Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth gefndir

Mae'r dadansoddiad hwn yn disgrifio'r patrymau a welir yn nata dangosyddion rhwng gwahanol gategorïau 'Amddifadedd Hirsefydlog'. Mae hyn yn dilyn y dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog (StatsCymru) a nododd ba ardaloedd bach (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is neu ACEHIau) sydd wedi aros yn y 50 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru ers 2005. Roedd y dadansoddiad hwn yn newydd i MALlC 2019, ac mae cefndir pellach i'w weld yn Adroddiad canlyniadau MALlC 2019 (adran 2.6).    

Mae'r categorïau amddifadedd hirsefydlog, a nifer yr ardaloedd ym mhob categori, fel a ganlyn:

Am fod MALlC yn fesur o amddifadedd cymharol, nid yw'n rhoi unrhyw syniad o lefel amddifadedd yn yr ardaloedd bach hyn. Mae'n bosibl bod lefelau amddifadedd yn yr ardaloedd bach sy'n perthyn i'r categori amddifadedd hirsefydlog wedi gostwng ers MALlC 2005, ond mae'r ardaloedd hyn yn dal i fod ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig o'u cymharu ag ardaloedd bach eraill yng Nghymru.

Mae'r dadansoddiad isod yn crynhoi patrymau ar gyfer dangosyddion amddifadedd allweddol – mae dolen i'r tabl llawn o ddangosyddion yn ôl categori amddifadedd hirsefydlog i'w gweld yn y tab data. Fel y gwelir yn yr adran incwm a chyflogaeth isod, gall fod yn ddefnyddiol cymharu lefelau amddifadedd ar gyfer ardaloedd mewn amddifadedd hirsefydlog yn erbyn ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar gyfer MALlC 2019. Mae data dangosyddion yn ôl degfedau amddifadedd ar gael yn StatsCymru i ganiatáu i ddefnyddwyr wneud eu cymariaethau eu hunain. Mae rhagor o fanylion am ddiffiniadau dangosyddion ar gael yn Adroddiad Technegol MALlC 2019.

Mae gwerth cyfartalog Cymru ar gyfer data dangosyddion yn aml tua'r un gwerth ag ar gyfer ACEHIau nad ydynt erioed wedi'u rhestru yn y 50 mwyaf difreintiedig, gan mai hwn yw'r categori mwyaf o bell ffordd.

Prif bwyntiau

Amddifadedd incwm a chyflogaeth

  • Roedd canran y bobl mewn amddifadedd incwm mewn ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog (43%) bron 3 gwaith yn fwy nag ardaloedd nad ydynt erioed wedi'u rhestru yn y 50 mwyaf difreintiedig (15%).  Roedd hefyd tua 3 gwaith cyfartaledd Cymru (16%).
  • I roi hyn yn ei gyd-destun, roedd 35% o bobl yn y 191 o ardaloedd a oedd yn ffurfio'r 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 mewn amddifadedd incwm. Mae'r ardaloedd hynny'n cynnwys pob un o'r 26 o ardaloedd mewn amddifadedd hirsefydlog, ac fel y nodwyd uchod, roedd y gyfradd ar gyfer y grŵp hwnnw yn arbennig yn uwch o hyd, sef 43%.
Image
Siart far sy'n dangos canran uwch o bobl mewn amddifadedd incwm mewn ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog o'i chymharu â ACEHIau mewn categorïau eraill o amddifadedd hirsefydlog.

Data Dangosydd yn ôl Amddifadedd Hirsefydlog (StatsCymru)

  • Gwelir patrwm tebyg ar gyfer amddifadedd cyflogaeth, lle'r oedd canran y bobl o oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth ar gyfer ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog yn 27% o'i gymharu â 10% ar gyfer ACEHIau nad oeddent erioed wedi'u rhestru yn y 50 mwyaf difreintiedig. I roi hyn yn ei gyd-destun, y ganran ar gyfer y 10% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 oedd 22%.

Iechyd

  • Roedd y gyfradd cyflyrau cronig a gofnodwyd gan ymarferwyr cyffredinol yn 22 i bob 100 o bobl mewn ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog, o'i chymharu â 14 i bob 100 ar gyfer ACEHIau sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig.
  • Roedd dros 8% o enedigaethau sengl byw mewn ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog yn pwyso llai na 2.5kg (cyfartaledd Cymru oedd 5.5%). Y ACEHIau sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig oedd yr unig gategori i fod â chanran yn is na chyfartaledd Cymru, sef 5.3%.
  • Roedd canran y plant 4 i 5 oed sy'n ordew ychydig yn uwch mewn ardaloedd mewn amddifadedd hirsefydlog (15%) nag mewn ardaloedd sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig (12%).

Addysg

  • Mae dangosydd sgôr pwyntiau cyfartalog y Cyfnod Sylfaen yn seiliedig ar ganlyniadau asesiadau athrawon ar gyfer disgyblion a addysgir ym mlwyddyn 2. Sgôr pwyntiau cyfartalog y Cyfnod Sylfaen ar gyfer y rhai mewn ardaloedd sydd heb eu rhestru  erioed rhestru yn y 50 mwyaf difreintiedig oedd 104, o'i chymharu â 99 ar gyfer y rhai mewn amddifadedd hirsefydlog.
  • Y gyfradd absenoliaeth fynych ymhlith myfyrwyr mewn ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog oedd 10.3%, sef dwywaith y gyfradd ar gyfer myfyrwyr mewn ACEHIau sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig (5.1%).
  • Roedd myfyrwyr Cyfnod Allweddol 4 a oedd mewn ACEHIau sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fynd ymlaen i addysg uwch, o'u cymharu â myfyrwyr Cyfnod Allweddol 4 mewn ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog (30.6% a 13.5% yn y drefn honno).
Image
Siart far yn dangos canran uwch o'r rhai sy'n gadael cyfnod allweddol 4 sy'n mynd ymlaen at addysg uwch mewn ACEHIau sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig o'i chymharu ag ACEHIau mewn categorïau eraill o amddifadedd hirsefydlog.

Data Dangosydd yn ôl Amddifadedd Hirsefydlog (StatsCymru)

Mynediad at wasanaethau

  • ACEHIau sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig oedd â'r amseroedd teithio hwyaf i wasanaethau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat. Yn aml roedd tipyn o fwlch rhwng y categori hwn a'r categorïau amddifadedd hirsefydlog eraill.
  • Roedd canran y rhai nad oedd band eang o 30Mp/s ar gael iddynt dros 3 gwaith yn uwch mewn ACEHIau sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig (7.1%) o'i chymharu â ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog (2.0%). Roedd hyn tua'r un fath â chyfartaledd Cymru (6.9%).
  • Gellir esbonio'r ddau batrwm uchod drwy ddosbarthiad aneddiadau gwledig/trefol ardaloedd ym mhob categori (gweler Nodiadau am ragor o fanylion).
Image
Siart far yn dangos canran uwch cartrefi a busnesau bach nad ydynt yn gallu cael band eang ar yn 30Mb/s mewn ACEHIau sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig o'i chymharu ag ACEHIau mewn categorïau eraill o amddifadedd hirsefydlog.

Data Dangosydd yn ôl Amddifadedd Hirsefydlog (StatsCymru)

Tai

  • Mae dangosydd MALlC ar dai o ansawdd wael yn mesur y tebygolrwydd y bydd tai mewn cyflwr gwael neu'n cynnwys peryglon difrifol (er enghraifft, risg o gwympo neu dai oer). Roedd y rhai a oedd yn byw mewn ACEHIau sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o fyw mewn tai o ansawdd wael (20.0%) o'u cymharu ag ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog (13.5%). Bydd deiliadaeth, oedran a math nodweddiadol o dai, sydd yn eu tro yn gysylltiedig â phroffil dosbarthu aneddiadau gwledig/trefol pob grŵp o ardaloedd yn dylanwadu ar y patrwm hwb (gweler Nodiadau).
  • Er hynny, ACEHIau sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 mwyaf difreintiedig oedd y categori lleiaf difreintiedig o ran gorlenwi. Roedd 5.3% o bobl yn yr ardaloedd hynny'n byw mewn  aelwydydd gorlawn o'i gymharu ag 11.0% o bobl sy'n byw mewn ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog. Y categori mwyaf difreintiedig ar gyfer y dangosydd hwn oedd ACEHIau sy'n symud i mewn ac allan o'r 50 uchaf, lle'r oedd 12.9% o bobl yn byw mewn aelwydydd gorlawn.

Diogelwch cymunedol

  • Roedd y gyfradd difrod troseddol (i bob 100 o bobl) a gofnodwyd gan yr heddlu tua 2.5 gwaith yn uwch mewn ACEHIau mewn amddifadedd hirsefydlog (2.5) ac mewn ACEHIau sy'n  symud i mewn ac allan o'r 50 mwyaf difreintiedig (2.6) nag mewn ardaloedd sydd heb eu rhestru erioed yn y 50 uchaf (1.1). Roedd y gyfradd ar gyfer ardaloedd a restrwyd unwaith yn y 50 mwyaf difreintiedig tua dwbl y gyfradd ar gyfer y rhai sydd heb eu rhestru erioed (2.1).

Nodiadau

Isod ceir dadansoddiad llawn o ganran yr ardaloedd o bob categori amddifadedd dwfn sy'n dod o fewn pob categori dosbarthiad anheddiad Gwledig/Trefol (Archif Gwe):

Tabl 1: Canran yr ardaloedd o bob categori amddifadedd hirsefydlog sy'n dod o fewn pob categori dosbarthiad anheddiad gwledig/trefol
Dosbarthiad aneddiad gwledig/trefol ACEHI nad ydynt erioed wedi ymddangos ACEHI sy'n ymddangos unwaith ACEHI sy'n symud mewn ac allan ACEHI mewn amddifadedd hirsefydlog
Tref fawr (llai gwasgaredig) 65.3 100.0 94.6 84.6
Tref fawr (gwasgaredig) 1.9 0.0 0.0 0.0
Tref fach a chyrion (llai gwasgaredig) 13.4 0.0 5.4 15.4
Tref fach a chyrion (gwasgaredig) 4.3 0.0 0.0 0.0
Pentref, pentrefan ac anheddau ynysig (llai gwasgaredig) 7.1 0.0 0.0 0.0
Pentref, pentrefan ac anheddau ynysig (gwasgaredig) 8.0 0.0 0.0 0.0

Ffynhonnell: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), Data dangosyddion, Llywodraeth Cymru

Gwybodaeth am ansawdd

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r  Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol  yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2020 yn dilyn gwiriad cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer oedd mis Rhagfyr 2010.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu nod llesiant i Gymru. Mae'r rhain er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10 (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Daniel Boon
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image removed.

SFR 185/2022