rhwng cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Bydd cyflog sylfaenol cynghorwyr y prif gynghorau a etholir yn etholiadau lleol mis Mai 2022 yn cael ei ailosod i gyd-fynd ag AHSE 2020, sef £16,800.

Penderfyniad 1

  • Bydd y cyflog sylfaenol yn 2022 i 2023 ar gyfer aelodau etholedig o brif gynghorau yn £16,800.

Uwch-gyflogau

Uwch-gyflogau yw taliadau i aelodau’r weithrediaeth, cadeiryddion pwyllgorau ac arweinydd yr wrthblaid.

Nifer yr uwch-gyflogau

Bydd y cyfyngiad ar nifer yr uwch-gyflogau sy’n daladwy (“y cap”) yn dal i sefyll ac ni fydd yn newid ac eithrio i adlewyrchu’r newidiadau mewn aelodaeth lle bo’n briodol. Yn 2022-2023 bydd uchafswm nifer yr uwch-gyflogau sy’n daladwy ym mhob cyngor fel y’i nodir yn Nhabl 3.

Taliadau uwch-gyflogau

Mae’r holl uwch-gyflogau’n cynnwys y taliad sylfaenol.

Mae’r Panel yn cydnabod bod blynyddoedd o gynnydd isel, neu ddim cynnydd o gwbl, wedi golygu bod cyflog deiliaid uwch-gyflogau yn sylweddol ac yn gynyddol is na llawer o’r cymaryddion perthnasol.

Arweinwyr

Cydnabyddir yn eang fod swydd arweinydd ar brif gyngor yn swydd gymhleth iawn ac y daw gyda lefel uchel a chynyddol o gyfrifoldeb. Mae tâl arweinwyr ar begwn isaf cymaryddion y sector.

Mae’r Panel wedi clywed dadleuon y dylai cyflog arweinydd fod cyfwerth â chyflog Aelod Senedd y meinciau cefn yng Nghymru, neu Gadeirydd Bwrdd Iechyd, neu’n uwch. Mae’r Panel wedi ystyried y dadleuon hyn, ond wedi dod i’r casgliad er bod y swyddi’n debyg, bod gwahaniaethau sylweddol neu hanfodol yn bodoli nad ydynt yn ddefnyddiol wrth wneud cymhariaeth.

Mae’r Panel yn bryderus iawn nad yw’r lefelau tâl presennol yn ddeniadol yn ariannol a bod pobl yn eu gweld fel rhwystr i gyfranogi. I lawer o bobl sy’n fodlon a chymwys, gallai uwch-gyflog olygu gostyngiad mawr mewn enillion. Nid yw hyn yn ysbryd amrywiaeth, cynhwysiant na democratiaeth ac nid yw’n effeithlon ar gyfer cynnal prif gynghorau’n effeithiol. I ddechrau mynd i’r afael â hyn, mae’r Panel wedi ailosod yr holl daliadau uwch-gyflogau ar gyfer 2022-2023. Cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £63,000. Mae’r holl daliadau eraill wedi’u penderfynu gan ystyried hyn ac maent wedi’u nodi yn Nhabl 4.

Y Weithrediaeth

Mae’r Panel yn parhau i fod o’r farn y dylid ystyried bod aelodau’r weithrediaeth yn gweithio oriau sy’n cyfateb i amser llawn (tua 40 awr yr wythnos), ond nid naw tan bump o reidrwydd. Mae trafodaethau parhaus gydag aelodau a swyddogion yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cadarnhau'r casgliad hwn.

Cadeiryddion Pwyllgorau

Mae’r Panel yn cydnabod bod gwahaniaeth sylweddol rhwng cyfrifoldebau a swyddogaethau cadeirio gwahanol bwyllgorau. Nid oes rhaid i gynghorau roi tâl i gadeiryddion pwyllgorau. Mater i bob cyngor yw penderfynu pa gadeiryddion pwyllgorau, os o gwbl, sy'n cael tâl. Mae hyn yn caniatáu i gynghorau ystyried gwahanol lefelau cyfrifoldeb.

Mae’r Panel wedi ystyried elfen swyddogaeth cyflog y cadeirydd. Mae symud i daliad cadeirydd ar lefel benodol yn 2019 wedi lleihau’r gwahaniaeth rhwng uwch-daliadau eraill. I ailosod hyn, mae’r Panel wedi penderfynu peidio â newid yr elfen rôl yn ffigur 2021, sef £8,793 ar gyfer 2022-2023. Bydd y cynnydd cyflog sylfaenol yn berthnasol.

Penderfyniad 2

  • Bydd lefelau uwch-gyflogau yn 2022/23 ar gyfer aelodau o brif gynghorau fel y’u nodir yn Nhabl 4.
Tabl 3: Uchafswm yr aelodau o gynghorau sy’n gymwys i gael uwch-gyflog

Cyngor

Poblogaeth Nifer y cynghorwyr

Nifer yr uwch-gyflogau 

Caerdydd

Grŵp A (poblogaethau dros 200,000)

79

19

Rhondda Cynon Taf Grŵp A (poblogaethau dros 200,000) 75 19
Abertawe Grŵp A (poblogaethau dros 200,000) 75 19

Pen-y-bont ar Ogwr

Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

51

18

Caerffili Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

69

18

Sir Gaerfyrddin Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

75

18

Conwy

Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

55

18

Sir y Fflint Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

66

18

Gwynedd

Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

69

18

Castell-nedd Port Talbot Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

60

18

Casnewydd Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

51

18

Sir Benfro Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

60

18

Powys

Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

68

18

Bro Morgannwg Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

54

18

Wrecsam Grŵp B (poblogaethau rhwng 100,000 a 200,000)

56

18

Blaenau Gwent

Grŵp C (poblogaethau hyd at 100,000)

33

16

Ceredigion

Grŵp C (poblogaethau hyd at 100,000)

38

17

Sir Ddinbych Grŵp C (poblogaethau hyd at 100,000)

48

17

Ynys Môn Grŵp C (poblogaethau hyd at 100,000)

35

17

Merthyr Tudful Grŵp C (poblogaethau hyd at 100,000)

30

15

Sir Fynwy Grŵp C (poblogaethau hyd at 100,000)

46

17

Torfaen

Grŵp C (poblogaethau hyd at 100,000)

40

17

Nodyn: Mae nifer y cynghorwyr a nodwyd yn Nhabl 3 yn adlewyrchu’r newidiadau a gynigiwyd gan Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a’u cymeradwyo gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Bydd y rhain yn effeithiol o 9 Mai 2022. Rhwng 1 Ebrill 2022 a 8 Mai 2022 bydd y niferoedd yn Nhabl 3 o Adroddiad Blynyddol 2021/2022 yn berthnasol.

Tabl 4: Cyflogau sylfaenol sy’n daladwy i aelodau Sylfaenol, Uwch, Dinesig a Llywyddol o Brif Gynghorau

Grŵp A

  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
Disgrifiad

 

Swm

Cyflog sylfaenol

£16,800

Band 1 Arweinydd

£63,000

Band 1 Dirprwy Arweinydd

£44,100

Band 2 Aelodau Gweithrediaeth

£37,800

Band 3 Cadeiryddion pwyllgorau (os ydynt yn cael cydnabyddiaeth ariannol)

£25,593

Band 4 Arweinydd Grŵp yr Wrthblaid Fwyaf

£25,593

Band 5 Arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill

£20,540

Grŵp B

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Sir Gaerfyrddin
  • Conwy, Sir y Fflint
  • Gwynedd, Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Bro Morgannwg
  • Wrecsam
Disgrifiad

 

Swm

Cyflog sylfaenol

£16,800

Band 1 Arweinydd

£56,700

Band 1 Dirprwy Arweinydd

£39,690

Band 2 Aelodau Gweithrediaeth

£34,020

Band 3 Cadeiryddion pwyllgorau (os ydynt yn cael cydnabyddiaeth ariannol)

£25,593

Band 4 Arweinydd Grŵp yr Wrthblaid Fwyaf

£25,593

Band 5 Arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill

£20,540

Grŵp C

  • Blaenau Gwent
  • Ceredigion
  • Sir Ddinbych
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Torfaen
  • Ynys Môn
Disgrifiad
  Swm

Cyflog sylfaenol

£16,800

Band 1 Arweinydd

£53,550

Band 1 Dirprwy Arweinydd

£37,485

Band 2 Aelodau Gweithrediaeth

£32,130

Band 3 Cadeiryddion pwyllgorau (os ydynt yn cael cydnabyddiaeth ariannol)

£25,593

Band 4 Arweinydd Grŵp yr Wrthblaid Fwyaf

£25,593

Band 5 Arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill

£20,540

Mae grŵp yr wrthblaid fwyaf yn golygu grŵp gwleidyddol ar wahân i grŵp â rheolaeth sydd â mwy o aelodau nag unrhyw grŵp gwleidyddol arall yn yr awdurdod.

Ystyr grŵp gwleidyddol arall yw grŵp gwleidyddol ac eithrio grŵp â rheolaeth neu grŵp yr wrthblaid fwyaf (os o gwbl) sy'n cynnwys dim llai na deg y cant o aelodau'r awdurdod hwnnw.

Nodiadau ar Dabl 4

Mae'r Panel o'r farn mai swyddogaethau arweiniol a gweithredol (cyflogau Band 1 a 2 yn eu tro) sydd â'r atebolrwydd unigol mwyaf. Bydd dirprwy arweinydd yn cael cyflog sydd 70% o gyflog eu harweinydd ac aelod gweithredol yn cael cyflog sydd 60% o gyflog eu harweinydd.

Ystyriodd y Panel y dadleuon o blaid ac yn erbyn newid grwpiau’r cynghorau. Roedd y dewisiadau’n cynnwys dileu neu gynyddu nifer y grwpiau a newid y lefelau bandiau. Daeth y Panel i’r casgliad bod ‘maint y boblogaeth’ yn ffactor mawr o ran dylanwadu ar lefelau cyfrifoldeb ac mae wedi cadw’r tri grŵp poblogaeth (A, B a C). Er gwybodaeth: Poblogaeth Grŵp A 200,000 ac uwch; Poblogaeth Grŵp B 100,001 i 199,999; Poblogaeth Grŵp C hyd at 100,000.

Bydd cyflogau cynghorau grŵp B yn 90% o gyflogau Grŵp A. Mae cyflogau cynghorau Grŵp C tua 80% o gyflogau Grŵp A. Er bod poblogaethau a chyllidebau cynghorau Grŵp C yn sylweddol is maent yn wynebu dyletswyddau a heriau tebyg i’r cynghorau yng Grwpiau A a B ac yn gwneud hynny gyda llai o adnoddau. Mae’r Panel felly wedi penderfynu lleihau’r gwahaniaeth rhwng y Grwpiau. Yn 2022/23 bydd cyflogau Grŵp C yn 85% o gyflogau Grŵp A. Mae’r cyflogau wedi’u hamlinellu yn Nhabl 4.

Bydd cadeiryddion pwyllgorau yn cael eu talu ar Band 3. Gall y cyngor benderfynu pa gadeiryddion, os o gwbl, fydd yn cael cydnabyddiaeth tâl. Mae hyn yn galluogi i gynghorau ystyried y gwahanol lefelau o gyfrifoldeb.

Nid yw’r amod bod rhaid i arweinydd grŵp yr wrthblaid neu unrhyw arweinydd grŵp arall gynrychioli o leiaf 10% o aelodau’r cyngor cyn bod yn gymwys am uwch-gyflog wedi newid.

Mae’r Panel wedi penderfynu bod rhaid i’r cyngor sicrhau bod uwch-gyflog ar gael i arweinydd grŵp yr wrthblaid fwyaf.

Mae’r Panel wedi penderfynu, os rhoddir cydnabyddiaeth tâl, bod rhaid rhoi uwch-gyflog Band 5 i arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill.

Taliadau i Benaethiaid a Dirprwyon Dinesig (Cyflogau Dinesig)

Gall cyngor ddewis peidio â thalu unrhyw gyflog dinesig ar gyfer swyddi pennaeth dinesig a/neu ddirprwy bennaeth dinesig. Os rhoddir tâl, rhaid rhoi cydnabyddiaeth tâl i benaethiaid dinesig ar lefel Band 3 a’r dirprwy benaethiaid dinesig ar Band 5. (Penderfyniadau 5, 6, 7 ac 8).

Nid yw swyddi’r pennaeth dinesig a’r dirprwy bennaeth dinesig wedi’u cynnwys yn y cap (cyn belled nad yw’n fwy na 50% o aelodaeth y cyngor).

Mae penaethiaid dinesig yn uwch-swyddi mewn cynghorau sy’n wahanol i arweinyddiaeth wleidyddol neu weithredol. Yn ogystal â chadeirio cyfarfodydd pwysig, y pennaeth dinesig yw ‘dinesydd cyntaf’ a ‘llysgennad’ yr awdurdod, gan gynrychioli’r cyngor wrth ymwneud â phob math o sefydliadau a chyrff. Mae gofyniad y Panel na ddylai aelodau orfod talu am gost y cymorth (gweler Penderfyniad 10) sydd ei angen i gyflawni eu dyletswyddau yn berthnasol yn achos dirprwy benaethiaid dinesig hefyd.

Penderfyniad 3

  • Rhaid talu cyflog Band 3 o £25,593 i Bennaeth Dinesig pan fo'n cael ei dalu, yn unol â thabl 4.

Penderfyniad 4

  • Rhaid talu cyflog Band 5 o £20,540 i Ddirprwy Bennaeth Dinesig pan fo'n cael ei dalu, yn unol â thabl 4.

Mewn sawl achos, mae penaethiaid dinesig yn cael cymorth ysgrifenyddol, yn cael cludiant ar gyfer dyletswyddau swyddogol, ac yn gallu manteisio ar gyllideb lletygarwch ar wahân sy’n cael ei rheoli gan swyddogion y cyngor.

Mae’r Panel yn cydnabod yr ystod o wahanol fathau o ddarpariaeth a wneir ar gyfer penaethiaid dinesig o ran cludiant, cymorth ysgrifenyddol, rhoddion elusennol a dillad. Nid cydnabyddiaeth ariannol bersonol yw penderfyniadau cyllido mewn perthynas â lefelau o gymorth ychwanegol o'r fath, ond yn hytrach cyllid sy'n ofynnol i gyflawni'r tasgau a'r dyletswyddau. Penderfyniad i’r cynghorau unigol yw'r rhain o hyd. Mae cynghorau'n rhydd i fuddsoddi mewn cymorth ar ba bynnag lefel sy'n briodol yn eu barn nhw ar gyfer yr arweinyddiaeth ddinesig sydd yn ei lle.

Mae Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn galluogi cynghorau i benodi aelod llywyddol sy’n gyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y cyngor cyfan. Lle penodir un, bydd gan y pennaeth dinesig lai o gyfrifoldebau o ganlyniad i hynny.

Aelodau Llywyddol

Atgoffir cynghorau nad oes rhaid iddynt dalu aelod llywyddol sy'n cael ei benodi. Os bydd yn cael ei dalu, bydd y swydd yn cyfrif tuag at y cap, ac yn derbyn uwch gyflog Band 3.

Penderfyniad 5

  • Rhaid i aelod llywyddol, os penodir un ac os yw'n cael cydnabyddiaeth ariannol, gael £25,593 yn unol â Thabl 4.

Penderfyniad 6

  • Ni fydd swydd dirprwy aelod llywyddol yn cael cydnabyddiaeth ariannol.

Y ffactorau allweddol sy’n sail i benderfyniadau’r Panel

Y cyflog sylfaenol, a delir i bob aelod, yw’r gydnabyddiaeth ariannol am y cyfrifoldeb o gynrychioli’r gymuned a chymryd rhan yn y swyddogaethau craffu, rheoleiddio a swyddogaethau cysylltiedig sy’n rhan o lywodraethu lleol. Y mae’n seiliedig ar gyfnod sy’n gyfwerth â thri diwrnod yr wythnos.

Rhaid talu’r cyflog a’r costau sydd wedi’u pennu yn llawn i bob aelod, oni bai bod unigolyn wedi rhoi gwybod yn ysgrifenedig i swyddog priodol yr awdurdod ei fod wedi dewis yn annibynnol ac yn wirfoddol ei fod am wrthod yr holl daliad neu unrhyw elfen ohono. Mae’n hanfodol bod tryloywder yn y broses hon fel bod unrhyw awgrym posibl bod aelodau’n cael eu rhoi dan bwysau i wrthod cyflogau’n cael ei osgoi.

Rhaid cymhwyso’r canlynol.

Penderfyniad 7

  • Ni ddylai aelod etholedig gael cydnabyddiaeth ariannol am fwy nag un uwch-swydd o fewn ei awdurdod ef neu hi.
  • Ni ddylid talu uwch-gyflog a chyflog dinesig i aelod etholedig.
  • Mae’r cyflog sylfaenol yn gynwysedig ym mhob uwch-gyflog a chyflog dinesig a delir.
  • Os yw cyngor yn dewis bod â mwy nag un dirprwy arweinydd sy’n cael cydnabyddiaeth ariannol, dylid rhannu’r gwahaniaeth rhwng uwch-gyflog y dirprwy arweinydd ac aelodau gweithrediaeth eraill â nifer y dirprwy arweinwyr a’i ychwanegu at uwch-gyflog aelodau gweithrediaeth eraill er mwyn cyfrifo’r uwch-gyflog sy’n daladwy i bob dirprwy arweinydd.

Penderfyniad 8

Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gael cyflog gan unrhyw Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Awdurdod Tân ac Achub y maent wedi’u penodi iddo. Mae ganddynt hawl o hyd i hawlio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol neu’r Awdurdod Tân ac Achub.

Penderfyniad 9

Ni all aelodau sy’n cael cyflog Band 1 neu Fand 2 dderbyn unrhyw dâl gan gyngor cymuned neu dref y maent yn aelod ohono. Maent yn dal yn gymwys i hawlio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan y cyngor cymuned neu’r cyngor tref. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio.

Cefnogi gwaith aelodau etholedig o awdurdodau lleol

Mae’r Panel yn disgwyl bod y cymorth a roddir yn ystyried anghenion penodol aelodau unigol. Mae’n ofynnol i Bwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd adolygu’n achlysurol y lefel o gymorth a roddir i aelodau i gyflawni’u dyletswyddau. Byddai’r Panel yn disgwyl i’r pwyllgorau hyn gynnal adolygiadau achlysurol a chyflwyno cynigion gerbron y cyngor llawn o ran yr hyn sydd ei angen. Dylai unrhyw gynigion gael eu gwneud gan roi sylw dyledus i Benderfyniadau 10 ac 11 isod. Er enghraifft, nid yw’r Panel yn ei hystyried yn briodol ei gwneud yn ofynnol i aelodau etholedig dalu am unrhyw ddefnydd o ffôn i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau ar gyfer y cyngor.

Mae’r Panel o’r farn ei bod yn angenrheidiol i bob aelod etholedig gael defnydd hwylus o wasanaethau e-bost a chael mynediad electronig at wybodaeth briodol drwy gyswllt â’r rhyngrwyd. Nid yw’r Panel yn ei hystyried yn briodol ei gwneud yn ofynnol i aelodau etholedig dalu am unrhyw ddefnydd o’r rhyngrwyd i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau ar gyfer y cyngor, ac yn enwedig pan fydd cyfran helaeth o waith yr aelod yn cael ei wneud gartref. Mae’n hanfodol y ceir mynediad at ohebiaeth electronig er mwyn i aelod fod mewn cysylltiad priodol â gwasanaethau’r cyngor a chadw cysylltiad â’r rhai y mae’n eu cynrychioli. Mae cynghorau wedi ymrwymo i ‘weithio’n ddi-bapur’, a heb fynediad electronig o’r fath byddai aelod yn wynebu cyfyngiadau sylweddol o ran ei allu i gyflawni ei ddyletswyddau. Nid yw’n briodol i gyfleusterau y mae ar aelodau eu hangen fod ar gael yn swyddfeydd y cyngor yn ystod oriau swyddfa yn unig.

Cyfrifoldeb pob cyngor drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yw rhoi cymorth a ddylai fod yn seiliedig ar asesiad o anghenion ei aelodau. Lle ceir anghenion ychwanegol neu faterion sy’n ymwneud ag anabledd, neu lle nodwyd bod gofynion penodol o ran hyfforddiant, bydd angen i bob awdurdod asesu unrhyw ofynion penodol sydd gan aelodau unigol.

Gallai ei swydd fel cynghorydd effeithio’n niweidiol ar ddiogelwch personol yr aelod etholedig. Dyletswydd y Pwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd yw ariannu neu ddarparu’r cymorth sy’n angenrheidiol i alluogi cynghorydd i gyflawni ei rôl yn rhesymol ac yn ddiogel. Gallai hyn olygu ariannu mesurau diogelwch priodol i ddiogelu cynghorwyr rhag risg bersonol neu fygythiad sylweddol. Byddai’r ddarpariaeth sy’n ofynnol yn cael ei dewis ar sail asesiad risg a thrafodaeth â chyrff perthnasol fel yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch.

Ar gyfer aelodau cyfetholedig, nodir y gofynion cymorth yn yr adran ar daliadau i aelodau cyfetholedig prif gynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub a Phenderfyniad 42.

Penderfyniad 10

  • Dylai pob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, fod ei holl aelodau etholedig yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylai pob aelod etholedig gael cyfleusterau ffôn, e-bost a rhyngrwyd digonol i’w galluogi i gael mynediad electronig at wybodaeth briodol.

Penderfyniad 11

  • Dylid rhoi cymorth o’r fath heb gostau i’r aelod unigol. Ni ddylai’r priod awdurdod ddidynnu symiau o gyflogau aelodau fel cyfraniad tuag at y costau cymorth y mae’r awdurdod wedi penderfynu eu bod yn angenrheidiol ar gyfer effeithlonrwydd a/neu effeithiolrwydd aelodau.

 

Uwch-gyflogau penodol neu ychwanegol

I ganiatáu mwy o hyblygrwydd, rhoddir cyfle i gynghorau wneud cais am uwch-gyflogau penodol neu ychwanegol sydd y tu allan i’r fframwaith cydnabyddiaeth ariannol presennol, neu y gellir gwneud lle iddynt o fewn uchafswm uwch-gyflogau’r awdurdod. Os yw’r ychwanegiad arfaethedig yn cael ei gymeradwyo ac yn achosi i’r cyngor fynd y tu hwnt i’r cap hwn, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y gymeradwyaeth (cyn belled nad yw’n fwy na 50% o aelodaeth y cyngor – ni chaiff y gyfran a bennir gan y Panel fod yn fwy na hanner cant y cant oni bai y ceir cydsyniad gan Weinidogion Cymru). Mae rhai cynghorau wedi codi’r posibilrwydd o weithredu rhai swyddi ag uwch-gyflogau yn ôl trefniant “rhannu swyddi”. Mae’r Panel yn cefnogi’r egwyddor hon ar y sail ei bod yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae'r broses wedi'i nodi o dan drefniadau rhannu swyddi.

Penderfyniad 12

  • Gall prif gynghorau wneud cais am uwch-gyflogau penodol neu ychwanegol nad ydynt yn syrthio o fewn y Fframwaith presennol.

Cyhoeddwyd canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch y broses ymgeisio ym mis Ebrill 2014 ac roeddent yn cynnwys yr egwyddorion canlynol:

  • Ni all cyfanswm yr uwch-gyflogau fod yn uwch na hanner cant y cant4 o’r aelodaeth.
  • Bydd rhaid i geisiadau gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod yn ei gyfanrwydd (oni bai bod hyn wedi’i ddirprwyo o fewn y Rheolau Sefydlog) cyn eu cyflwyno i’r Panel.
  • Rhaid bod tystiolaeth glir bod y swydd neu’r swyddi yn cynnwys cyfrifoldeb ychwanegol a ddangosir gan ddisgrifiad o’r rôl, swyddogaeth a hyd.
  • Bydd rhaid i bob cais ddynodi’r amseriad ar gyfer ystyried adolygiad ffurfiol o’r rôl gan yr awdurdod yn ei gyfanrwydd.

Trefniadau Rhannu Swyddi

 

Mae adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi sefydlu trefniadau newydd o ran rhannu swydd ar gyfer arweinwyr gweithrediadau ac aelodau gweithrediadau. Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau:

  1. sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys darpariaeth yn eu trefniadau gweithredol sy’n galluogi i ddau gynghorydd neu fwy rannu swydd yn y weithrediaeth, gan gynnwys swydd arweinydd y weithrediaeth.
  2. sy’n newid uchafswm aelodau o weithrediaeth pan fo aelodau’r weithrediaeth yn rhannu swydd.
  3. yn ymwneud â phleidleisio a chworwm pan fo aelodau’r weithrediaeth yn rhannu swydd.

I aelodau o weithrediaeth: Bydd pob un sy’n rhannu swydd yn cael cyfran briodol o’r grŵp cyflogau fe y’i nodir yn Nhabl 3.

Ni ellir mynd y tu hwnt i’r uchafswm statudol, fel y nodwyd yn y Ddeddf, ar gyfer cabinetau felly bydd y ddau rannwr swydd yn cyfrif tuag at yr uchafswm.

Mewn perthynas â threfniadau rhannu swyddi ar gyfer uwch swyddi eraill (e.e. Cadeiryddion Pwyllgorau, arweinwyr y gwrthbleidiau) mae’r Panel yn gefnogol ac fel arfer bydd yn barod i gytuno i geisiadau gan gynghorau yn amodol ar y cyfyngiadau a nodwyd yn y paragraff a ganlyn.

O dan y Mesur, nifer y bobl sy’n cael uwch-gyflog, nid nifer y swyddi ag uwch-gyflogau, sy’n cyfrif tuag at y cap. Felly, ar gyfer yr holl drefniadau rhannu swyddi bydd y cap uwch-gyflog yn cael ei gynyddu yn amodol ar yr uchafswm statudol o 50% o aelodaeth y cyngor. Os yw’r trefniadau’n golygu yr eir y tu hwnt i’r uchafswm statudol, byddai angen i’r Panel geisio cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Cynorthwywyr y Weithrediaeth

Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau hefyd yn galluogi i brif gynghorau benodi aelodau etholedig i gynorthwyo’r weithrediaeth i gyflawni ei swyddogaethau.

Gwneir penodiadau o’r fath gan arweinydd y cyngor a gall gynnwys:

  • nifer y cynorthwywyr y gellir eu penodi
  • cyfnod swydd y cynorthwywyr
  • cyfrifoldeb y cynorthwywyr.

Mae eithriadau i’r penodiadau fel y nodwyd yn y ddeddfwriaeth ac nid yw cynorthwywyr yn aelodau o’r cabinet.

Mae’r Panel wedi ystyried materion cydnabyddiaeth tâl ar gyfer aelodau sydd wedi’u penodi fel cynorthwywyr y weithrediaeth ond wedi dod i’r casgliad nad yw’n bosibl penderfynu ar daliadau ychwanegol, os o gwbl, nes y bydd rhagor o wybodaeth ar gael ynglŷn â dyletswyddau’r swyddi. Felly, cynigir y bydd hyn yn cael ei ystyried ymhellach pan fydd cyngor yn penderfynu penodi a phan fydd manylion y cyfrifoldebau penodol ar gael.

I weithredu hyn heb fod angen adroddiad ffurfiol pellach, bydd y penderfyniad a ganlyn yn berthnasol.

Penderfyniad 13

  • Bydd y Panel yn penderfynu fesul achos ar yr uwch-gyflog priodol, os o gwbl, ar gyfer cynorthwywyr y weithrediaeth.

Nodyn: Os telir uwch-gyflog, bydd pob un yn cyfrif tuag at y cap, fodd bynnag bydd y cap yn cynyddu yn unol â nifer y cynorthwywyr sy’n cael taliadau, yn amodol ar uchafswm statudol o 50 y cant o aelodaeth y cyngor.

Cydbwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Ychydig o ddefnydd a wnaed o’r trefniadau ar gyfer Cydbwyllgorau Trosolwg a Chraffu (JOSC). Felly mae’r Panel wedi penderfynu dileu'r taliad o'r Fframwaith. Os, yn y dyfodol, y bydd JOSC yn cael ei ffurfio gan gyngor unigol, a’i fod yn dymuno rhoi cydnabyddiaeth ariannol, gall wneud cais am gydnabyddiaeth ariannol gan ddefnyddio trefniadau sydd i’w gweld ym mharagraffau 3.27 a 3.28. Bydd y pwyllgorau JOSC sy’n gweithredu’n barod yn parhau heb fod angen cadarnhad pellach. Mae’r cyflogau perthnasol wedi’u nodi yn y penderfyniadau a ganlyn.

Penderfyniad 14

  • Lefel cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £8,793.

Penderfyniad 15

  • Lefel cyflog is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £4,396.

Cydbwyllgorau Corfforedig

Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 Gydbwyllgorau Corfforedig sy’n cynnwys grwpiau o brif gynghorau. Mae gan Gydbwyllgorau Corfforedig swyddogaethau penodol sydd wedi’u nodi mewn Rheoliadau. Mae paragraff 4 o Reoliadau Cydbwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) yn berthnasol i’r Panel.

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi’i ddiwygio i gynnwys Cydbwyllgorau Corfforedig fel awdurdodau perthnasol ar gyfer swyddogaethau’r Panel. Felly bydd rhaid i unrhyw daliadau a wneir i aelodau Cydbwyllgorau Corfforedig gael eu penderfynu gan y Panel.

Mewn perthynas â’r Adroddiad Blynyddol hwn, oherwydd bod Cydbwyllgorau Corfforedig yng nghamau cynnar eu sefydlu, mae hi’n rhy fuan i’r Panel ystyried a ddylid rhoi cydnabyddiaeth ariannol i’r aelodau. Dros amser bydd y swydd, a’r cyfrifoldeb yn cael ei werthuso gan gynnwys unrhyw newidiadau i swyddogaeth a rôl aelodau Gweithredol y prif gyngor. Fodd bynnag, mae talu cyfraniad at gostau gofal a theithio a chynhaliaeth i aelodau o’r Cydbwyllgorau Corfforedig wedi'i gynnwys o dan adrannau Cyfraniad tuag at Gostau Gofal a Chymorth Personol ac Ad-dalu Costau Teithio a Chynhaliaeth pan fyddant ar Fusnes Swyddogol

Mae swyddogaeth y Panel yn ymwneud â chyflogau Prif Weithredwyr prif gynghorau a Phrif Swyddogion Tân wedi’i ymestyn i gynnwys Prif Weithredwyr Cydbwyllgorau Corfforedig.

Darpariaeth Pensiwn ar gyfer Aelodau Etholedig o Brif Gynghorau

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn rhoi pŵer i’r Panel wneud penderfyniadau am hawliau pensiwn ar gyfer aelodau etholedig o brif gynghorau.

Penderfyniad 16

  • Bydd yr hawl i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gymwys i holl aelodau etholedig cymwys o brif gynghorau.

Hawl i Absenoldeb Teuluol

Mae'r adran hon yn berthnasol i aelodau etholedig o brif awdurdodau.

Cafodd y Rheoliadau mewn perthynas ag Absenoldeb Teuluol ar gyfer aelodau etholedig o brif gynghorau eu cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 2013 ac maent yn cynnwys absenoldebau mamolaeth, newydd-anedig, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant o fusnes swyddogol.

Bu'r Panel yn ystyried goblygiadau taliadau cydnabyddiaeth i aelodau o’r fath y rhoddir absenoldeb iddynt dan delerau Rheoliadau Llywodraeth Cymru a chaiff penderfyniadau’r Panel eu nodi isod.

Penderfyniad 17

  • Mae gan aelod etholedig hawl i gadw cyflog sylfaenol wrth gymryd absenoldeb teuluol dan y rheoliadau gwreiddiol neu unrhyw ddiwygiad i’r rheoliadau, ni waeth beth oedd ei hanes presenoldeb yn union cyn dechrau’r absenoldeb teuluol.

Penderfyniad 18

  • Pan fo deiliad uwch-gyflog yn gymwys i gael absenoldeb  teuluol, bydd yn dal i gael y cyflog tra pery’r absenoldeb.

Penderfyniad 19

  • Mater i’r awdurdod yw penderfynu a yw’n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran y sawl sy’n absennol. Bydd yr aelod etholedig sy’n dirprwyo ar ran deiliad uwch-gyflog sy’n cymryd absenoldeb teuluol yn gymwys i gael uwch-gyflog, os yw’r awdurdod yn penderfynu hynny.

Penderfyniad 20

  • Os yw talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo’n golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i’r uchafswm uwch-gyflogau sy’n berthnasol iddo, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol y Panel, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn berthnasol i Gynghorau Ynys Môn na Merthyr Tudful pe bai’n golygu bod nifer yr uwch-gyflogau’n uwch na hanner cant y cant o aelodaeth y Cyngor. Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth benodol gan Weinidogion Cymru dan amgylchiadau o’r fath.

Penderfyniad 21

  • Pan fo Cyngor yn cytuno i dalu i aelod etholedig sy’n dirprwyo yn ystod absenoldeb teuluol, rhaid hysbysu’r Panel o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, ynghylch y manylion gan gynnwys y swydd benodol a hyd y trefniant dirprwyo.

Penderfyniad 22

  • Rhaid diwygio rhestr cydnabyddiaeth ariannol y Cyngor i adlewyrchu goblygiadau’r absenoldeb teuluol.

Taliadau i Aelodau o Awdurdodau Parciau

Strwythur Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Mae tri pharc cenedlaethol yng Nghymru – Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri; fe’u ffurfiwyd i warchod tirweddau ysblennydd a darparu cyfleoedd hamdden ar gyfer y cyhoedd. Deddf yr Amgylchedd 1995 a arweiniodd at greu Awdurdod Parc Cenedlaethol (APC) ar gyfer pob parc.

Mae awdurdodau parciau cenedlaethol yn cynnwys aelodau sydd naill ai’n aelodau etholedig a enwebwyd gan y prif gynghorau o fewn ardal y parc cenedlaethol neu’n aelodau a benodwyd gan Lywodraeth Cymru drwy’r broses Penodiadau Cyhoeddus. Caiff aelodau a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ac aelodau a enwebwyd gan y cyngor eu trin yn gyfartal o ran cydnabyddiaeth ariannol.

Caiff strwythur y pwyllgor aelodau ym mhob un o’r tri pharc cenedlaethol ei nodi yn Nhabl 5. Mae 18 Aelod ym mhob un o’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, sy'n cynnwys 12 Prif aelod o'r cyngor a 6 aelod penodedig o Lywodraeth Cymru.

Tabl 5: Aelodaeth o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru: Prif aelodau'r cyngor
Awdurdod Parc Cenedlaethol Aelodau a Enwebwyd gan Brif Gynghorau Prif aelodau'r cyngor

Bannau Brycheiniog

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

1

Bannau Brycheiniog Cyngor Sir Gaerfyrddin 1
Bannau Brycheiniog Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 1
Bannau Brycheiniog Cyngor Sir Fynwy 1
Bannau Brycheiniog Cyngor Sir Powys 6
Bannau Brycheiniog

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

1
Bannau Brycheiniog Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 1
Arfordir Penfro Cyngor Sir Penfro 12

Eryri

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 3
Eryri Cyngor Gwynedd 9

Mae gan Bwyllgorau Safonau APCau hefyd aelodau cyfetholedig annibynnol y mae eu cydnabyddiaeth ariannol wedi’i chynnwys yn y Fframwaith fel y nodir yn Taliadau i Aelodau Cyfetholedig o Brif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.

Mae’r Panel wedi seilio’i benderfyniadau ar y pwyntiau allweddol canlynol:

  • Mae APCau yn rheoli eu gwaith trwy gyfarfodydd awdurdod ffurfiol, pwyllgorau a grwpiau gorchwyl a gorffen. Mae gan bob un Bwyllgor Datblygu, Pwyllgor Rheoli a/neu Bwyllgor Cynllunio ac mae pwyllgorau eraill yn cynnwys Perfformiad ac Adnoddau ac Archwilio a Chraffu. Mae aelodau cyffredin o APCau yn aelodau o un pwyllgor o leiaf, yn ogystal â chymryd rhan mewn ymweliadau â safleoedd a phaneli arolygu.
  • Mae disgwyl i aelodau gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu.
  • Mae gan gadeirydd APC rôl arwain a dylanwadu yn yr awdurdod, rôl gynrychiadol sy’n debyg mewn rhai ffyrdd i rôl pennaeth dinesig a lefel uchel o atebolrwydd. Nid dim ond arweinydd yr awdurdod yw’r cadeirydd, ond y cadeirydd hefyd yw wyneb cyhoeddus y parc cenedlaethol dan sylw a’r cysylltiad â’r Gweinidog ac ASau y mae’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda hwy. Mae’r rôl yn galw am lawer o ymrwymiad ac amser.

Cyflogau sylfaenol ac uwch-gyflogau

Yr ymrwymiad amser y seilir cydnabyddiaeth ariannol aelodau arno fydd 44 diwrnod. Bydd cyflog aelodau APCau yn cynyddu i £4,738.

Penderfynodd y Panel y dylai cydnabyddiaeth ariannol i gadeirydd APC fod yn gyson â’r rhan o uwch-gyflog Band 3 a delir i gadeirydd pwyllgor prif gyngor. Bydd y cyflog hwn yn cynyddu i £13,531.

Gall APC bennu nifer yr uwch-swyddi sydd ei angen arno yn unol â’i drefniadau llywodraethu.

Mae’r Panel wedi gwneud y penderfyniadau canlynol:

Penderfyniad 23

  • Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau cyffredin o APC fydd £4,738, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.

Penderfyniad 24

  • Yr uwch-gyflog ar gyfer cadeirydd APC fydd £13,531, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.

Penderfyniad 25

  • Rhaid talu uwch-gyflog APC o £8,478 i ddirprwy gadeirydd os penodir un.

Penderfyniad 26

  • Gellir talu i gadeiryddion pwyllgorau neu uwch-swyddi eraill. Y tâl fydd £8,478.

Penderfyniad 27

  • Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog gan APC.

Penderfyniad 28

  • Caiff uwch-gyflog APC ei dalu gan gynnwys cyflog sylfaenol APC.

Penderfyniad 29

  • Ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw APC arall y maent wedi’u penodi iddo. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio.

Sylwer: Nid yw absenoldeb teuluol yn berthnasol i aelodau wedi'u penodi gan Lywodraeth Cymru ac mae'r rhai a enwebwyd gan awdurdodau lleol wedi'u cynnwys yn nhrefniadau'r prif gyngor dan sylw, felly nid oes gofyn i APCau wneud unrhyw drefniadau o ran hyn.

Taliadau i Aelodau o Awdurdodau Tân ac Achub Cymru

Strwythur Awdurdodau Tân ac Achub

Mae tri awdurdod tân ac achub (ATAau) yng Nghymru: Ffurfiwyd Awdurdodau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru fel rhan o ad-drefnu Llywodraeth Leol ym 1996.

Mae ATAau yn cynnwys aelodau etholedig a enwebwyd gan y Prif Gynghorau yn ardaloedd y gwasanaethau tân ac achub.

Caiff strwythur pob un o’r tri ATA ei nodi yn Nhabl 6.

Tabl 6: Aelodau Awdurdodau Tân ac Achub
Awdurdod Tân ac Achub Awdurdod lleol Nifer yr Aelodau a enwebwyd gan Awdurdodau Lleol
Canolbarth a Gorllewin Cymru Cyngor Sir Caerfyrddin 5
Canolbarth a Gorllewin Cymru Cyngor Sir Ceredigion 2
Canolbarth a Gorllewin Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 4
Canolbarth a Gorllewin Cymru Cyngor Sir Penfro 3
Canolbarth a Gorllewin Cymru Cyngor Sir Powys 4
Canolbarth a Gorllewin Cymru Cyngor Dinas a Sir Abertawe 7
Gogledd Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 5
Gogledd Cymru Cyngor Sir Ddinbych 4
Gogledd Cymru Cyngor Sir y Fflint 6
Gogledd Cymru Cyngor Gwynedd 5
Gogledd Cymru Cyngor Sir Ynys Môn 3
Gogledd Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 5
De Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2
De Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 1
De Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 3
De Cymru Cyngor Dinas Caerdydd 5
De Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 1
De Cymru Cyngor Sir Fynwy 2
De Cymru Cyngor Dinas Casnewydd 2
De Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 4
De Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 2
De Cymru Cyngor Bro Morgannwg 2

Hefyd mae gan Bwyllgorau Safonau ATAau aelodau cyfetholedig annibynnol, y mae eu cydnabyddiaeth ariannol wedi’i chynnwys yn Taliadau i Aelodau Cyfetholedig o Brif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.

Wrth ystyried cydnabyddiaeth ariannol i aelodau o ATAau, mae’r Panel wedi seilio’i benderfyniadau ar y pwyntiau allweddol canlynol:

Mae gan y Cadeirydd rôl arwain a dylanwadu yn yr awdurdod, a lefel uchel o atebolrwydd, yn enwedig wrth i faterion dadleuol godi sy’n ymwneud â’r gwasanaeth brys. Yn ogystal â chyfarfodydd yr awdurdod tân, mae gan bob ATA bwyllgorau sy’n cynnwys, mewn gwahanol gyfuniadau: archwilio, rheoli perfformiad, craffu, adnoddau dynol, rheoli adnoddau yn ogystal â grwpiau gorchwyl a gorffen a phaneli disgyblu. Yn ogystal â mynychu cyfarfodydd ffurfiol yr awdurdod a'r pwyllgorau, mae aelodau yn cael eu hannog i ymgymryd â rôl ymgysylltu â'r gymuned, gan gynnwys ymweld â gorsafoedd tân.

Mae ethos hyfforddi cryf mewn ATAau. Disgwylir i aelodau gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu. Mae rhaglenni sefydlu ar gael, yn ogystal â hyfforddiant arbenigol ar gyfer apeliadau a gwrandawiadau disgyblu.

Ychwanegir sesiynau hyfforddi’n aml at gyfarfodydd awdurdod i sicrhau bod hyfforddiant yn hygyrch.

Cyflogau Sylfaenol ac Uwch-gyflogau

Yr ymrwymiad amser y seilir cydnabyddiaeth ariannol arno fydd 22 diwrnod. Bydd cyflog aelodau o ATAau yn codi i £2,369.

Penderfynodd y Panel y dylai cydnabyddiaeth ariannol i gadeirydd ATA fod yn gyson â’r rhan o uwch-gyflog ym Mand 3 a delir i gadeirydd pwyllgor prif gyngor. Bydd y cyflog hwn yn cynyddu i £11,162.

Penderfynodd y Panel y bydd cydnabyddiaeth ariannol i ddirprwy gadeirydd ATA yn cael ei chysoni â’r uwch-gyflog ym Mand 5 ar gyfer prif gynghorau. Bydd yn cynyddu i £6,109 a bydd rhaid ei thalu os bydd yr awdurdod yn penodi dirprwy gadeirydd.

Mae’r ATA yn pennu nifer yr uwch-swyddi sydd ei angen arno yn unol â’i drefniadau llywodraethu. Bydd cadeiryddion pwyllgorau ac unrhyw uwch-swyddi eraill, os cânt eu talu, yn cael eu cysoni â Band 5. Bydd hon yn codi i £6,109.

Byrddau Pensiwn Lleol

Mae’r Panel wedi ystyried ceisiadau gan ATAau i ganiatáu iddynt dalu cyflogau i gadeiryddion byrddau pensiwn lleol a sefydlwyd dan Reoliadau Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015. Mae’r Rheoliadau hynny eisoes yn rhoi’r pŵer i ATAau benderfynu sut y dylai byrddau pensiwn lleol weithio a thalu i’r cadeirydd ac aelodau os ydynt yn dymuno. Felly nid yw’n briodol i’r Panel wneud penderfyniad sy’n grymuso ATAau i dalu cyflogau i gadeiryddion byrddau pensiwn lleol. Ni ellir defnyddio’r uwch-gyflogau ym Mhenderfyniad 31 na 32 ar gyfer y rôl hon yn unig.

Mae’r Panel wedi gwneud y penderfyniadau canlynol:

Penderfyniad 30

  • Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau cyffredin o ATA fydd £2,369, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.

Penderfyniad 31

  • Yr uwch-gyflog ar gyfer cadeirydd ATA fydd £11,162, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.

Penderfyniad 32

  • Rhaid talu uwch-gyflog ATA o £6,109 i ddirprwy gadeirydd os penodir un.

Penderfyniad 33

  • Gellir talu i gadeiryddion pwyllgorau neu uwch-swyddi eraill. Y tâl fydd £6,109.

Penderfyniad 34

  • Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog gan ATA.

Penderfyniad 35

  • Telir uwch-gyflog ATA gan gynnwys cyflog sylfaenol yr ATA a rhaid iddo adlewyrchu cyfrifoldeb sylweddol a pharhaus.

Penderfyniad 36

  • Ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw ATA arall y maent wedi’u henwebu iddo. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio.

Taliadau i Aelodau Cyfetholedig o Brif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub

Nid yw'r adran hon yn gymwys berthnasol i aelodau cyfetholedig oi gynghorau cymuned a thref.

Panel wedi penderfynu bod ffi ddyddiol neu hanner diwrnod yn  gydnabyddiaeth ariannol briodol am y rôl bwysig a gyflawnir gan aelodau cyfetholedig o awdurdodau sydd â hawliau pleidleisio. Mae’r taliad felly’n wahanol i’r taliad ar gyfer aelodau etholedig mewn prif gynghorau.

Gall prif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub benderfynu ar yr uchafswm dyddiau mewn unrhyw flwyddyn y gall aelodau cyfetholedig gael tâl amdanynt. Gall nifer y dyddiau mewn unrhyw un flwyddyn amrywio gan ddibynnu ar waith penodol pob pwyllgor

Gan gydnabod swyddogaeth bwysig aelodau cyfetholedig, rhaid rhoi taliadau am amser teithio a pharatoi, pwyllgorau a chyfarfodydd o fathau eraill yn ogystal â gweithgareddau eraill, gan gynnwys hyfforddiant, fel y nodir ym Mhenderfyniadau 38 i 41.

Mae'r penderfyniadau wedi'u nodi isod. Rhaid i brif gynghorau, APCau ac ATAau ddweud wrth aelodau cyfetholedig beth yw enw'r swyddog penodol a fydd yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol iddynt ar gyfer eu hawliadau; a rhoi gwybod i'r swyddog hwnnw am yr ystod o daliadau y dylid eu gwneud.

Penderfyniad 37

  • Rhaid i Brif Gynghorau, APCau ac ATAau dalu’r ffioedd canlynol i aelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio (Tabl 7).
Tabl 7: Ffioedd ar gyfer aelodau cyfetholedig (sydd â hawliau pleidleisio)

Swydd

Swm

Cadeiryddion pwyllgorau safonau a phwyllgorau archwilio

£268 (4 awr a mwy)

£134 (hyd at 4 awr)

Aelodau cyffredin o bwyllgorau safonau sydd hefyd yn cadeirio pwyllgorau safonau ar gyfer cynghorau tref a chymuned

£238 o ffi ddyddiol (4 awr a mwy)

£119 (hyd at 4 awr)

Aelodau cyffredin pwyllgorau safonau; pwyllgor craffu addysg; pwyllgor craffu troseddau ac anhrefn a phwyllgor archwilio

£210 (4 awr a mwy)

£105 (hyd at 4 awr)

Cynghorau tref a chymuned sy’n eistedd ar bwyllgorau safonau prif gynghorau

£210 (4 awr a mwy)

£105 (hyd at 4 awr)

Penderfyniad 38

  • Mae amser rhesymol i baratoi cyn cyfarfodydd yn gymwys i’w gynnwys mewn hawliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig – gall swyddog priodol benderfynu faint cyn y cyfarfod.

Penderfyniad 39

  • Gellir cynnwys amser teithio i’r cyfarfod ac oddi yno yn yr hawliadau am daliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig (hyd at uchafswm y gyfradd ddyddiol).

Penderfyniad 40

  • Rhaid i swyddog priodol yn yr awdurdod nodi ymlaen llaw a yw cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn neu hanner diwrnod. Pan fydd cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn, fe delir ffi ar sail hynny, hyd yn oed os yw’r cyfarfod yn gorffen o fewn pedair awr.

Penderfyniad 41

  • Rhaid talu ffioedd am gyfarfodydd a gweithgareddau eraill gan gynnwys pwyllgorau a gweithgorau eraill (gan gynnwys grwpiau gorchwyl a gorffen), cyfarfodydd rhagarweiniol gyda swyddogion, hyfforddiant a phresenoldeb mewn cynadleddau neu unrhyw gyfarfod ffurfiol arall y gofynnir i aelodau cyfetholedig ei fynychu.

Cymorth ar gyfer aelodau cyfetholedig

Penderfyniad 42

  • Dylai pob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd neu bwyllgor priodol arall, fod ei holl aelodau cyfetholedig sydd â phleidlais yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylai cymorth o’r fath fod heb gostau i’r aelod unigol.

Cyfraniad tuag at gostau Gofal a Chymorth Personol

Mae’r adran hon yn berthnasol i aelodau o brif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub ac i aelodau cyfetholedig o’r awdurdodau hyn. Dyma’r un ddarpariaeth ar gyfer cynghorau cymuned a thref ac aelodau Cydbwyllgorau Corfforedig.

Diben yr adran hon yw galluogi pobl ag anghenion cymorth personol a/neu gyfrifoldebau gofalu i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol fel aelod o awdurdod.

Mae’r Panel o’r farn na ddylai’r costau gofal ychwanegol sy’n ofynnol i gyflawni dyletswyddau cymeradwy atal unrhyw unigolion rhag dod yn aelod neu barhau i fod yn aelod o awdurdod na chyfyngu ar eu gallu i gyflawni’r rôl. Mae’r Panel wedi mabwysiadu egwyddorion penodol o ran cymorth ar gyfer costau gofal a oedd yn destun Adroddiad Atodol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2020. Mae’r egwyddorion hyn i’w gweld yn nhabl 8.

Adolygodd y Panel drefniadau’r cymorth ariannol hwn ac mae wedi gwneud y newidiadau canlynol:

  • Gan fod taliadau’n drethadwy o dan reolau presennol CThEM, nid yw ad-daliad llawn yn bosibl felly i fod yn glir mae’n cael teitl newydd sef “cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol”. Bydd angen derbynebau gyda hawliadau o hyd.
  • Gellir gwneud hawliad mewn perthynas â dibynnydd o dan 16 mlwydd oed neu berson ifanc dan oed neu oedolyn sydd fel arfer yn byw gyda’r aelod fel rhan o’i deulu ac na ellir ei adael heb oruchwyliaeth.
  • Gellir hawlio ad-daliad ar gyfer anghenion gofal neu gymorth yr aelod pan nad yw’r cymorth a/neu gost unrhyw anghenion ychwanegol ar gael gan yr awdurdod, neu pan nad yw’r awdurdod yn talu’n uniongyrchol amdanynt, megis Mynediad i Waith, Taliadau Annibyniaeth Personol, Yswiriant. Gallai’r rhain ddod i’r amlwg pan fo’r anghenion yn rhai diweddar a/neu dros dro.

Dylai aelodau, gan gynnwys aelodau cyfetholedig, gael yr hawl i ad-daliad o’u costau gofal, ar gyfer gweithgareddau y mae’r cyngor unigol wedi’u dynodi’n fusnes swyddogol neu’n ddyletswydd gymeradwy a allai gynnwys amser priodol a rhesymol ar gyfer paratoi a theithio. Mater i’r awdurdodau unigol yw penderfynu ar drefniadau penodol i roi hyn ar waith. Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir â chysylltiad priodol â busnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy.

Adolygodd y Panel y taliad misol uchaf gan gydnabod nad yw wedi newid ers sawl blwyddyn. Mae gwybodaeth yn dynodi bod costau misol a hawliadau yn amrywio’n sylweddol. Gall y rhain ddibynnu ar nifer y dibynyddion, eu hoedrannau a ffactorau eraill. Felly, bydd y trefniadau canlynol yn disodli’r cap misol:

I fod yn glir, ni ellir talu costau gofal i rywun sy’n rhan o aelwyd yr aelod.

Mae’r Panel yn parhau i gydnabod y materion sy’n gysylltiedig â chyhoeddi’r draul ddilys hon ac mae wedi cadw’r gofynion cyhoeddi a nodir yn Atodiad 4. I gefnogi aelodau presennol ac i annog amrywiaeth, mae’r Panel yn erfyn ar awdurdodau i hybu ac annog mwy o aelodau i hawlio’r cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol.

Tabl 8: Egwyddorion y Panel o ran Gofal a Chymorth Personol

Egwyddor

Y lleiafswm y dylai'r Awdurdodau ei wneud

Sut mae mynd ati i wneud hyn

Nodi’n glir ar gyfer pwy mae'r gofal

Aelodau sydd â phrif gyfrifoldeb am ofalu am blentyn neu oedolyn a/neu sydd ag anghenion cymorth personol lle nad yw'r rhain yn dod o dan ddarpariaeth statudol neu ddarpariaeth arall.

Hawliau cymorth personol. Gallai hefyd gynnwys cyflwr byrdymor neu gyflwr diweddar nad yw'n berthnasol i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mynediad i waith, Taliadau Personol, yswiriant neu ddarpariaeth arall.

Adolygiad cyfrinachol o anghenion aelodau unigol yn flynyddol a phan fo amgylchiadau'n newid.

Gwella

ymwybyddiaeth

Sicrhau bod darpar ymgeiswyr, ymgeiswyr ac aelodau cyfredol yn gwybod bod cymorth ariannol ar gael iddynt os yw eu hamgylchiadau cyfredol neu eu hamgylchiadau yn y dyfodol yn mynnu hynny.

 

 

Sicrhau bod gwybodaeth glir a hygyrch ar gael ar y wefan ac mewn deunyddiau ynghylch etholiad a phenodi, mewn sesiynau cysgodi ac yn y sesiwn gynefino ac yn "llawlyfr" yr aelodau. Atgoffa aelodau presennol drwy e-bost a neu hyfforddiant. Cyfeirio at daflenni’r Panel yn ymwneud â Thaliadau i Gynghorwyr.

Hyrwyddo diwylliant cadarnhaol

Sicrhau bod yr holl aelodau yn deall y rheswm dros ofal a chymorth personol ac yn cefnogi ac yn annog eraill i hawlio os oes angen.

 

Anogaeth o fewn ac ar draws yr holl bleidiau yn yr awdurdodau perthnasol i gefnogi aelodau i hawlio.

Cytuno i beidio â hysbysebu neu gyhoeddi unrhyw benderfyniadau unigol i beidio â hawlio.

Amlinellu'r dyletswyddau a gymeradwywyd ar gyfer hawlio ad-daliad gofal a chymorth personol

 

Cyfarfodydd – ffurfiol (y rhai y mae’r awdurdod yn eu galw) a'r rhai sy'n angenrheidiol i waith aelodau (i ymdrin â materion yr etholaeth ond nid materion y blaid) a datblygiad personol (hyfforddiant a gwerthusiadau.)

Teithio – mewn cysylltiad â mynd i gyfarfodydd.

Paratoi – mae darllen a gweinyddu yn rhan o rôl yr aelod. Ar gyfer rhai cyfarfodydd a phwyllgorau, mae angen gwneud llawer iawn o waith darllen, dadansoddi neu ddrafftio cyn neu ar ôl y cyfarfod.

Efallai y bydd gan ddeiliaid cyflogau uwch, sydd â dyletswyddau ychwanegol, gostau uwch.

Mater o ffaith yw dyletswyddau a gymeradwyir fel rheol. Mae dehongliad o Reoliadau’r Panel wedi'i nodi yn yr Adroddiad Blynyddol.

 

“Unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd o ddosbarth a gymeradwyir felly, ac yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu mewn cysylltiad â'u cyflawni.”

Bod mor hyblyg â phosibl o ran y gwahanol fathau o gymorth y gellid hawlio ar eu cyfer

Ni ddylai Aelodau fod ar eu colled yn amodol ar y terfyn a bennwyd yn yr Adroddiad Blynyddol.

Mae modelau ac anghenion gofal yn amrywio.

Gall Aelodau ddefnyddio cyfuniad o sawl dewis gofal.

Gall patrymau gofal amrywio dros y flwyddyn ddinesig ac academaidd.

Nid yw pob gofal yn seiliedig ar gyfraddau fesul awr (neu ran o awr).

Os oes rhaid talu am sesiwn gyfan, rhaid ad-dalu’r gost yn llawn hyd yn oed os mai ond rhan o sesiwn a oedd ei angen.

Gall fod angen i Aelodau wneud y canlynol:

  • archebu a thalu am sesiynau ymlaen llaw

  • ymrwymo i gontract bloc: wythnos, mis neu dymor

  • talu am sesiynau a gafodd eu canslo ar fyr rybudd

Os yw'r angen am ofal mynd ymlaen i ail sesiwn, dylid ad-dalu cost y ddwy sesiwn

 

Cynnal proses hawlio syml ac effeithiol

Dylai'r aelodau wybod sut i hawlio.

Dylai'r broses hawlio fod yn glir, yn gymesur ac yn archwiliadwy.

Sicrhau bod aelodau yn deall sut i hawlio a’i bod yn hawdd gwneud hynny

Hyblygrwydd i dderbyn anfonebau di-bapur

Ffurflen ar-lein

Yr un ffurflen neu ffurflen debyg ar gyfer hawlio costau teithio

Cydymffurfio â rheolau’r Panel ran cyhoeddi

Mae Fframwaith y Panel yn nodi:

“Mewn perthynas â chyhoeddi ad-daliadau costau gofal, mae’r Panel wedi penderfynu mai dim ond y cyfanswm a ad-dalwyd yn ystod y flwyddyn y dylai’r awdurdodau perthnasol ei gyhoeddi. Mater i bob awdurdod yw penderfynu ar ei ymateb i unrhyw geisiadau Rhyddid Gwybodaeth y bydd yn eu derbyn. Fodd bynnag, ni fwriedir i fanylion unrhyw hawliadau unigol gael eu datgelu."

 

Penderfyniad 43

  • Rhaid i’r holl awdurdodau perthnasol ddarparu taliad tuag at gostau angenrheidiol ar gyfer gofal am blant ac oedolion dibynnol (a roddir gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol) ac ar gyfer anghenion cymorth personol fel a ganlyn:

Rhaid i hyn fod am y costau ychwanegol a ysgwyddwyd gan aelodau i’w galluogi i gyflawni busnes swyddogol neu ddyletswyddau cymeradwy. Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir yn gysylltiedig â busnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy, fel sy’n briodol. Ni ddylid gwneud taliadau nes bydd derbynebau gan y darparwr gofal wedi’u darparu.

Absenoldeb Oherwydd Salwch i Ddeiliaid Uwch-gyflogau

Mae’r Rheoliadau Absenoldeb Teuluol (a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 2014) yn benodol iawn mewn perthynas â hawliau a dim ond i aelodau etholedig o brif gynghorau y maent ar gael. Nid yw absenoldeb oherwydd salwch wedi’i gynnwys.

Mae achosion wedi cael eu dwyn i sylw’r Panel sy’n ymwneud â deiliaid uwch-gyflogau ar salwch hirdymor a’r annhegwch canfyddedig o’i gymharu â’r trefniadau ar gyfer absenoldeb teuluol. O ganlyniad, mae cynghorau’n wynebu’r cyfyng-gyngor canlynol:

  • gweithredu heb yr aelod unigol ond parhau i dalu’r uwch-gyflog iddo.
  • disodli’r aelod, sydd felly’n colli’r uwch-gyflog (ond yn cadw’r cyflog sylfaenol).

Mae Fframwaith y Panel yn darparu trefniadau penodol ar gyfer salwch hirdymor fel y nodir isod:

  1. Caiff salwch hirdymor ei ddiffinio fel absenoldebau ardystiedig y tu hwnt i 4 wythnos.
  2. Uchafswm hyd absenoldeb oherwydd salwch o fewn y cynigion hyn yw 26 wythnos neu nes bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, pa un bynnag sydd gyntaf (ond os bydd yn cael ei ailbenodi bydd unrhyw ran o’r 26 wythnos sy’n weddill yn cael ei chynnwys).
  3. O fewn y terfynau hyn gall deiliad uwch-gyflog sydd ar absenoldeb hirdymor oherwydd salwch barhau i gael cydnabyddiaeth ariannol am y swydd a ddelir os yw’r awdurdod yn penderfynu hynny.
  4. Mater i’r awdurdod yw penderfynu a yw’n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran y sawl sy’n absennol ond bydd yr aelod etholedig sy’n dirprwyo yn gymwys i gael yr uwch-gyflog sy’n briodol i’r swydd.
  5. Os yw talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo yn golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i’r uchafswm uwch-gyflogau sy’n berthnasol i’r awdurdod hwnnw, fel y nodir yn yr Adroddiad Blynyddol, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo. (Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn berthnasol i gynghorau Ynys Môn na Merthyr Tudful pe bai’n golygu bod mwy na 50% o’r aelodaeth yn cael uwch-gyflog. Ni fyddai’n berthnasol ychwaith mewn perthynas ag aelod o weithrediaeth cyngor pe bai’n golygu bod y cabinet yn mynd y tu hwnt i 10 swydd – yr uchafswm statudol).
  6. Pan fo’r Cyngor yn cytuno i dalu i aelod etholedig sy’n dirprwyo, rhaid hysbysu’r Panel, a hynny o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, ynghylch y manylion gan gynnwys y swydd benodol a hyd disgwyliedig y trefniant dirprwyo. Rhaid diwygio Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol yr awdurdodau yn unol â hynny.
  7. Nid yw’n berthnasol i aelodau etholedig o brif gynghorau nad ydynt yn ddeiliaid uwch-swyddi gan eu bod yn parhau i gael cyflog sylfaenol am o leiaf chwe mis, ni waeth beth fo’u presenoldeb, a mater i’r awdurdod yw unrhyw estyniad y tu hwnt i’r raddfa amser hon.

Mae’r trefniant hwn yn berthnasol i aelodau o brif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub sy’n ddeiliaid uwch-gyflogau, gan gynnwys aelodau a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, ond nad ydynt yn aelodau cyfetholedig.

Sylwer: Mae’r Rheoliadau Absenoldeb Teuluol yn berthnasol i aelodau etholedig mewn achosion o absenoldeb mamolaeth, newydd-anedig, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant o fusnes swyddogol. Nid ydynt yn berthnasol i aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ad-dalu Costau Teithio a Chynhaliaeth pan fo’r Aelod ar Fusnes Swyddogol

Mae’r adran hon yn berthnasol i aelodau o brif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub ac i aelodau cyfetholedig o’r awdurdodau hyn. Mae’r adran hon hefyd yn berthnasol i aelodau Cydbwyllgorau Corfforedig (Rhoddir darpariaeth debyg ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned yn yr adran ar DTaliadau i Aelodau o Gynghorau Tref a Chymuned gan fod dull gwahanol yn berthnasol i aelodau o’r fath, sef yn bennaf bod y ddarpariaeth yn ganiataol.)

Gall aelodau hawlio ad-daliadau ar gyfer costau teithio a chynhaliaeth (prydau a llety) lle mae’r rhain wedi deillio o ganlyniad i gyflawni busnes neu ddyletswyddau cymeradwy swyddogol.

Caiff treuliau a ad-delir i aelodau prif gynghorau, gan eu prif gyngor, eu heithrio rhag treth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogeion. Mae’n bosibl y bydd aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yn destun trefniadau eraill fel y’u pennwyd gan CThEM.

Mae’r Panel yn ymwybodol bod aelodau ag anableddau wedi bod yn gyndyn o hawlio treuliau teithio dilys mewn rhai achosion oherwydd ymateb anffafriol yn dilyn cyhoeddi eu costau teithio. Fel dewis arall, gallai trefniadau teithio gael eu gwneud yn uniongyrchol gan yr awdurdod dan amgylchiadau o’r fath.

Mae’r Panel wedi penderfynu na fydd unrhyw newid i gyfraddau milltiredd y mae gan aelodau hawl i’w hawlio. Dim ond yn ôl cyfraddau cyfredol CThEM y gall yr holl awdurdodau ad-dalu costau teithio eu haelodau sy’n ymgymryd â busnes swyddogol o fewn a/neu’r tu allan i ffiniau’r awdurdod, ac mae’r cyfraddau hyn fel a ganlyn:

Ad-dalu costau milltiredd

Cyfradd milltiredd

Lwfans milltiredd

45c y filltir

Hyd at 10,000 o filltiroedd mewn blwyddyn mewn car

25c y filltir

Dros 10,000 o filltiroedd mewn blwyddyn      mewn car

5c y filltir

Am bob teithiwr sy’n cael ei gludo ar fusnes yr awdurdod

24c y filltir

Beiciau modur

20c y filltir

Beiciau

Lle mae aelod sydd ar fusnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy yn cael ei gludo gan drydydd parti (nad yw’n un o aelodau na swyddogion yr awdurdod hwnnw), gall yr aelod hawlio milltiredd yn ôl y cyfraddau a ragnodir ac unrhyw ffioedd parcio neu dollau ar yr amod bod yr awdurdod wedi’i argyhoeddi bod yr aelod wedi ysgwyddo’r costau hyn.

Ad-dalu costau teithio eraill

Rhaid i’r holl hawliadau eraill am gostau teithio (gan gynnwys teithio mewn tacsi os mai dyna’r unig ddull cludiant neu’r dull cludiant mwyaf addas) gael eu had-dalu dim ond os dangosir derbynebau sy’n dangos y gost wirioneddol a byddant yn amodol ar unrhyw ofyniad neu gyfyngiad pellach y gall awdurdod ei bennu. Dylai aelodau bob amser fod yn ymwybodol o’r angen i ddewis y dull teithio mwyaf costeffeithiol.

Ad-dalu costau cynhaliaeth

Cyfradd cynhaliaeth

Lwfans cynhaliaeth

£28 y dydd

Lwfans dydd ar gyfer prydau, gan gynnwys brecwast, lle nad yw’n cael ei ddarparu yn y tâl am aros dros nos  

£200 y nos

Llundain

£95 y nos

Ardaloedd eraill

£30 y nos

Aros gyda ffrindiau a/neu deulu

Mae’r cyfraddau hyn yn unol â chyfraddau Llywodraeth Cymru. Argymhellir bod yr awdurdod perthnasol fel arfer yn archebu llety dros nos ac yn talu amdano ar ran aelodau, ac mewn achos o’r fath gall awdurdod bennu ei derfynau rhesymol ei hun ac nid yw’r terfynau sy’n berthnasol pan fo aelod unigol yn hawlio’n ôl-ddyledus am lety dros nos yn berthnasol bryd hynny.

Rhaid i bob awdurdod barhau i ad-dalu costau cynhaliaeth ar gyfer eu haelodau hyd at y cyfraddau uchaf a nodir uchod ar sail hawliadau gyda derbynebau, ac eithrio ar achlysuron lle mae aelodau’n aros gyda ffrindiau a/neu deulu.

Efallai y bydd achosion lle bydd awdurdod wedi pennu bod costau teithio o fewn ei ffiniau’n daladwy a bod angen ailadrodd y daith ar ddiwrnodau olynol. Lle y bo’n rhesymol ac yn gost-effeithiol ad-dalu costau llety dros nos yn hytrach na chostau milltiredd dyddiol dro ar ôl tro, ceir caniatâd i wneud hynny.

Nid oes angen dyrannu’r gyfradd ddyddiol uchaf (£28 y dydd) rhwng gwahanol brydau, gan fod y gyfradd ddyddiol uchaf ad-daladwy yn cwmpasu cyfnod o 24 awr a gellir ei hawlio am unrhyw bryd os yw hynny’n berthnasol, cyn belled ag y cyflwynir derbynebau gyda hawliad o’r fath.

Parcio Ceir Aelodau

Mae gan nifer o gynghorau drefniadau penodol ar gyfer eu haelodau o ran parcio ceir. Mae'r Panel o'r farn mai mater i gynghorau unigol yw penderfynu ar drefniadau gan gynnwys taliadau i, a gan, aelodau, ar yr amod ei fod yn benderfyniad ffurfiol gan y cyngor.

Taliadau i Aelodau o Gynghorau Tref a Chymuned

Mae’r Panel yn cydnabod bod amrywiadau eang o ran daearyddiaeth, cwmpas a graddfa nifer fawr o’r cynghorau tref a chymuned yng Nghymru, o gynghorau cymuned bychain â gwariant cymharol isel ac ychydig o gyfarfodydd i gynghorau tref mawr ag asedau a chyfrifoldebau sylweddol. Mae hyn, a’r ffaith nad oes cynghorau ym mhob ardal etholiadol, wedi’i gwneud yn fwy anodd sefydlu trefniadau cydnabyddiaeth tâl nag mewn awdurdodau eraill perthnasol. Oherwydd hyn, penderfynodd y Panel y dylid cynnal adolygiad sylfaenol yn barod ei weithredu o ddyddiad yr etholiadau ar 5 Mai 2022.

Wrth gynnal yr adolygiad, penderfynodd y Panel ei bod yn hanfodol i gysylltu’n gynhwysfawr gyda chynghorau tref a chymuned a sefydliadau cynrychioliadol, gan ymrwymo i ymgynghori ar y cynigion sy’n deillio o’r adolygiad. Canlyniad yr ymgynghoriad oedd bod llawer iawn o gefnogaeth ar gyfer y cynigion newydd ac felly mae’r Panel wedi penderfynu cyflwyno’r Fframwaith newydd fel y nodwyd yn yr adran hon. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn dod i rym tan 9 Mai 2022 yn dilyn etholiadau’r cynghorau. Yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill ac 8 Mai bydd y penderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol 2021/2022 yn parhau i fod yn berthnasol.

Er mwyn gweithredu a chyflawni dyletswyddau fel aelod o gyngor cymuned neu dref, rhaid i bob person wneud datganiad swyddogol yn derbyn y swydd. Yn dilyn y datganiad hwn, bydd aelodau o gynghorau cymuned neu dref yn dal swyddi etholedig ac yn rhan o strwythur llywodraeth leol Cymru. Mae'n bwysig nodi bod person sy'n dilyn y trywydd hwn mewn sefyllfa wahanol i fathau eraill o weithgareddau, er enghraifft gwirfoddoli neu waith elusennol, sydd fel rheol yn dod o dan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr.

Dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae cynghorau cymuned a thref yn awdurdodau perthnasol at ddibenion cydnabyddiaeth ariannol.

O ganlyniad, bydd hawl gan unigolion sydd wedi derbyn swydd fel aelod o gyngor cymuned neu dref i gael taliadau yn unol â phenderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Dyletswydd swyddog priodol o'r cyngor (Clerc y Cyngor fel rheol) yw trefnu bod pob unigolyn sydd â hawl i gael ei dalu yn cael y taliadau cywir.

Dylai aelodau dderbyn arian y mae ganddynt hawl ei dderbyn yn gyffredinol.

Gall unigolyn wrthod derbyn taliad yn rhannol neu'n llwyr os yw’n dymuno gwneud hynny. Rhaid i hynny gael ei wneud yn ysgrifenedig, ac mae'n fater i'r unigolyn. Rhaid i aelod o gyngor cymuned neu dref sydd am wrthod taliadau ysgrifennu'n bersonol at y swyddog priodol i wneud hynny.

Mae’r Panel yn credu y dylai unrhyw aelod sydd ag anghenion personol, anghenion cymorth neu gyfrifoldebau gofalu gael ei alluogi i gyflawni ei rôl. Felly, mae’r Panel yn gorchymyn cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol i holl aelodau o gynghorau cymuned a thref fel y nodir ym Mhenderfyniad 43.

Rhaid i bob cyngor cymuned a thref sicrhau nad yw’n creu amgylchedd sy’n atal personau rhag cael at unrhyw arian y mae ganddynt hawl iddo ac a allai eu helpu i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Dylid gwneud taliadau yn effeithlon ac yn brydlon.

Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gan brif gyngor gael unrhyw daliad gan gyngor tref neu gymuned, ac eithrio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn eu hatal rhag dal uwch-swydd (Arweinydd, Dirprwy Arweinydd) heb daliad.

Mae Tabl 12 yn gosod y camau y mae'n rhaid i gynghorau cymuned a thref eu cymryd yn flynyddol o ran y penderfyniadau a ganlyn.

Tabl 9: Grwpiau Cynghorau Tref a Chymuned

Grŵp Cynghorau Tref a Chymuned

Incwm neu Wariant yn 2020-21

A

£200,000 ac uwch

B

£30,000 – £199,999

C

Islaw £30,000

Mae’r rhain yn seiliedig yn gyfan gwbl ar gyllid. Rydym yn cydnabod barn llawer o ymatebwyr bod hyn yn gyfyngol. Felly bydd 5 Grŵp yn cael eu sefydlu yn seiliedig ar faint etholaeth y cyngor.

Tabl 10

Rhif y Grŵp

Maint yr Etholaeth

Grŵp 1

Etholaeth o fwy na 14,000

Grŵp 2

10,000 i 13,999

Grŵp 3

5,000 i 9,999

Grŵp 4

1,000 i 4,999

Grŵp 5

O dan 1,000

Yn ogystal, bydd ail ffactor ar gyfer penderfynu ym mha grŵp fydd y cyngor yn cael ei leoli. Os yw’r incwm neu wariant yn fwy na £200,000 y flwyddyn bob amser, bydd yn cael ei symud i’r grŵp nesaf.

Taliadau tuag at gostau a threuliau

Mae'r Panel yn parhau i’w gwneud yn ofynnol i dalu £150 ar gyfer pob cyngor, fel cyfraniad ar gyfer costau a threuliau pob aelod o gyngor tref a chymuned. Rydym wedi diwygio’r cynnig yn y drafft i ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Nid oes angen derbynebau ar gyfer y taliadau hyn.

Penderfyniad 44

  • Rhaid i bob cyngor cymuned a thref sicrhau bod taliad o £150 y flwyddyn ar gael i'w aelodau fel cyfraniad tuag at gostau a threuliau.

In addition, there will be a second factor for determining which group the council will be placed. Where income or expenditure permanently exceeds £200,000 a year, it will be moved upwards to the next group.

Trethu

Codwyd y mater o drethu’r taliad o £150 ar sawl achlysur gan gynnwys mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddar. Fel y nodwyd yn glir, nid oes gan y Panel gylch gwaith mewn perthynas â materion yn ymwneud â threthu ond y mae wedi cael gwybod am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM i sefydlu eithriad posibl sy’n berthnasol i’r holl gynghorau tref a chymuned. Er y bu cynnydd, penderfynodd y panel bod angen ymgynghori’n ffurfiol ar gyfer unrhyw newidiadau sylweddol. Bydd hyn yn cael ei wneud yn y Gwanwyn 2022.

Uwch-rolau

Mae’r Panel yn cydnabod y gall rolau penodol ar gyfer aelodau yn enwedig o fewn y cynghorau tref a chymuned mwy, er enghraifft cadeirydd pwyllgor, olygu mwy o gyfrifoldeb. Mae hefyd yn debygol y bydd gan y cynghorau mwy nifer fwy o bwyllgorau, sy’n adlewyrchu eu lefel gweithgarwch. Mae’r Panel felly wedi amlinellu’r penderfyniadau ar gyfer uwch-swyddi yn nhabl 11 isod.

Ym mhob achos, dim ond un taliad o £500 gall cynghorydd ei dderbyn, beth bynnag yw nifer yr uwch-swyddogaethau sydd ganddo yn y Cyngor.

Penderfyniad 45

  • Mae’r taliad ar gyfer aelodau sy’n ymgymryd ag uwch-swyddogaeth yn swm blynyddol o £500 fel y nodwyd yn Nhabl 11.

Pan fo person yn aelod o fwy nag un cyngor cymuned neu dref, mae’n gymwys i dderbyn £150 ac, os yn briodol, £500 gan bob cyngor y mae’n aelod ohono.

Cyfraniad tuag at gostau Gofal a Chymorth Personol

Diben hyn yw galluogi pobl sydd ag anghenion cymorth personol a/neu gyfrifoldebau gofalu i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol fel aelod o awdurdod. Mae Penderfyniadau’r Panel yn yr adran Cyfraniad tuag at gostau Gofal a Chymorth Personol yn gymwys i Gynghorau Cymuned a Thref.

Ad-dalu costau teithio a chostau cynhaliaeth

Mae’r Panel yn cydnabod y gall fod costau teithio a chynhaliaeth sylweddol sy’n gysylltiedig â gwaith aelodau o gynghorau tref a chymuned, yn enwedig pan fo ardal ddaearyddol y cyngor yn fawr a/neu pan fo'n ymgymryd â dyletswyddau y tu allan i'r ardal. Mae opsiwn gan bob cyngor i dalu costau teithio a chynhaliaeth (gan gynnwys teithio mewn tacsi os mai dyna’r unig ddull cludiant neu’r dull cludiant mwyaf addas). Pan fo cyngor yn dewis talu costau teithio a chynhaliaeth bydd y penderfyniadau canlynol yn berthnasol.

Penderfyniad 46

  • Gall cynghorau tref a chymuned dalu costau teithio pob aelod ar gyfer mynychu dyletswyddau cymeradwy. Rhaid i daliadau o’r fath fod yn gostau gwirioneddol teithio ar gludiant cyhoeddus neu lwfansau milltiroedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel y nodir isod:
    • 45c y filltir – hyd at 10,000 o filltiroedd yn y flwyddyn.
    • 25c y filltir – dros 10,000 o filltiroedd.
    • 5c y filltir y teithiwr a gludir ar fusnes yr awdurdod.
    • 24c y filltir – beiciau modur preifat.
    • 20c y filltir – beiciau.

Pan fo aelod sydd ar fusnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy yn cael ei yrru gan drydydd parti (nid aelod neu swyddog o'r awdurdod hwnnw), gall yr aelod hawlio milltiredd ar y cyfraddau rhagnodedig ynghyd ag unrhyw ffioedd parcio neu dollau ar yr amod bod yr awdurdod yn fodlon bod yr aelod wedi ysgwyddo'r costau hyn.

Penderfyniad 47

  • Os yw cyngor tref neu gymuned yn penderfynu bod angen arhosiad dros nos ar gyfer dyletswydd benodol, gall roi awdurdod i ad-dalu treuliau cynhaliaeth i’w aelodau yn ôl y cyfraddau uchaf a nodir isod, ar sail hawliadau gyda derbynebau:
    • Lwfans o £28 y cyfnod o 24 awr ar gyfer prydau bwyd, gan gynnwys brecwast pan na fydd wedi’i gynnwys.
    • £200 – Llundain dros nos.
    • £95 – rhywle arall dros nos.
    • £30 – aros gyda ffrindiau a/neu deulu dros nos.

Digolledu am golled ariannol

Mae’r Panel wedi cadw’r cyfleuster sy’n galluogi cynghorau i dalu iawndal i’w haelodau pan fyddant mewn colled ariannol o ganlyniad i fod yn bresennol i gyflawni dyletswyddau cymeradwy. Rhaid i aelodau fedru dangos bod y golled ariannol wedi'i hysgwyddo. Mae opsiwn gan bob cyngor i dalu iawndal am golled ariannol, a phan fo’n gwneud hynny bydd y penderfyniad canlynol yn berthnasol.

Penderfyniad 48

  • Gall cynghorau tref a chymuned dalu iawndal am golled ariannol i bob un o’u haelodau, lle mae colled o’r fath wedi cael ei hysgwyddo, o ganlyniad i fod yn bresennol i gyflawni dyletswyddau cymeradwy fel a ganlyn:
    • Hyd at £57.20 am bob cyfnod nad yw’n fwy na 4 awr
    • Hyd at £114.40 am bob cyfnod sy’n fwy na 4 awr ond nad yw’n fwy na 24 awr.

Lwfans Presenoldeb

Ystyriwyd lwfans presenoldeb yn yr ymgynghoriad. Mae’r Panel yn cydnabod y gallai hyn fod yn ychwanegiad gwerthfawr i gefnogi gwaith cyngor mewn rhai achosion. Felly y mae wedi’i gynnwys fel dewis i bob cyngor. Codwyd nifer o gwestiynau ynglŷn â’r cynnig hwn mewn ymatebion i’r Adroddiad Drafft, gan gynnwys peth gwrthwynebiad i’w gyflwyno.

Er ei fod wedi’i gynnwys yn y fframwaith, mae’n ddewisol ar gyfer cynghorau ac felly nid oes rhaid i’r cynghorau ei weithredu os nad ydynt yn credu bod hynny’n briodol. Gall cynghorau ddewis ac amlinellu darpariaethau’r cynllun. Mae'r paragraffau isod yn manylu ar yr hyn y dylid ei gynnwys.

Penderfyniad 49

  • Gall pob cyngor benderfynu cyflwyno lwfans presenoldeb i’r aelodau. Ni chaiff unrhyw daliad fod yn fwy na £30.

Ni fydd gan aelod sydd mewn colled ariannol hawl i gael lwfans presenoldeb ar gyfer yr un digwyddiad.

Oherwydd bod y taliad presenoldeb yn ddewisol, dylai’r cyngor, yn ei Gyfarfod Blynyddol cyntaf, wneud penderfyniad ffurfiol ynglŷn â derbyn y taliadau hyn neu beidio.

Os yw’r cyngor yn penderfynu o blaid lwfansau presenoldeb, rhaid iddo ddarparu cynllun i’w fabwysiadu’n ffurfiol a gwneud darpariaeth iddo fod ar gael yn gyhoeddus.

Yr uchafswm gorfodol ar gyfer pob digwyddiad cymwys yw £30. Does dim isafswm wedi’i nodi.

Rhaid i daliadau presenoldeb fod ar gyfer busnes swyddogol neu ddyletswydd a gymeradwywyd a nodwyd yn Rheolau Sefydlog y cyngor, neu drwy benderfyniad penodol. Dylai’r cynllun nodi ar gyfer pa ddigwyddiadau y gwneir taliadau.

Bydd gan bob aelod o’r cyngor hawl i gael taliad i fynd i’r digwyddiad a nodwyd yn y cynllun, ond caiff aelodau unigol wrthod derbyn taliad drwy roi gwybod i’r swyddog priodol (yn ysgrifenedig).

Pennaeth Dinesig a Dirprwy Bennaeth Dinesig

Mae penaethiaid dinesig yn uwch swyddi o fewn cynghorau cymuned a thref. Yn ogystal â chadeirio cyfarfodydd pwysig, y pennaeth dinesig yw'r ‘llysgennad’ sy'n cynrychioli’r cyngor i bob math o sefydliadau a chyrff. Mae'r Panel yn gorchymyn na ddylai aelodau eu hunain orfod talu unrhyw gost sy’n gysylltiedig â chyflawni’r dyletswyddau hyn. Mae'r gofyniad hwn hefyd yn berthnasol yn achos dirprwy benaethiaid dinesig.

Mae’r Panel yn cydnabod yr amrywiaeth eang o ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer penaethiaid dinesig o ran trafnidiaeth, cymorth ysgrifenyddol, rhoi i elusennau a dillad swyddogol – rydym yn ystyried mai cyllidebau dinesig y cyngor yw’r rhain.

Nid yw penderfyniadau cyllido ynghylch cyllidebau dinesig o’r fath yn fater o daliadau cydnabyddiaeth personol i ddeiliad y swydd – maent yn ymwneud yn hytrach â chyllid sydd ei angen er mwyn i dasgau a dyletswyddau gael eu cyflawni. Mae rhyddid o hyd i gynghorau osod cyllidebau dinesig ar ba lefel bynnag sy’n briodol yn eu tyb hwy ar gyfer lefelau’r arweinyddiaeth ddinesig sydd ganddynt.

I osgoi unrhyw amheuaeth, nid mater o dalu cydnabyddiaeth ariannol i’r unigolyn sy'n dal yr uwch-swydd yw costau mewn perthynas ag, er enghraifft, trafnidiaeth (costau cludiant corfforol neu gostau fesul milltir), cymorth ysgrifenyddol, cyfraniadau elusennol (prynu tocynnau, gwneud cyfraniadau neu brynu tocynnau raffl) a dillad swyddogol. Dylai’r rhain ddod o’r gyllideb ddinesig.

Gan gydnabod bod rhai meiri a chadeiryddion cynghorau tref a chymuned a’u dirprwyon yn brysur iawn yn ystod eu blwyddyn yn y swydd, mae’r Panel wedi penderfynu y dylai cynghorau tref a chymuned fedru gwneud taliad i'r unigolion sy'n dal y rolau hyn.

Taliad personol i unigolyn yw hwn ac mae’n gyfan gwbl ar wahân i’r costau a nodir uchod.

Mae’r Panel wedi penderfynu mai uchafswm y taliad i gadeirydd neu faer cyngor tref neu gymuned yw £1,500. Uchafswm y taliad i ddirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd fydd £500.

Penderfyniad 50

  • Gall cynghorau tref a chymuned ddarparu taliad i faer neu gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £1,500. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £150 ar gyfer costau a threuliau a’r uwch-gyflog o £500 os hawlir y rhain.

Penderfyniad 51

  • Gall cynghorau tref a chymuned ddarparu taliad i ddirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £500. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £150 ar gyfer costau a threuliau a’r uwch-gyflog o £500 os hawlir y rhain.

Penderfyniad 52

  • Mae manylion y Fframwaith Cydnabyddiaeth Tâl yn ôl Grŵp yn Nhabl 11.
Tabl 11
Math o daliad Grŵp Gofyniad
Cyflog Sylfaenol 1 (Etholaeth dros 14,000) Gorfodol ar gyfer pob Aelod
Cyflog Uwch-rolau 1 (Etholaeth dros 14,000) Gorfodol ar gyfer 1 aelod; Dewisol ar gyfer hyd at 7
Lwfans Presenoldeb 1 (Etholaeth dros 14,000) Dewisol
Colli Enillion 1 (Etholaeth dros 14,000) Dewisol
Teithio a Chynhaliaeth 1 (Etholaeth dros 14,000) Dewisol
Costau Gofal 1 (Etholaeth dros 14,000) Gorfodol
Cyflog Sylfaenol 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) Gorfodol ar gyfer pob aelod
Cyflog Uwch-rolau 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) Gorfodol ar gyfer 1 aelod; Dewisol ar gyfer hyd at 5
Lwfans Presenoldeb 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) Dewisol
Colli Enillion 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) Dewisol
Teithio a Chynhaliaeth 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) Dewisol
Costau Gofal 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) Gorfodol
Cyflog Sylfaenol 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) Gorfodol ar gyfer pob aelod
Cyflog Uwch-rolau 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) Dewisol hyd at 3 aelod
Lwfans Presenoldeb 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) Dewisol
Colli Enillion 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) Dewisol
Teithio a Chynhaliaeth 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) Dewisol
Costau Gofal 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) Gorfodol
Cyflog Sylfaenol 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) Gorfodol ar gyfer pob aelod
Cyflog Uwch-rolau 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) Dewisol hyd at 3 aelod
Lwfans Presenoldeb 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) Dewisol
Colli Enillion 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) Dewisol
Teithio a Chynhaliaeth 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) Dewisol
Costau Gofal 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) Gorfodol
Cyflog Sylfaenol 5 (Etholaeth llai na 1,000) Gorfodol ar gyfer pob aelod
Cyflog Uwch-rolau 5 (Etholaeth llai na 1,000) Dewisol
Lwfans Presenoldeb 5 (Etholaeth llai na 1,000) Dewisol
Colli Enillion 5 (Etholaeth llai na 1,000) Dewisol
Teithio a Chynhaliaeth 5 (Etholaeth llai na 1,000) Dewisol
Costau Gofal 5 (Etholaeth llai na 1,000) Gorfodol

Gwneud Taliadau i Aelodau

Mae Tabl 12 yn gosod pob un o'r penderfyniadau uchod, ac yn nodi os oes angen penderfyniad gan y cyngor ynghylch pob un.

O ran taliadau gorfodol, nid oes angen penderfyniad a dylai aelodau dderbyn arian y mae ganddynt hawl ei dderbyn yn gyffredinol.

Pan fo angen penderfyniad gan y cyngor, dylid gwneud hyn yn y cyfarfod cyntaf ar ôl i'r Adroddiad Blynyddol ddod i law.

Gall cyngor fabwysiadu unrhyw rai neu’r cyfan o’r penderfyniadau nad ydynt yn cynnwys gorchymyn ond os yw’n gwneud penderfyniad o’r fath, rhaid iddo fod yn berthnasol i’w holl aelodau.

Nodir isod o pa bryd y daw'r taliadau i rym.

Ar dderbyn Adroddiad Blynyddol drafft yr hydref blaenorol, dylai cynghorau ystyried y penderfyniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a defnyddio hyn wrth lunio cynlluniau ar gyfer y gyllideb.

Tabl 12

Rhif y Penderfyniad

Oes angen penderfyniad gan y cyngor?

44 Rhaid i gynghorau cymuned a thref sicrhau bod taliad o £150 y flwyddyn ar gael i'w aelodau fel cyfraniad tuag at gostau a threuliau, ac eithrio’r cynghorau yn Grŵp 5 pan mae’r taliad yn ddewisol.

Na – mae'r taliad o £150 yn orfodol ar gyfer pob aelod oni bai iddynt hysbysu'r swyddog priodol yn ysgrifenedig nad ydynt am ei gymryd.

45 Mae’r taliad ar gyfer aelodau sy’n ymgymryd ag uwch-swyddogaeth yn swm blynyddol o £500 fel y nodwyd yn Nhabl 11.

Fel y nodwyd yn Nhabl 11.

46 Gall cynghorau tref a chymuned dalu costau teithio pob aelod ar gyfer mynychu dyletswyddau cymeradwy.

Oes – mae talu costau teithio yn ddewisol.

47 Os yw cyngor tref neu gymuned yn penderfynu bod angen arhosiad dros nos ar gyfer dyletswydd benodol, gall roi awdurdod i ad-dalu treuliau cynhaliaeth i’w aelodau.

Oes – mae talu costau cynhaliaeth dros nos yn ddewisol.

48 Gall cynghorau tref a chymuned dalu iawndal am golled ariannol i bob un o’u haelodau, lle mae colled o’r fath wedi cael ei hysgwyddo mewn gwirionedd, o ganlyniad i fod yn bresennol i gyflawni dyletswyddau cymeradwy.

Oes – mae talu lwfans colled ariannol yn ddewisol.

49  Gall pob cyngor benderfynu cyflwyno lwfans presenoldeb i’r aelodau. Ni chaiff unrhyw daliad fod yn fwy na £30.

    Ni fydd gan aelod sydd mewn colled ariannol hawl i gael lwfans presenoldeb ar gyfer yr un digwyddiad.

Oes – mae talu lwfans presenoldeb yn ddewisol

50 Gall cynghorau tref a chymuned ddarparu taliad Pennaeth Dinesig i fae neu gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £1,500.

Oes – mae'r taliad i bennaeth dinesig yn ddewisol.

51 Gall cynghorau tref a chymuned ddarparu taliad Dirprwy Bennaeth Dinesig i ddirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £500.

Oes – mae'r taliad i ddirprwy bennaeth dinesig yn ddewisol.

52 Y Grŵp perthnasol i gymhwyso’r Fframwaith Cydnabyddiaeth Tâl.

Fel y nodwyd yn Nhabl 11.

53  Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gan brif gyngor (hynny yw yr arweinydd, dirprwy arweinydd neu aelod gweithrediaeth) gael unrhyw daliad gan Gyngor Tref neu Gymuned, ac eithrio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol.

Na – Gall aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 (hynny yw yr arweinydd, dirprwy arweinydd neu aelodau gweithrediaeth) dderbyn costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol yn unig; os ydynt yn gymwys i’w hawlio ac yn dymuno gwneud hynny.

Mae pob aelod yn gymwys i dderbyn y £150 fel sydd wedi'i nodi ym Mhenderfyniad 44 a Thabl 11, fel arfer o ddechrau’r flwyddyn ariannol, oni bai iddynt gael eu hethol yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn ariannol. Os felly, maent y gymwys i gael taliad cymesur o’r dyddiad hwnnw ymlaen. Fodd bynnag, oherwydd bod 2022 yn flwyddyn etholiad bydd angen gwneud trefniadau gwahanol.

  • Bydd gan aelodau nad ydynt yn sefyll i gael eu hail-ethol neu sy’n methu â chael eu hail-ethol hawl i randaliad ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 8 Mai.
  • Mae gan aelodau cyfredol sy’n cael eu hail-ethol hawl i gael taliad llawn, ond byddai’n rhesymol yn weinyddol i ohirio’r taliad tan ar ôl yr etholiad.
  • Bydd gan aelodau newydd hawl i daliad cymesur

Mae symiau eraill sy'n daladwy i aelodau mewn cydnabyddiaeth am ddyletswyddau penodol neu fel pennaeth dinesig neu ddirprwy bennaeth dinesig fel y gwelir ym Mhenderfyniadau 49 a 50 yn daladwy pan fydd yr aelod yn ymgymryd â'r swydd yn ystod y flwyddyn ariannol. Ar gyfer y flwyddyn etholiad bydd yr un trefniadau ag a nodir uchod yn berthnasol.

Mater i bob cyngor fydd gwneud a chofnodi penderfyniad polisi ynglŷn â:

  • phryd y bydd taliad yn cael ei wneud i'r aelod;
  • sut i rannu'r cyfanswm taladwy i nifer o daliadau llai; ac
  • a ddylid adfer unrhyw daliadau i aelodau sy'n gadael neu’n newid eu swyddi yn ystod y flwyddyn ariannol, ac os felly, sut.

Mae taliadau yn ymwneud â Phenderfyniadau 45, 46, 47 a 48 yn daladwy pan fo'r gweithgarwch dan sylw wedi digwydd.

Fel y nodwyd uchod, gall unrhyw aelod unigol wneud penderfyniad personol i ddewis rhoi heibio rhan neu’r cyfan o’r hawl i unrhyw un o’r taliadau hyn drwy hysbysu swyddog priodol y cyngor yn ysgrifenedig.

Penderfyniad 53

  • Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gan brif gyngor (hynny yw yr Arweinydd, Dirprwy Arweinydd neu Aelod Gweithrediaeth) gael unrhyw daliad gan Gyngor Tref neu Gymuned, ac eithrio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol.

Gofynion o ran cyhoeddusrwydd

Mae’n ofynnol i gynghorau tref a chymuned gyhoeddi manylion yr holl daliadau a wneir i aelodau unigol mewn Datganiad o Daliadau blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Rhaid i’r wybodaeth hon gael ei chyhoeddi ar hysbysfyrddau a/neu wefannau cynghorau (gyda mynediad rhwydd) a chael ei darparu ar gyfer y Panel trwy’r e-bost neu drwy’r post fan bellaf erbyn 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae’r Panel yn tynnu sylw at y gofynion a nodir yn Atodiad 4. Mae’r Panel yn nodi gyda phryder nad yw nifer sylweddol o gynghorau wedi cydymffurfio â’r gofyniad hwn o hyd.

Cydymffurfio â Gofynion y Panel

Cylch Gwaith y Panel dan y Mesur

Mae Adran 153 o’r Mesur yn galluogi’r Panel i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol (prif gyngor, cyngor cymuned neu dref, awdurdod parc cenedlaethol ac awdurdod tân ac achub yng Nghymru) gydymffurfio â'r gofynion a osodir arno gan Adroddiadau Blynyddol y Panel ac yn galluogi'r Panel i fonitro sut mae awdurdodau perthnasol yn cydymffurfio â phenderfyniadau’r Panel.

Rhaid i awdurdod perthnasol weithredu penderfyniadau’r Panel yn yr adroddiad hwn o ddyddiad ei gyfarfod blynyddol neu ddyddiad a nodir yn yr Adroddiad Blynyddol.

Monitro cydymffurfiaeth

Bydd y Panel yn monitro sut y mae pob awdurdod perthnasol yn cydymffurfio â’r Penderfyniadau yn yr Adroddiad Blynyddol hwn. Er nad oes gan y Panel unrhyw bwerau gorfodi ffurfiol, gall rannu gwybodaeth gyda sefydliadau fel Archwilio Cymru fel rhan o’r adolygiad cyffredinol o drefniadau llywodraethu ac ariannol yr awdurdod perthnasol. Os nad yw’r Panel yn fodlon bod awdurdod perthnasol wedi cydymffurfio â phenderfyniadau’r Panel, bydd y Panel yn rhoi gwybod i weinidogion Llywodraeth Cymru a gallant gyhoeddi manylion y diffyg cydymffurfio.

Mae’r canlynol yn berthnasol i bob awdurdod gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned.

Rhaid i awdurdod perthnasol wneud trefniadau i gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol i bob aelod ac aelod cyfetholedig o safbwynt cyflog (sylfaenol, uwch a dinesig), lwfansau, ffioedd ac ad-daliadau mewn Datganiad o Daliadau (yn unol ag Atodiad 4 sy’n nodi cynnwys y Gofynion o ran Cyhoeddusrwydd). Rhaid i hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n ymarferol a heb fod yn hwyrach na 30 Medi yn dilyn y flwyddyn ariannol flaenorol – a rhaid ei gyflwyno i'r Panel erbyn y dyddiad hwnnw.

Nid yw’r gofynion a ganlyn yn berthnasol i Gynghorau Cymuned a Thref

  1. Rhaid i awdurdod perthnasol gynnal Rhestr flynyddol o Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau (Rheoliadau 4 a 5 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol). Mae canllawiau yn Atodiad 3 yn nodi'r hyn y mae'n rhaid ei gynnwys yn y Rhestr.
  2. Rhaid i awdurdod perthnasol wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi'r Rhestr yn ardal yr awdurdod (Rheoliad 46 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol) ac anfon y Rhestr at y Panel cyn gynted ag y bo'n ymarferol a dim hwyrach na 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi. Mae Atodiad 4 yn cynnwys rhagor o fanylion am y gofynion cyhoeddusrwydd.
  3. Rhaid hysbysu’r Panel am unrhyw ddiwygiadau a wneir i’r Rhestr yn ystod y flwyddyn cyn gynted â phosibl wedi i’r diwygiad gael ei wneud.

Cyflogau Penaethiaid Gwasanaeth Cyflogedig Prif Gynghorau ac Awdurdodau Tân ac Achub a Phrif Swyddogion Prif Gynghorau

Diwygiodd Adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 gan fewnosod Adran 143A. Mae hyn yn galluogi’r Panel i ffurfio barn ynglŷn ag unrhyw beth yn Natganiadau Polisi Tâl awdurdodau sy’n ymwneud â chyflog y pennaeth gwasanaeth cyflogedig (fel arfer Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig neu’r prif swyddog tân). Diwygiodd adran 39 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 y Mesur ymhellach gan estyn y swyddogaeth hon i gynnwys Prif Swyddogion Prif Gynghorau. Serch hynny, daeth y swyddogaeth hon i ben ar 31 Mawrth 2020.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer y Panel sydd i’w gweld yn Canllaw Diwygiedig i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o dan Adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ac Adran 39 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 201. Mae’r rhain yn nodi’r sail y bydd y Panel yn ei defnyddio i gyflawni’r swyddogaeth sydd wedi’i chynnwys yn y ddeddfwriaeth.

Swyddogaethau'r Panel a'r gofynion ar awdurdodau a sefydlwyd gan y ddeddfwriaeth a'r canllawiau dilynol yw:

  1. Os yw prif gyngor yn bwriadu newid cyflog pennaeth y gwasanaeth cyflogedig, neu os yw awdurdod tân ac achub yn bwriadu newid cyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig rhaid iddo ymgynghori â'r Panel oni bai bod y newid yn cyd-fynd â newidiadau a gymhwysir i swyddogion eraill yn yr awdurdod hwnnw (boed y newid yn gynnydd neu’n ostyngiad). Mae ‘cyflog’ yn cynnwys taliadau o dan gontract am wasanaethau, yn ogystal â thaliadau cyflog o dan gontract cyflogaeth.
  2. Rhaid i'r awdurdod roi sylw i argymhelliad/argymhellion y Panel wrth ddod i benderfyniad.
  3. Caiff y Panel ofyn am unrhyw wybodaeth y mae'n ystyried ei bod yn angenrheidiol i ddod i gasgliad a chyflwyno argymhelliad. Rhaid i'r awdurdod ddarparu'r wybodaeth a geisir gan y Panel.
  4. Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhelliad y mae'n ei wneud ar yr amod bod y rhain yn cydymffurfio ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Y bwriad yw, er budd tryloywder, y bydd fel arfer yn gwneud hynny.
  5. Gallai argymhelliad/argymhellion y Panel:
    • gymeradwyo cynnig yr awdurdod
    • mynegi pryderon am y cynnig
    • argymell amrywiadau i'r cynnig.

Mae gan y Panel bŵer cyffredinol hefyd i adolygu Datganiadau ar Bolisïau Tâl Awdurdodau i'r graddau y maent yn ymwneud â phenaethiaid gwasanaeth cyflogedig.

Mae'n bwysig nodi na fydd y Panel yn penderfynu beth fydd pennaeth gwasanaeth cyflogedig unigol yn ei dderbyn.

Mae'r Panel yn ymwybodol iawn bod y swyddogaeth hon yn wahanol iawn i'w gyfrifoldebau statudol mewn perthynas â chydnabyddiaeth ariannol aelodau. Fodd bynnag, mae’n ymgymryd â'r rôl hon drwy fod yn glir ac yn agored, gan ystyried yr holl ffactorau perthnasol mewn perthynas ag achosion unigol penodol. Anogir awdurdodau i ymgynghori â’r Panel yn gynnar yn ei broses ar gyfer gwneud penderfyniad ar y materion hyn. Bydd hyn yn galluogi’r Panel i ymateb mewn modd amserol.

Datganiadau Polisi Cyflog

Mae paragraff 3.7 o’r canllawiau i’r Panel gan Lywodraeth Cymru yn datgan fel a ganlyn: “Nid yw’r ddeddfwriaeth yn cyfyngu’r Panel i rôl adweithiol”. Mae’n galluogi’r Panel i ddefnyddio’i bŵer i wneud argymhellion sy’n ymwneud â darpariaethau o fewn Datganiadau Polisi Cyflog awdurdodau lleol.

Newidiadau i gyflogau prif swyddogion prif gynghorau: penderfyniadau’r Panel 2021

Mae llythyrau a anfonwyd i awdurdodau lleol yn rhoi gwybod iddynt am benderfyniad y Panel ar gael ar wefan y Panel.

Enw’r Awdurdod Lleol

Cynnig

Penderfyniad y Panel

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cynnig cyflog y Prif Swyddog

Cymeradwywyd

Cyngor Sir Ceredigion

Adolygiad o gyflog y Prif Swyddog

Cymeradwywyd

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Adolygiad o gyflog y Prif Weithredwr

Cymeradwywyd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Adolygiad o gyflog y Prif Weithredwr

Cymeradwywyd

Atodiad 1: Penderfyniadau’r Panel ar gyfer 2022 i 2023

Prif Gynghorau

Penderfyniad

Disgrifiad

1.

Bydd y cyflog sylfaenol yn 2022/23 ar gyfer aelodau etholedig o brif gynghorau yn £16,800.

2.

Bydd lefelau uwch-gyflogau yn 2022/23 ar gyfer aelodau o brif gynghorau fel y’u nodir yn Nhabl 4.

3.

Rhaid talu cyflog Band 3 o £25,593 i bennaeth dinesig pan fo'n cael ei dalu, yn unol â Thabl 4.

4.

Rhaid talu cyflog Band 5 o £20,540 i ddirprwy bennaeth dinesig pan fo'n cael ei dalu, yn unol â Thabl 4.

5.

Rhaid i aelod llywyddol, os penodir un ac os yw'n cael cydnabyddiaeth ariannol, gael £25,593 yn unol â Thabl 4.

6.

Ni fydd swydd dirprwy aelod llywyddol yn cael cydnabyddiaeth ariannol.

7.

  • Ni ddylai aelod etholedig gael cydnabyddiaeth ariannol am fwy nag un uwch-swydd o fewn ei awdurdod ef neu hi.
  • Ni ddylid talu uwch-gyflog a chyflog dinesig i aelod etholedig.
  • Mae’r cyflog sylfaenol yn gynwysedig ym mhob uwch-gyflog a chyflog dinesig a delir.
  • Os yw cyngor yn dewis bod â mwy nag un dirprwy arweinydd sy’n cael cydnabyddiaeth ariannol, dylid rhannu’r gwahaniaeth rhwng uwch-gyflog y dirprwy arweinydd ac aelodau gweithrediaeth eraill â nifer y dirprwy arweinwyr a’i ychwanegu at uwch-gyflog aelodau gweithrediaeth eraill er mwyn cyfrifo’r uwch-gyflog sy’n daladwy i bob dirprwy arweinydd.

8.

Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gael cyflog gan unrhyw Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Awdurdod Tân ac Achub y maent wedi’u penodi iddo. Mae ganddynt hawl o hyd i hawlio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol neu’r Awdurdod Tân ac Achub

9.

Ni all aelodau sy’n cael cyflog Band 1 neu Fand 2 dderbyn unrhyw dâl gan Gyngor Cymuned neu Gyngor Tref y maent yn aelod ohono. Maent yn dal yn gymwys i hawlio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan y Cyngor Cymuned neu’r Cyngor Tref. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio.

10.

Dylai pob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, fod ei holl aelodau etholedig yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylai pob aelod etholedig gael cyfleusterau ffôn, e-bost a rhyngrwyd digonol i’w galluogi i gael mynediad electronig at wybodaeth briodol.

11.

Dylid rhoi cymorth o’r fath heb gostau i’r aelod unigol. Ni ddylai’r priod awdurdod ddidynnu symiau o gyflogau aelodau fel cyfraniad tuag at y costau cymorth y mae’r awdurdod wedi penderfynu eu bod yn angenrheidiol ar gyfer effeithlonrwydd a/neu effeithiolrwydd aelodau.

Uwch-gyflogau Penodol neu Ychwanegol

Penderfyniad

Disgrifiad

12.

Gall Prif Gynghorau wneud cais am uwch-gyflogau penodol neu ychwanegol nad ydynt yn syrthio o fewn y Fframwaith Cydnabyddiaeth Ariannol presennol.

Cynorthwywyr y Weithrediaeth

Penderfyniad

Disgrifiad

13.

Bydd y Panel yn penderfynu fesul achos beth yw’r uwch-gyflog priodol, os o gwbl, ar gyfer Cynorthwywyr y Weithrediaeth.

Cydbwyllgorau Trosolwg a Chraffu (JOSC)

Penderfyniad

Disgrifiad

14.

Lefel cyflog Cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £8,793.

15.

Lefel cyflog Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £4,396.

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Penderfyniad

Disgrifiad

16.

Bydd yr hawl i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gymwys i holl aelodau etholedig cymwys o brif gynghorau.

Absenoldeb Teuluol

Penderfyniad

Disgrifiad

17.

Mae gan aelod etholedig hawl i gadw cyflog sylfaenol wrth gymryd absenoldeb teuluol dan y rheoliadau gwreiddiol neu unrhyw ddiwygiad i’r rheoliadau, ni waeth beth oedd ei hanes presenoldeb yn union cyn dechrau’r absenoldeb teuluol.

18.

Pan fo deiliad uwch-gyflog yn gymwys i gael absenoldeb teuluol, bydd yn dal i gael y cyflog tra pery’r absenoldeb.

19.

Mater i’r awdurdod yw penderfynu a yw’n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran y sawl sy’n absennol. Bydd yr aelod etholedig sy’n dirprwyo ar ran deiliad uwch-gyflog sy’n cymryd absenoldeb teuluol yn gymwys i gael uwch-gyflog, os yw’r awdurdod yn penderfynu hynny.

20.

Os yw talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo’n golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i’r uchafswm uwch-gyflogau sy’n berthnasol iddo, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol y Panel, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo.

Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn berthnasol i Gynghorau Ynys Môn na Merthyr Tudful pe bai’n golygu bod nifer yr uwch-gyflogau’n uwch na hanner cant y cant o aelodaeth y Cyngor. Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth benodol gan Weinidogion Cymru dan amgylchiadau o’r fath.

21.

Pan fo Cyngor yn cytuno i dalu i aelod etholedig sy’n dirprwyo yn ystod absenoldeb teuluol rhaid hysbysu’r Panel a hynny o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, ynghylch y manylion gan gynnwys y swydd benodol a hyd y trefniant dirprwyo.

22.

Rhaid diwygio rhestr cydnabyddiaeth ariannol y Cyngor i adlewyrchu goblygiadau’r absenoldeb teuluol.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Penderfyniad

Disgrifiad

23.

Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau cyffredin o APC fydd £4,738, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.

24.

Yr uwch-gyflog ar gyfer cadeirydd APC fod yn £13,531, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.

25.

Rhaid talu uwch-gyflog APC o £8,478 i ddirprwy gadeirydd os penodir un.

26.

Gall swyddi cadeiryddion pwyllgorau neu uwch-swyddi eraill fod yn rhai a thâl. Y cyflog fydd £8,478.

27.

Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog gan APC.

28.

 Caiff uwch-gyflog APC ei dalu gan gynnwys cyflog sylfaenol APC.

29.

Ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw APC arall y maent wedi’u penodi iddo. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio.

Awdurdodau Tân ac Achub

Penderfyniad

Disgrifiad

30.

Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau cyffredin o ATA fydd £2,369, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.

31.

Yr uwch-gyflog ar gyfer cadeirydd ATA fydd £11,162, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.

32.

Rhaid talu uwch-gyflog ATA o £6,109 i ddirprwy gadeirydd os penodir un.

33.

Gellir talu i gadeirydd pwyllgor neu uwch-swydd arall. Y tâl fydd £6,109.

34.

Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog gan ATA.

35.

Telir uwch-gyflog ATA gan gynnwys cyflog sylfaenol yr ATA a rhaid iddo adlewyrchu cyfrifoldeb sylweddol a pharhaus.

36.

Ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw ATA arall y maent wedi’u henwebu iddo. Os yw’r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio.

Aelodau Cyfetholedig

Penderfyniad

Disgrifiad

37.

Rhaid i brif gynghorau, APCau ac ATAau dalu’r ffioedd canlynol i aelodau cyfetholedig (sydd â hawliau pleidleisio) fel y gwelir yn Nhabl 7.

38.

Mae amser rhesymol i baratoi cyn cyfarfodydd yn gymwys i’w gynnwys mewn hawliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig – gall swyddog priodol benderfynu faint cyn y cyfarfod.

39.

Gellir cynnwys amser teithio i’r cyfarfod ac oddi yno yn yr hawliadau am daliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig (hyd at uchafswm y gyfradd ddyddiol).

40.

Rhaid i swyddog priodol yn yr awdurdod bennu ymlaen llaw a yw cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn neu hanner diwrnod. Pan fydd y cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn, fe delir ffi ar sail hynny, hyd yn oed os yw’r cyfarfod yn gorffen o fewn pedair awr.

41.

Rhaid talu ffioedd am gyfarfodydd a gweithgareddau eraill gan gynnwys pwyllgorau a gweithgorau eraill (gan gynnwys grwpiau gorchwyl a gorffen), cyfarfodydd rhagarweiniol gyda swyddogion, hyfforddiant a phresenoldeb mewn cynadleddau neu unrhyw gyfarfod ffurfiol arall y gofynnir i aelodau cyfetholedig ei fynychu.

42.

Rhaid i bob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd neu bwyllgor priodol arall, fod ei holl aelodau cyfetholedig sydd â phleidlais yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylai cymorth o’r fath fod heb gostau i’r aelod unigol.

Cyfraniad tuag at gostau Gofal a Chymorth Personol

Penderfyniad

Disgrifiad

43.

Rhaid i’r holl awdurdodau perthnasol ddarparu taliad tuag at gostau angenrheidiol ar gyfer gofal am blant ac oedolion dibynnol (a roddir gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol) ac ar gyfer anghenion cymorth personol fel a ganlyn:

Rhaid i hyn fod am y costau ychwanegol a ysgwyddwyd gan aelodau i’w galluogi i gyflawni busnes swyddogol neu ddyletswyddau cymeradwy. Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir yn gysylltiedig â busnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy, fel sy’n briodol. Ni ddylid gwneud taliadau nes bydd derbynebau gan y darparwr gofal wedi’u darparu.

Cynghorau Tref a Chymuned

Penderfyniad

Disgrifiad

44.

Rhaid i gynghorau tref a chymuned sicrhau bod taliad o £150 y flwyddyn ar gael i’w haelodau fel cyfraniad at gostau a threuliau.

45.

Mae’r taliad ar gyfer aelodau sy’n ymgymryd ag uwch-swyddogaeth yn swm blynyddol o £500 fel y nodwyd yn Nhabl 11.

46.

Gall cynghorau tref a chymuned dalu costau teithio pob aelod ar gyfer mynychu dyletswyddau cymeradwy.9 Rhaid i daliadau o’r fath fod yn gostau gwirioneddol teithio ar gludiant cyhoeddus neu lwfansau milltiroedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel y nodir isod:

  • 45c y filltir – hyd at 10,000 o filltiroedd yn y flwyddyn.
  • 25c y filltir – dros 10,000 o filltiroedd.
  • 5c y filltir y teithiwr a gludir ar fusnes yr awdurdod.
  • 24c y filltir – beiciau modur preifat.
  • 20c y filltir – beiciau.

47.

Os yw cyngor tref neu gymuned yn penderfynu bod angen arhosiad dros nos ar gyfer dyletswydd benodol, gall roi awdurdod i ad-dalu treuliau cynhaliaeth i’w aelodau yn ôl y cyfraddau uchaf a nodir isod, ar sail hawliadau gyda derbynebau:

  • Lwfans o £28 y cyfnod o 24 awr ar gyfer prydau bwyd, gan gynnwys brecwast pan na fydd wedi’i gynnwys.
  • £200 – Llundain dros nos.
  • £95 – rhywle arall dros nos.
  • £30 – aros gyda ffrindiau a/neu deulu dros nos.

48.

Gall cynghorau tref a chymuned dalu iawndal am golled ariannol i bob un o’u haelodau, lle mae colled o’r fath wedi cael ei hysgwyddo, o ganlyniad i fod yn bresennol i gyflawni dyletswyddau cymeradwy fel a ganlyn:

  • Hyd at £57.20 am bob cyfnod nad yw’n fwy na 4 awr.
  • Hyd at £114.40 am bob cyfnod sy’n fwy na 4 awr ond nad yw’n fwy na 24 awr.

49.

Gall pob cyngor benderfynu cyflwyno lwfans presenoldeb i’r aelodau. Ni chaiff unrhyw daliad fod yn fwy na £30.

Ni fydd gan aelod sydd mewn colled ariannol hawl i gael lwfans presenoldeb ar gyfer yr un digwyddiad.

50.

Gall cynghorau tref a chymuned ddarparu taliad Pennaeth Dinesig i faer/cadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £1,500. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £150 ar gyfer costau a threuliau a’r uwch-gyflog o £500 os hawlir y rhain.

51.

Gall cynghorau tref a chymuned ddarparu taliad Dirprwy Bennaeth Dinesig i ddirprwy faer/dirprwy gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £500. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £150 ar gyfer costau a threuliau a’r uwch-gyflog o £500 os hawlir y rhain.

52.

Mae manylion y Fframwaith Cydnabyddiaeth Tâl yn ôl Grŵp wedi’i gynnwys yn Nhabl 11.

53.

Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gan brif gyngor (hynny yw yr Arweinydd, Dirprwy Arweinydd neu Aelod Gweithrediaeth) gael unrhyw daliad gan Gyngor Tref neu Gymuned, ac eithrio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol.

Atodiad 2: Rheoliadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW)

  • cydnabyddiaeth ariannol i aelodau ac aelodau cyfetholedig o awdurdodau perthnasol.
  • swyddogaethau sy'n ymwneud â chyflogau Penaethiaid Gwasanaeth Cyflogedig Prif Gynghorau ac Awdurdodau Tân ac Achub.

Cyflwyniad

Mae Rhan 8 (adrannau 141 i 160) ac atodlen 2 a 3 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (y Mesur) yn nodi’r trefniadau ar gyfer taliadau a phensiynau aelodau o awdurdodau perthnasol a swyddogaethau a chyfrifoldebau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel).

Mae Adrannau 62 i 67 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn diwygio adrannau 142, 143, 144, 147, 148 ac 151 y Mesur ac yn rhoi pwerau ychwanegol i'r Panel.

Mae’r pwerau a geir yn rhan 8 ac atodlenni 2 a 3 o’r Mesur (fel y’u diwygiwyd) wedi disodli'r Offerynnau Statudol canlynol:

  • Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002 (Rhif 1895 (Cy.196)).
  • Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004 (Rhif 2555 (Cy.227)).
  • Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 (Rhif 1086 (Cy.115)).

Mae’r Mesur hefyd wedi disodli’r adrannau yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 sy’n ymwneud â thaliadau i gynghorwyr yng Nghymru.

Nodir y taliadau ar gyfer aelodau cynghorau tref a chymuned yn Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn. Dirymwyd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003 (Rhif 895 (Cy. 115)) ar 1 Ebrill 2013.

Rhan 1

Cyffredinol

  1. Teitl byr y Rheoliadau hyn yw: “Rheoliadau IRPW”.
  2. Daw’r Rheoliadau IRPW hyn i rym ar 1 Ebrill 2021 ac maent yn disodli’r rhai a oedd mewn grym ers 1 Ebrill 2012. Nodir y dyddiad gweithredu ar gyfer pob awdurdod perthnasol yn yr Adroddiad Blynyddol neu Adroddiad Atodol y Panel.
  3. Mae'n ofynnol i Awdurdodau lunio rhestr o daliadau i aelodau ac aelodau cyfetholedig erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, er mwyn iddynt allu eu cyflwyno i’r Panel a’u cyhoeddi (gweler paragraff 46).

Dehongli

Yn Rheoliadau IRPW:

  • Ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.
  • Ystyr “Deddf 2000” yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
  • “Ystyr “Deddf 2013” yw Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
  • Ystyr “taliad” yw'r union swm neu'r uchafswm y gellir ei dalu i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdod perthnasol am gostau yr aethpwyd iddynt yn anochel wrth gyflawni busnes swyddogol yr awdurdod perthnasol.
  • Ystyr “adroddiad blynyddol” yw adroddiad a luniwyd gan y Panel yn unol ag adran 145 o'r Mesur.
  • Mae ystyr “dyletswydd gymeradwy” mewn perthynas â chynghorau tref a chymuned fel y nodir yn Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn
  • Ystyr “awdurdod” yw awdurdod perthnasol yng Nghymru fel y'i diffinnir yn Adran 144(2) o'r Mesur ac mae'n cynnwys prif gyngor (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol), awdurdod Parc Cenedlaethol ac awdurdod tân ac achub yng Nghymru, cyngor cymuned neu dref.
  • Mae i “Cyflog Sylfaenol” yr un ystyr ag a nodir ym mharagraff 6 o'r Rheoliadau hyn a gellir ei amodi fel “Cyflog Sylfaenol ALl” i gyfeirio at gyflog sylfaenol aelod o brif gyngor; “Cyflog Sylfaenol Parc Cenedlaethol” i gyfeirio at gyflog sylfaenol aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol; a “Cyflog Sylfaenol awdurdod tân ac achub” i gyfeirio at Gyflog Sylfaenol aelod o awdurdod tân ac achub yng Nghymru.
  • Mae i “Prif Swyddog” prif gyngor yr ystyr a ddiffinnir yn Neddf Lleoliaeth 2011
  • “Pennaeth Dinesig” yw’r sawl a etholwyd gan y cyngor i gyflawni dyletswyddau cadeirydd y cyngor hwnnw, ac mae wedi’i ddynodi’n faer neu’n gadeirydd.
  • Mae “pwyllgor” yn cynnwys is-bwyllgor.
  • Mae "cyngor tref neu gymuned" yn golygu mewn perthynas â Rhan 8 y Mesur, cyngor cymuned fel y'i diffinnir yn adran 33 Deddf Llywodraeth Leol 1972 neu gyngor tref yn unol ag adran 245B o’r un Ddeddf.
  • Ystyr “drafft ymgynghori” yw’r fersiwn ddrafft o adroddiad Blynyddol neu Atodol a luniwyd gan y Panel o dan Adran 146(7) neu 147(8) o'r Mesur. Mae’n rhaid i’r Panel ystyried y sylwadau hyn.
  • “Awdurdod cyfansoddol” – yn achos awdurdodau Parciau Cenedlaethol, prif gyngor a leolir o fewn ardal awdurdod Parc Cenedlaethol yw hwn; yn achos awdurdodau tân ac achub yng Nghymru prif gyngor a leolir o fewn ardal awdurdod tân ac achub yw hwn.
  • Mae i “Cyfraniad tuag at Gostau Gofal a Chymorth Personol” yr un ystyr ag a nodir ym mharagraff 21 o’r Rheoliadau hyn.
  • Ystyr “grŵp rheoli” yw grŵp gwleidyddol mewn prif gyngor lle mae unrhyw un o'i aelodau yn rhan o'r weithrediaeth.
  • Mae i “aelod cyfetholedig” yr ystyr a nodir yn adran 144 (5) o'r Mesur, hynny yw'r rhai sydd â'r hawl i bleidleisio ar faterion sy'n dod o fewn cylch gwaith y pwyllgor y maent yn gwasanaethu arno.
  • Mae i “taliad aelod cyfetholedig” yr un ystyr ag a nodir ym mharagraff 19 o'r Rheoliadau hyn.
  • Ystyr “Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd” yw'r prif gyngor a sefydlwyd o dan adran 11 o'r Mesur.
  • “Dirprwy Bennaeth Dinesig” yw’r sawl a etholwyd gan y cyngor i fod yn ddirprwy i faer neu gadeirydd y cyngor hwnnw.
  • Ystyr “gweithrediaeth” yw gweithrediaeth awdurdod ar ffurf fel y nodir yn adrannau 11(2) i (5) o Ddeddf 2000, fel y'u diwygiwyd gan adran 34 o'r Mesur.
  • Mae i “trefniadau gweithredol” yr ystyr a roddir gan adran 10(1) o Ddeddf 2000.
  • Mae i “absenoldeb teuluol”, fel y'i diffinnir yn Adran 142 (2)(b) o'r Mesur, yr ystyr a roddir iddo gan Ran 2 o'r Mesur a’r Rheoliadau perthnasol.
  • Mae ystyr “Lwfans Colled Ariannol” mewn perthynas â chynghorau cymuned neu dref fel y nodir yn Rhan 5 o’r Rheoliadau.
  • Ystyr “awdurdod tân ac achub” yw awdurdod a sefydlwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.
  • Ystyr "Pennaeth gwasanaeth cyflogedig" yw fel y dynodwyd o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
  • Ystyr Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yw pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan ddau brif gyngor neu fwy o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013.
  • Ystyr “grŵp yr wrthblaid fwyaf” yw grŵp gwleidyddol ac eithrio grŵp rheoli sydd â nifer uwch o aelodau nag unrhyw grŵp gwleidyddol arall yn yr awdurdod.
  • Ystyr “aelod” yw person sy’n gwasanaethu mewn awdurdod
  • Ar gyfer prif gyngor neu gyngor cymuned neu dref gall “Aelod” fod yn:
    • “Aelod Etholedig” sy’n unigolyn sydd wedi’i ethol i wasanaethu fel cynghorydd i'r awdurdod hwnnw. Mae’n bosibl i berson gadw swydd etholedig os, ar ôl cwblhau etholiad, nad oes ymgeisydd a bod y person yn cadw’r swydd yn amodol ar y broses briodol.
    • “Aelod Cyfetholedig” yw person sy’n aelod o bwyllgor y cyngor neu yn gwneud swyddogaeth yn amodol ar y broses briodol.
    • Yn achos awdurdod Parc Cenedlaethol “Aelod” yw person a benodwyd gan awdurdod cyfansoddol a hefyd unigolyn a benodwyd gan Weinidogion Cymru.
    • Yn achos awdurdodau tân ac achub ystyr “Aelod” yw unigolyn a benodwyd gan awdurdod cyfansoddol.
  • Ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” yw awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
  • Mae i “busnes swyddogol” yr ystyr a nodir yn Adran 142 (10) o'r Mesur mewn perthynas ag ad-dalu lwfansau i ad-dalu costau gofal, teithio a chostau cynhaliaeth yr aethpwyd iddynt yn anochel gan aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdod perthnasol (ac eithrio cynghorau tref a chymuned) wrth:
  1. Fynychu cyfarfod o’r awdurdod neu unrhyw un o bwyllgorau’r awdurdod neu unrhyw gorff arall y mae’r awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu unrhyw un o bwyllgorau corff o’r fath.
  2. Mynychu cyfarfod unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohoni.
  3. Mynychu cyfarfod yr awdurdodir ei gynnal gan yr awdurdod neu gan un o bwyllgorau'r awdurdod neu gan un o gydbwyllgorau'r awdurdod ac un neu fwy o awdurdodau eraill.
  4. Mynychu unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwyir gan yr awdurdod neu ei weithrediaeth.
  5. Dyletswydd yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth neu mewn cysylltiad â'u cyflawni o fewn yr ystyr a nodir yn Rhan 2 o Ddeddf 2000, fel y'i diwygiwyd.
  6. Dyletswydd yr ymgymerir â hi yn unol â rheol sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan fydd dogfennau tendro yn cael eu hagor.
  7. Dyletswydd yr ymgymerir â hi mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan yr awdurdod i archwilio safle neu awdurdodi archwiliad o safle.
  8. Dyletswydd yr ymgymerir â hi gan aelodau prif gynghorau mewn cysylltiad â chyfrifoldebau etholaeth neu ward sy'n deillio o gyflawni swyddogaethau prif gyngor.
  9. Unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd o ddosbarth a gymeradwyir felly, ac yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu mewn cysylltiad â'u cyflawni.
  • Ystyr “grŵp gwleidyddol arall” yw grŵp gwleidyddol ac eithrio grŵp rheoli neu grŵp yr wrthblaid fwyaf (os o gwbl) sy'n cynnwys dim llai na 10 y cant o aelodau'r awdurdod hwnnw.
  • Ystyr “pwyllgor trosolwg a chraffu” yw pwyllgor yn yr awdurdod sydd â’r pwerau a nodir yn adran 21(2) a (3) o Ddeddf 2000, fel y'u diwygiwyd gan Ran 6 o'r Mesur.
  • “Ystyr “Panel” yw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol fel y nodir yn adran 141(1) ac atodlen 2 o'r Mesur.
  • Ystyr "datganiad polisi cyflog" yw datganiad a gynhyrchir gan awdurdod perthnasol o dan adran 38 o Ddeddf Lleoliaeth 2011.
  • Gellir ffurfio “grŵp gwleidyddol” o aelodau plaid wleidyddol gydnabyddedig, neu gall fod yn grŵp o aelodau annibynnol sydd heb gyswllt ag unrhyw blaid wleidyddol gydnabyddedig arall
  • Ystyr "Aelod llywyddol" yw aelod o brif gyngor sydd wedi ei ddynodi gan y cyngor hwnnw i gyflawni swyddogaethau mewn perthynas â chadeirio ei gyfarfodydd a'i drafodion.
  • Mae “prif gyngor” wedi’i ddiffinio gan Ddeddf 1972 a’i ystyr yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
  • Mae i “swyddog priodol” yr un ystyr ag yn adran 270(3) o Ddeddf 1972. Mewn cynghorau cymuned a thref, gallai’r ‘swyddog priodol’ fod y clerc neu swyddog arall a benodwyd at y diben hwnnw.
  • Ystyr "corff cyhoeddus" yw corff fel y'i diffinnir yn adran 67(b) o Ddeddf 2013.
  • “Ystyr "darpariaeth gymwys" yw darpariaeth sy'n gwneud amrywiad i benderfyniad blaenorol y Panel. (Adran 65 (c) o Ddeddf 2013).
  • "Awdurdod cymwys perthnasol" yw awdurdod o fewn ystyr adran 63 o Ddeddf 2013, y mae'n ofynnol iddo gynhyrchu datganiad polisi cyflog.
  • Diffinnir “awdurdod perthnasol” yn Adran 144(2) o'r Mesur (fel y'i diwygiwyd) ac yn adran 64 o Ddeddf 2013, ac, at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'n cynnwys awdurdod lleol/prif gyngor, cyngor tref neu gymuned, awdurdod Parc Cenedlaethol ac awdurdod tân ac achub yng Nghymru.
  • Mae i “materion perthnasol” yr un diffiniad ag a nodir yn Adran 142(2) o'r Mesur.
  • Ystyr “rhestr” yw rhestr sy'n nodi penderfyniadau'r awdurdod mewn perthynas â thaliadau sydd i'w gwneud yn ystod y flwyddyn (fel y maent yn ymwneud â'r awdurdod hwnnw) i holl aelodau ac aelodau cyfetholedig yr awdurdod hwnnw.
  • Mae i “Uwch-gyflog” yr un ystyr ag a nodir ym mharagraff 11 o'r Rheoliadau hyn a gellir ei amodi fel “Uwch-gyflog Prif gyngor” i gyfeirio at uwch-gyflog aelod o brif gyngor; “Uwch-gyflog Parc Cenedlaethol” i gyfeirio at uwch-gyflog aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol; neu “Uwch-gyflog Awdurdod Tân ac Achub” i gyfeirio at uwch-gyflog aelod o awdurdod Tân ac Achub.
  • Mae “absenoldeb oherwydd salwch” yn golygu’r trefniadau a nodir yn yr Adroddiad Blynyddol.
  • Mae i “adroddiad atodol” yr ystyr a nodir yn adran 146(4 i 8) o'r Mesur.
  • Mae i “taliad teithio a chynhaliaeth” yr un ystyr ag a nodir ym mharagraff 25 o'r Rheoliadau hyn.
  • Mae i “blwyddyn” yr ystyron canlynol:
    • “blwyddyn ariannol”: cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth
    • “blwyddyn galendr”: y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr
    • “blwyddyn ddinesig”: y flwyddyn sy'n dechrau ar ddyddiad cyfarfod blynyddol yr awdurdod lleol ac yn dod i ben ar y diwrnod cyn y cyfarfod blynyddol y flwyddyn ganlynol; yn achos awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau Tân ac Achub dyma'r cyfnod o 12 mis sy'n dilyn cyfarfod blynyddol yr awdurdod.

Rhan 2: Rhestr Taliadau i Aelodau neu Aelodau Cyfetholedig

Dechrau cyfnod swydd

Mae cyfnod swydd:

  • Aelod etholedig o brif gyngor neu gyngor cymuned neu dref yn dechrau 4 diwrnod ar ôl yr etholiad yn amodol ar ddatganiad gan yr aelod hwnnw ei fod yn derbyn y swydd honno o dan adran 83(1) o Ddeddf 1972.
  • Aelod o awdurdod parc cenedlaethol sy'n gynghorydd yn dechrau ar y dyddiad y penodir yr aelod hwnnw fel y cyfryw gan awdurdod cyfansoddol ac mae cyfnod swydd aelod a benodwyd gan Lywodraeth Cymru yn dechrau ar ddyddiad y penodiad hwnnw. Mae cyfnod swydd Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr awdurdod parc cenedlaethol yn dechrau pan fydd yn derbyn y swydd honno ar ôl cael ei ethol neu ei benodi’n gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd awdurdod parc cenedlaethol.
  • Aelod o awdurdod tân ac achub yng Nghymru sy'n gynghorydd yn dechrau ar y dyddiad y penodir yr aelod hwnnw fel y cyfryw gan awdurdod cyfansoddol ac mae cyfnod swydd Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr awdurdod tân ac achub yn dechrau ar y dyddiad y'u hetholir gan yr awdurdod hwnnw i'r swydd honno.
  • Aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol yn dechrau ar y dyddiad y'i penodir gan yr awdurdod perthnasol.

Rhestr taliadau i aelodau (y Rhestr) (nid yw’n berthnasol i gynghorau cymuned neu dref – gweler Rhan 5)

Rhaid i awdurdod lunio rhestr o'r taliadau y mae'n bwriadu eu gwneud i'w aelodau a'i aelodau cyfetholedig bob blwyddyn. Rhaid i swm y taliadau hynny gyd-fynd â’r penderfyniadau a wnaeth y Panel ar gyfer y flwyddyn honno yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol. Rhaid llunio'r rhestr cyn pen pedair wythnos yn dilyn cyfarfod blynyddol yr awdurdod.

Diwygio’r Rhestr

Gall awdurdod ddiwygio'r Rhestr unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn (fel y mae'n ymwneud â'r awdurdod) ar yr amod bod y cyfryw ddiwygiadau yn cyd-fynd â phenderfyniadau’r Panel ar gyfer y flwyddyn honno.

Cyflog Sylfaenol

Rhaid i awdurdod ddarparu ar gyfer talu cyflog sylfaenol, fel y'i pennwyd gan y Panel yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol, i bob un o'i aelodau. Rhaid talu'r un cyflog i bob aelod. Yn achos prif gynghorau yn unig, mae'r cyflog hwn yn parhau'n daladwy yn ystod cyfnod o absenoldeb teuluol.

Ni all aelod dderbyn mwy nag un cyflog sylfaenol gan awdurdod perthnasol, ond gall aelod o un awdurdod perthnasol dderbyn cyflog sylfaenol pellach drwy gael ei benodi'n aelod o awdurdod perthnasol arall (ac eithrio yn yr achos a nodir ym mharagraff 16).

Pennir y cyflog sylfaenol yn unol ag Adran 142(3) o'r Mesur a bydd yn un o'r canlynol:

  • Y swm y mae’n rhaid i’r awdurdod ei dalu i aelod o’r awdurdod.
  • Yr uchafswm y gall yr awdurdod ei dalu i aelod o'r awdurdod.

Os bydd cyfnod swydd aelod yn dechrau neu'n dod i ben rywbryd heblaw ar ddechrau neu ar ddiwedd blwyddyn (fel y mae'n ymwneud â'r awdurdod), bydd gan yr aelod hwnnw hawl i gyfran o’r cyflog sylfaenol sy'n cyfateb i’r gyfran o nifer y diwrnodau yn y flwyddyn honno y mae’r aelod yn ei swydd.

Os caiff aelod ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn aelod o awdurdod (gweler Rhan 3 o Ddeddf 2000) rhaid i'r awdurdod wrthod talu'r rhan o'r cyflog sylfaenol sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag eu cyflawni. Rhaid gwrthod y taliad hefyd os yw yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru (Adran 155(1) o'r Mesur).

Uwch-gyflog

Yn amodol ar baragraffau 12 i 18 gall awdurdod dalu uwch-gyflog i aelodau y mae wedi rhoi cyfrifoldebau penodol iddynt. Rhaid i'r cyfryw daliadau gyd-fynd â phenderfyniad y Panel ar gyfer y flwyddyn honno (fel y mae'n ymwneud â'r awdurdod) y gwneir y taliadau mewn perthynas â hi a rhaid eu nodi yn Rhestr yr awdurdod hwnnw. Yn achos prif gynghorau yn unig, bydd uwch-gyflog yn parhau'n daladwy yn ystod absenoldeb teuluol deiliad y swydd.

Bydd y Panel yn pennu'r canlynol yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol:

  • Y categorïau o aelodau sy'n gymwys i gael uwch-gyflog na fyddant, o bosibl, yr un fath ar gyfer pob awdurdod neu gategori o awdurdod.
  • Y disgresiwn sydd ar gael i awdurdodau o ran talu uwch-gyflogau na fyddant, o bosibl, yr un fath ar gyfer pob awdurdod neu gategori o awdurdod.

Bydd yr uwch-gyflogau sy'n daladwy yn cydymffurfio ag Adran 142(3) o'r Mesur a byddant yn nodi:

  • Y swm y mae'n rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod.
  • Yr uchafswm y gall awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod.

Bydd yr uwch-gyflog yn gyfuniad o'r cyflog sylfaenol a swm ychwanegol ar gyfer y cyfrifoldeb penodol perthnasol a bennwyd gan y Panel yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol. Mae'n bosibl na fydd y swm hwn yr un fath ar gyfer pob awdurdod neu gategori o awdurdod.

Bydd y Panel, yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol, yn pennu naill ai’r gyfran uchaf o’i aelodaeth neu gyfanswm yr aelodau y gall awdurdod dalu uwch-gyflogau iddynt. Ni all y ganran fod yn uwch na hanner cant y cant heb ganiatâd penodol Gweinidogion Cymru (Adran 142(5) o'r Mesur). Yn achos prif gynghorau yn unig gellir mynd y tu hwnt i’r gyfran neu’r nifer uchaf i gynnwys talu uwch-gyflog i aelod ychwanegol a benodir i ddirprwyo dros dro yn ystod absenoldeb teuluol deiliad swydd ag uwch-gyflog (yn amodol ar y terfyn o 50%).

  1. Yn achos Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gellir mynd y tu hwnt i’r gyfran neu’r nifer uchaf i gynnwys talu uwch-gyflog i aelod ychwanegol a benodir i ddirprwyo dros dro yn ystod absenoldeb oherwydd salwch deiliad swydd ag uwch-gyflog fel y pennwyd yn yr Adroddiad Blynyddol neu mewn Adroddiad Atodol.
  2. Mae taliadau i gadeiryddion Cydbwyllgorau neu Is-bwyllgorau i Gydbwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ychwanegol at y gyfran uchaf o’i aelodaeth y gall awdurdod dalu uwch-gyflogau iddynt yn amodol ar yr uchafswm cyffredinol o hanner cant y cant sydd wedi’i gynnwys yn Adran 142(5) o’r Mesur. Bydd y Panel yn pennu symiau taliadau o’r fath mewn Adroddiad Blynyddol neu Atodol.

Ni ddylai awdurdod dalu mwy nag un uwch-gyflog i unrhyw aelod. Ni all aelod o brif gyngor sy'n cael uwch-gyflog fel arweinydd awdurdod lleol neu aelod o weithrediaeth awdurdod lleol (y mae’r Panel wedi pennu ei fod yn llawn-amser) gael ail gyflog fel aelod a benodir i wasanaethu ar awdurdod parc cenedlaethol neu awdurdod tân ac achub yng Nghymru.

  1. Nid yw paragraff 16 yn berthnasol i daliadau a wneir i gadeirydd Cydbwyllgor neu Is-bwyllgor i Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu sy’n cael uwch-gyflog am rôl nad yw wedi’i dosbarthu fel un sy’n gyfwerth ag amser llawn. Mae’n parhau i fod yn berthnasol i arweinwyr neu i aelodau o weithrediaeth.

Os nad oes gan aelod, drwy gydol y flwyddyn, gyfrifoldebau penodol sy'n rhoi hawl iddo gael uwch-gyflog, bydd tâl yr aelod hwnnw'n gyfran o'r cyflog sy'n cyfateb i’r gyfran o nifer y diwrnodau yn y flwyddyn honno y mae’r aelod hwnnw’n ysgwyddo’r cyfryw gyfrifoldeb.

Os caiff aelod ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn aelod o'r awdurdod (gweler Rhan 3 o Ddeddf 2000) ni ddylai'r awdurdod dalu uwch-gyflog yr aelod tra bydd wedi'i atal dros dro (Adran 155(1) o'r Mesur). Os bydd y penderfyniad i'w atal dros dro yn ymwneud â’r elfen o’r taliad sy’n ymwneud â’r cyfrifoldeb penodol yn unig, gall yr aelod gadw'r cyflog sylfaenol. Mae’n rhaid gwrthod y taliad hefyd os yw yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.

Talu i Aelodau Cyfetholedig

Rhaid i awdurdod perthnasol ddarparu ar gyfer talu ffi i aelod cyfetholedig fel y'i pennwyd gan y Panel yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol. Mewn perthynas â'r rheoliad hwn ystyr ‘aelod cyfetholedig’ yw aelod fel y'i diffinnir yn Adran 144(5) o'r Mesur ac y'i nodir ym mharagraff 2 o'r Rheoliadau hyn.

Os caiff aelod cyfetholedig ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn aelod o awdurdod (gweler Rhan 3 o Ddeddf 2000) ni ddylai'r awdurdod dalu ffi aelod cyfetholedig tra bydd wedi'i atal dros dro (Adran 155(1) o'r Mesur).

Taliadau Cyfraniad tuag at Gostau Gofal a Chymorth Personol

Rhaid i awdurdodau ddarparu ar gyfer gwneud ad-daliad i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdod mewn perthynas â'r cyfryw gostau sy'n gysylltiedig â threfnu gofal ar gyfer plant neu ddibynyddion neu ar gyfer yr aelod unigol yr aethpwyd iddynt yn anorfod wrth gyflawni busnes swyddogol fel aelod neu aelod cyfetholedig o'r awdurdod hwnnw. Ni ddylid gwneud taliadau o dan y paragraff hwn:

  • Mewn perthynas ag unrhyw blentyn dros bymtheg oed neu ddibynnydd oni bai bod yr aelod/aelod cyfetholedig yn bodloni'r awdurdod bod angen goruchwyliaeth ar y plentyn neu’r dibynnydd a achosodd i'r aelod fynd i gostau angenrheidiol ar gyfer gofal y plentyn neu'r dibynnydd hwnnw wrth gyflawni dyletswyddau aelod neu aelod cyfetholedig.
  • I fwy nag un aelod/aelod cyfetholedig o'r awdurdod mewn perthynas â gofal ar gyfer yr un plentyn neu ddibynnydd am yr un sesiwn ofal.
  • I roi mwy nag un ad-daliad ar gyfer gofal i aelod neu aelod cyfetholedig o'r awdurdod na all ddangos er bodd yr awdurdod fod yn rhaid i'r aelod/aelod cyfetholedig wneud trefniadau ar wahân ar gyfer gofalu am wahanol blant neu ddibynyddion.

Mae’r Panel yn pennu’r trefniadau o ran y cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol sy'n daladwy gan awdurdod yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol.

Os caiff aelod/aelod cyfetholedig ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig o'r awdurdod (gweler Rhan 3 o Ddeddf 2000) rhaid i'r awdurdod beidio â thalu'r rhan o'r cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol sy'n daladwy i'r aelod neu’r aelod cyfetholedig hwnnw mewn perthynas â’r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod neu’r aelod cyfetholedig wedi'i atal dros dro neu wedi'i atal dros dro yn rhannol rhag eu cyflawni. Rhaid gwrthod y taliad hefyd yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru am resymau ac eithrio gwaharddiad (Adran 155(1) o'r Mesur).

Rhaid i Restr awdurdod nodi’r trefniadau o ran y cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol sy'n daladwy a'i drefniadau ar gyfer cyflwyno hawliadau, gan roi sylw llawn i benderfyniadau'r Panel yn hyn o beth.

Taliadau teithio a chynhaliaeth

Yn ddarostyngedig i'r ddau baragraff isod mae gan aelod neu aelod cyfetholedig hawl i gael taliadau gan yr awdurdod ar ffurf taliadau teithio a chynhaliaeth yn ôl cyfraddau a bennwyd gan y Panel yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol. Bwriedir i'r cyfryw daliadau dalu costau yr aed iddynt gan aelod neu aelod cyfetholedig wrth gyflawni’r busnes swyddogol oddi mewn i ffin yr awdurdod neu oddi allan iddi.

Dim ond i brif gynghorau y mae'r ddau baragraff canlynol yn berthnasol

Dim ond os yw’r awdurdod yn fodlon y gellir cyfiawnhau hynny am resymau economaidd y dylid talu tâl cynhaliaeth i aelod o brif gyngor am gyflawni busnes swyddogol o fewn ffiniau sir neu fwrdeistref sirol lle mae'n aelod. Nid yw hyn yn berthnasol i aelodau cyfetholedig o gyngor sy'n byw y tu allan i'r awdurdod hwnnw.

Gall prif gyngor wneud darpariaeth, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau yr ystyria’n briodol, i aelodau hawlio costau milltiredd ar gyfer busnes swyddogol mewn cysylltiad â chyfrifoldebau etholaeth neu ward lle maent yn deillio o gyflawni swyddogaethau'r sir neu'r fwrdeistref sirol.

Os caiff aelod neu aelod cyfetholedig ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig o'r awdurdod (gweler Rhan 3 o Ddeddf 2000) rhaid i'r awdurdod wrthod talu'r tâl teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i'r aelod/aelod cyfetholedig hwnnw mewn perthynas â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod wedi'i atal dros dro neu wedi'i atal dros dro yn rhannol rhag eu cyflawni. Rhaid gwrthod y taliad hefyd yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru am resymau ac eithrio gwaharddiad. (Adran 155(1) o'r Mesur).

Rhan 3: Darpariaethau pellach

Pensiynau

O dan Adran 143 o'r Mesur, caiff y Panel wneud penderfyniadau o ran y trefniadau pensiwn ar gyfer aelodau o brif gynghorau yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol. Gall penderfyniadau o’r fath:

  • Nodi pa aelodau y bydd yn ofynnol i’r prif gyngor dalu pensiwn iddynt.
  • Disgrifio’r materion perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdod lleol dalu pensiwn mewn cysylltiad â hwy.
  • Gwneud penderfyniadau gwahanol ar gyfer prif gynghorau gwahanol.

Taliadau i gefnogi swyddogaeth aelod o awdurdod lleol

Rhaid i awdurdod lleol ddarparu ar gyfer gofynion aelod i gyflawni ei rôl a'i gyfrifoldebau yn fwy effeithiol. Y Panel fydd yn pennu sut y dylid darparu’r cymorth hwn yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol.

Trefniadau mewn perthynas ag absenoldeb teuluol

Mae Rhan 2 o'r Mesur yn nodi hawliau aelodau o brif gynghorau o ran absenoldeb teuluol. Bydd y Panel yn nodi ei benderfyniadau a'r trefniadau gweinyddol ar gyfer y taliadau hyn yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol.

Absenoldeb oherwydd salwch

Bydd trefniadau absenoldeb hirdymor oherwydd salwch gan ddeiliaid uwch-gyflogau prif gynghorau, Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol neu Adroddiad Atodol y Panel.

Rhan 4: Taliadau

Ad-dalu taliadau

Gall awdurdod fynnu bod y cyfryw ran o daliad yn cael ei had-dalu pan fydd taliad eisoes wedi'i wneud ar gyfer unrhyw gyfnod pan fydd yr aelod neu'r aelod cyflogedig dan sylw:

  1. wedi’i atal dros dro neu wedi’i atal dros dro yn rhannol rhag cyflawni dyletswyddau neu gyfrifoldebau’r aelod neu aelod cyfetholedig hwnnw yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 2000 neu Reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno.
  2. yn peidio â bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig o'r awdurdod.
  3. neu heb fod â hawl, mewn unrhyw ffordd, i gael cyflog, lwfans neu ffi mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw.

Peidio â derbyn taliadau

O dan Adran 154 o'r Mesur gall unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig, drwy hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod yn ysgrifenedig, ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o'i hawl i gael taliad a bennwyd gan y Panel ar gyfer y flwyddyn benodol honno (fel y mae'n ymwneud â'r awdurdod).

Rhan 5: Darpariaethau penodol sy’n ymwneud â chynghorau tref a chymuned (“y cyngor”)

Dehongli

At ddibenion y Rhan hon, ystyr aelod yw aelod etholedig ac aelod cyfetholedig.

Taliadau

  1. Penderfynir drwy’r Adroddiad Blynyddol neu drwy Adroddiad Atodol ar y trefniadau a’r swm ar gyfer taliad blynyddol i aelodau mewn perthynas â’r costau yr eir iddynt wrth gyflawni rôl aelod. Hefyd, lle bo’n briodol, ystyrir yr amrywiad ym maint neu amgylchiadau ariannol cynghorau gwahanol.
  2. Gall y cyngor, os yw’n penderfynu, wneud taliadau i aelodau mewn perthynas â chostau teithio i fynychu dyletswyddau cymeradwy y tu mewn neu’r tu allan i ardal y cyngor. Nodir y swm y gellir ei hawlio yn Adroddiad Blynyddol neu Atodol y Panel.
  3. Gall y cyngor, os yw’n penderfynu, ad-dalu costau cynhaliaeth i’w aelodau pan fyddant yn mynychu dyletswyddau cymeradwy y tu mewn neu’r tu allan i ardal y cyngor. Nodir y trefniadau ar gyfer ad-dalu yn Adroddiad Blynyddol neu Atodol y Panel.
  4. Gall y cyngor, os yw’n penderfynu, dalu iawndal am Golled Ariannol i’w aelodau lle mae colled o’r fath wedi digwydd trwy fynychu dyletswyddau cymeradwy y tu allan i ardal y cyngor. Nodir y taliadau yn Adroddiad Blynyddol neu Atodol y Panel.
  5. Gall y cyngor, os yw’n penderfynu, roi taliad i gadeirydd, dirprwy gadeirydd neu faer y cyngor at ddibenion cyflawni swyddogaethau’r swydd honno. Nodir y taliad yn Adroddiad Blynyddol neu Atodol y Panel
  6. Penderfynir drwy’r Adroddiad Blynyddol neu drwy Adroddiad Atodol ar y trefniadau ar gyfer taliadau i aelodau o gyngor mewn uwch-swyddi. Hefyd, lle bo’n briodol, ystyrir maint neu amgylchiadau ariannol cynghorau gwahanol.
  7. Rhaid i’r cyngor ad-dalu’r cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol i aelod fel y penderfynwyd yn Adroddiad Blynyddol y Panel.

Gall aelod ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o’i hawl i gael taliad o dan y Rheoliadau hyn trwy hysbysu swyddog priodol y cyngor yn ysgrifenedig.

Rhaid i aelod sy’n hawlio iawndal am Golled Ariannol lofnodi datganiad nad yw’r aelod wedi gwneud, nac yn bwriadu gwneud, unrhyw hawliad arall mewn perthynas â’r mater y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef.

“Ystyr “Dyletswydd Gymeradwy” dan y Rhan hon yw:

  1. Mynychu cyfarfod o’r cyngor neu unrhyw un o bwyllgorau neu is- bwyllgorau’r cyngor neu unrhyw gorff arall y mae’r cyngor yn penodi neu’n enwebu pobl iddo neu unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau corff o’r fath.
  2. Mynychu unrhyw gyfarfod arall a awdurdodir gan y cyngor neu gan un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau’r cyngor, neu un o gydbwyllgorau’r cyngor ac un neu fwy o gynghorau, neu is-bwyllgor i gydbwyllgor o’r fath, ar yr amod bod o leiaf ddau aelod o’r cyngor wedi cael eu gwahodd a, lle caiff y cyngor ei rannu’n grwpiau gwleidyddol, bod o leiaf ddau grŵp o’r fath wedi’u gwahodd.
  3. Mynychu cyfarfod unrhyw gymdeithas ar gyfer cynghorau y mae’r cyngor yn aelod ohoni.
  4. Mynychu unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwyir gan y cyngor.
  5. Unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan y cyngor neu ddyletswydd o fath a gymeradwyir gan y cyngor i gyflawni ei swyddogaethau neu swyddogaethau unrhyw un o’i bwyllgorau neu is-bwyllgorau.

Rhan 6: Amrywiol

Trefniadau ar gyfer taliadau

Rhaid i Restr awdurdod nodi'r trefniadau ar gyfer talu cyflogau, lwfansau a ffioedd i holl aelodau ac aelodau cyfetholedig yr awdurdod hwnnw. Gellir gwneud y taliadau hynny ar yr adegau ac mor rheolaidd ag a bennir gan yr awdurdod.

Hawliadau

Rhaid i awdurdod nodi terfyn amser rhwng y dyddiad y mae hawl i daliad teithio neu gynhaliaeth yn digwydd a phan fydd yn rhaid i gais am y lwfansau hynny gael ei wneud gan y sawl y maent yn daladwy iddo. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhwystro awdurdod rhag gwneud taliad os na hawlir y lwfans o fewn y cyfnod a nodwyd.

Rhaid cyflwyno derbynebau priodol sy'n profi costau gwirioneddol gydag unrhyw hawliad am gostau teithio, lwfans cynhaliaeth neu gostau gofal yn unol â'r Rheoliadau hyn (ac eithrio ceisiadau am gostau teithio mewn cerbyd modur preifat neu ar feic).

Osgoi dyblygu

Rhaid i hawliad am gostau teithio, costau cynhaliaeth neu gostau gofal gynnwys datganiad wedi'i lofnodi gan yr aelod neu'r aelod cyfetholedig yn nodi nad yw'r aelod neu’r aelod cyfetholedig wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef neu mae'n rhaid anfon datganiad o’r fath gyda'r hawliad.

Cofnodion o daliadau

Rhaid i awdurdod gadw cofnod o'r taliadau a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn fel y nodwyd mewn Adroddiad Blynyddol neu Atodol.

Gofynion o ran cyhoeddusrwydd

(Mae cynnwys gofynnol gofynion o ran cyhoeddusrwydd wedi’i gynnwys mewn atodiad i’r Adroddiad Blynyddol)

Rhaid i awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl penderfynu ar ei Restr Cydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer y flwyddyn o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw Adroddiad gan y Panel, a heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y mae'r Rhestr yn cyfeirio ati, wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi'r Rhestr yn ardal yr awdurdod a rhoi gwybod i’r Panel. (Nid yw’r adran hon yn berthnasol i gynghorau tref a chymuned).

Cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a heb fod yn hwyrach na 30 Medi ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i bob awdurdod perthnasol wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi, yn ardal yr awdurdod a rhoi gwybod i’r Panel:

  • y cyfanswm a dalwyd ganddo i bob aelod neu aelod cyfetholedig mewn perthynas â chyflog sylfaenol, uwch-gyflog, ffi aelod cyfetholedig, a thaliadau teithio a chynhaliaeth.
  • cyfanswm y gwariant ar gyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol.

O fewn yr un terfyn amser ac yn yr un modd, rhaid i awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi unrhyw gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol a dderbyniodd aelod a enwebwyd neu a benodwyd i awdurdod perthnasol arall. (Mae’r adran hon yn berthnasol i’r prif gynghorau yn unig).

Cyhoeddusrwydd i Adroddiadau’r Panel

O dan Adran 146(7) (a) a (b) o'r Mesur, bydd y Panel yn anfon drafft ymgynghori o'i Adroddiad Blynyddol neu Adroddiad Atodol i bob awdurdod perthnasol i'w ddosbarthu i aelodau ac aelodau cyfetholedig yr awdurdod, er mwyn i aelodau ac aelodau cyfetholedig gyflwyno sylwadau arno i'r Panel, o fewn cyfnod o wyth wythnos fel arfer.

Yn ei Adroddiadau Blynyddol neu Atodol bydd y Panel yn nodi'r trefniadau ar gyfer cyhoeddi ei Adroddiadau yn unol ag Adran 151 ac Adran 152 o'r Mesur.

Monitro Cydymffurfiaeth â Phenderfyniadau'r Panel

Mae Adran 153 o'r Mesur yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau perthnasol gydymffurfio â'r gofynion a osodir gan y Panel yn ei Adroddiadau Blynyddol. Mae hefyd yn rhoi pŵer i'r Panel fonitro'r taliadau a wneir gan awdurdodau perthnasol a’i gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth a nodir gan y Panel gael ei darparu. Nodir y gofynion o dan yr adran hon yn Adroddiad Blynyddol y Panel.

Atodiad 3: Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau

Rhaid i brif gynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol (APCau) ac awdurdodau tân ac achub (ATAau) yng Nghymru (ond nid cynghorau tref a chymuned) gynnal Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol flynyddol (‘y Rhestr’) sy’n cyd-daro â phenderfyniadau’r Panel ynghylch cyflogau i aelodau a thaliadau i aelodau cyfetholedig ac y mae’n rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

Mewn perthynas â phrif gyngor:

  1. Enwau’r aelodau a fydd yn cael y cyflog sylfaenol yn unig a’r swm i’w dalu.
  2. Enwau’r aelodau a fydd yn cael uwch-gyflog Band 1 a Band 2, y swydd a’r portffolio sydd ganddynt a’r swm i’w dalu.
  3. Enwau'r aelodau a fydd yn cael uwch-gyflog Band 3, Band 4 a Band 5, y swydd a'r portffolio sydd ganddynt a'r swm i’w dalu.
  4. Enwau’r aelodau a fydd yn cael cyflog dinesig a’r swm i’w dalu.
  5. Enwau'r aelodau a fydd yn cael ffi aelod cyfetholedig a ph'un a ydynt yn gadeirydd ynteu'n aelod cyffredin a’r swm i’w dalu.
  6. Enwau’r aelodau a fydd yn derbyn uwch-gyflog fel cadeirydd Cydbwyllgor neu Is-bwyllgor i Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r swm i’w dalu.
  7. Enwau’r aelodau a fydd yn cael uwch-gyflog penodol neu ychwanegol a gymeradwywyd gan y Panel a’r swm i’w dalu.

Mewn perthynas ag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub:

  1. Enwau'r aelodau a fydd yn cael y cyflog sylfaenol yn unig a’r swm i’w dalu.
  2. Enw’r aelod a fydd yn cael uwch-gyflog fel cadeirydd yr awdurdod a’r swm i’w dalu.
  3. Enwau’r aelodau a fydd yn cael uwch-gyflog fel dirprwy gadeirydd yr awdurdod neu gadeirydd pwyllgor a’r swm i’w dalu.
  4. Enwau’r aelodau a fydd yn cael ffi aelod cyfetholedig a pha un a ydynt yn gadeirydd neu’n aelod cyffredin a’r symiau i’w talu.

Rhaid hysbysu’r Panel ynghylch diwygiadau a wneir i'r Rhestr yn ystod blwyddyn y cyngor cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Rhaid i brif gynghorau gadarnhau yn eu Rhestr flynyddol nad ydynt wedi mynd dros uchafswm yr uwch-gyflogau a bennwyd ar gyfer y cyngor.

Rhaid i brif gynghorau, APCau ac ATAau gynnwys datganiad o dreuliau y gellir eu caniatáu a'r dyletswyddau y gellir eu hawlio mewn perthynas â hwy ar gyfer gofal, teithio a chynhaliaeth yn eu Rhestr flynyddol sy'n cyd-daro â phenderfyniadau'r Panel.

Rhaid i'r Atodlen nodi'r trefniadau ar gyfer talu cyflogau, lwfansau a ffioedd i holl aelodau ac aelodau cyfetholedig o’r awdurdod perthnasol (Rheoliad 35 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol); y trefniadau ar gyfer hawlio ar gyfer gofal a chymorth personol, treuliau teithio a chynhaliaeth (Rheoliadau 24 a 36-37 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol); y trefniadau ar gyfer osgoi dyblygu (Rheoliad 38 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol); a'r trefniadau ar gyfer ad-dalu cyflogau, lwfansau a ffioedd (Rheoliad 33 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol). Rhaid i'r rhestr hon hefyd gynnwys y dyletswyddau y gall aelodau ac aelodau cyfetholedig hawlio ad-daliad tuag at dreuliau teithio, cynhaliaeth a chostau gofal a chymorth personol mewn perthynas â hwy.

Rhaid i brif gynghorau ddatgan y canlynol yn y Rhestr:

  • A oes datganiad o gyfrifoldeb sylfaenol cynghorydd wedi'i wneud.
  • A oes disgrifiadau o rôl deiliaid swyddi ag uwch-gyflog wedi'u llunio.
  • A gedwir cofnodion o bresenoldeb cynghorwyr.

Rhaid i brif gynghorau, APCau ac ATAau wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi'r Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau cyn gynted ag y bo'n ymarferol a heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi. Dylid cyhoeddi’r Rhestr mewn modd hwylus i aelodau’r cyhoedd.

Rhaid anfon y Rhestr at Ysgrifenyddiaeth y Panel erbyn 31 Gorffennaf.

Rhaid i unrhyw newidiadau i’r Rhestr yn ystod y flwyddyn gael eu cyhoeddi’n brydlon yn y dull uchod a rhaid rhoi gwybod yn brydlon i Ysgrifenyddiaeth y Panel am bob newid.

Cadw. Dylai’r terfyn amser ar gyfer cadw cyhoeddiadau fod yn gyson â pholisi’r cyngor ar gadw dogfennau.

Atodiad 4: Cyhoeddi Cydnabyddiaeth Ariannol – Gofynion y Panel

Yn unol ag Adran 151 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae’r Panel yn gwneud y canlynol yn ofynnol:

Rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi Datganiad o Daliadau a wnaed i’w aelodau ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Rhaid cyhoeddi’r wybodaeth hon ar ffurf ac mewn lleoliad sy’n hygyrch i aelodau’r cyhoedd fan bellaf erbyn 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol, a’i darparu ar gyfer y Panel hefyd o fewn yr un terfyn amser. Rhaid darparu’r wybodaeth ganlynol:

  1. Swm y cyflog sylfaenol, yr uwch-gyflog, y cyflog dinesig a’r ffi aelod cyfetholedig a dalwyd i bob aelod neu aelod cyfetholedig o’r awdurdod perthnasol a enwir gan gynnwys achosion lle dewisodd yr aelod beidio â chael y cyfan neu ran o’r cyflog, neu’r ffi ar gyfer blwyddyn y Cyngor sydd dan sylw. Lle talwyd uwch-gyflog, dylid darparu teitl yr uwch-swydd a ddelir.
  2. Y taliadau a wnaed gan gynghorau tref a chymuned i aelodau a enwir fel:
    1. Taliadau mewn perthynas â defnyddio’r ffôn, technoleg gwybodaeth, deunyddiau traul ac yn y blaen
    2. Taliadau cyfrifoldeb
    3. Lwfansau a dalwyd i faer neu gadeirydd a dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd
    4. Iawndal am golled ariannol
    5. Costau a ysgwyddwyd mewn perthynas â theithio a chynhaliaeth
    6. Unrhyw daliadau a wnaed ar gyfer bod yn bresennol ar fusnes swyddogol neu ddyletswydd a gymeradwywyd
  3. Yr holl dreuliau teithio a chynhaliaeth a thaliadau eraill a gafodd pob aelod ac aelod cyfetholedig a enwir o’r awdurdod perthnasol, gyda phob categori wedi’i nodi ar wahân.
  4. Swm unrhyw daliadau pellach a gafodd unrhyw aelod a enwir a oedd wedi’i enwebu i, neu’i benodi gan awdurdod perthnasol arall neu gorff cyhoeddus arall yn ôl y diffiniad yn Adran 67 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, sef:
    1. bwrdd iechyd lleol
    2. panel heddlu a throseddu
    3. awdurdod perthnasol
    4. corff a ddynodwyd yn gorff cyhoeddus mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru
  5. Enwau’r aelodau na chawsant y cyflog sylfaenol neu’r uwch-gyflog am eu bod wedi’u hatal dros dro am y cyfan neu ran o’r cyfnod blynyddol y mae’r Rhestr yn berthnasol iddo.
  6. Mewn perthynas â chyhoeddi’r cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol, dim ond y cyfanswm a ad-dalwyd yn ystod y flwyddyn y mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol ei gyhoeddi. Mater i bob awdurdod yw penderfynu ar ei ymateb i unrhyw geisiadau Rhyddid Gwybodaeth y bydd yn eu derbyn. Fodd bynnag, ni fwriedir i fanylion unrhyw hawliadau unigol gael eu datgelu.

Os nad oes unrhyw ffigurau i adrodd arnynt, dylid cyhoeddi hynny a’i ddarparu i’r Panel erbyn 30 Medi.

Cadw. Dylai’r terfyn amser ar gyfer cadw cyhoeddiadau fod yn gyson â pholisi’r cyngor ar gadw dogfennau.

Atodiad 5: Crynodeb o'r penderfyniadau newydd ac wedi'u diweddaru sydd i'w gweld yn yr adroddiad hwn

Mae rhifau'r rhan fwyaf o'r penderfyniadau yn yr adroddiad hwn wedi newid ers yr adroddiadau diwethaf.

Er mwyn helpu awdurdodau, mae'r tabl hwn yn nodi'r penderfyniadau yn yr adroddiad hwn sydd naill ai’n gwbl newydd neu wedi'u diweddaru.

Crynodeb o’r penderfyniadau newydd a diweddaraf yn yr adroddiad hwn

Prif Gynghorau

  • Penderfyniad 1: Bydd y cyflog sylfaenol yn 2022/23 ar gyfer aelodau etholedig o brif gynghorau yn £16,800.
  • Penderfyniad 2: Bydd lefelau uwch-gyflogau yn 2022/23 ar gyfer aelodau o brif gynghorau fel y’u nodir yn Nhabl 4.
  • Penderfyniad 3: Rhaid talu cyflog Band 3 o £25,593 i bennaeth dinesig pan fo'n cael ei dalu, yn unol â thabl 4.
  • Penderfyniad 4: Rhaid talu cyflog Band 5 o £20,540 i ddirprwy bennaeth dinesig pan fo'n cael ei dalu, yn unol â thabl 4.
  • Penderfyniad 5: Rhaid i aelod llywyddol, os penodir un ac os yw'n cael cydnabyddiaeth ariannol, gael £25,593 yn unol â Thabl 4.

Cynorthwywyr i’r Weithrediaeth

  • Penderfyniad 13: Bydd y Panel yn penderfynu fesul achos ar yr uwch-gyflog priodol, os o gwbl, ar gyfer cynorthwywyr y weithrediaeth.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

  • Penderfyniad 23: Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau cyffredin o APC fydd £4,738, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.
  • Penderfyniad 24: Yr uwch-gyflog ar gyfer cadeirydd APC fydd £13,531, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.
  • Penderfyniad 25: Rhaid talu uwch-gyflog APC o £8,478 i ddirprwy gadeirydd os penodir un.
  • Penderfyniad 26: Gellir talu i gadeiryddion pwyllgorau neu uwch-swyddi eraill. Y tâl fydd £8,478

Awdurdodau Tân ac Achub

  • Penderfyniad 30: Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau cyffredin o ATA fydd £2,369, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.
  • Penderfyniad 31: Yr uwch-gyflog ar gyfer cadeirydd ATA fydd £11,162, yn weithredol o 1 Ebrill 2022.
  • Penderfyniad 32: Rhaid talu uwch-gyflog ATA o £6,109 i ddirprwy gadeirydd os penodir un.
  • Penderfyniad 33:Gellir talu i gadeiryddion pwyllgorau neu uwch-swyddi eraill. Y tâl fydd £6,109.

Cyfraniad tuag at Gostau Gofal a Chymorth Personol (CPA)

  • Penderfyniad 43: Mae’n rhaid i’r holl awdurdodau perthnasol ddarparu taliad tuag at gostau angenrheidiol gofalu am blant ac oedolion dibynnol (sy’n cynnwys gofal a ddarperir gan ofalwyr ffurfiol ac anffurfiol) ac am anghenion cymorth personol fel a ganlyn:
  • Rhaid i hyn fod ar gyfer y costau ychwanegol y mae aelodau’n eu talu i’w galluogi i wneud eu busnes swyddogol neu ddyletswyddau a gymeradwywyd. Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir yn cysylltu’n briodol â busnes swyddogol neu ddyletswydd a gymeradwywyd. Gwneir y taliad ar ôl i’r darparwr gofal ddarparu derbynebau.

Cynghorau Tref a Chymuned

  • Penderfyniad 44: Rhaid i gynghorau cymuned a thref sicrhau bod taliad o £150 y flwyddyn ar gael i bob un o’u haelodau fel cyfraniad tuag at gostau a threuliau.
  • Penderfyniad 45: Mae’r taliad ar gyfer aelodau sy’n ymgymryd ag uwch-swyddogaeth yn swm blynyddol o £500 fel y nodwyd yn Nhabl 11.
  • Penderfyniad 48: Gall cynghorau cymuned a thref dalu iawndal am golledion ariannol i bob un o’u haelodau, os yw hynny’n berthnasol, am wneud dyletswyddau a gymeradwywyd fel a ganlyn:
  • Hyd at £57.20 am bob cyfnod nad yw’n hirach na 4 awr
  • Hyd at £114.40 am bob cyfnod sy’n hirach na 4 awr ond heb fod yn fwy na 24 awr
  • Penderfyniad 49: Gall pob cyngor benderfynu cyflwyno lwfans presenoldeb i’r aelodau. Ni chaiff unrhyw daliad fod yn fwy na £30. Ni fydd gan aelod sydd mewn colled ariannol hawl i gael lwfans presenoldeb ar gyfer yr un digwyddiad.
  • Penderfyniad 52:Manylion y Fframwaith Cydnabyddiaeth Tâl yn ôl Grŵp.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Ystafell N.03
Llawr Cyntaf
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 0300 0253038

E-bost irpmailbox@llyw.cymru

Mae'r Adroddiad a gwybodaeth arall ynglŷn â gwaith y Panel ar gael ar ein gwefan: Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.