Neidio i'r prif gynnwy

Chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar

Dangoswyd mai chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel, chwarae, addysgu a gofal plentyndod cynnar gynt, yw'r strategaeth ymyrraeth gynnar unigol fwyaf effeithiol a chost effeithiol i wella canlyniadau datblygiadol plant, yn enwedig datblygiad iaith a datblygiad gwybyddol. Mae'n ymddangos bod y cysylltiad rhwng gofal plant o ansawdd uchel a chanlyniadau cadarnhaol i blant yn arbennig o gryf i blant o deuluoedd sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Ein gweledigaeth hirdymor yw sicrhau tegwch ac ansawdd i'n dysgwyr ieuengaf lle bynnag y maent yn cael mynediad at addysg neu ofal sy'n cefnogi eu dysgu a'u datblygiad. Bydd yn bwysig i Ysgolion Bro weithio gyda'r darparwyr blynyddoedd cynnar yn eu hardal i sicrhau bod pob plentyn yn pontio yn llyfn o ofal plant i addysg gynnar ac ymlaen i addysg amser llawn, gan sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu.

Mewn sawl cymuned mae lleoliadau gofal plant wedi'u lleoli ar safleoedd ysgolion. Gall hyn gynnwys lleoliadau blynyddoedd cynnar pwrpasol, megis Cylch Meithrin neu ddarparwyr gofal dydd sesiynol megis clybiau ar ôl ysgol. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal ar gyfer plant 3 a 4 oed, os yw eu rhieni yn gweithio, am 48 wythnos y flwyddyn. Mae gweithio gyda lleoliadau sy'n cynnig y Cynnig Gofal Plant yn cefnogi’r broses o bontio plant 3 a 4 oed i addysg amser llawn yn enwedig.

Addysg bellach

Mae cysylltiadau sylweddol rhwng polisïau Ysgolion Bro ac addysg bellach. Rydym yn cydnabod y risg y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio oddi wrth addysg ar adegau pontio allweddol ar hyd eu llwybr dysgu. Bydd gwneud cysylltiadau cadarnhaol rhwng Ysgolion Bro a sefydliadau addysg bellach yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Dylai swyddogion ymgysylltu â theuluoedd mewn ysgolion uwchradd fod yn datblygu partneriaethau â sefydliadau addysg bellach yn eu hardaloedd. Gall Ysgolion Bro hefyd helpu i gyfeirio teuluoedd neu ofalwyr at wasanaethau addysg oedolion a hyd yn oed ddarparu addysg i oedolion ar eu safle i gefnogi dysgu fel teulu.

Brecwast am ddim mewn ysgolion

Rydym wedi ymrwymo i gynnal ein hymrwymiad i ddarparu brecwast am ddim i bob dysgwr mewn ysgolion cynradd. Mae'r cynnig hwn yn elfen graidd o'n polisi bwyd mewn ysgolion ac yn cynorthwyo i gyflawni’r nod nad oes unrhyw blentyn yng Nghymru yn llwglyd yn ystod y diwrnod ysgol.

Bwyd a Hwyl (a elwir hefyd yn Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf)

Mae'r rhaglen Bwyd a Hwyl yn rhan bwysig o ddarparu maeth, gweithgareddau addysgol a hwyl dda yn ystod gwyliau haf ysgolion. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n rhedeg y cynllun ac mae’n cael ei gynnig i holl awdurdodau lleol Cymru. Mae cysylltiadau cryf rhwng polisi'r Ysgolion Bro a Bwyd a Hwyl. Gall swyddogion ymgysylltu â theuluoedd helpu i gefnogi gweithgareddau Bwyd a Hwyl yn ystod y gwyliau.

Cyfoethogi’r diwrnod ysgol

Gall Ysgolion Bro gynnig amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon ac academaidd sy'n ehangu'r cyfleoedd i ddysgwyr yn enwedig ar gyfer y rhai sydd o gefndiroedd sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol, er mwyn cefnogi eu datblygiad ehangach, eu lles a'u hymgysylltiad â'r ysgol. Gall swyddogion ymgysylltu â theuluoedd chwarae rhan gadarnhaol a phwysig drwy gynorthwyo i ddarparu gweithgareddau cyfoethogi drwy froceru neu nodi adnoddau cymunedol ehangach i helpu i gynnig darpariaeth, er enghraifft clybiau chwaraeon lleol, prifysgolion.

Cymorth rhianta

Pwrpas craidd darparu cymorth rhianta yw gweithio gyda rhieni er mwyn:

  • lleihau risgiau
  • cryfhau gallu magu plant
  • datblygu a meithrin gwytnwch
  • cynnal newid cadarnhaol er budd gorau plant

Mae Ysgolion Bro hefyd yn cefnogi'r amcanion hyn.

Mae gan nifer o awdurdodau lleol Cymru wasanaethau cymorth ar gyfer cyngor sy'n ymwneud â magu plant a gall Ysgolion Bro gael mynediad a chyfeirio pobl at y gwasanaethau hyn.

Mae rhagor o wybodaeth am gymorth rhianta ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Magu Plant. Rhowch amser iddo.

Cymraeg 2050

Ein huchelgais yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac rydym am sicrhau bod ein polisi Ysgolion Bro yn cyd-fynd â'r nod hwn. Byddwn yn sicrhau bod y cymorth sydd ar gael drwy ein polisi Ysgolion Bro ar gael i'r sector cyfrwng Cymraeg a bod ein polisi yn cefnogi’r broses o hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Cymunedau dysgu cynaliadwy

Drwy fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion rydym yn gobeithio creu gwell cyfleusterau y gall dysgwyr a'r gymuned ehangach eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ddysgu oedolion a gweithgareddau chwaraeon a hamdden.

Cynllun Cychwyn Iach

Mae’r cynllun Cychwyn Iach  ar gyfer y rheini sy'n fwy na 10 wythnos yn feichiog neu sydd â phlentyn o dan 4 oed. Gall helpu’r rheini sy’n gymwys ar gyfer y cynllun i brynu cynnyrch a bwydydd iach fel llaeth neu ffrwythau neu gael fitaminau am ddim. Mae angen i ymgeiswyr dros 18 oed fod yn cael budd-daliadau penodol i fod yn gymwys. Os yw person yn feichiog ac o dan 18 oed gall hawlio hyd yn oed os nad yw’n cael unrhyw fudd-daliadau.

Ewch i wefan y cynllun Cychwyn Iach i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion ynghylch pwy sy’n gymwys ar gyfer y cynllun.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Rydyn ni, Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i greu cenedl wrth-hiliol erbyn 2030. Mae ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a lansiwyd ddydd Mawrth 7 Mehefin 2022, yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth ac yn galw am beidio â goddef unrhyw fath o anghydraddoldeb hiliol. Rydym wedi sefydlu gweledigaeth ar gyfer cenedl wrth-hiliol, lle mae pawb yn cael ei werthfawrogi am pwy ydynt ac am y cyfraniad a wnânt.

Yn ogystal â nifer o nodau a chamau gweithredu sy’n ymwneud â’r maes addysg yn benodol, mae Cymru yn arwain y ffordd, trwy’r Cwricwlwm i Gymru, fel y wlad gyntaf o bedair gwlad y Deyrnas Unedig i’w gwneud yn ofyniad mandadol i addysgu dysgwyr am brofiadau a hanes Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Cafodd ein gwobr addysgu newydd, Gwobr Betty Campbell MBE, am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ei lansio yn 2021. Caiff y wobr hon ei rhoi bob blwyddyn.

Byddwn yn cyflwyno strategaeth i recriwtio mwy o athrawon o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i weithlu ysgolion. Fel cam cychwynnol, cyhoeddwyd Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon ar 22 Hydref 2021. Byddwn yn gweithredu ar hyn drwy waith megis cynllun mentora newydd i helpu staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gyflawni eu nodau, yn ogystal â datblygu camau gweithredu eraill.

Byddwn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gofnodi digwyddiadau ac achosion o aflonyddu hiliol mewn ysgolion a cholegau drwy brosesau casglu data cryfach, sut yr ymdriniwyd â nhw, y camau a gymerwyd, ac a fu datrysiad llwyddiannus ar gyfer y dioddefwr.

Cynllun plant a phobl ifanc

Mae'r ‘Cynllun plant a phobl ifanc’ yn nodi'r rhan y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae i wneud Cymru yn lle gwych i'n plant a'n pobl ifanc dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae Ysgolion Bro yn rhan annatod o’r weledigaeth hon.

Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru

Mae Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, yn disgrifio 'ysgol iach' fel un sy'n cymryd cyfrifoldeb am gynnal a hyrwyddo iechyd pawb sy'n 'dysgu, gweithio, chwarae ac yn byw' ynddi, nid yn unig trwy ddysgu dysgwyr yn ffurfiol am sut i fyw bywydau iach ond trwy alluogi dysgwyr a staff i gymryd rheolaeth dros agweddau o amgylchedd yr ysgol sy'n dylanwadu ar eu hiechyd.

Mae ‘ysgol iach’ yn hybu, yn diogelu ac yn ymgorffori iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned drwy gymryd camau gweithredu cadarnhaol.

Chwarae

Mae chwarae yn weithgaredd hanfodol i blant, ac yn sylfaenol i'w lles, eu gwytnwch a'u datblygiad. Mae chwarae yn yr awyr agored yn arbennig o bwysig gan ei fod yn annog plant i ymgymryd â lefel uchel o weithgarwch ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei nodi fel cam tuag at gynnal pwysau iach plant.

Gall darparu amgylchedd addysgu a dysgu eang a chytbwys, gan gwmpasu iechyd a lles y plentyn hefyd, o bosibl ddarparu profiad dysgu gwell a mwy cadarnhaol.

Noda Sylw Cyffredinol 17 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar hawl y plentyn i orffwys, hamdden, chwarae, gweithgareddau hamdden, bywyd diwylliannol a'r celfyddydau (erthygl 31), fod gan ysgolion rôl bwysig o ran hyrwyddo'r hawl i chwarae ar draws y meysydd a ganlyn:

  • gofynion y Cwricwlwm
  • addysgeg addysgiadol
  • amgylchedd ffisegol lleoliadau
  • strwythur y diwrnod

Mae tir ysgolion yn aml yn cynrychioli'r ased awyr agored unigol mwyaf mewn llawer o gymunedau. Mae agor tir ysgol ar gyfer chwarae yn chwarae rôl sylweddol o ran mynd i'r afael â'r angen brys i sicrhau bod mwy o blant yn gallu chwarae yn yr awyr agored.

Mae rhagor o wybodaeth am chwarae ar gael yn y dogfennau isod gan Chwarae Cymru:

Dechrau'n Deg

Nod rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, Dechrau’n Deg, yw gwneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant dan 4 oed yn yr ardaloedd lle mae ar waith. Mae'n cynnwys pedair elfen graidd, sef:

  • gofal plant o safon sydd wedi'i ariannu'n llawn
  • cymorth rhianta
  • cymorth dwys gan ymwelwyr iechyd
  • cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu

Dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles

Mae Ysgolion Bro yn cefnogi’r angen i sicrhau newid diwylliannol yn y ffordd mae lles emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yn cael ei gefnogi fel y manylir yn y ‘Fframwaith ar gyfer ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles’.

Mae’r dull ysgol gyfan yn ceisio cefnogi lles emosiynol a meddyliol da drwy hyrwyddo amgylchedd diwylliannol cadarnhaol mewn ysgolion, lle mae plant a phobl ifanc yn meithrin cydberthynas gadarnhaol â staff a dysgwyr eraill, a lle mae cydberthynas ag eraill yn cael eu hatgyfnerthu:

  • rhwng plant a phobl ifanc
  • rhwng staff addysgu
  • gydag uwch dîm rheoli a staff ehangach yr ysgol
  • gyda rhieni a gofalwyr
  • gyda gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda'r ysgol
  • gyda'r gymuned ehangach o amgylch yr ysgol

Mae dull ysgol gyfan yn ymwneud ag ymgorffori lles da drwy addysgu yn ogystal â phob agwedd arall ar fywyd ysgol. Mae’n ethos sy’n rhoi gwerth ar gynhwysiant, lle mae pawb yn cydweithio, gan gyfrannu eu sgiliau a’u hadnoddau unigol er lles pawb; yn creu amgylchedd cefnogol lle mae pobl ifanc yn cael eu hannog i wireddu eu potensial personol ac academaidd, lle maent yn ffynnu, yn dysgu ac yn datblygu'n emosiynol, gyda chymorth oedolion dibynadwy sy'n gweithredu mewn diwylliant sy'n rhoi'r un gwerth ar eu lles hwythau.

Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

Mae'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn hanfodol o ran adnabod y bobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio neu mewn perygl o fod yn ddigartref, a'u helpu yn ôl at y llwybr dysgu sy'n iawn iddyn nhw.

Dylai swyddogion ymgysylltu â theuluoedd ffurfio partneriaethau agos â gwasanaethau gwaith ieuenctid yn eu hardal, gan gynnwys Cydlynwyr Ymgysylltu a Datblygu awdurdodau lleol a Chydlynwyr Digartrefedd Ieuenctid i helpu i ddarparu cefnogaeth i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (sy'n gysylltiedig â'n gwaith ar Warant i Bobl Ifanc) a'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Gofal plant

Mae’r sector gofal plant yng Nghymru yn cynnwys amrywiaeth eang o wahanol fathau o ddarpariaeth, sy’n destun cyfres o safonau gofynnol cenedlaethol. Y gwahaniaeth pennaf rhwng y gwahanol fathau o ddarpariaeth yw’r gwahaniaeth rhwng gwarchod plant a gofal dydd.

Gofal plant

Gofal plant a ddarperir gan 1 neu ragor o bobl am blant o’u geni hyd at 12 oed o fewn eiddo domestig nad yw’n gartref i’r plentyn, am fwy na 2 awr y dydd ac am dâl, yw gwarchod plant.

Gofal dydd

Darperir gofal dydd ar eiddo annomestig ac mae’n cynnwys meithrinfeydd dydd, gofal plant y tu allan i’r ysgol, grwpiau chwarae, crèches a chwarae mynediad agored.

Gofal plant ar gyfer plant oedran ysgol

Mae llawer o blant oed ysgol yn parhau i fynychu gofal plant o amgylch y diwrnod ysgol ac yn ystod y gwyliau, ymhell y tu hwnt i'w blynyddoedd cynnar. Gall hyn fod mewn lleoliadau ar dir ysgolion, neu gall darparwyr gofal plant gynnig gwasanaeth cofleidiol, gan ollwng plant yn yr ysgol neu eu casglu oddi yno, a darparu gofal cyn ac ar ôl y diwrnod ysgol. Mae gweithio gyda'r darparwyr hyn i sicrhau bod anghenion llawn y plentyn yn cael eu diwallu yn bwysig er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad ac er mwyn rhoi cyfle i bob plentyn gyrraedd ei lawn botensial.

Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol, neu Gonsortiwm Cwlwm ddarparu rhagor o wybodaeth am ddarparwyr gofal plant sy'n gweithredu yn eich ardal chi.  

Grant Datblygu Disgyblion

Diben y Grant Datblygu Disgyblion yw gwella canlyniadau ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a phlant sy’n derbyn gofal, sydd rhwng 3 a 15 oed. Y bwriad yw herio effaith tlodi ar gyrhaeddiad, gan sicrhau bod dysgwyr o deuluoedd incwm isel yn cyrraedd eu llawn botensial.

Mae amcanion polisi Ysgolion Bro a’r Grant Datblygu Disgyblion (y grant) yn gweithio gyda’i gilydd i roi cefnogaeth ar lawr gwlad. Er bod y defnydd o’r grant yn seiliedig ar angen lleol, rydym yn cyfeirio at y canlynol fel arferion gorau. Mae’r pwyntiau hyn yn rhan annatod o lwyddiant Ysgolion Bro:

  • Sicrhau ffocws ar ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel.
  • Ymgysylltu â theuluoedd neu ofalwyr i'w helpu i gefnogi proses ddysgu eu plant.
  • Mwy o ffocws ar chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar, iechyd a lles, codi dyheadau, arweinyddiaeth a chwricwlwm a chymwysterau.
  • Gwella sgiliau staff er mwyn iddynt ddefnyddio dulliau addysgeg y mae'n hysbys eu bod yn fwy effeithiol nag eraill ymhlith dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig.
  • Defnyddio gwaith ymchwil a thystiolaeth i wneud penderfyniadau deallus, gan gynnwys Pecyn Addysgu a Dysgu'r Sefydliad Gwaddol Addysgol, sy'n dadansoddi ymyriadau a dulliau cyfredol mewn ffordd hwylus i ymarferwyr ar sail cost ac effaith.
  • Datblygu partneriaethau strategol gyda'r trydydd sector neu asiantaethau eraill i weithio gyda'i gilydd i godi cyrhaeddiad dysgwyr sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Gwaith ieuenctid

Mae gwaith ieuenctid yn hyrwyddo ac yn mynd ati i annog cyfleoedd hygyrch i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, beth bynnag fo'u hil, rhywedd, hunaniaeth rywiol, iaith, crefydd, anabledd, oedran, cefndir neu amgylchiadau personol, fel y gallant gyrraedd eu potensial fel unigolion sydd wedi'u grymuso ac fel aelodau o grwpiau a chymunedau. Wrth wneud hynny, gall gwaith ieuenctid wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc a chydlyniant mewn cymunedau.

Mae gwaith ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc drwy newidiadau sylweddol yn eu bywydau ac yn eu hannog i:

  • ennill a datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, agweddau a gwerthoedd
  • gwneud defnydd adeiladol o'u sgiliau, eu hadnoddau a'u hamser

Mae'n bwysig i Ysgolion Bro:

  • gyd-fynd a chydweithio â gwasanaethau gwaith ieuenctid lleol
  • cyfeirio pobl ifanc at wasanaethau gwaith ieuenctid lleol
  • nodi sut y gellid defnyddio gweithwyr ieuenctid yn yr ysgol

Iaith, lleferydd a chyfathrebu

Mae’r cynllun cyflawni iaith, lleferydd a chyfathrebu ‘Siarad Gyda Fi’ yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod plant ledled Cymru yn cael cymorth ar sail tystiolaeth gan y person iawn, yn y lle iawn, ac ar yr adeg iawn ar gyfer datblygu eu sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu.

Mae tystiolaeth yn dangos yn eglur y gall rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr, gyda’r wybodaeth a’r sgiliau cywir, wneud y gwahaniaeth o ran cefnogi sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu plentyn. Mae tudalen ymgyrch a thudalen ymarferwyr Siarad Gyda fi yn cynnwys amrywiaeth eang o adnoddau i helpu gyda datblygiad iaith, lleferydd a chyfathrebu plant.

Mynd i’r afael â thlodi plant

Mae dyletswydd statudol arnom i fynd i'r afael â thlodi plant a lliniaru ei effeithiau, yn cynnwys yr anghydraddoldebau addysgol y mae plant yn eu profi o ganlyniad i fyw mewn tlodi.

Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad wrth graidd cenhadaeth ein cenedl ar gyfer addysg. Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i symud ymlaen a gwireddu ei botensial, waeth beth yw ei gefndir economaidd neu gymdeithasol.

Gall fod rhwystrau sylweddol sy’n atal plant sy'n cael eu heffeithio gan dlodi rhag gwneud cynnydd, ond, drwy fabwysiadu dull ysgol fro, rydym yn gobeithio gwneud y canlynol:

  • mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn
  • annog cyfle cyfartal
  • goresgyn effaith anfantais economaidd-gymdeithasol
  • gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc

Mae gan Ysgolion Bro rôl bwysig i'w chwarae wrth ddatblygu gwytnwch a lles cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad oes seilwaith amgen ar waith.

Plant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol ac addysg ddewisol yn y cartref

Er bod ysgolion bro yn bolisi sydd yn seiliedig mewn ysgolion, rydym yn cydnabod bod llawer o blant yn cael eu haddysgu mewn mannau eraill, naill ai yn eu cartref neu mewn lleoliadau eraill sy'n briodol ar gyfer anghenion y plentyn. Weithiau bydd plant a phobl ifanc yn pontio rhwng ysgolion a lleoliadau eraill ac mae gan y swyddog ymgysylltu â theuluoedd rôl i’w chwarae o ran cadw mewn cysylltiad â theuluoedd neu ofalwyr a sicrhau bod y pontio yn digwydd yn llyfn.

Polisi cymunedau ehangach

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’n cymunedau a’u cefnogi, mewn perthynas â lleoedd lleol a chymunedau o ddiddordeb, ym mhob agwedd ar fywyd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ogystal â thrwy ddarpariaeth addysgol.

Adlewyrchir hyn yn ein Rhaglen Lywodraethu ar draws amrywiaeth eang o raglenni a pholisïau sy'n cefnogi ein nod cyffredinol i adeiladu cymunedau sy'n ffynnu, wedi'u grymuso ac sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd.

Mae Ysgolion Bro yn rhan hanfodol o'r dull hwn.

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a dulliau sy’n ystyriol o drawma

Cyflwyniad

Digwyddiadau neu brofiadau trawmatig yw profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, sy'n digwydd cyn bod plentyn yn 18 oed ond sy'n gallu parhau i gael effaith ar hyd ei fywyd. Gallant gael effaith negyddol ar ddatblygiad gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plentyn a gallant arwain at fabwysiadu ymddygiad sy’n niweidio iechyd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r profiadau hyn yn amrywio o ddioddef cam-drin geiriol, meddyliol, rhywiol a chorfforol, i gael magwraeth ar aelwyd lle caiff alcohol neu gyffuriau eu camddefnyddio, lle mae trais yn y cartref, neu lle bo rhieni yn gwahanu. Yn 2016, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru yr astudiaeth gyntaf yng Nghymru ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a ddatgelodd fod 47% o oedolion yng Nghymru wedi dioddef o leiaf 1 profiad niweidiol yn ystod plentyndod, a bod 14% wedi dioddef 4 neu fwy.

Helpu’r rheini sydd wedi profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Trwy weithio gydag asiantaethau eraill sy'n darparu ymyrraeth gynnar a chefnogaeth, gellir gwella cyfleoedd bywyd pobl sydd wedi dioddef trawma, drwy helpu i ddatblygu gwytnwch. Mae amrywiaeth o ffynonellau datblygu gwytnwch. Un o'r ffynonellau pwysicaf yw cael perthynas sefydlog a dibynadwy ag oedolyn cyfrifol yn ystod plentyndod. Gallai fod yn rhiant; ond gallai hefyd fod yn oedolyn arall fel athro, hyfforddwr chwaraeon neu arweinydd crefyddol.

Mae rhaglen hyfforddi yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi’i datblygu ar gyfer ysgolion. Mae'r hyfforddiant hwn ac adnoddau eraill i'w gweld ar Hwb.

Dulliau sy’n ystyriol o drawma

Un o'r ffyrdd y gallwn gefnogi'r rhai sydd wedi profi adfyd a thrawma yw drwy fabwysiadu dulliau sy'n ystyriol o drawma. Ar y cyd, mae Hyb Cymorth ACE a Straen Trawmatig Cymru wedi datblygu fframwaith ymarfer ystyriol o drawma ar gyfer Cymru er mwyn cefnogi’r broses o fabwysiadu dull cyffredin a chyson o ymdrin ag arferion sy'n ystyriol o drawma. Mae'r fframwaith yn sefydlu 5 egwyddor ymarfer, a ddylai fod yn sail i'r holl arferion sy'n ystyriol o drawma, a 4 lefel ymarfer sy'n adlewyrchu'r gwahanol rolau y gallai pobl eu chwarae wrth gefnogi'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan drawma.

Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd

Bydd prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn helpu i:

  • fynd i’r afael â thlodi
  • sicrhau llesiant cenedlaethau'r dyfodol
  • lleihau'r canlyniadau anghyfartal sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol ym maes addysg, iechyd, a ffyniant

Pwysau Iach: Cymru Iach

Pwysau Iach: Cymru Iach yw ein cynllun 10 mlynedd i atal a lleihau gordewdra ledled Cymru. Yn cyd-fynd â’r Strategaeth mae 5 cynllun cyflawni 2 flynedd. Cyhoeddwyd yr ail ohonynt ar 1 Mawrth 2022 ac mae’n canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar, plant a’r glasoed yn ogystal â mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd i bawb. Mae dros 1 o bob 4 plentyn yn dechrau'r ysgol dros bwysau neu'n ordew ac mae hyn yn cynyddu i bobl ifanc, sydd yn cynyddu i’r glasoed ac yn cynyddu i dros 60% erbyn y maent yn oedolion. Mae gennym ystod o fesurau sy'n canolbwyntio ar sut i ddatblygu dulliau seiliedig ar systemau er mwyn ystyried materion sy'n ymwneud â gordewdra, gan gynnwys:

  • cynllun peilot o raglenni plant a theuluoedd ar draws 3 ardal yng Nghymru
  • sefydlu swyddi arbenigol ym mhob bwrdd iechyd lleol a fydd yn cydlynu ymdrechion

Teuluoedd yn Gyntaf

Mae rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn cynnig ystod o gymorth i'r teulu cyfan neu aelodau unigol o'r teulu gan ddefnyddio dull amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth ac atal yn gynnar, gan ddibynnu ar anghenion y teulu. Mae amryw o ffyrdd y gellir cael mynediad at wasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf, gan gynnwys:

  • atgyfeiriadau drwy ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a swyddogion ysgol
  • hunan gyfeirio

Mae rhagor o wybodaeth a manylion ar sut i fanteisio ar y gwasanaethau ar gael ar wefan pob awdurdod lleol.

Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae ‘Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru 2021’ yn mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn rhoi plant a'u teuluoedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaeth weithio gyda’i gilydd dros blentyn neu berson ifanc sydd ag ADY.

Mae'n bwysig bod teuluoedd a gofalwyr yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth gywir a deall yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw a'u plentyn. Bydd mabwysiadu dull ysgol fro yn golygu bod ysgolion yn gallu defnyddio eu swyddogion ymgysylltu â theuluoedd i weithio ochr yn ochr â'r cydlynydd ADY a chydlynydd ADY y blynyddoedd cynnar i gydlynu a darparu cefnogaeth yn yr ysgol.

Mae swyddogion ymgysylltu â theuluoedd hefyd yn gallu gwneud cysylltiadau ag asiantaethau a gwasanaethau eraill er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth briodol yn cael ei gyrchu a chymryd yr amser i wrando ar rieni a theuluoedd a’u cefnogi yn ôl yr angen.

Y Cwricwlwm i Gymru

Gan weithio gyda’n Cwricwlwm i Gymru trawsnewidiol, caiff ysgolion eu cefnogi i alluogi pob dysgwr i ddatblygu ar ei lwybr unigol ei hun, wedi ei gefnogi gan asesu, er mwyn cyflawni ei ddyheadau. Yn y pen draw, nod y cwricwlwm yw cefnogi ei ddysgwyr i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn gyfle i ysgolion a chlystyrau ysgol ddatblygu rhaglenni dysgu eu hunain sydd yn fwy addas ar gyfer anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn greiddiol iddo. Mae'r nodau hyn yn cefnogi'r ffyrdd y gall Ysgolion Bro weithredu.

Mae Llywodraeth Cymru yn glir hefyd bod angen i ysgolion fod wrth wraidd eu cymunedau er mwyn gwireddu'r cwricwlwm yn llwyddiannus. Trwy’r ffocws hwn ar gymunedau, gall cydberthynas well gael ei meithrin rhwng ysgolion a theuluoedd neu ofalwyr, cymunedau a chyflogwyr, i gefnogi a hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol a’r camau nesaf tuag at gyflogaeth, addysg a hyfforddiant.