Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mwy o amrywiaeth ar draws pob agwedd ar fywyd cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag cymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol. 

Roeddwn wedi ei gwneud yn glir y byddai’r gwerthusiad o’r gwaith a gyflawnwyd yng ngham un ein Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn cael ei ddefnyddio fel sail i’n cynlluniau ar gyfer cam dau’r rhaglen honno, er mwyn adeiladu ar ei llwyddiannau a datblygu cyfleoedd newydd i helpu unigolion sy’n awyddus i gefnogi eu cymunedau. Roeddwn i hefyd yn glir na ddylid edrych ar y gwerthusiad fel rhywbeth unigol. Cyhoeddwyd llawer o adroddiadau sy’n nodi rhwystrau i gyfranogi, ac sy’n cyfeirio at gyfleoedd i oresgyn neu leihau’r rhwystrau hynny.

Yn hydref 2019, sefydlais Grŵp Cynghori’r Gweinidog, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, i weithio mewn partneriaeth i ystyried y dystiolaeth a ddarperir gan y Gwerthusiad o gam un y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Ochr yn ochr â hynny, bu’r grŵp yn ystyried dau adroddiad arall, sef adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol ac adroddiad y Bwrdd Taliadau ar Ddadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd nifer o weithdai ledled Cymru i drafod amryw o bynciau a oedd yn ymwneud â bod yn gynghorydd, gan gynnwys cyfathrebu ac ymwybyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad, taliadau cydnabyddiaeth, gweithio mewn modd diogel a hyblyg, a chymorth a dargedir. Y gwerthusiad o’r adroddiadau, ynghyd â’r adborth o’r gweithdai, sydd wedi darparu’r sail ar gyfer cam dau ein Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

Er gwaethaf yr oedi a achoswyd gan yr angen i flaenoriaethu wrth ymateb i’r pandemig COVID-19, mae’n dda gennyf allu cadarnhau’r gwaith y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef fel rhan o gam nesaf y rhaglen hon. 

Mae’n bwysig cydnabod nad cychwyn ar ein taith yr ydym, ond yn hytrach yn ei pharhau â’r gwaith hwn. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd o ran cyflawni ein hymrwymiad i gefnogi mwy o amrywiaeth, yn benodol:

  • Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno absenoldeb teuluol ar gyfer cynghorwyr yn y prif awdurdodau, er mwyn galluogi unigolion i gydbwyso’r rolau pwysig y maent yn eu chwarae mewn cymdeithas â’u cyfrifoldebau fel rhieni.
  • Hefyd, ni oedd y wlad gyntaf i gyflwyno arolwg ar gyfer ymgeiswyr ac aelodau etholedig mewn etholiadau llywodraeth leol, er mwyn casglu data pwysig am amrywiaeth yr ymgeiswyr a’r cynghorwyr hynny. Mae’r arolwg hwn wedi cael ei gynnal ddwywaith hyd yn hyn, ac rydym yn  parhau i chwilio am ffyrdd o’i wella.

Ni fyddai wedi bod yn bosibl cymryd unrhyw un o’r camau hyn heb gydweithrediad a chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Un Llais Cymru, cynghorau, a chynghorwyr, a’r trydydd sector, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch iddynt am eu cyfraniad a’u cymorth parhaus.

Yn yr ysbryd hwn yr ydym yn cychwyn ar ran nesaf ein taith. 

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed tuag at sefydlu cronfa i gefnogi pobl anabl sy’n awyddus i fod yn ymgeiswyr ar gyfer swyddi etholedig, er mwyn sicrhau nad fydd y costau y maent yn gorfod eu talu o ganlyniad i’w gofynion mynediad neu gyfathrebu yn cyfrif tuag at derfyn eu costau ffurfiol. Mae hynny wedi golygu y bu’n rhaid gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth, ac rydym yn disgwyl i’r newidiadau hynny gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, gan ei wneud yn bosib rhoi’r gronfa ar waith.

Heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn ymgynghori ar fanylion y trefniadau hyn maes o law. Bydd y gronfa yn cael ei sefydlu fel cynllun peilot ar y cyd i gefnogi ymgeiswyr anabl sy’n awyddus i gael eu hethol yn etholiadau llywodraeth leol 2022 ac etholiadau’r Senedd 2021. Rwyf wedi gofyn i Anabledd Cymru weithio gyda ni i ddatblygu manylion y trefniadau ac i symud y prosesau cymorth, asesu, a dyrannu yn eu blaen fel rhan o’r trefniadau peilot. Cynhelir gwerthusiad o’r trefniadau er mwyn inni allu eu gwella yn y dyfodol. Caiff deddfwriaeth ei chyflwyno yn hwyrach yn ystod y flwyddyn i eithrio’r costau hyn o gostau’r ymgeiswyr ar gyfer y ddwy set o etholiadau. 

Roedd yr adborth o’r gweithdai a gynhaliwyd ar draws Cymru wedi bod yn glir ei neges nad yw cynghorwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi na’u parchu. Nid ydynt yn credu bod unigolion yn deall rôl y cynghorydd a’r cyfraniad pwysig y mae’n ei wneud ar ran y gymuned. Roedd y cyfranogwyr hefyd yn teimlo bod disgwyl afrealistig ar gynghorwyr i fod ar gael bob awr o’r dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae’r adborth hwn yn adlewyrchu’r sgyrsiau rwyf wedi eu cael gydag unigolion ledled Cymru, ac yn ystod y cam nesaf byddaf yn comisiynu gwaith i ymchwilio’n fanylach i’r materion hyn.

Hefyd, mae’r camau yn yr atodiad cysylltiedig yn cynnwys meysydd yr ydym am roi sylw iddynt drwy Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd ar ei daith drwy’r Senedd ar hyn o bryd:

  • y cyfle i rannu swydd wrth gyflawni rhai swyddi yn y prif gynghorau (gan gynnwys swyddi aelod gweithredol ac arweinydd gweithredol)
  • dyletswydd ar y prif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriad post a chyfeiriad electronig ar gyfer gohebiaeth pob aelod o’r cyngor
  • dyletswydd ar y prif gynghorau i gynhyrchu Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, a’i hadolygu’n rheolaidd
  • dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ymysg aelodau eu grŵp
  • darlledu rhai cyfarfodydd yn electronig
  • ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer presenoldeb o bell mewn cyfarfodydd awdurdodau lleol
  • sicrhau darpariaethau sy’n nodi’r cyfnod hiraf posib o absenoldeb ar gyfer pob math o absenoldeb teuluol, ar gyfer aelodau awdurdodau lleol, a’r cyfnod i gael ei bennu o fewn rheoliadau er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyfredol.

Byddwn hefyd yn: 

  • Cynyddu’r cyfleoedd hyfforddiant a datblygu sydd ar gael i gynghorwyr
  • Sicrhau bod cymaint o gydbwysedd â phosibl rhwng bywyd a gwaith drwy gynyddu’r defnydd o bresenoldeb o bell
  • Ymchwilio i’r defnydd o gwotâu rhywedd
  • Sicrhau bod cynghorwyr, a’u teuluoedd, yn ddiogel wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau

Cafodd y rhaglen hon ei datblygu ar y cyd â’r teulu llywodraeth leol ehangach. Bydd CLlC ac Un Llais Cymru yn cydweithio i adolygu eu protocolau ar barch a chymorth i gynghorwyr ledled Cymru. Maent yn cynnal adolygiad o’u rhaglenni hyfforddi presennol yng ngoleuni’r adborth o’r gweithdai a oedd yn trafod meysydd ychwanegol megis gweithio ar eich pen eich hun. Maent hefyd yn ystyried sicrhau bod y cyfleoedd gorau posibl ar gael i ddysgu ar y cyd a chryfhau’r cysylltiadau rhwng gwahanol haenau llywodraeth leol. 

Mae CLlLC hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner ar draws y DU ar yr ymgyrch Moesgarwch mewn Bywyd Cyhoeddus, a bydd Un Llais Cymru yn diweddaru ei ganllawiau ar ‘fod yn gynghorydd lleol’ i’w defnyddio yn yr etholiadau nesaf.

Mae sefydliadau yn y trydydd sector wrthi’n datblygu cynllun monitro ar gyfer Cymru gyfan, sydd â’r nod o ddarparu cyngor, arweiniad, a chymorth i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i’w helpu i gymryd rhan weithredol ym maes gwasanaeth cyhoeddus. 

Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gymryd y camau pwysig hyn i wella’r cyfleoedd sydd ar gael i unigolion gymryd rhan mewn democratiaeth leol; codi proffil cynghorwyr ar draws Cymru; a harneisio’r ysbryd sy’n bodoli o fewn ein cymunedau, a ddaeth mor amlwg yn y frwydr yn erbyn COVID-19 yn ddiweddar.

Is-grŵp o’r Grŵp Llywio ar gyfer Adnewyddu Democratiaeth fydd yn goruchwylio’r rhaglen hon.

Atodiad

Amrywiaeth mewn Democratiaeth – Cam 2 – Cynllun Gweithredu

Amcan

Camau Gweithredu

Amserlen

Cynyddu dealltwriaeth o wahanol haenau o lywodraeth yng Nghymru, y rôl y mae pob un yn ei chwarae mewn cymdeithas a sut y maent yn gweithredu

 

Cynnal ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr gyda negeseuon cyffredinol, sydd wedi'u targedu

Ionawr 2021 ymlaen

Datblygu cyfres o adnoddau addysgol i gyd-fynd ag ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru

Hydref 2020

Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau cynrychioliadol i sicrhau bod dinasyddion tramor cymwys yn ymwybodol o'u hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd

Parhaus

Cynyddu ymgysylltiad â'r cyhoedd er mwyn:

  • codi ymwybyddiaeth o rôl a gweithgareddau'r Cyngor i roi eglurder ynghylch sut y gall y cyhoedd lywio penderfyniadau lleol yn well
  • adeiladu mwy o gydlyniant cymunedol drwy fwy o bresenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol
  • creu rhwydweithiau cymunedol a’u meithrin

Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i osod dyletswydd ar brif gynghorau i lunio Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'i hadolygu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pob etholiad llywodraeth leol arferol

Chwefror 2021

Gweithio gyda phrif gynghorau i lunio canllawiau a fydd yn cyd-fynd â’r ddarpariaeth yn y Bil sy'n nodi'r hyn sy'n ofynnol fel rhan o Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd

Parhaus drwy gydol 2020/2021

Gweithio gyda phrif gynghorau i gyhoeddi eu cyfansoddiad a’u canllaw i’r cyfansoddiad er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd

Ionawr 2022

Cynyddu ymwybyddiaeth o rôl cynghorwyr, y cyfraniad a wnânt i gymdeithas a sut i ddod yn gynghorydd

Cynhyrchu cyfres o ffilmiau byr ar y cyd â rhanddeiliaid sy'n tynnu sylw at rôl cynghorwyr prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned a fydd yn cynnwys:

  • y manteision o safbwynt cynghorwyr ac o safbwynt gymunedol
  • y math o waith a wneir; y taliad cydnabyddiaeth a dderbynnir
  • yr hyfforddiant a ddarperir i ymgymryd â'r rôl

Ionawr 2021

Gweithio gyda CLlLC i godi ymwybyddiaeth ymhlith sefydliadau'r sector cyhoeddus o’r manteision i weithwyr ymgymryd â dyletswyddau dinesig ac ystyried a oes camau pellach y gellid eu cymryd i annog cyfranogiad ehangach

Mawrth 2022

Cynyddu hyder cynghorwyr eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, bod y disgwyliadau a roddir arnynt yn deg a bod lefelau eu taliadau cydnabyddiaeth yn adlewyrchu’r gwaith a wneir yn briodol

 

Adolygu rôl a thaliadau chydnabyddiaeth cynghorwyr. Yn benodol, bydd yr adolygiad yn edrych ar:

  • y ddealltwriaeth o rôl y cynghorydd o safbwynt y cynghorydd a'r etholwr
  • barn y gymuned am eu cynrychiolwyr etholedig
  • dealltwriaeth realistig o'r amser a weithir gan gynghorwyr yng Nghymru i gefnogi cymunedau ar lefelau prif gynghorau a chynghorau cymuned
  • sut mae gwledydd eraill yn cydnabod ac yn adlewyrchu agwedd 'wirfoddol' y rôl, os o gwbl
  • ystyried y rheolau presennol ar gydnabyddiaeth ariannol a’r opsiynau ar gyfer sut y dylid cyfrifo taliadau cydnabyddiaeth yn y dyfodol
  • a ddylid rhoi taliadau cydnabyddiaeth i gynghorwyr sy'n colli eu seddi mewn etholiad
  • beth yw’r berthynas rhwng y taliadau cydnabyddiaeth a'r system dreth

Mehefin 2021

Mwy o barch a chefnogaeth i'r rhai sy'n sefyll mewn etholiad yng Nghymru a’r rheini sy’n cael hethol

 

Gweithio gyda CLlLC ac Un Llais Cymru ar gyfres o brotocolau i sicrhau bod prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned yn dangos parch at eu haelodau etholedig ac yn eu cefnogi

Mawrth 2022

Helpu i hyrwyddo'r ddogfen ganllaw ar y berthynas weithio rhwng cynghorwyr cymuned a thref a cynghorwyr sir lleol.

Mawrth 2022

Rhoi dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hybu safonau ymddygiad uchel

Ionawr 2021

Parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu a sicrhau bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn delio ag achosion o gam-drin ar-lein

Chwefror 2021

Rhaglen hyfforddiant ac ymwybyddiaeth gynhwysfawr ar gael drwy amrywiaeth o lwybrau sydd ar gael i gynghorwyr i’w cefnogi yn eu rôl fel cynghorwyr

Adolygiad wedi'i gwblhau o'r hyfforddiant a'r datblygiad sydd ar gael i gynghorwyr ar lefel prif gynghorau a chynghorau cymuned gan nodi:

  • meysydd eraill lle mae angen deunyddiau hyfforddi / datblygu
  • meysydd hyfforddi a datblygu y gellir eu darparu ar-lein heb effeithio'n andwyol ar ganlyniad dysgu unigolion
  • meysydd lle gellir manteisio i'r eithaf ar ddeunyddiau ar draws dwy haen llywodraeth leol – ee meysydd craidd fel iechyd a diogelwch, gweithio unigol, cydnerthedd etc
  • set graidd o ddeunyddiau hyfforddi y gellir eu defnyddio ar gyfer pob cynghorydd yng Nghymru gan gynnwys hyfforddiant TG
  • CLlLC ac Un Llais Cymru i gydweithio i rannu gwybodaeth sydd eisoes ar gael ar gyrsiau hyfforddi
  • cyfleoedd i rannu cynnwys generig ar draws gwahanol sectorau a gwahanol lwyfannau

Mai 2021

Sicrhau bod cynghorwyr yn ymgymryd â hyfforddiant iechyd a diogelwch, hyfforddiant gweithio unigol ac unrhyw beth arall a gynigir i sicrhau eu diogelwch yn ystod etholiadau a phan gânt eu hethol

Mai 2021

Nodi ffyrdd o roi cymorth ehangach i gynghorwyr a darpar gynghorwyr i lywio eu penderfyniad i sefyll mewn etholiad

Defnyddio’r gwersi a ddysgwyd o gynlluniau mentora a gynhaliwyd yn y gorffennol i ystyried yr opsiynau ar gyfer datblygu rhaglen gymorth a mentora i annog grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gyfranogi mewn bywyd cyhoeddus.

Mawrth 2021

Gweithio gyda CLlLC ac Un Llais Cymru i ddatblygu llwybr ar gyfer cyfranogi gan gydnabod gwahanol gamau yn ystod gyrfa cynghorydd a'r gofynion o ran ymwybyddiaeth / sgiliau ar bob lefel – i gynnwys mentora a chysgodi swyddi

Mawrth 2021

Ymchwilio i’r hyn sy’n bosibl o ran cyflwyno hyfforddiant sgiliau i bobl sydd am ddysgu mwy am yr hyn y mae bod yn gynghorydd yn ei olygu a hefyd y strwythur a allai ddarparu'r hyfforddiant

Mehefin 2021

Datblygu ac ehangu'r rhaglen arweinyddiaeth bresennol i’r holl aelodau cyngor yng Nghymru

Mawrth 2021

Gwneud deddfwriaeth i eithrio treuliau sy’n gysylltiedig ag anabledd rhag cael eu cyfrif tuag at derfyn y treuliau y gall ymgeiswyr eu gwario wrth ymgymryd â’u hymgyrch etholiadol

Ionawr 2021

Cyflwyno cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i helpu gyda threuliau a ysgwyddir oherwydd anabledd wrth sefyll mewn etholiad

Ionawr 2021

Ymchwilio a oes achos dros eithrio dosbarthiadau gwariant eraill o derfynau costau ymgeiswyr

Gorffennaf 2021

Ymchwilio a ddylai’r gronfa mynediad i swyddi etholedig fod ar gael i grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol

Gorffennaf 2021

Ymchwilio pa gymorth y gellir ei gynnig i aelodau annibynnol

Gorffennaf 2021

Gwella diogelwch cynghorwyr a'u teuluoedd wrth iddynt ymgymryd â'u dyletswyddau cyngor

Dileu'r gofyniad i gyfeiriadau personol gael eu defnyddio ar bapurau pleidleisio

Ionawr 2021

Rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriadau swyddogol ar wefannau cynghorau ac ar y gofrestr buddiannau yn hytrach na chyfeiriadau personol ar gyfer cynghorwyr

Ionawr 2021

Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i unigolion weithio mewn ffyrdd sy'n eu galluogi i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy'n diogelu eu lles a'u llesiant, ac sy'n caniatáu iddynt reoli unrhyw berthynas ofalu neu ag unigolion sy’n ddibynnol arnynt

Darparu ar gyfer rhannu swyddi gan arweinwyr gweithredol a deiliaid swyddi eraill yn y prif gynghorau

Ionawr 2021

Adolygu'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol o bell yng ngoleuni’r profiad a gafwyd o gyfarfodydd rhithwir yn ystod y pandemig COVID-19

Ionawr 2021

Ymchwilio i’r posibilrwydd i unigolion sefyll mewn etholiad fel rhan o bartneriaeth rhannu swyddi - y rhwystrau a'r cyfleoedd

Rhagfyr 2021

Gwneud rheoliadau diwygio mewn perthynas ag absenoldebau teuluol i ymestyn y cyfnod absenoldeb sydd ar gael i gynghorwyr ar gyfer absenoldeb mabwysiadu

Mawrth 2021

Adolygu'r trefniadau ar gyfer absenoldebau teuluol i gynghorwyr i ganfod a oes camau pellach y gellid eu cymryd

Mawrth 2021

Sicrhau bod awdurdodau lleol ac arweinwyr yn ymwybodol o'u dyletswydd i roi sylw i ganllawiau o dan adran 38 o Ddeddf 2000

Mawrth 2021

Cynyddu cyfleoedd i fenywod chwarae rhan lawn wrth gefnogi a chynrychioli eu cymunedau

Ymgynghori ar y defnydd o gwotâu rhyw ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru

Mai 2021

Ysgrifennu i Lywodraeth y DU ynghylch ymestyn y cymal machlud yn adran 104(7) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chychwyn adran 106 o'r un Ddeddf

Wedi’i gwblhau

Asesu effeithiolrwydd y darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â chasglu data, ac mewn perthynas â data ymgeiswyr eraill y gellid eu casglu o fewn y fframwaith datganoli presennol er mwyn i bleidiau gwleidyddol gefnogi ymgeiswyr amrywiol mewn etholiadau

Swyddogion i edrych ar y gwersi a ddysgwyd o arolygon blaenorol ac adolygu a diwygio arolygon sydd i ddod i ddarparu'r dystiolaeth orau

Ionawr 2022