Gwyddom y gallai ymateb i ymddygiad eich plentyn yn y Blynyddoedd Cynnar fod yn heriol o bryd i'w gilydd – edrychwch ar saith awgrym Dr Nicola Canale (wedi'u haddasu o waith Dr Kim Golding) ar sut y gallwch chi ymateb i ymddygiad eich plentyn isod.
Saith Cam o Ymateb i ymddygiad Dr Nicola Canale, 2020 (Addaswyd o Parenting in the Moment © Kim S. Golding, 2015)
Cam 1
Sylwch: Mae sylwi ac ymyrryd yn gynnar yn allweddol. A oes angen i chi ymyrryd neu a allwch chi ddewis anwybyddu'r ymddygiad a thynnu sylw'r plentyn os nad yw ymddygiad yn achosi unrhyw niwed?
Cam 2
Ymdawelwch: Sicrhewch eich bod yn teimlo'n bwyllog ac â rheolaeth dros eich emosiynau eich hun. Efallai y bydd angen i chi gymryd pum anadl ddofn. Mae'n bwysig ymdawelu eich hun yn gyntaf er mwyn i chi allu ymateb yn lle ymweithio.
Cam 3
Tawelwch eich plentyn: Os yw eich plentyn wedi colli’i limpyn, bydd angen eich help arno i ymdawelu. Mae pob plentyn yn unigryw. Byddwch chi fel rhiant yn gwybod y ffordd orau o’i ymdawelu. Mae rhai plant yn hoffi cael eu cofleidio ac mae’n bosibl y bydd angen ychydig o le ar eraill gyda chi'n eistedd gerllaw i'w helpu i ymdawelu.
Cam 4
Byddwch yn Chwilfrydig: Byddwch yn chwilfrydig am rai o'r emosiynau neu anghenion sylfaenol a fyddai'n esbonio pam mae’ch plentyn yn ymddwyn fel hyn. Acronym defnyddiol i'w gofio yn y Blynyddoedd Cynnar yw H. A. L. T. yn Saesneg. Mae’n golygu llwglyd, dig, unig, blinedig. A oes unrhyw un o'r anghenion hyn heb eu diwallu? A allai hyn fod yn achos ei ymddygiad?
Cam 5
Cysylltwch: Cysylltwch y dotiau ar gyfer eich plentyn. Cysylltwch yr emosiwn neu'r angen â'r ymddygiad yr ydych yn ei weld, e.e. "Rwy'n credu dy fod wedi blino, beth am roi'r teganau i gadw a gorffwys.” Mae cysylltu emosiwn neu angen eich plentyn i'w ymddygiad yn ei helpu i deimlo ei fod yn cael ei ddeall ac wedi esmwytho a bydd hefyd yn helpu i ddatblygu ei sgiliau hunan-rheoli.
Cam 6
Cywirwch: Dyma le byddwch yn rhoi terfyn neu ffin ar yr ymddygiad ac yn penderfynu a oes angen canlyniad sy'n briodol i’r oedran. Ar yr oedran hwn, mae angen i ganlyniad fod ar unwaith ac yn berthnasol i'r plentyn, e.e. “rwyt ti wedi brifo dy chwaer gyda'r tegan, mae'r tegan yn mynd i gadw”. Gyda phlant ifanc, nid oes angen i chi roi canlyniad arall ar waith o reidrwydd os oes canlyniad naturiol i'r ymddygiad eisoes wedi digwydd, e.e. “ni fyddet ti’n rhoi dy esgidiau glaw ymlaen felly does dim digon o amser i fynd i'r parc”.
Cam 7
Cysylltwch eto: Ar ôl pennu'r terfyn, y ffin neu'r canlyniad, cadwch ato, peidiwch â dychwelyd at yr ymddygiad yn hwyrach yn y dydd, byddwch fel Elsa a gadewch iddo fynd. Bydd eich plentyn yn adfer o’r rhwygau bach hyn, ac yn dysgu oddi wrthynt, a bydd eich perthynas yn parhau'n gryf.