Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am ofal iechyd wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae'r datganiad yn cynnwys ffigurau ar welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, a derbyniadau cleifion cysylltiedig â COVID-19 i'r ysbyty.

Sylwch na chafodd y datganiad hwn ei ddiweddaru ar 30 Rhagfyr 2021. Cyhoeddwyd data ar gyfer gwelyau' r GIG, derbyniadau a'r ysbyty ar 30 Rhagfyr 2021 yn nhablau StatsCymru a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r datganiad hwn.

Prif bwyntiau

  • Yn y 7 diwrnod diwethaf, cafodd cyfartaledd o 51 o bobl y dydd eu derbyn i'r ysbyty gyda chadarnhad neu amheuaeth o COVID-19. Mae hyn yn gynnydd o'i gymharu â'r cyfartaledd o 28 ar gyfer yr wythnos hyd at 28 Rhagfyr 2021 ac mae’r lefelau yn debyg i’r hyn yr oeddent ddechrau mis Mawrth 2021.
  • Ar 4 Ionawr 2022, roedd 930 o welyau yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella), sef 11.1% o'r holl gleifion ysbyty. Mae hyn yn gynnydd o’r ffigur o 568 ar 28 Rhagfyr 2021 (7.2% o'r holl gleifion ysbyty) ac mae’r lefelau yn debyg i’r hyn yr oeddent ganol mis Mawrth 2021.
  • Mae nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella) yn amrywio. Bu cynnydd o 362 yn nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 dros yr wythnos ddiwethaf. Roedd hyn oherwydd cynnydd yn nifer y cleifion y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt (328 yn fwy o welyau yn cael eu defnyddio), cleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19 (26 yn fwy o welyau yn cael eu defnyddio) a chleifion sy’n gwella (8 yn fwy o welyau yn cael eu defnyddio).
  • Ar 4 Ionawr 2022, roedd 47 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi'u cadarnhau ac achosion a amheuir). Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu â 31 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol ar 28 Rhagfyr 2021 ac mae ar lefelau tebyg i’r hyn yr oeddent ddechrau mis Mawrth 2021.

Mae tablau cysylltiedig ar gael am y datganiad hwn, gan gynnwys yr holl ddata isod a hefyd data ar welyau cyffredinol ac acíwt.

Mae ystadegau am absenoldeb staff y GIG ar gael ar StatsCymu yn ogystal â’r holl ystadegau eraill yn y datganiad hwn.

Yn ogystal, cyhoeddir gwybodaeth am welyau, nifer y cleifion yn yr ysbyty a derbyniadau i’r ysbyty ar ddyddiau'r wythnos ar StatsCymru am 12pm ac mae hyn yn cynnwys data hyd at y diwrnod cynt. Ar ôl 12pm ar ddydd Iau, ni fydd y data a ddangosir yn y datganiad yma yn cynnwys y data cyhoeddedig diweddaraf. Fodd bynnag, mae'r datganiad wythnosol yma yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar dueddiadau yn y data.

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y byddant yn newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth am y ffordd o adrodd gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Mae'r adran hon yn sôn am nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 a gafodd eu derbyn i'r ysbyty, a'r gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol sy’n cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r mathau o ysbytai y mae’r adroddiad yn eu trafod wedi newid dros amser, am fwy o wybodaeth, gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Derbyniadau i ysbytai

Image
Mae Siart 1 yn dangos bod nifer y derbyniadau COVID-19, ar ôl cyrraedd brig ym mis Ebrill 2020, wedi cyrraedd pwynt uchel ar 30 Rhagfyr 2020 cyn gostwng eto. Mae'r cyfartaledd wedi bod yn cynyddu ar y cyfan dros yr wythnosau diwethaf.

Cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yr amheuir neu y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty o fewn cyfnod o 24 awr rhwng hanner nos a hanner nos bob dydd, er enghraifft  o 00:00 i 23:59 ddydd Llun gydag adroddiad ddydd Mawrth. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau derbyniadau.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd lle bo amheuaeth neu gadarnhad o COVID-19 yn amrywio. O ystyried hynny, gostyngodd y cyfartaledd treigl 7 diwrnod ar y cyfan rhwng Ionawr 2021 a Mehefin 2021, cyn cynyddu eto tan ganol Medi 2021. Wedi cyfnod o amrywio, gostyngodd y cyfartaledd yn gyffredinol rhwng fis Tachwedd 2021 a diwedd mis Rhagfyr 2021.
  • Yn y 7 diwrnod diwethaf cafodd cyfartaledd o 51 o bobl y dydd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19. Mae hyn yn gynnydd o'i gymharu â'r cyfartaledd o 28 ar gyfer yr wythnos hyd at 28 Rhagfyr 2021 ac mae’r lefelau yn debyg i’r hyn yr oeddent ddechrau mis Mawrth 2021.

Nifer y bobl yn yr ysbyty

Image
Mae Siart 2 yn dangos bod nifer y bobl yn yr ysbyty â COVID-19 wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 cyn gostwng eto. Mae nifer y gwelyau a feddiannir gyda chleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19 wedi bod yn cynyddu'n gyffredinol dros yr wythnosau diwethaf.

Nifer y bobl yn yr ysbyty fel rhai a posibl, a sydd wedi'u cadarnhau neu sy'n gwella gyda COVID-19, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodiadau

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n cael eu hamlinellu'n fanylach yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth am y ffordd o adrodd am gleifion sy’n gwella.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau cyfnodau yn yr ysbyty.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd cyfanswm nifer y gwelyau a oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella) o ddiwedd mis Medi 2020 a chyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 (2,879 o gleifion). O fis Ionawr 2021 i fis Mehefin 2021, gwelwyd gostyngiad cyffredinol yn nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 a chyrhaeddodd y lefelau isaf ar gofnod ar 30 Mehefin 2021 a 4 Gorffennaf 2021 gyda 86 o gleifion.
  • Rhwng dechrau mis Gorffennaf 2021 a dechrau mis Tachwedd 2021 bu cynnydd cyffredinol yn nifer y gwelyau a oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19, er cyfnodau o sefydlogi. Wedi hynny, bu gostyngiad cyffredinol yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty oherwydd COVID-19 tan ddiwedd mis Rhagfyr 2021.
  • Cyrhaeddodd nifer y cleifion y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt a nifer y cleifion sy’n gwella o COVID-19 uchafbwynt ar wahanol adegau; gyda'r niferoedd uchaf o gleifion y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt yn digwydd ddechrau mis Ionawr 2021 (1,643 ar 4 Ionawr 2021) a'r nifer uchaf o gleifion sy'n gwella i’w gweld rhai wythnosau yn ddiweddarach (1,192 ar 31 Ionawr 2021).

Ar 4 Ionawr 2022

  • Roedd 930 o welyau yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella), sef 11.1% o'r holl gleifion ysbyty. O'r rhain, roedd 720 yn gleifion y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt, 52 yn gleifion yr amheuir bod COVID-19 arnynt a 158 yn gleifion sy’n gwella. Mae hyn yn gynnydd o 568 o gleifion ar 28 Rhagfyr 2021 (7.2% o’r holl gleifion ysbyty) ac mae’r lefelau yn debyg i’r hyn yr oeddent ganol mis Mawrth 2021.
  • Mae nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir a chleifion sy’n gwella) yn amrywio. Cafwyd cynnydd o 362 yn nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 dros yr wythnos ddiwethaf. Roedd hyn o ganlyniad i gynnydd yn nifer y cleifion y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt (328 yn fwy o welyau yn cael eu defnyddio), cleifion yr amheuir bod COVID-19 arnynt (26 yn fwy o welyau yn cael eu defnyddio) a chleifion sy’n gwella (8 yn fwy o welyau yn cael eu defnyddio).

Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

Image
Mae Siart 3 yn dangos bod nifer y gwelyau â chymorth anadlu mewnwthiol a oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19, ar ôl cyrraedd brig ym mis Ebrill 2020, wedi cyrraedd pwynt uchel ar 12 Ionawr 2021 cyn gostwng eto.  Mae nifer y gwelyau goresgynnol sy'n cael eu meddiannu gan gleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19 wedi bod yn cynyddu'n gyffredinol dros yr wythnos d ddiweddaraf.

Nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodiadau

Ystyr rhif gwaelodol yw nifer y gwelyau oedd ar gael cyn y pandemig. Fel arfer mae 152 o welyau gofal critigol yng Nghymru. Mae nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn cynnwys capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro, a gwelyau y tu mewn a’r tu allan i amgylchedd gofal critigol. Mae cleifion COVID-19 yn y siart hon yn cynnwys cleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19, cleifion sydd â COVID-19 wedi’i gadarnhau, a chleifion sy’n gwella. Rhwng 26 Mai 2020 ac 17 Ionawr 2021 cafodd rhai cleifion eu categoreiddio fel ‘yn gwella’. O 18 Ionawr 2021 cafodd y cleifion hyn eu categoreiddio fel cleifion y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt. Ni chafodd y newid hwn effaith ar gyfanswm nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn gyffredinol o fis Medi 2020, gan gyrraedd 150 ar 12 Ionawr 2021. Ar ôl hynny, gostyngodd y niferoedd i’r lefel isaf a welwyd ers dechrau cofnodi. Am sawl diwrnod yn ystod mis Mai 2021 a mis Mehefin 2021, cofnodwyd mai dim ond 1 gwely yn unig lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol oedd yn cael ei ddefnyddio.
  • Rhwng diwedd mis Mehefin 2021 a chanol mis Medi 2021, bu cynnydd yn nifer y gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol a oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 hyd at lefelau a oedd yn debyg i’r hyn yr oeddent ddiwedd mis Chwefror 2021. Er amrywiadau dyddiol, bu gostyngiad cyffredinol yn nifer y gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol oedd yn cael eu defnyddio rhwng dechrau mis Tachwedd 2021 a diwedd mis Rhagfyr 2021 ac mae’r lefelau ar hyn o bryd yn debyg i’r hyn yr oeddent ddechrau mis Mawrth 2021.

Ar 4 Ionawr 2022

  • Roedd 47 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi'u cadarnhau ac achosion a amheuir). Mae hyn yn cymharu â 31 ar 28 Rhagfyr 2021 (h.y. 16 yn fwy o welyau yn cael eu defnyddio).
  • Roedd 124 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn cael eu defnyddio gan gleifion nad oeddent yn gysylltiedig â COVID-19. Mae hyn yn cymharu â 126 o welyau ar 28 Rhagfyr 2021 (h.y. 2 yn llai o welyau’n cael eu defnyddio).
  • Roedd 44 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol gwag y gellid eu staffio Mae hyn yn cymharu â 49 ar 28 Rhagfyr 2021 (h.y. 5 yn llai o welyau yn cael eu defnyddio).

Mae gwybodaeth am ofal iechyd a gyflwynir ar ddangosfwrdd COVID-19 Llywodraeth y DU ac ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y byddant yn newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Mae’n bosibl y bydd data hanesyddol wedi'u diwygio ac na fyddant, felly, yn union yr un fath â'r hyn a gyhoeddwyd o’r blaen.

Newidiadau i gynnwys y cyhoeddiad hwn

O 17 Mehefin 2021, newidiodd cynnwys y datganiad hwn, fel yr amlinellir isod.

Absenoldeb a chyfradd hunanynysu staff y GIG

Roedd yr wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi bob dydd Iau ar StatsCymru. O 21 Mehefin 2021, symudwyd y casgliad hwn o bob wythnos i bob pythefnos, ond oherwydd y galw cynyddol am wybodaeth ar absenoldeb staff y GIG, ailddechreuwyd cyhoeddi’r casgliad hwn yn wythnosol o 3 Ionawr 2022.

Cyflwynwyd y casgliad data hwn ar ddechrau'r pandemig i helpu i ddeall a rheoli capasiti yn y GIG er mwyn ymateb yn gyflym i'r anghenion a'r blaenoriaethau a oedd yn newid. Roedd y gwaith o gasglu data yn ddwys o ran adnoddau i gyrff y GIG ac, er nad yw absenoldeb staff oherwydd COVID yn ffactor o bwys erbyn hyn wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol y GIG, rydym am leihau'r baich ar gyrff sy'n casglu ac yn cyflenwi'r data hyn.

Derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y GIG

Roedd yr wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi yn y datganiad ystadegol hwn a hefyd ar StatsCymru bob dydd Iau. O 17 Mehefin 2021, cafodd yr adran hon ei dileu o’r datganiad ystadegol ac nid ydym yn diweddaru’r data yma ar StatsCymru mwyach.

Ar ddechrau'r pandemig, cafodd ystadegau swyddogol ar dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys eu rhewi, a chyflwynwyd data wythnosol a dynnwyd o wybodaeth reoli. Er hynny, mae ystadegau swyddogol am dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn cael eu cyhoeddi unwaith eto bob mis fel rhan o'r datganiad ystadegol Gweithgarwch a Pherfformiad y GIG. Hefyd, yn y misoedd diwethaf dengys y data fod derbyniadau ar lefelau tebyg erbyn hyn i gyfartaledd 2015-19.

Galwadau a wnaed i 111 a Galw Iechyd Cymru

Roedd hwn yn cael ei gyhoeddi bob dydd Iau ar StatsCymru. O 17 Mehefin 2021, nid ydym yn diweddaru’r data yma mwyach.

Mae galwadau i 111 a Galw Iechyd Cymru'n cael eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ei Ddangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym COVID-19. Mae gwybodaeth ar gael am bob galwad a chyfran y galwadau sydd ar gyfer symptomau COVID-19. Mae'r wybodaeth ar gael ar lefel byrddau iechyd lleol.

Galwadau ambiwlans argyfwng yn ôl dyddiad

Roedd hwn yn cael ei gyhoeddi bob dydd Iau ar StatsCymru. O 17 Mehefin 2021, nid ydym yn diweddaru’r data yma mwyach.

Ar ddechrau'r pandemig, cafodd ystadegau swyddogol ar alwadau argyfwng i'r gwasanaeth ambiwlans eu rhewi, a chyflwynwyd data wythnosol a dynnwyd o wybodaeth reoli. Er hynny, mae ystadegau swyddogol am alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu cyhoeddi unwaith eto bob mis fel rhan o'r datganiad ystadegol Gweithgarwch a Pherfformiad y GIG.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Ar 13 Mawrth 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig.

Yn dilyn gwaith dilysu pellach, penderfynwyd nad oedd data derbyniadau a chyfnodau yn yr ysbyty cyn 1 Ebrill 2020 yn addas i’w cyhoeddi. Felly, mae’r gyfres amser yn dechrau ar 1 Ebrill 2020.

Mae ffigurau ar weithgarwch a chapasiti ysbytai a defnydd gwelyau yn cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen, ac yn eithrio data o ysbytai preifat.

Derbyniadau i ysbytai

Mae derbyniadau'n cyfeirio at nifer y cleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty o fewn cyfnod o 24 awr rhwng hanner nos a hanner nos bob dydd, er enghraifft o 00:00 i 23:59 ddydd Llun gydag adroddiad ddydd Mawrth. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Diffinnir derbyniad sy'n gysylltiedig â COVID-19 fel derbyniad brys i unrhyw arbenigedd meddygol ac mae naill ai:

  • o fewn 14 diwrnod i gymryd sampl COVID-19 positif; neu
  • lle cymerir sampl COVID-19 ar ddiwrnod cyntaf y derbyniad, p'un a yw'r canlyniad yn bositif neu’n negatif

Bwriad y meini prawf ar gyfer derbyniadau meddygol brys yw rhoi brasamcan o nifer y cleifion lle bo amheuaeth o COVID-19.

Ni ddylai cleifion a drosglwyddir rhwng ysbytai o fewn yr un sefydliad gael eu cyfrif yn nifer y derbyniadau.

Noder nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gallu darparu data ar nifer y cleifion a dderbyniwyd i Ysbyty Glan Clwyd yn ystod misoedd Gorffennaf 2021, Awst 2021 a Hydref 2021 oherwydd mater yn ymwneud â phrosesu data. I gael gwybod mwy am y dyddiadau penodol, darllenwch y nodyn ar StatsCymru.

O 3 Gorffennaf 2020, diweddarwyd y canllawiau i gynnwys derbyniadau brys yn unig yn y ffigurau derbyniadau sy’n gysylltiedig â COVID-19.

O 29 Mehefin 2020 ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd.

O 29 Mehefin 2020, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty.

Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion a amheuir yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd.

Nifer y bobl yn yr ysbyty

Mae nifer y bobl sydd yn yr ysbyty am resymau’n gysylltiedig â COVID-19 yn golygu nifer y gwelyau wedi’u staffio a ddefnyddir gan glaf sy'n bodloni'r diffiniad o glaf sydd lle bo ‘Cadarnhad’ neu ‘Amheuaeth’ neu sy’n ‘Gwella’ fel y nodir isod.

Ni fydd claf yn cael ei ddiffinio fel claf y cadarnhawyd bod ganddo COVID-19 hyd nes y bydd wedi cael prawf positif; a bydd yn parhau i gael ei ddiffinio felly hyd nes y bodlonir y meini prawf israddio. (Gweler yr adran ar wella o COVID-19 isod).

Diffinnir claf fel un yr amheuir bod ganddo COVID-19 os yw'n aros am ganlyniad prawf ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty o dan arbenigedd meddygol neu os yw'n dod yn symptomatig ar ôl cael ei dderbyn am unrhyw reswm arall. Mae hyn hefyd yn cynnwys cleifion sy’n cael prawf negatif ond sy’n parhau i arddangos symptomau COVID-19, cleifion sy’n cael canlyniad positif lefel isel cyn cael ail brawf, a chleifion COVID-19 sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty ond sy’n cael eu haildderbyn i’r ysbyty gyda symptomau COVID-19 cyn cael ail brawf.

Diffinnir claf fel un sy’n gwella o COVID-19 os yw naill ai'n cael canlyniad prawf negatif fel cadarnhad ei fod bellach yn glaf sy’n gwella o COVID-19, neu os yw'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • wedi cwblhau 14 diwrnod ar ôl prawf COVID-19 positif
  • wedi dangos gwelliant clinigol yn ei gyflwr, gydag o leiaf rywfaint o adferiad anadlol
  • dim twymyn (> 37.8°C) am 48 awr
  • dim imiwnoataliaeth gwaelodol difrifol

Mae claf nad yw’n gysylltiedig â COVID-19 yn glaf nad yw'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf a ddisgrifir uchod ar gyfer cadarnhad, amheuaeth neu wella. Os yw claf wedi cael haint COVID-19 yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty ac wedyn yn bodloni'r meini prawf israddio a nodir uchod, dylid ei gofnodi fel claf nad oes ganddo COVID-19.

Er mwyn sicrhau bod nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19 yn cael eu cofnodi'n gywir ac yn gyson yn y data ar gyfnodau yn yr ysbyty, atgoffwyd pob bwrdd iechyd i ddilyn y canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar SITREP, a gofynnwyd iddynt sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol i'w hadroddiadau dyddiol wedi cael eu gweithredu erbyn 12 Ebrill 2021. Yn groes i'r canllawiau, roedd rhai byrddau iechyd yn cyfrif cleifion arhosiad hir a oedd wedi gwella'n llwyr o COVID-19 yng nghategori gwella o COVID-19, yn hytrach na'r categori cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19, a oedd wedi chwyddo nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19. Arweiniodd y newid hwn at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy'n gwella (gostyngiad o tua 123 o gleifion ar y pwynt gweithredu). Er bod yr effaith wedi’i gweld ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, gwelwyd yr effeithiau pennaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

O 8 Mawrth 2021, sicrhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fod eu data yn fwy cydnaws â’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar y sefyllfa (SITREP). Cafodd y newid hwn effaith fach ar y ffigurau ar gyfnodau yn yr ysbyty, a arweiniodd at gynnydd bach yn nifer y cleifion gyda COVID-19 a gadarnhawyd a gostyngiad bach yn nifer y cleifion COVID-19 sy’n gwella.

O 1 Chwefror 2021, ailadroddwyd canllawiau i fyrddau iechyd y dylai cleifion a oedd eisoes yn yr ysbyty ac wedi dal COVID-19, ond sydd bellach wedi gwella ac sydd yn ôl yn eu lleoliad gwreiddiol, gael eu hadrodd fel rhai nad ydynt yn COVID-19. Gall hyn fod wedi effeithio ar nifer fach o gleifion oedd mewn ysbytai acíwt neu leoliadau iechyd meddwl a gallai fod wedi arwain at ostyngiad yn nifer y cleifion sy'n gwella a chynnydd yn nifer y cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19.

O 16 Tachwedd 2020, cynhwysir data o ysbyty Athrofaol y Faenor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o oddeutu 450 yng nghyfanswm nifer y gwelyau sydd ar gael.

Cafodd data o unedau iechyd meddwl eu cynnwys yn ôl-weithredol o 10 Gorffennaf 2020 am y tro cyntaf yn natganiad 20 Awst 2020. Roedd cynnwys gwelyau iechyd meddwl wedi cael effaith fach ar ffigurau a oedd yn dangos nifer y gwelyau llawn gyda chleifion COVID-19, ond effaith fawr ar yr holl welyau llawn gyda chleifion heb COVID-19 a gwelyau gwag, gan nad yw’r rhan fwyaf o welyau iechyd meddwl yn cynnwys cleifion COVID-19. Caiff data unedau iechyd meddwl eu cyflwyno bob dydd Gwener, a chaiff y sefyllfa ar y dydd Gwener ei defnyddio fel procsi ar gyfer yr wythnos ganlynol, oni bai bod yr amgylchiadau’n newid yn ddirfawr.

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, a hynny’n aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n cael ei hamlinellu isod.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar y adrodd cleifion sy’n gwella.

O ran adrodd am gleifion sy’n gwella, dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin 2020 ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai 2020 a 22 Mai 2020. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai 2020.

Ers Mehefin 2020, mae ysbytai wedi dechrau cau rhywfaint o’r capasiti ychwanegol a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer cynnydd yn nifer y cleifion yn sgil pandemig COVID-19.

Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

O 18 Ionawr 2021, ni chyfrifir unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n ‘gwella’ gan fod angen lefel uchel o ofal arnynt o hyd. Caiff unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn ‘gwella’ ei gyfrif nawr o dan ‘wedi'u cadarnhau’. Arweiniodd y newid hwn at gynnydd yn nifer y cleifion COVID-19 ‘wedi’u cadarnhau’ a oedd yn defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt gweithredu) ac nid oedd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion sy’n ‘gwella’. Ni chafodd y newid hwn unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

O 13 Tachwedd 2020 ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio a gafodd eu cynnwys fel gwelyau oedd ar gael. Mae gwelyau wedi’u staffio yn golygu’r rheini y gellir eu staffio adeg y cyfrifiad. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

O 19 Hydref 2020, mae data ar gyfer gwelyau gofal critigol arbenigol (fel y rhai Llosgi a Phlastig yn Nhreforys) a gwelyau acíwt arbenigol eraill (fel rhai mamolaeth) dros safleoedd acíwt eraill wedi eu cynnwys. Mae’r gwelyau hyn wedi cael eu cynnwys yn y data gan eu bod yn rhan o’r stoc o welyau sydd ar gael, a gellid eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19 mewn amgylchiadau eithriadol. Nid oes cleifion COVID-19 yn y mwyafrif o’r gwelyau hyn. Nid yw cynnwys y rhain felly yn cael fawr o effaith ar nifer y gwelyau â chleifion COVID-19 ond mae’r effaith yn fwy ar nifer y gwelyau gweigion a’r rheini sydd â chleifion sydd ddim â COVID-19.

Cymaroldeb

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU am wybodaeth am ofal iechyd ar lefel y DU. Sylwer: mae'r data gofal iechyd a gyflwynwyd yn dangosfwrdd y DU yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Mae’r data ar gyfer Cymru ar ddangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai acíwt yn unig a ddarparwyd yn wreiddiol er mwyn gallu cymharu'n well â gwledydd eraill. Ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl er mwyn darparu darlun mwy cynhwysfawr o'r system yng Nghymru. O 11 Rhagfyr 2020 ymlaen, diweddarwyd data ar gyfer Lloegr a gyflwynwyd ar ddangosfwrdd y DU er mwyn cyd-fynd â chyhoeddiadau GIG Lloegr ac o ganlyniad diwygiwyd y gyfres amser gyfan ar gyfer yr eitem hon. Mae’r data ar gyfer Lloegr ar ddangosfwrdd y DU yn awr yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl. Oherwydd y newid hwn i’r dull adrodd, rydym yn adolygu cyfaddasrwydd y data a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer Cymru. Cyhoeddir amcangyfrifon o nifer y bobl a gafodd y coronafeirws yng Nghymru a Lloegr hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr Arolwg o Heintiadau Coronafeirws

Sylwch fod y data gwyliadwriaeth gofal iechyd a gyflwynir yn nangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r hyn sydd yn y cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio data a gesglir yn systematig drwy ICNET, y system data rheoli heintiau mewn ysbytai a ddefnyddir ledled Cymru. Mae'n cynnwys cleifion mewnol mewn ysbytai sydd wedi cael cadarnhad o’u prawf drwy labordy ac nid yw'n cyfrif unrhyw gleifion a gafodd eu derbyn a'u rhyddhau yr un diwrnod.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio data a geir o wybodaeth reoli ddyddiol a ddarperir gan fyrddau iechyd. Darparwyd canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar gwblhau a chyflwyno’r data. Gall dulliau casglu data amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall. Mae'n cynnwys cleifion yr amheuir bod y clefyd arnynt, cleifion y cadarnhawyd ei fod arnynt a chleifion sy’n gwella ohono. Mae hefyd yn cynnwys cleifion nad yw COVID-19 arnynt.

Bydd y diffiniad culach a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn debygol o arwain at nifer lai o dderbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID o gymharu â'r hyn a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n ddull systematig o gynnal gwyliadwriaeth ar gleifion y mae angen iddynt aros yn yr ysbyty os cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf am 9.30am ddydd Iau 13 Ionawr 2022.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn ystyried cyhoeddi datganiadau ystadegol COVID-19 yn llai aml, gan gynnwys y datganiad hwn. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu adborth ar sut rydych yn defnyddio’r datganiadau hyn, ac unrhyw newidiadau y gellir eu gwneud iddynt drwy kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Os oes gennych ymholiad am y data, cysylltwch â:
Ystadegydd: Ryan Pike
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 6/2022