Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 yn ymwneud â phlant 14 oed. Dechreuodd cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno mewn ysgolion a lleoliadau ym mis Medi 2022. O ganlyniad, nid yw canlyniadau asesiadau athrawon y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 yn cael eu casglu mwyach a dyma gyhoeddiad olaf canlyniadau Cyfnod Allweddol 3.

Mae’r holl ddata yn yr adroddiad hwn yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru oddi wrth ysgolion mewn datganiad electronig o’r enw Casgliad Data Cenedlaethol (NDC). Ni chasglwyd y data yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Canlyniadau ar gyfer pob disgybl

Mae’r Dangosydd Pwnc Craidd (DPC) yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cynrychioli canran y disgyblion sy’n cyflawni’r lefel ddisgwyliedig (lefel 5 neu uwch), yn seiliedig ar asesiadau athrawon, mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg a Gwyddoniaeth gyda’i gilydd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3.

Ffigur 1: Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, 1999 i 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: siart llinell sy'n dangos fod canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi cynyddu ym mhob blwyddyn rhwng 2007 a 2018 ond mae wedi gostwng ers hynny.

Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3 (StatsCymru)

  • Cyflawnodd 75.6% o ddisgyblion y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2024, i lawr o 77.0% yn 2023 ac 86.2% yn 2019.
  • Gallai'r cwymp rhwng 2019 a 2022 fod yn rhannol oherwydd yr aflonyddwch i ysgolion a achoswyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Ffigur 2: Canran y disgyblion a gyflawnodd lefelau Cyfnod Allweddol 3, yn ôl pwnc, 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar wedi'i stacio sy'n dangos bod mwy na 80% o ddisgyblion wedi cyflawni o leiaf y lefel ddisgwyliedig o Lefel 5 neu uwch ym mhob pwnc craidd yn 2024. Cyflawnodd mwy na hanner y disgyblion Lefel 6 neu uwch ym mhob pwnc.    

Canran y disgyblion a gyflawnodd lefelau Cyfnod Allweddol 3 yn y pynciau craidd (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae D (datgymhwyso) yn cynrychioli disgyblion sydd wedi’u datgymhwyso o dan adrannau 113 - 116 o Ddeddf Addysg 2002, neu ddisgyblion na allai athrawon ddarparu asesiad ar eu cyfer. Mae N yn cynrychioli disgyblion na ddyfarnwyd lefel iddynt am resymau heblaw datgymhwyso.

Canlyniadau ar gyfer gwrywod a benywod

Ffigur 3: Canran y gwrywod a benywod a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, 1999 i 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart llinell sy'n dangos bod canran y menywod sy'n cyflawni'r dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi bod yn uwch na gwrywod ym mhob blwyddyn ers 1999, ond mae'r bwlch yn llai ers 2015 nag mewn blynyddoedd blaenorol.

Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, yn ôl rhyw (StatsCymru)

Cyflawnodd 78.1% o fenywod a 73.1% o wrywod y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2024, bwlch o 5.0 pwynt canran. Dyma'r bwlch lleiaf ers dechrau casglu data yn 1999.

Tabl 1: Canran y gwrywod a benywod a gyflawnodd y lefel disgwyliedig yn y pynciau craidd Cyfnod Allweddol 3, 2024
PwncBenywGwryw
Saesneg87.880.3
Cymraeg88.780.5
Mathemateg83.783.2
Gwyddoniaeth86.683.7
Dangosydd Pynciau Craidd78.173.1
Darllen, Ysgrifennu a Mathemateg79.172.5
Darllen, Ysgrifennu, Mathemateg
a Gwyddoniaeth
76.970.1

Mae'r tabl yn dangos bod canran uwch o fenywod na gwrywod wedi cyflawni'r lefel ddisgwyliedig yng Nghyfnod Allweddol 3 ym mhob pwnc craidd yn 2024.

  • Roedd y bwlch rhwng benywod a gwrywod yn y ganran a gyflawnodd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn fwyaf yn y Gymraeg (8.2 pwynt canran) a'r lleiaf mewn Mathemateg (0.5 pwynt canran).
  • Y bwlch rhwng benywod a gwrywod yng nghanran y disgyblion a gyflawnodd o leiaf y lefel ddisgwyliedig mewn Darllen ac Ysgrifennu (Cymraeg neu Saesneg) a Mathemateg ac mewn Darllen ac Ysgrifennu (Cymraeg neu Saesneg), Mathemateg a Gwyddoniaeth oedd 6.6 a 6.8 pwynt canran yn y drefn honno yn 2024.

Canlyniadau yn ôl hawl i gael prydau ysgol am ddim (PYD)

Ar gyfer disgyblion yr oedran hwn, maent yn gymwys i gael PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth. Mae'n bosibl bod nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael PYD drwy'r meini prawf modd wedi cael eu gor-gofnodi yn 2020 i 2022, a allai gael effaith fach ar gymariaethau rhwng 2022 a blynyddoedd eraill. Nid yw'n bosibl adolygu'r data hwn ar gyfer 2022. Gweler ein diweddariad y Prif Ystadegydd ar hyn.

Ffigur 4: Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, yn ôl hawl i PYD, 2005 i 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell yn dangos bod y bwlch yng nghanran y disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD a disgyblion a oedd yn gymwys i gael PYD ddim a gyflawnodd y dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 ar ei isaf rhwng 2016 a 2019 ac mae wedi ehangu ers pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, yn ôl hawl i PYD (StatsCymru)

Cyflawnodd 81.5% o ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD a 54.0% o ddisgyblion sy’n gymwys i gael PYD y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2024, bwlch o 27.5 pwynt canran.

Mae hyn yn fwy na’r bwlch o gwmpas 20 pwynt canran a welwyd yn y pedair blynedd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Gostyngodd y bwlch pob blwyddyn rhwng 2008 a 2018.

Tabl 2: Canran y disgyblion a gyflawnodd lefelau Cyfnod Allweddol 3 yn y pynciau craidd, yn ôl hawl i PYD, 2024
PwncDim yn gymwys i PYDGymwys i PYD
Saesneg88.368.6
Cymraeg87.165.3
Mathemateg88.066.5
Gwyddoniaeth89.569.3
Dangosydd Pynciau Craidd81.554.0

Mae'r tabl yn dangos bod y bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD a disgyblion sy'n gymwys i gael PYD yn y ganran a gyflawnodd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn fwyaf yn y Gymraeg (21.8 pwynt canran) a'r lleiaf yn Saesneg (19.7 pwynt canran).

Gwybodaeth pellach

Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 yn y pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 ar gael ar StatsCymru. Yn gyffredinol:

  • roedd canlyniadau disgyblion o gefndir ethnig Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig yn uwch na disgyblion o gefndiroedd ethnig eraill
  • cafodd disgyblion a oedd yn astudio Saesneg fel Iaith Ychwanegol ganlyniadau uwch lle cawsant eu cofnodi fel ‘cymwys’ neu ‘rhugl’
  • cafodd disgyblion â lefelau is o anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig ganlyniadau uwch
  • cafodd disgyblion a enid yn gynharach yn y flwyddyn academaidd ganlyniadau uwch na disgyblion a enid yn ddiweddarach yn y flwyddyn
  • cafodd disgyblion â chyfraddau presenoldeb uwch ganlyniadau uwch

Mae hyn yn gyson â dadansoddiad o flynyddoedd blaenorol.

Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer pynciau di-graidd hefyd i'w gweld ar StatsCymru. Y pynciau di-graidd yw Celf a dylunio, Dylunio a thechnoleg, Daearyddiaeth, Hanes, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Ieithoedd Tramor Modern, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol a Chymraeg ail iaith.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2010. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Hygrededd

Mae’r data yn y datganiad hwn yn ymwneud ag ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru sy’n cynnwys disgyblion â chanlyniadau diwedd Cyfnod Allweddol 3. Ni chesglir data o ysgolion arbennig. Daw'r data o ffurflen electronig o'r enw Casgliad Data Cenedlaethol (NDC). Caiff y datganiadau eu hawdurdodi gan benaethiaid a'u dilysu gan awdurdodau lleol.

Yn dilyn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Addysg yng Ngorffennaf 2018, ac ymgynghoriad a orffennodd yn Ionawr 2018, ni fyddwn bellach yn cyhoeddi data'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod na chonsortia. Mae hwn yn gam sylweddol i ffwrdd o gasglu gwybodaeth am berfformiad pobl ifanc fesul ysgol at ddibenion atebolrwydd.

Gostyngodd canran y disgyblion sy’n cyflawni o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn 2019 ym mhob pwnc craidd/maes dysgu ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen ac ar gyfer y ddau Gyfnod Allweddol. Gallai hyn fod yn adlewyrchiad o’r newidiadau hyn, lle mae prif ddiben asesiadau athrawon wedi dechrau symud yn ôl at ddysgwyr unigol ac i ffwrdd o ddwyn ysgolion i gyfrif.

Cynhelir y gwaith casglu a dilysu data rhwng Mai a Mehefin. Cyhoeddir y data fel arfer ym mis Awst.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd hygyrch, trefnus, a datgan ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi.

Mae'r allbwn hwn yn cadw at y Cod Ymarfer trwy ddatgan ymlaen llaw y dyddiad cyhoeddi trwy'r tudalennau gwe calendr sydd i ddod.

Ansawdd

Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu casglu gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a defnyddio dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u set sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegol y DU) (Saesneg yn unig) ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol.

Mae NDC yn gasgliad electronig o ddata lefel disgybl. Mae ysgolion yn cofnodi data ar eu disgyblion a’u hysgol trwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Gwybodaeth Rheoli (MIS). Mae’r data yn cael ei chyfuno i ffeil electronig CYBLD a’i gyrru i Gynulliad Cymru trwy DEWI, system rhannu data diogel ar y we, a ddatblygwyd gan Gynulliad Cymru. Mae DEWi yn dilysu’r data mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel ar gyfer creu polisi a chyllido.

Mae rhagor o wybodaeth am lefelau Cyfnod Allweddol 3 i'w gweld yn y Nodiadau cwblhau technegol Casgliad Data Cenedlaethol a chanllawiau cwricwlwm 2008.

Roedd DEWi ar gael i lanlwytho ffeiliau ar 14 Mai 2024. Gofynnwyd i ysgolion gyflwyno data ar gyfer pob disgybl ar gofrestr yr ysgol ar 14 Mai yn barod ar gyfer Profion Darllen Cenedlaethol perthnasol y Cyfnod Sylfaen/Cyfnodau Allweddol. Yna, gofynnwyd i ysgolion ac Awdurdodau Lleol ddilysu eu data o fewn y cyfnod dilysu, a ddaeth i ben ar 28 Mehefin 2024.

Gwerth

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cefndir cyffredinol ac ymchwil
  • i'w cynnwys mewn adroddiadau a bwletinau
  • cyngor i Weinidogion
  • cynnig gwybodaeth sy'n sail i'r broses o wneud penderfyniadau ym maes polisi addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • i ategu gwaith ymchwil ym maes cyrhaeddiad addysgol

Mae tablau manylach ar gael ar StatsCymru, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data. 

Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr. At hynny, cyhoeddir ein holl allbynnau ystadegau ysgolion yn Gymraeg a Saesneg.

Cyfatebolrwydd

Nid yw data ar gyfer Cymeu yn gyfatebol i ddata o wledydd eraill y DU.

Ystadegau addysg Lloegr (Adran Addysg) (Saesneg yn unig)

Ystadegau addysg yr Alban (Llywodraeth yr Alban) (Saesneg yn unig)

Ystadegau Addysg Gogledd iwerddon (Adran Addysg) (Saesneg yn unig)

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Steve Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 76/2024

Image