Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i'ch helpu i lywio emosiynau ac ymddygiad eich plentyn drwy gydol ei ddatblygiad.

Cyflwyniad

Drwy gydol blynyddoedd cyntaf eich plentyn, efallai y byddwch chi’n gweld eu bod yn cael eu llethu gan emosiynau mawr. Gall y teimladau hyn arwain at ymddygiad heriol fel taro, taflu, cnoi, neu wrthod dilyn cyfarwyddiadau. Yn ffodus, mae ffyrdd o helpu eich plentyn i ddatblygu 'sgiliau hunan-rheoli' a fydd yn caniatáu iddyn nhw reoli'r emosiynau hyn wrth iddyn nhw barhau i dyfu. Mae’r Seicolegydd Addysg Dr Nicola Canale yn cynnig cipolwg ar ymddygiad plant yn y blynyddoedd cynnar - gydag awgrymiadau ar sut y gall rhieni ymateb i'r adegau anodd hynny.

Meithrin sgiliau hunan-rheoli

Mae ymddygiad plant yn cysylltu’n agos â'u cam datblygu. Mae eu hymennydd yn dal i ddatblygu'n gyflym yn y blynyddoedd cynnar ac mae rhai o'r ymddygiad y mae plant iau yn ei ddangos y tu hwnt i'w rheolaeth o ganlyniad i'w hemosiynau yn eu llethu. Gall rhieni neu ofalwyr helpu plant i ddysgu ffyrdd o ddeall a chael mwy o reolaeth dros yr ymddygiad hwn trwy eu helpu i ddatblygu cyfres bwysig o sgiliau o'r enw sgiliau hunan-rheoli.

Mae datblygu sgiliau hunan-rheoli yn cymryd amser. Mae pob plentyn yn unigryw ac mae datblygu'r sgiliau hyn yn gymysgedd o fioleg neu anianawd y plentyn a'i amgylchedd. Mae’r berthynas sydd ganddyn nhw â’u rhieni neu ofalwyr yn rhan fawr o'r amgylchedd hwn. Pan fydd rhieni neu ofalwyr yn wynebu'r ymddygiad hwn, mae'n bwysig ymateb mewn ffordd sy'n helpu'r plentyn i ddatblygu'r sgiliau hunan-rheoli hyn.

‘Rhan Uchaf yr Ymennydd’ neu ‘Ran Isaf yr Ymennydd’

Creodd Dr Dan Siegel y ‘Model Llaw yr Ymennydd’ i ddangos beth sy'n digwydd yn ymennydd plentyn pan fo’r emosiynau mawr hyn yn eu llethu ac rydym yn gweld ymddygiad fel taro, cnoi, taflu, gwrthod ac ati.

Mae cledr y llaw yn cynrychioli coesyn yr ymennydd (neu'r ymennydd cyntefig). Mae'r rhan hon o'r ymennydd yn gyfrifol am bethau nad oes rhaid i ni feddwl amdanyn nhw – fel curiad y galon neu ymateb ymladd neu ffoi naturiol.

Mae'r bawd yn cynrychioli'r limbig (neu'r ymennydd emosiynol). Mae'r rhan hon o'r ymennydd yn gyfrifol am deimladau mawr fel ofn, tristwch a dicter.

Gellir ystyried y ddwy ran hyn o'r ymennydd fel ‘rhan isaf yr ymennydd'.

Mae'r bysedd yn cynrychioli'r cortecs (neu’r ymennydd meddwl). Mae'r rhan hon o'r ymennydd yn gyfrifol am bethau fel cynllunio, trefnu a’r gallu i feddwl cyn ymateb.

Gellir ystyried y rhan hon o'r ymennydd fel ‘rhan uchaf’ yr ymennydd.

Pan fydd dwy ran yr ymennydd yn gweithio gyda'i gilydd, rydym yn teimlo'n bwyllog ond yn effro ac yn barod i archwilio, dysgu a derbyn gwybodaeth newydd.

Pan fydd plant (neu oedolion) yn teimlo emosiynau mawr, mae rhan uchaf yr ymennydd yn cael ei datgysylltu o'r rhan isaf. Mae Dr Dan Siegel yn galw hyn yn 'colli’i limpyn'.

Ar ôl ‘colli’i limpyn’, mae plant hŷn ac oedolion wedi datblygu'r sgiliau hunan-rheoli sydd eu hangen i ddychwelyd i ailgysylltu rhan uchaf ac isaf yr ymennydd fel bod rhan uchaf ac isaf yr ymennydd yn gweithio mewn cytgord eto.

Nid yw plant ifancach wedi datblygu'r sgiliau hunan-rheoli sydd eu hangen i wneud hyn ac mae angen llawer o gymorth ac arweiniad gan oedolion o hyd i'w helpu i ailgysylltu rhannau uchaf ac isaf eu hymennydd. Po fwyaf y byddwn yn gwneud hyn, y cyflymaf y byddan nhw’n datblygu'r sgiliau hyn.

Cosbi neu Ddisgyblu

Gallai defnyddio cosb i ymateb i ymddygiad annymunol plentyn fod yn ‘ateb cyflym’ – ond mae'n annhebygol o arwain at unrhyw newid parhaol. Mae cosbi hefyd yn annhebygol o gefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol nac ymddygiadol y plentyn a gallai effeithio'n negyddol ar hunan-barch y plentyn.

Ar y llaw arall, bydd disgyblaeth, sy'n dod o'r gair disgybl ('i addysgu') yn arwain at newidiadau hirach a bydd yn helpu i ddatblygu datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol plant a gall gynyddu hunan-barch a lles, sy'n sefyllfa lle mae pawb ar ei hennill i rieni a phlant.

Ymateb i Ymddygiad Plant yn y Blynyddoedd Cynnar

Gwyddom y gallai ymateb i ymddygiad eich plentyn yn y  Blynyddoedd Cynnar fod yn heriol o bryd i'w gilydd – edrychwch ar saith awgrym Dr Nicola Canale (wedi'u haddasu o waith Dr Kim Golding) ar sut y gallwch chi ymateb i ymddygiad eich plentyn isod.

Saith Cam o Ymateb i ymddygiad Dr Nicola Canale, 2020 (Addaswyd o Parenting in the Moment © Kim S. Golding, 2015)

Cam 1

Sylwch: Mae sylwi ac ymyrryd yn gynnar yn allweddol. A oes angen i chi ymyrryd neu a allwch chi ddewis anwybyddu'r ymddygiad a thynnu sylw'r plentyn os nad yw ymddygiad yn achosi unrhyw niwed?

Cam 2

Ymdawelwch: Sicrhewch eich bod yn teimlo'n bwyllog ac â rheolaeth dros eich emosiynau eich hun. Efallai y bydd angen i chi gymryd pum anadl ddofn. Mae'n bwysig ymdawelu eich hun yn gyntaf er mwyn i chi allu ymateb yn lle ymweithio.

Cam 3

Tawelwch eich plentyn: Os yw eich plentyn wedi colli’i limpyn, bydd angen eich help arno i ymdawelu. Mae pob plentyn yn unigryw. Byddwch chi fel rhiant yn gwybod y ffordd orau o’i ymdawelu. Mae rhai plant yn hoffi cael eu cofleidio ac mae’n bosibl y bydd angen ychydig o le ar eraill gyda chi'n eistedd gerllaw i'w helpu i ymdawelu.

Cam 4

Byddwch yn Chwilfrydig: Byddwch yn chwilfrydig am rai o'r emosiynau neu anghenion sylfaenol a fyddai'n esbonio pam mae’ch plentyn yn ymddwyn fel hyn. Acronym defnyddiol i'w gofio yn y Blynyddoedd Cynnar yw H. A. L. T. yn Saesneg. Mae’n golygu llwglyd, dig, unig, blinedig. A oes unrhyw un o'r anghenion hyn heb eu diwallu? A allai hyn fod yn achos ei ymddygiad?

Cam 5

Cysylltwch: Cysylltwch y dotiau ar gyfer eich plentyn. Cysylltwch yr emosiwn neu'r angen â'r ymddygiad yr ydych yn ei weld, e.e. "Rwy'n credu dy fod wedi blino, beth am roi'r teganau i gadw a gorffwys.” Mae cysylltu emosiwn neu angen eich plentyn i'w ymddygiad yn ei helpu i deimlo ei fod yn cael ei ddeall ac wedi esmwytho a bydd hefyd yn helpu i ddatblygu ei sgiliau hunan-rheoli.

Cam 6

Cywirwch: Dyma le byddwch yn rhoi terfyn neu ffin ar yr ymddygiad ac yn penderfynu a oes angen canlyniad sy'n briodol i’r oedran. Ar yr oedran hwn, mae angen i ganlyniad fod ar unwaith ac yn berthnasol i'r plentyn, e.e. “rwyt ti wedi brifo dy chwaer gyda'r tegan, mae'r tegan yn mynd i gadw”. Gyda phlant ifanc, nid oes angen i chi roi canlyniad arall ar waith o reidrwydd os oes canlyniad naturiol i'r ymddygiad eisoes wedi digwydd, e.e. “ni fyddet ti’n rhoi dy esgidiau glaw ymlaen felly does dim digon o amser i fynd i'r parc”.

Cam 7

Cysylltwch eto: Ar ôl pennu'r terfyn, y ffin neu'r canlyniad, cadwch ato, peidiwch â dychwelyd at yr ymddygiad yn hwyrach yn y dydd, byddwch fel Elsa a gadewch iddo fynd. Bydd eich plentyn yn adfer o’r rhwygau bach hyn, ac yn dysgu oddi wrthynt, a bydd eich perthynas yn parhau'n gryf.

Strancio neu Golli Tymer

Gall y 'Model Llaw yr Ymennydd' gan Dr Dan Siegel helpu i egluro'r gwahaniaeth rhwng strancio a cholli tymer hefyd.

‘Strancio yn rhan uchaf yr ymennydd’ yw pan fydd rhannau uchaf ac isaf yr ymennydd yn dal i fod wedi'u cysylltu, a gallai plentyn fod yn ymddwyn mewn ffordd i geisio cael rhywbeth y mae ei eisiau.

'Strancio rhan isaf yr ymennydd’ (neu golli tymer) yw pan fydd y plentyn wedi ‘colli’i limpyn’ ac mae'r ymennydd meddwl wedi'i ddatgysylltu o ran uchaf yr ymennydd.

Mae plant iau, yn enwedig plant ifanc iawn, yn llawer mwy tebygol o fod yn strancio neu’n colli tymer yn ‘rhan isaf yr ymennydd’ a bydd angen cymorth oedolyn arnyn nhw i ymdawelu cyn i'r oedolyn allu hyd yn oed ystyried cywiro'r ymddygiad.

Awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol

Magu Plant. Rhowch amser iddo

Cymerwch eich amser i fodelu’r ymddygiad yr ydych chi am ei weld

Ffilm fer ynghylch cymryd amser i fodelu’r ymddygiad yr ydych chi am ei weld

Cymerwch amser i feddwl sut yr ydych chi’n ymateb i ymddygiad digroeso neu ymddygiad sy’n achosi problemau

Cefnogi a thywys ymddygiad eich plentyn 

Awgrymiadau ar gyfer arwain ymddygiad plant

Ymdrin â chyfnodau ac ymddygiad anodd

Blog rhiant – y teulu Goodbody yn trafod ymdrin ag ymddygiad heriol

Cyngor ategol

NSPCC

Cyngor ar sut i beidio â chynhyrfu drwy feithrin

Rhianta Cadarnhaol

World Health Organisation

Byddwch yn bositif

Ymddygiad gwael

In Our Place

Cyrsiau magu plant

(Dylai'r rhai yng Ngogledd Cymru ddefnyddio'r cod NWSOL a dylai'r rhai yng Nghanolbarth a De Cymru ddefnyddio'r cod SWSOL). 

Ymwadiad: nodwch, mae cyrsiau rhianta eraill ar gael.

Elusen Maudsley Teuluoedd o dan bwysau
Gwasanaethau Rhianta Caerdydd

Helpu plant gyda’u hymddygiad   

Sut i ymdrin ag ymddygiad heriol               

Cefnogi plant ifanc gyda’u teimladau yn ystod cyfnod ansicr

Pam dwi’n dal i wneud y pethau rwyt ti wedi dweud wrtha’i am beidio........dro ar ôl tro!

Ein ffenestr oddefgarwch

Barnardo’s Family Space

Deall ac Ymateb i Ymddygiad (4-8 oed)

Arferion ac Ymddygiadau (8-12 oed)

Action for Children Gosod Ffiniau ac Ymdopi ag Ymddygiad Heriol (Pob oedran)
Family Lives

Disgyblaeth Gadarnhaol

Cyfathrebu â phobl ifanc yn eu harddegau

Ymddygiad (11-16 oed)

NHS

Ymdopi â'ch Merch yn ei Harddegau

Delio ag Ymddygiad Plant