Canllawiau Mynegai MALlC, dogfennau cefndir a gwybodaeth dechnegol.
Cynnwys
MALlC 2019: canllaw
Cyhoeddwyd MALlC 2019 ar 27 Tachwedd 2019. Mae MALlC yn gynnyrch cymhleth ac rydym yn awyddus i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio a’i dehongli yn gywir gan bob defnyddiwr.
Beth yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a sut y dylid ei ddefnyddio?
Dogfennau
Canllaw MALlC 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 496 KB
Cyflwyniad canllaw MALlC 2019 , math o ffeil: ODP, maint ffeil: 4 MB
MALlC 2019: Ffeithlun canllaw , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 596 KB
MALlC 2019: rhestr o allbynnau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 226 KB
MALlC 2019: adroddiad technegol
Dogfennau
MALlC 2019: adroddiad technegol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
MALlC 2019: amddifadedd hirsefydlog
Cafodd dadansoddiad newydd o amddifadedd hirsefydlog ei gynnwys yn adroddiad canlyniadau MALlC 2019.
Mae ardaloedd bach (ACEHI) o amddifadedd 'hirsefydlog' yn ardaloedd sydd wedi aros ymhlith y 50 o ardaloedd mwyaf difreintiedig, sy'n cyfateb yn fras i'r 2.6% uchaf o ardaloedd bach yng Nghymru ar gyfer y pum fersiwn ddiwethaf o safleoedd MALlC (sef MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019). Mae'r data sy'n sail i'r dadansoddiad hwn wedi eu cyhoeddi ar wefan StatsCymru, ynghyd â chanllawiau ar sut i ddefnyddio'r data, a sut i beidio â'u defnyddio.
Mae'r data hyn wedi cael eu darparu i helpu defnyddwyr i nodi pa ardaloedd sydd wedi gadael, ymuno neu aros yn y grŵp mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio safleoedd i awgrymu newid dros amser. Mae'r rhesymau am hyn yn cynnwys newidiadau i ffiniau daearyddol ACEHIau a newidiadau i gynllun y mynegai rhwng fersiynau. I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i fynegai dros amser, gweler y Crynodeb o newidiadau MALlC isod.
Nodwch hefyd fod MALlC yn mesur amddifadedd cymharol, ac felly nid yw'n dangos lefel amddifadedd mewn ardaloedd bach na sut y mae hyn wedi newid dros amser. I gael rhagor o fanylion, gweler y daenlen ddata sy'n sail i'r dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog ar wefan MALlC 2019 neu ar StatsCymru.
Dogfennau
Crynodeb o newidiadau Mynegai MALlC , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 571 KB
MALlC 2019: datblygu
Cyhoeddwyd MALlC 2019 ar 27 Tachwedd 2019.
Ym mis Hydref, fe gyhoeddon ni flog i’ch diweddaru ar y gwaith datblygu, yn ogystal ag amserlen o allbynnau a gynlluniwyd.
Ar 10f Ebrill cyhoeddwyd y dogfennau Crynodeb o'r ymatebion, ac Ymatebion llawn sy'n ymwneud ag ein hymgynghoriad ar ddangosyddion arfaethedig ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.
Dogfennau
Adroddiad arolwg amseru MALlC , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 106 KB
Chwiliadau cod post
Mae'r chwiliadau cod post isod yn eich galluogi i benodi unrhyw ddata cod post sydd gennych i ddata MALlC a grwpiau daearyddiaeth amrywiol.
MALlC 2014: canllawiau
Dogfennau
MALlC 2014: canllaw ar ddefnyddio’r Mynegai , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 311 KB
MALlC 2014: cwestiynau cyffredin , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 309 KB
MALlC 2014: adroddiad technegol
Dogfennau
MALlC 2014: adroddiad technegol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
MALlC 2014: datblygu
Cyfres o bapurau technegol yn ymwneud â datblygu MALLC 2014.