Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Ionawr 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 322 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am sylwadau ar y newidiadau arfaethedig i'r defnydd a wneir o ddata asesiadau athrawon.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
O 2018/19 ymlaen bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r gorau i gyhoeddi data asesiadau athrawon a Phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol islaw’r lefel genedlaethol fel mater o drefn. Ni fydd y data hyn felly yn cael eu cynnwys yn Adroddiadau Cymharol Ysgolion a Setiau Data Craidd Cymru.
Rydym yn ymgynghori ynghylch rheoliadau a fydd yn diddymu gofynion sydd wedi’u gosod ar sefydliadau i ddefnyddio data asesiadau athrawon a phrofion.