Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn ein datganiad ym mis Ionawr, fe wnaethom ddechrau cyhoeddi data chwarterol ar gyfer ardaloedd lleol am y tro cyntaf. O’r blaen, dim ond yn flynyddol yr oeddem wedi cyhoeddi data ardal leol a hynny yn ein datganiad blynyddol. Ym mis Ionawr, gwnaethom ofyn am farn ynglŷn ag a oes angen i ni gyhoeddi ein datganiad ystadegol blynyddol yn y dyfodol. Ar ôl ystyried yr adborth, rydym yn bwriadu rhoi’r gorau i gyhoeddi datganiad ystadegol blynyddol gan fod rhywfaint o ddadansoddi bellach yn cael ei gofnodi mewn modd mwy amserol yn ein datganiadau chwarterol. Yn yr hydref, rydym yn bwriadu i ystyried sut i ddiweddaru ein herthygl sy’n egluro sut i ddefnyddio data ar gyfer ardaloedd lleol. Os oes gennych unrhyw farn ar y newidiadau hyn, cysylltwch â ni yn data@acc.llyw.cymru.

Mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn dadansoddi’r prif dueddiadau mewn trafodiadau a threth sy’n ddyledus ar gyfer Treth Trafodiadau Tir. Mae'r daenlen atodol a'n tablau StatsCymru yn cynnwys data manylach.

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn rhoi gwybodaeth gymharol amserol am weithgarwch yn y farchnad eiddo yng Nghymru. Defnyddir yr ystadegau hefyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i ragweld refeniw Treth Trafodiadau Tir.

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007

Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol, gan gynnwys ein dull o ddiwygio. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Wrth gymharu ystadegau Treth Trafodiadau Tir dros amser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir sy’n effeithio ar swm y dreth sy’n ddyledus:

Newidiadau i drothwy cyfradd sero o 27 Gorffennaf 2020 i 31 Mawrth 2021

Ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth o 31 Mawrth 2021 i 30 Mehefin 2021

Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir o 27 Rhagfyr 2022

Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir o 10 Hydref 2022

Nôl i dop y dudalen

Prif bwyntiau

Trafodiadau preswyl

  • Yn Ebrill i Fehefin 2024, roedd trafodiadau preswyl i fyny 7% o'r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i fyny 9%.
  • Yn Ebrill a Mai 2024, mae nifer y trafodiadau a swm y dreth sy'n ddyledus wedi bod yn uwch na'r un mis flwyddyn ynghynt. Ar gyfer Mehefin 2024, roedd trafodiadau’n is na blwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus yn uwch na blwyddyn ynghynt.
  • Yn gyffredinol, mae canran y trafodiadau yn y bandiau eiddo uwch wedi bod yn cynyddu yn y pum mlynedd diwethaf, er ei fod wedi bod yn fwy sefydlog yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae’r duedd wedi bod yn debyg ar gyfer cyfraniad y trafodiadau hyn i gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.

Trafodiadau amrheswyl

  • Yn Ebrill i Fehefin 2024, roedd trafodiadau amhreswyl i lawr 2% o’r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i fyny 103%.
  • O Ebrill 2023 ymlaen, roedd y dreth fisol a oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn is na’r cyfartaledd misol (£6.9 miliwn) bob mis ac eithrio mis Mawrth, Ebrill a Mehefin 2024.
  • Yn Ebrill i Fehefin 2024, cyfrannwyd 81% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus gan drafodiadau lle'r oedd pryniant o dros £1 miliwn, er fod hyn yn cynrychioli dim ond 8% o’r trafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hwn. 

Dadansoddiad o fewn Cymru (data ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Mehefin 2024)

Yn ôl awdurdod lleol, roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o 15% yn Nhorfaen i 34% yn Ynys Môn. 

O gymharu â’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn diweddu Mehefin 2023), yr awdurdodau lleol oedd â’r newidiadau canrannol mwyaf oedd:

  • Ynys Môn (cynnydd o 4 pwynt canran)
  • Bro Morgannwg, Casnewydd a Chonwy (y dau â lleihad o 3 pwynt canran)

Roedd gan bob awdurdod lleol arall newidiadau o 2 bwynt canran neu lai.

Mae’r data ar gyfer Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 yn dangos cyfnod o sefydlogrwydd yn dilyn cwymp mewn trafodiadau cyfraddau uwch mewn rhai awdurdodau lleol yn y gogledd a’r gorllewin rhwng 2021-22 a 2022-23. Gall hyn awgrymu bod yr arafu blaenorol hwn mewn pryniannau cyfraddau uwch bellach wedi sefydlogi’n duedd fwy gwastad.

Mae'n bwysig nodi bod gall amryw ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau er enghraifft darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Cyflwynir mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio ystadegau cyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir yn

Nôl i dop y dudalen

Sylw'r ystadegydd

Dadansoddiad ar y lefel Cymru

Nodwch bod drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol pe bai eiddo neu ddarn o dir yn cael ei werthu sawl gwaith o fewn chwarter neu flwyddyn, byddai’n ymddangos sawl gwaith yn yr ystadegau ar gyfer y cyfnod hwnnw. Yn Ebrill 2023 i Fawrth 2024, rydym yn amcangyfrif bod rhwng 2.5% a 3% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn wedi'i echdynnu ar 15 Gorffennaf 2024, oni nodir yn wahanol.

Tabl 1: Trafodiadau ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024, yn ôl math o drafodiad, a’r newid o ran % o’r un cyfnod blwyddyn ynghynt 
Math o drafodiadTrafodiadau [nifer] - Ebrill i Fehefin 2024 [dros dro]Newid o ran % (o gymharu ag Ebrill i Fehefin 2023) [nodyn 2] 
Preswyl 11,0707%
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl2,5000%
Amhreswyl 1,460-2%
Holl drafodiadau12,5306%
Tabl 2: Treth yn ddyledus ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024, yn ôl math o drafodiad, a’r newid o ran % o’r un cyfnod blwyddyn ynghynt [Nodyn 3]
Math o drafodiadTreth yn ddyledus [£ miliwn] - Ebrill i Fehefin 2024 [dros dro]Newid o ran % (o gymharu ag Ebrill i Fehefin 2023) [nodyn 2] 
Preswyl56.49%
O'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 1] 19.62%
Amhreswyl 27.8103%
Holl drafodiadau84.128%

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch. 

[Nodyn 2] Amcangyfrifon ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 a wnaed yn Ngorffennaf 2023.

[Nodyn 3] Mae’r cynnydd mawr yn y dreth yn y cyfnod Ebrill i Fehefin 2024 yn bennaf oherwydd trafodiad i brynu tir yn Wylfa ar Ynys Môn. Mae hyn yn cyfrannu tua £8 miliwn at y ffigwr. Caiff gwerth y Dreth Trafodiadau Tir sy’n gysylltiedig â’r trafodiad hwn ei gyflwyno yma gyda chytundeb y prynwr (Great British Nuclear) a’r gwerthwr (Horizon Nuclear Power Wylfa Limited). Mae rhagor o wybodaeth am y trafodiad hwn ar gael ar wefan Great British Nuclear.

Yn bennaf oherwydd patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gall fod yn ddefnyddiol cymharu’r cyfnod presennol â data o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Felly, Gan gymharu Ebrill i Fehefin 2024 gyda Ebrill i Fehefin 2023 ar sail tebyg am debyg:

  • cynnyddodd cyfanswm y trafodiadau o 6% a chynnyddodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 28%
  • cynnyddodd trafodiadau preswyl gan 7% a chynnyddodd y dreth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 9% 
  • o’r rhain, roedd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch yn debyg
  • cynnyddodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 2%
  • gostyngodd trafodiadau amrheswyl gan 2%. Cynnyddodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 103%

Ffigur 1: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2024 yn uwch na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 120 Kb) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Gorffennaf 2024.

Mae Ffigur 1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddair flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’30-Maw’ yn 2024-25 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 30 Mawrth i 5 April 2024 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 1 i 7 Ebrill 2023 (yn gynwysedig).

Mae Ffigur 1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno ac nid yw'n defnyddio data sydd wedi’i echdynnu ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (15 Gorffennaf 2024 yn y datganiad hwn).

Ffigur 2: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl math a mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer misol y trafodiadau preswyl ar gyfer Ebrill a Mai 2024 yn uwch na’r un mis flwyddyn ynghynt ond yn is ar gyfer Mehefin 2024 na blwyddyn ynghynt. Roedd trafodiadau amhreswyl ar lefel is ac yn amrywio gyda chynnydd yn Mawrth 2024 ers y mis blaenorol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Mehefin 2024 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Mawrth i Fai 2024 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar, ac mai dydd Gwener yw'r diwrnod mwyaf cyffredin o'r wythnos i drafodiadau ddod i rym.

Yn Ebrill a Mai 2024, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, ond roedd yn is ar gyfer Mehefin 2024 na blwyddyn ynghynt.

Ar gyfer trafodiadau amrheswyl, ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror). Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag yn Mawrth 2024, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros fis Chwefror ac nid yw'r rhesymau am hyn yn glir. 

Ffigur 3: Treth yn ddyledus ar y trafodiadau, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart llinell yn dangos yn Ebrill, Mai a Mehefin 2024, bod swm misol y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol. O Ebrill 2023 ymlaen, roedd y dreth amhreswyl fisol a oedd yn ddyledus yn is na’r cyfartaledd misol (£6.9 miliwn) bob mis ac eithrio Mawrth, Ebrill a Mehefin 2024. Gall y dreth amhreswyl sy’n ddyledus amrywio’n sylweddol o fis i fis, yn aml wedi’i dylanwadu gan nifer fach o drafodiadau gwerth uchel.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch. 

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Mehefin 2024 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd preswyl ar gyfer Mai 2024 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu. Mae’r gwerthoedd amrheswyl ar gyfer Mawrth i Fai 2024 wedi’I ddiwygio hefyd.

Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Mae Ffigurau 4 a 5 yn isod yn dangos tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a swm y dreth yn ddyledus ym mhob band treth. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000.

Mae trafodiadau o dan £400,000 wedi’u rhannu’n ddau gategori yn seiliedig ar y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau a oedd ar waith ar yr adegau perthnasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. 

Ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, mae’r trothwy cyfradd sero wedi bod yn sefydlog ar £180,000 dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfradd wedi amrywio dros amser ac ar hyn o bryd mae'n £225,000. Ar gyfer ein dadansoddiad, rydym wedi grwpio’r trafodiadau hyn fel ‘hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero’ yn seiliedig ar drothwyon a oedd mewn grym ar adeg y trafodiad. I weld y gyfres lawn o drothwyon cyfradd sero, ewch i gyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir.

Ffigur 4: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau preswyl yn y bandiau ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’ wedi amrywio’n sylweddol dros amser. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau yn y bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £750,000’ ar eu huchaf yn Hydref i Ragfyr 2022 a Gorffennaf i Fedi 2022 a wedi bod yn llai ers hynny.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2024 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 5: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau chwarterol y dreth oedd yn ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch yn sylweddol uwch yn y dair flynedd diwethaf nag yn y blynyddoedd cyn hynny, gydag effeithiau penodol i’w gweld ar drafodiadau yn 2020 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19). Roedd sym y dreth oedd yn ddyledus oedd yn deillio o’r band ‘£400,001 i £750,000’ ar ei uchaf yng Ngorffennaf i Fedi 2022 a Hydref i Ragfyr 2022, ac roedd y swm ar gyfer y band ‘dros £750,000’ ar ei uchaf yng Ngorffennaf i Fedi 2022, gyda gwerthoedd is i'w gweld yn y chwarteri dilynol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2024 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.

Ffigur 6: Canran y trafodiadau preswyl a treth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, Ebrill i Fehefin 2024 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae’r siart bar yn dangos yn Ebrill i Fehefin 2024, bod trafodiadau preswyl a oedd hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero i gyfrif am bron dair rhan o bump o’r holl drafodiadau ac ychydig dros un rhan o ddeg o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus. Yn y cyfamser, roedd yr 1% o drafodiadau a oedd dros £750,000 i gyfrif am 15% o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Dengys Ffigur 6 fod 58% o drafodiadau preswyl yn Ebrill i Fehefin 2024, hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero (a ddiffinnir o dan Ffigur 4). Roedd y canrannau ar gyfer y chwarteri blaenorol yn amrywio rhwng 45% a 71%. Yn Ebrill i Fehefin 2024, roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 11% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is na’r 22% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (na ddangosir yn Ffigur 6), gyda thuedd cyffredinol am i lawr i’w weld yn y chwe mlynedd yn y cyfamser, er yn fwy sefydlog yn y ddwy flynedd ddiweddaf.

Yn Ebrill i Fehefin 2024, cyfrannodd yr 1% o drafodiadau preswyl gyda gwerth dros £750,000 15% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Ar gyfer chwarteri blaenorol, roedd canran y trafodiadau yn y categori hwn yr un mor fach, tra ar gyfer y dreth breswyl oedd yn ddyledus, mae’r canrannau wedi codi yn ngyffredinol o’r 4% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (nas dangosir yn Ffigur 6).

Cododd canran y trafodiadau gwerth £400,001 i £750,000 yn gyffredinol yn y rhan fwyaf o’r chwarteri, o 3% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 8% yn Ebrill i Fehefin 2024, er hynny mae wedi bod yn fwy sefydlog yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Yn yr un modd, cododd canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus a gyfrannwyd gan y trafodiadau hyn o 24% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 36% yn Ionawr i Fawrth 2024 ac yn fwy sefydlog yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth 

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 7 a 8 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Ffigur 7: Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [Nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau amhreswyl yn y pedwar band a gyflwynwyd wedi syrthio'n sylweddol yn Ebrill i Fehefin 2020. Cynyddodd nifer y trafodiadau yn y chwarteri dilynol tra bod amrywiadau llai wedi'u gweld yn ystod y bedair flynedd ddiwethaf. 

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 1.7, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2024 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 8: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 8: Mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth chwarterol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn yn uwch yn y chwarter presennol na’r wyth chwarter cyn hynny, er nad oedd mor uchel â’r pedwar chwarter Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent. Gall y dreth amhreswyl sy’n ddyledus amrywio’n sylweddol o chwarter i chwarter, yn aml wedi’i dylanwadu gan nifer fach o drafodiadau gwerth uchel.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2024 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 9: Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Ebrill i Fehefin 2024 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart

Disgrifiad o Ffigur 9: Mae’r siart bar yn dangos bod yn Ebrill i Fehefin 2024, ychydig dros hanner y trafodiadau amhreswyl werth hyd at ac yn cynnwys £250,000, gyda'r trafodiadau hynny'n cyfrannu 2% o'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus. Cyfrannodd y 8% o drafodiadau amhreswyl gyda gwerth nad yw’n werth rhent o fwy nag £1 miliwn dros bedair ran o bump o’r dreth oedd yn ddyledus. Roedd chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, gan gyfrannu tuag 4% o’r dreth amhreswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Nôl i dop y dudalen

Dadansoddiad o fewn Cymru

Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir preswyl. Rydym yn cyflwyno data ar gyfer Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 (a echdynnwyd yn Ngorffennaf 2024) ac yn gwneud cymariaethau â data ar gyfer Gorffennaf 2022 i Fehefin 2023 (a echdynnwyd yn Ngorffennaf 2023). Mae data manylach ar gyfer awdurdodau lleol, Parciau Cenedlaethol ac etholaethau’r Senedd ar gael ar StatsCymru.

Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.

Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth, ond mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.

Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r etholaeth y Senedd, Parc Cenedlaethol, neu ardal adeiledig. 

Ffigur 10: Trafodiadau cyfradd uwch, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl awdurdod lleol a Pharc Cenedlaethol, Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 a Gorffennaf 2022 i Fehefin 2023

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 10: Mae’r siart yn dangod bod roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn Ynys Môn, Gwynedd a rhai awdurdodau yn y De Cymru. Yn y flwyddyn sy’n dod i ben Mawrth 2024, bu gostyngiad mewn gweithgarwch cyfraddau uwch mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn enwedig yn rhai o’r awdurdodau lleol gorllewinol neu ogleddol, gyda nifer o eithriadau. Mae rhai o'r ardaloedd a gyflwynir yn fach ac mae ganddynt nifer fach o drafodiadau, felly gellir disgwyl mwy o anwadalrwyd dros amser ar gyfer yr ardaloedd hyn.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur a Pharc Cenedlaethol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Pryd mae prynwyr yn talu cyfraddau uwch?

Gall nifer o ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau fel darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Na allwn bennu dylanwad rhai o'r categorïau hyn (am nad yw'r ffurflen Treth Trafodiadau Tir wedi gofyn y cwestiwn yn blaenorol). Fodd bynnag, mae dadansoddiad yn ôl ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru’ yn datganiadau blynyddol blaenorol bod ein galluogi i ddod i gasgliad petrus bod eiddo prynu i osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi.

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Cyflwynir rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch o Dreth Trafodiadau yn ein herthygl flynyddol flaenorol yn egluro sut i ddefnyddio data ar gyfer ardaloedd lleol. Rydym yn ystyried sut i ddiweddaru'r erthygl hon yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu diweddaru'r erthygl hon yn yr hydref.

Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yn Ynys Môn (34%), Gwynedd (32%) a Merthyr Tudful (31%).

Gwelwyd y canran isaf yn Thor-faen (15%).

O ran pwyntiau canran, yr awdurdodau lleol gyda'r newidiadau mwyaf oedd:

  • Ynys Môn (cynnydd o 4 pwynt canran)
  • Bro Morgannwg, Casnewydd a Chonwy (y dau â lleihad o 3 pwynt canran)

Roedd gan bob awdurdod lleol arall newidiadau o 2 bwynt canran neu lai.

Y newidiadau cyfatebol â’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y tri Pharc Cenedlaethol oedd:

  • Arfordir Sir Benfro: 45% i 50%, cynnydd o 5 pwynt canran
  • Eryri: 39% i 35%, gostyngiad o 5 bwynt canran
  • Bannau Brycheiniog: 23% i 19%, gostyngiad o 4 phwynt canran

Mae’r data ar gyfer Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 yn dangos cyfnod o sefydlogrwydd yn dilyn cwymp mewn trafodiadau cyfraddau uwch mewn rhai awdurdodau lleol yn y gogledd a’r gorllewin rhwng 2021-22 a 2022-23. Gall hyn awgrymu bod yr arafu blaenorol hwn mewn pryniannau cyfraddau uwch bellach wedi sefydlogi’n duedd fwy gwastad.

Dylai defnyddwyr gofio bod:

  • rhai o'r ardaloedd a gyflwynir yn fach ac mae ganddynt nifer fach o drafodiadau, felly gellir disgwyl mwy o anwadalrwydd dros amser ar gyfer yr ardaloedd hyn
  • rhywfaint o orgyffwrdd yn y cyfnodau amser a ddefnyddir wrth, er enghraifft, ystyried data ar gyfer y flwyddyn hyd at Mawrth 2024 a’r flwyddyn hyd at Mehefin 2024. Felly er mwyn cyfrifo newidiadau cronnol dros amser, byddai ond yn briodol cyfrifo newidiadau canrannol am y flwyddyn ddiweddaraf yn erbyn blwyddyn ynghynt

Nôl i dop y dudalen

Data pellach ar gael

Nid yw data amrywiol arall yn cael ei ddadansoddi yn y datganiad hwn ond rydym yn cyhoeddi'r data hwn yn y daenlen atodol sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru.

Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig

Mae rhai trafodiadau wedi'u heithrio o'r ystadegau a adroddir arnynt yn y datganiad hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • trafodiadau annodweddiadol o fawr, sy'n ymwneud â phryniant Trafnidiaeth Cymru o ased rheilffordd Craidd y Cymoedd oddi wrth Network Rail yn 2019-20. Roedd £28.2 miliwn o dreth yn ddyledus ac wedi’i thalu ar y trafodiad hwn.
  • nifer fach o drafodiadau gwerth isel lle nad ydym yn gallu darparu unrhyw wybodaeth ar wahân i gyfanswm y ffigur treth yn y flwyddyn. Mae hyn oherwydd bod risg o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol.

Cyhoeddir ystadegau ar y dreth flynyddol oedd yn ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad. 

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • i sero, a elwir yn rhyddhad llawn
  • neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol

Cyhoeddir ystadegau ar ryddhadau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Cyhoeddir ystadegau ad-daliadau ar amrywiaeth o seiliau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Treth a dalwyd

Rydym yn cyhoeddi ystadegau ar swm y dreth a dalwyd yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Dadansoddiad o ddiwygiadau i'n hamcangyfrifon cyhoeddedig

Cyhoeddir ein hamcangyfrifon cyntaf o drafodiadau ar dreth sy’n ddyledus ar gyfer mis penodol fel amcangyfrifon dros dro. Mewn datganiadau dilynol, rydym yn adolygu'r amcangyfrifon hynny a'r rhai ar gyfer misoedd cynharach yn rheolaidd. Mae'r newidiadau canrannol rydym yn ei weld rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif ar gyfer mis penodol bellach yn gymharol fach. Dangosir y canrannau hyn yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn

Nôl i dop y dudalen

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo

 

Image
logo ystadegau swyddogol achrededig