Neidio i'r prif gynnwy

Gwiriwch i weld os gall eich plentyn dderbyn prydau ysgol am ddim.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i blant cymwys sy’n mynychu ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae’r cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd ar draws Cymru, gan ddechrau gyda’r dysgwyr ieuengaf yn ein hysgolion cynradd.

Pwy sy'n gymwys

Mae'n bosibl y gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim os ydych yn cael unrhyw un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith hefyd ac nad yw eich incwm blynyddol yn fwy nag £16,190 cyn treth)
  • Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
  • Credyd Cynhwysol – rhaid i enillion eich aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys incwm o fudd-daliadau.

Mae’r awdurdod lleol lle mae’r dysgwr yn mynd i’r ysgol (nid lle mae’n byw) yn gyfrifol am y canlynol:

  • darparu pryd ysgol am ddim
  • asesu cymhwysedd

Mae deddfwriaeth prydau ysgol am ddim yn galluogi rhieni maeth i hawlio prydau ysgol am ddim. Cyn belled â bod rhiant yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim, gall y plentyn eu cael. Mae'n bosibl y gall fod gan blentyn bedwar rhiant; dau riant maeth a dau riant naturiol.

Amddiffyniad wrth bontio

Ar 1 Ebrill 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reolau newydd ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim. Oherwydd hyn, gallai nifer gymharol fach o blant a phobl ifanc fod wedi colli eu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Cyflwynwyd 'amddiffyniad wrth bontio' er mwyn sicrhau bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn parhau i gael prydau ysgol am ddim am gyfnod cyfyngedig o amser.

Gwneud cais