Neidio i'r prif gynnwy
Cyflwyno ein Hwynebau Magu Plant: blog y teulu Goodbody

"Helo, Van Goodbody ydw i ac rwy’n byw gyda fy ngŵr Mark yn Abertawe, gyda’n merch 2 flwydd oed, Lily.

Magwyd Mark ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac fe gyfarfyddon ni yn Fietnam. Cawson ni ddwy briodas – un yn Abertawe ac un arall yn Fietnam.

Rydyn ni’n dau yn rhieni sy’n gweithio – mae Mark yn gweithio ym maes meddalwedd gyfrifiadurol a finnau ym maes cyllid – ond rydyn ni’n ceisio trefnu ein diwrnodau fel ein bod ni’n treulio cymaint o amser â phosibl gyda Lily, fel nad ydyn ni’n colli ei datblygiad.

Rwy’n dod o Fietnam yn wreiddiol, felly rwy’n credu y byddai’n beth da i Lily allu dysgu rhywfaint o iaith a diwylliant Fietnam. Mae Lily’n siarad Saesneg a Fietnameg, weithiau yn yr un frawddeg, ac mae ganddi bersonoliaeth gref iawn yn barod. Rwy’n cofio pan aeth Lily i’r crèche am y tro cyntaf: roedd honno’n adeg emosiynol iawn i ni i gyd, ond roedd hi wedi ymdopi’n well na fi. Ar ôl treulio cymaint o amser gyda’n gilydd yn ystod fy nghyfnod mamolaeth, roedd hi’n anodd iawn ei throsglwyddo i rywun arall i ofalu amdani, ac rwy’n dal i’w cholli tra byddaf yn y gwaith, ond mae hi’n mwynhau yno ac mae’n deimlad mor braf pan fydd hi’n dod i roi cwtsh mawr i mi wrth ei chasglu.

Dros amser, rydyn ni wedi dysgu sut i ymdopi â’i hymddygiad mwy heriol trwy ddefnyddio technegau tynnu sylw, aros yn gadarnhaol, a dangos cariad ac anwyldeb, yn enwedig pan fyddwn ni’n dau wedi blino.

Rydyn ni wedi cael tipyn o stranciau, a rhai ohonyn nhw’n eithaf gwael. Ar un adeg, rwy’n cofio galw’r ymwelydd iechyd a gofyn a oedd yr holl sgrechion yn arferol, ond dywedodd hi wrtha i am beidio â phoeni a bod llawer o rieni’n mynd trwy’r un peth.

Nid yw bob amser yn rhwydd bod yn rhieni ac, yn fy marn i, dyma’r swydd fwyaf heriol ond fwyaf gwerth chweil sy’n bodoli.

Mae’n sicr yn brofiad dysgu mawr i rieni ac rydyn ni wedi dibynnu ar gyngor gan lawer o bobl, yn enwedig ein rhieni, teuluoedd eraill, ffrindiau a chydweithwyr. Roedd gen i ymwelydd iechyd da iawn hefyd, a roddodd lawer o gymorth yn y dyddiau cynnar. Dywedodd wrtha i am beidio â phoeni am y gwaith tŷ a’r holl dasgau bach oherwydd gallan nhw i gyd aros. Dywedodd hi: “Lily yw’r peth pwysicaf yn y byd nawr ac mae angen i chi ganolbwyntio arni hi.” Roedd hynny’n gyngor mor dda ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi.

Rwy’n gwybod mai fy merch i yw hi, ond mae Lily’n hardd, yn unigryw, yn ddoniol, yn glyfar, yn chwilfrydig, yn gariadus ac yn ofalgar. Mae hi hefyd yn gallu bod yn fyr ei thymer, yn ystyfnig ac ychydig bach yn ddrwg ar adegau, ond mae hynny’n rhan o’i phersonoliaeth ac ni fuaswn yn dymuno iddi fod yn wahanol."

Postiadau diweddaraf gan y teulu Goodbody:

Teithio’n bell gyda’ch tylwyth

Heriau gofal plant