Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif ffigurau cenedlaethol

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am gofal iechyd wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae'r datganiad yn cynnwys ffigurau ar welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, derbyniadau cleifion cysylltiedig â COVID-19 i'r ysbyty, a'r nifer a aeth i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd gyda COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd yn amrywio. O ystyried hynny, mae'n ymddangos bod derbyniadau dyddiol wedi gostwng dros yr wythnosau diwethaf; gyda'r cyfartalog treigl 7 diwrnod yn gostwng ers 12 Ionawr.
  • Yn y 7 diwrnod diwethaf chafodd 85 o bobl ar gyfartaledd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19, i’w cymharu â 100 yn yr wythnos hyd at 2 Chwefror 2021.
  • Mae cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi gweld cynnydd ers diwedd mis Medi 2020 a chyrhaeddodd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 gydag 2,879 o gleifion. Ers hynny, er gwaethaf amrywiadau mae nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 wedi lleihau.
  • Ar 9 Chwefror 2021, roedd cleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) cysylltiedig mewn 2158 o welyau gan gyfrif am 27% o'r holl dderbyniadau i'r ysbyty. Mae hyn yn ostyngiad o 2,485 o welyau o’i gymharu â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol (31% o’r holl gleifion).
  • Ar 9 Chwefror 2021, roedd 868 cleifion COVID-19  sydd wedi'u cadarnhau. Mae hyn yn ostyngiad o 1,138 â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol
  • Ar 9 Chwefror 2021, roedd 1,100 o welyau sy’n llawn gyda chleifion sy’n gwella. Mae hyn yn ostyngiad o 1,139 i'w gymharu â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol.
  • Ar 9 Chwefror 2021, roedd 84 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella). Mae hon yn cymharu â 113 o welyau â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol ac yn cymharu â 164 ar y brig ym mis Ebrill 2020.

Mae tablau cysylltiedig ar gael am y datganiad hwn, gan gynnwys yr holl ddata isod a hefyd data ar welyau cyffredinol ac acíwt.

Mae ystadegau am alwadau a wnaed i 111 a Galw Iechyd Cymru, absenoldeb staff y GIG a galwadau brys am ambiwlans ar gael ar StatsCymu yn ogystal â’r holl ystadegau eraill yn y datganiad hwn. Yn ogystal, cyhoeddir gwybodaeth am welyau, nifer y cleifion yn yr ysbyty a derbyniadau i’r ysbyty ar ddyddiau'r wythnos ar StatsCymru am 12yp ac mae hyn yn cynnwys data hyd at y diwrnod cynt. Ar ôl 12yp ar ddydd Iau, ni fydd y data a ddangosir yn y datganiad yma yn cynnwys y data cyhoeddedig diweddaraf. Fodd bynnag, mae'r datganiad wythnosol yma yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar dueddiadau yn y data.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

2. Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Mae'r adran hon yn sôn am nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 a gafodd eu derbyn i'r ysbyty, a'r gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r mathau o ysbytai mae’r adroddiad yn trafod wedi newid dros amser, am fwy o wybodaeth, gwelwch adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

2.1 Derbyniadau i ysbytai

Image
Mae Siart 1 yn dangos gostyngiad cyson yn nifer y derbyniadau rhwng mis Ebrill 2020 a mis Awst 2020. Ar ôl hynny, cynyddodd nifer y derbyniadau yn gyffredinol gan gyrraedd uchafbwynt ar 7 Ionawr 2021 cyn gostwng eto.

Cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yr amheuir neu y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty rhwng 9am ar ddyddiad y diweddariad a 9am y diwrnod blaenorol. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Ar 13 Mawrth 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig. Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion a amheuir yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd.

O 29 Mehefin 2020, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty.

Ers y 3ydd o Orffennaf 2020, diweddarwyd y canllawiau i gynnwys derbyniadau brys yn unig yn y ffigurau derbyniadau sy’n gysylltiedig â COVID-19.

O 29 Mehefin 2020 ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd.

Ar 9 Chwefror 2021

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd gyda COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd yn amrywio. O ystyried hynny, mae'n ymddangos bod derbyniadau dyddiol wedi gostwng dros yr wythnosau diwethaf; gyda'r cyfartalog treigl 7 diwrnod yn gostwng ers 12 Ionawr.
  • Yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, cafodd 85 o bobl y dydd ar gyfartaledd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos posibl neu wedi'i gadarnhau o COVID-19, i’w gymharu â 100 o bobl y dydd yn yr wythnos hyd at 2 Chwefror 2021.

2.2 Nifer y bobl yn yr ysbyty

Image
Mae Siart 2 yn dangos gostyngiad cyson yn nifer y bobl yn yr ysbyty gyda COVID-19 o fis Ebrill 2020 ymlaen. Yn gyffredinol, mae’r nifer wedi cynyddu ers mis Medi 2020 gan gyrraedd uchafbwynt ar 12 Ionawr 2021.

Nifer y bobl yn yr ysbyty fel rhai a posibl, a sydd wedi'u cadarnhau neu sy'n gwella gyda COVID-19, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n amlinellu'n fanylach yn yr adran Ansawdd Allweddol.

O 18 Ionawr 2021, ni ddylid cyfrif unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n "gwella" gan eu bod yn parhau i angen lefel uchel o ofal. Bydd unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn "gwella" yn cael ei gyfrif nawr o dan "wedi'u cadarnhau". Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y cleifion COVID-19 “wedi’u cadarnhau” sy’n defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt o weithredu) ac ni fydd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai sy’n cael eu defnyddio can gleifion sy’n “gwella”. Ni fydd y newid yma yn cael unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

O 1 Chwefror 2021, ailadroddwyd canllawiau i fyrddau iechyd y dylai cleifion a oedd eisoes yn yr ysbyty ac wedi contractio COVID-19, ond sydd bellach wedi gwella ac sydd yn ôl ar eu lleoliad gwreiddiol, gael eu hadrodd fel rhai nad ydynt yn COVID-19. Gall hyn effeithio ar nifer fach o gleifion sydd mewn ysbytai acíwt neu leoliadau iechyd meddwl a gall arwain at ostyngiad mewn cleifion sy'n gwella a chynnydd mewn cleifion nad ydynt yn COVID-19.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar y adrodd cleifion sy’n gwella.

Prif bwyntiau

  • Mae cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi gweld cynnydd cyffredinol ers diwedd mis Medi 2020 a chyrhaeddodd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 gydag 2,879 o gleifion.
  • Mae’r nifer y cleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID-19 wedi gweld cynnydd ers mis Medi 2020 a chyrhaeddodd ei lefel uchaf ar 4 Ionawr 2021 gydag 1,643 o gleifion. 
  • Ers 20 Ionawr 2021 mae nifer y gleifion COVID-19 yn yr ysbyty wedi bod yn gostwng.

Ar 9 Chwefror 2021

  • Roedd 2,158 o welyau gyda chleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) gan gyfrif am 27% o'r holl gleifion yn yr ysbyty. Mae hyn yn ostyngiad o 2,485 o welyau (327 llai o welyau sy’n llawn) o’i gymharu â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol (31% o’r holl gleifion).
  • Roedd 868 cleifion COVID-19  sydd wedi'u cadarnhau. Mae hyn yn ostyngiad o 1,138 (270 llai o welyau sy’n llawn) â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol.
  • Ar 9 Chwefror 2021, roedd 1,100 o welyau sy’n llawn gyda chleifion sy’n gwella. Mae hyn yn ostyngiad o 1,139 (39 llai o welyau sy’n llawn) i'w gymharu â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol.
  • Roedd 190 o welyau gyda chleifion posibl COVID-19.

2.3 Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

Image
Ar ôl gostyngiad cyson yn nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol a ddefnyddir ar gyfer claf COVID-19 ers yr uchafbwynt ym mis Ebrill 2020, mae Siart 3 yn dangos bod cynnydd wedi bod ers mis Medi 2020 gyda nifer y gwelyau a ddefnyddir yn cyrraedd lefel debyg ym mis Ionawr 2021 i’r uchafbwynt ym mis Ebrill 2020.

Nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Ystyr rhif gwaelod yw nifer o welyau roedd ar gael cyn i’r pandemig. Fel arfer mae 152 gwelyau gofal critigol yng Nghymru. Mae nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn cynnwys capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro, a gwelyau y tu mewn a’r tu allan i amgylchedd gofal critigol. Cynhwysir cleifion COVID-19 yn y siart cleifion posibl o COVID-19, cleifion sydd wedi'u cadarnhau, a chleifion sy’n gwella.

Ers Mehefin 2020, mae ysbytai wedi dechrau cau rhywfaint o’r capasiti ychwanegol a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer cynydd yn nifer y cleifion yn sgil pandemig COVID-19.

Ers 19 Hydref 2020 mae gwelyau gofal critigol arbenigol wedi cael eu cynnwys yn y ffigurau hyn. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.

O 13 Tachwedd 2020 ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio sy’n cael eu yna cynnwys fel gwelyau sydd ar gael. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.

O 18 Ionawr 2021, ni ddylid cyfrif unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n "gwella" gan eu bod yn parhau i angen lefel uchel o ofal. Bydd unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn "gwella" yn cael ei gyfrif nawr o dan "wedi'u cadarnhau". Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y cleifion COVID-19 “wedi’u cadarnhau” sy’n defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt o weithredu) ac ni fydd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai sy’n cael eu defnyddio can gleifion sy’n “gwella”. Ni fydd y newid yma yn cael unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

Ar 9 Chwefror 2021

  • Mae nifer y gwelyau ymledol a feddiannir gan gleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi lleihau ers uchafbwynt yng nghanol Ebrill 2020. Cynyddodd nifer y gwelyau mewn defnydd lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn gyffredinol o fis Medi 2020, ond mae wedi gostwng dros yr wythnosau diwethaf.
  • Roedd 84 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella). Mae hon yn cymharu â 113 o welyau (29 llai o welyau sy’n llawn) â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol ac yn cymharu â 164 (80 llai o welyau sy’n llawn) ar y brig ym mis Ebrill 2020.
  • Roedd 85 o welyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol wag y gellid eu staffio. Mae hon yn cymharu â 57 o welyau (28 mwy o welyau) â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol.

Mae gwybodaeth am ofal iechyd a gyflwynir ar ddangosfwrdd COVID-19 Llywodraeth y DU ac ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

3. Derbyniadau i adrannau DacAB

Mae'r adran hon yn sôn am dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Image
Mae Siart 4 yn dangos bod nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys wedi gostwng yn sydyn o ganol mis Mawrth ymlaen i oddeutu hanner y nifer blaenorol, gan gynyddu'n araf rhwng mis Ebrill 2020 a mis Awst 2020 i fod yn agos at y lefelau cyn y pandemig. Fodd bynnag, ym mis Medi 2020, dechreuodd nifer y mynychiadau ostwng ac mae wedi aros yn is na’r lefelau cyn y pandemig.

Nifer y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, o 1 Chwefror 2020 (MS Excel)

Nodyn

Gan gynnwys derbyniadau i ysbytai Mawr a Bach, drwy bob dull cludo, ar draws Cymru. Nid yw rhai unedau bach Damweiniau ac Argyfwng yn gallu cyflwyno data dyddiol, felly mae'n debyg bod tangyfrif bach yn y cyfanswm sy’n mynychu. Mae'r cyfartaledd pum mlynedd yn defnyddio data o'r blynyddoedd 2015-2019. Ar gyfer y data ar 29 Chwefror, dim ond data o'r flwyddyn 2016 a 2021 sydd wedi'u cynnwys.

Prif bwyntiau

Mae nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys wedi gostwng yn sydyn o ganol mis Mawrth 2020 i oddeutu hanner y nifer flaenorol, yna'n dringo'n araf o ddechrau mis Ebrill 2020 tan fis Awst, pan oeddent yn agos at lefelau cyn-bandemig. Ym mis Medi 2020, dechreuodd y nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys leihau eto.

4. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Mae’n bosibl y bydd data hanesyddol wedi'u diwygio ac na fyddant, felly, yn union yr un fath â'r hyn a gyhoeddwyd o’r blaen.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Yn dilyn gwaith dilysu pellach, penderfynwyd nad oedd cwmpas data cyn 1 Ebrill 2020 ar gyfer derbyniadau, cyfnodau yn yr ysbyty a defnydd gwelyau yn addas i’w gyhoeddi. Felly, bydd y gyfres amser yn dechrau ar 1 Ebrill 2020.

Mae ffigurau ar weithgarwch a chapasiti ysbytai a defnydd gwelyau yn cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen, ac yn eithrio data o ysbytai preifat.

Cafodd data o unedau iechyd meddwl eu cynnwys yn ôl-weithredol o 10 Gorffennaf 2020 am y tro cyntaf yn natganiad 20 Awst 2020. Cafodd cynnwys gwelyau iechyd meddwl effaith fach ar ffigurau cleifion COVID-19 ond effaith fawr ar yr holl ffigurau ysbytai, gan nad yw’r rhan fwyaf o gleifion iechyd meddwl yn gleifion COVID-19.

O 19 Hydref 2020, mae data ar gyfer gwelyau gofal critigol arbenigol (fel y rhai Llosgi a Phlastig yn Nhreforys) a gwelyau acíwt arbenigol eraill (fel rhai mamolaeth) dros safleoedd acíwt eraill wedi eu cynnwys. Mae’r gwelyau hyn wedi cael eu cynnwys yn y data gan eu bod yn rhan o’r stoc o welyau sydd ar gael, a gellid eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19 mewn amgylchiadau eithriadol. Nid oes cleifion COVID-19 yn y mwyafrif o’r gwelyau hyn. Nid yw cynnwys y rhain felly yn cael fawr effaith ar nifer y gwelyau â chleifion COVID-19 ond mae’r effaith yn fwy ar nifer y gwelyau gweigion a’r rheini sydd â chleifion sydd ddim â COVID-19.

O 13 Tachwedd 2020 ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio sy’n cael eu cynnwys fel gwelyau sydd ar gael. Cyn hynny roedd pob gwely gofal critigol wedi cael ei gynnwys, p’un a ellid staffio’r gwely hwnnw ai peidio. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

O 16 Tachwedd 2020, bydd data’n cael eu cynnwys o’r ganolfan arbenigol a gofal critigol newydd; Ysbyty Athrofaol y Faenor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae agor yr ysbyty wedi arwain at gynnydd yn nifer y gwelyau sydd ar gael gan oddeutu 450 o welyau.

Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin 2020 ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai 2020 a 22 Mai 2020. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai 2020.

O 18 Ionawr 2021, ni ddylid cyfrif unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n "gwella" gan eu bod yn parhau i angen lefel uchel o ofal. Bydd unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn "gwella" yn cael ei gyfrif nawr o dan "wedi'u cadarnhau". Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y cleifion COVID-19 “wedi’u cadarnhau” sy’n defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt o weithredu) ac ni fydd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai sy’n cael eu defnyddio can gleifion sy’n “gwella”. Ni fydd y newid yma yn cael unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

O 1 Chwefror 2021, ailadroddwyd canllawiau i fyrddau iechyd y dylai cleifion a oedd eisoes yn yr ysbyty ac wedi contractio COVID-19, ond sydd bellach wedi gwella ac sydd yn ôl ar eu lleoliad gwreiddiol, gael eu hadrodd fel rhai nad ydynt yn COVID-19. Gall hyn effeithio ar nifer fach o gleifion sydd mewn ysbytai acíwt neu leoliadau iechyd meddwl a gall arwain at ostyngiad mewn cleifion sy'n gwella a chynnydd mewn cleifion nad ydynt yn COVID-19.

Cymaroldeb

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU am wybodaeth am ofal iechyd ar lefel y DU. Sylwer: mae'r data gofal iechyd a gyflwynwyd yn dangosfwrdd y DU yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Mae’r data ar gyfer Cymru ar ddangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai llym yn unig a ddarparwyd yn wreiddiol er mwyn gallu cymharu'n well â gwledydd eraill. Ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai llym, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl er mwyn darparu darlun mwy cynhwysfawr o'r system yng Nghymru. O 11 Rhagfyr 2020 ymlaen, diweddarwyd data ar gyfer Lloegr a gyflwynwyd ar ddangosfwrdd y DU er mwyn cyd-fynd â chyhoeddiadau GIG Lloegr ac o ganlyniad diwygiwyd y gyfres amser cyfan ar gyfer yr eitem hon. Oherwydd y newid mewn adrodd hon, rydym yn adolygu cyfaddasrwydd y data a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer Cymru. Cyhoeddir amcangyfrifon o nifer y bobl a gafodd y coronafeirws yng Nghymru a Lloegr hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr Arolwg o Heintiadau Coronafeirws

Sylwch fod y data gwyliadwraeth gofal iechyd a gyflwynir yn nangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r hyn sydd yn y cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio data a gesglir yn systematig drwy ICNET, y system data rheoli heintiau mewn ysbytai a ddefnyddir ledled Cymru. Mae'n cynnwys cleifion mewnol mewn ysbytai sydd wedi cael cadarnhad o’u prawf drwy labordy ac nid yw'n cyfrif unrhyw gleifion a gafodd eu derbyn a'u rhyddhau yr un diwrnod.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio data a geir o wybodaeth reoli ddyddiol a ddarperir gan fyrddau iechyd. Darparwyd canllawiau ar gwblhad a chyflwyniad y casgliad data i fyrddau iechyd lleol. Gall dulliau casglu data amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall. Mae'n cynnwys cleifion yr amheuir bod y clefyd arnynt, cleifion y cadarnhawyd ei fod arnynt a chleifion sy’n gwella ohono. Mae hefyd yn cynnwys cleifion nad yw COVID-19 arnynt.

Bydd y diffiniad culach a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn debygol o arwain at nifer lai o dderbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID o gymharu â'r hyn a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n ddull systematig o gynnal gwyliadwriaeth ar gleifion y mae angen iddynt aros yn yr ysbyty os cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf am 9.30yb ddydd Iau 18 Chwefror 2021.

5. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 44/2021