Neidio i'r prif gynnwy

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am gofal iechyd wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae'r datganiad yn cynnwys ffigurau ar welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, derbyniadau cleifion cysylltiedig â COVID-19 i'r ysbyty, a'r nifer a aeth i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Gyda nifer yr achosion o'r coronafeirws yn gostwng dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym yn newid cynnwys y datganiad hwn o 17 Mehefin 2021 ymlaen. Gweler adran ‘gwybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o fanylion am y newidiadau hyn.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd lle bo amheuaeth neu gadarnhad o COVID-19 yn amrywio. O ystyried hynny, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod wedi gostwng yn gyffredinol ers dechrau mis Ionawr 2021 ond mae wedi bod yn wastad ers dechrau Ebrill 2021. Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd yn debyg ar hyn o bryd i’r lefelau isaf ers dechrau adrodd ar 1 Ebrill 2020.
  • Yn y 7 diwrnod diwethaf cafodd cyfartaledd o 8 o bobl y dydd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19, o gymharu â chyfartaledd o 14 ar gyfer yr wythnos hyd at 1 Mehefin 2021.
  • Mae cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi gweld cynnydd ers diwedd mis Medi 2020 a chyrhaeddodd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 gydag 2,879 o gleifion. Ers hynny, er gwaethaf amrywiadau mae nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 wedi lleihau ar y cyfan.
  •  Ar 8 Mehefin 2021, roedd 146 o welyau yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella), sef 1.8% o'r holl gleifion ysbyty. Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu â 141 ar 1 Mehefin 2021 (1.7% o'r holl gleifion ysbyty) ac mae’n debyg ar hyn o bryd i’r lefelau isaf ers i’r cofnodi ddechrau ar 1 Ebrill 2020.
  • Ar 8 Mehefin 2021, mae nifer y cleifion y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt wedi parhau’n isel,ond cafwyd cynnydd bychan diweddar yn nifer y gwelyau oedd yn cael eu defnyddio gan y cleifion yma. Mae nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio gan gleifion yr amheuir bod COVID-19 arnynt bellach yn gymharol isel ac yn tueddu i amrywio. Mae nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio i adfer cleifion COVID-19 wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ac yn yr wythnosau diwethaf mae wedi parhau’n weddol gyson.
  • Ar 8 Mehefin 2021, roedd 2 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi'u cadarnhau ac achosion a amheuir), ac mae ar hyn o bryd yn debyg i’r lefelau isaf ers dechrau adrodd ar 1 Ebrill 2020. Mae hyn yn cymharu â 3 ar 1 Mehefin 2021 ac â 164 ar y brig ym mis Ebrill 2020.

Mae tablau cysylltiedig ar gael am y datganiad hwn, gan gynnwys yr holl ddata isod a hefyd data ar welyau cyffredinol ac acíwt.

Mae ystadegau am alwadau a wnaed i 111 a Galw Iechyd Cymru, absenoldeb staff y GIG a galwadau brys am ambiwlans ar gael ar StatsCymu yn ogystal â’r holl ystadegau eraill yn y datganiad hwn.

Yn ogystal, cyhoeddir gwybodaeth am welyau, nifer y cleifion yn yr ysbyty a derbyniadau i’r ysbyty ar ddyddiau'r wythnos ar StatsCymru am 12yp ac mae hyn yn cynnwys data hyd at y diwrnod cynt. Ar ôl 12yp ar ddydd Iau, ni fydd y data a ddangosir yn y datganiad yma yn cynnwys y data cyhoeddedig diweddaraf. Fodd bynnag, mae'r datganiad wythnosol yma yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar dueddiadau yn y data.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Mae'r adran hon yn sôn am nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 a gafodd eu derbyn i'r ysbyty, a'r gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r mathau o ysbytai mae’r adroddiad yn trafod wedi newid dros amser, am fwy o wybodaeth, gwelwch adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Derbyniadau i ysbytai

Image
Mae Siart 1 yn dangos bod nifer y derbyniadau cleifion, yr oedd amheuaeth bod ganddynt COVID-19, neu yr oeddent wedi cael prawf positif ar ei gyfer, ar ôl cyrraedd brig ym mis Ebrill, wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar 30 Rhagfyr 2020 cyn gostwng eto.

Cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yr amheuir neu y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty rhwng 9am ar ddyddiad y diweddariad a 9am y diwrnod blaenorol. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau derbyniadau.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd lle bo amheuaeth neu gadarnhad o COVID-19 yn amrywio. O ystyried hynny, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod wedi gostwng yn gyffredinol ers dechrau mis Ionawr 2021 ond mae wedi bod yn wastad ers dechrau Ebrill 2021. Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd yn debyg ar hyn o bryd i’r lefelau isaf ers dechrau adrodd ar 1 Ebrill 2020.
  • Yn y 7 diwrnod diwethaf cafodd cyfartaledd o 8 o bobl y dydd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19, o gymharu â chyfartaledd o 14 ar gyfer yr wythnos hyd at 1 Mehefin 2021.

Nifer y bobl yn yr ysbyty

Image
Mae Siart 2 yn dangos bod nifer y bobl â COVID-19 yn yr ysbyty wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 cyn gostwng eto.

Nifer y bobl yn yr ysbyty fel rhai a posibl, a sydd wedi'u cadarnhau neu sy'n gwella gyda COVID-19, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n amlinellu'n fanylach yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar y adrodd cleifion sy’n gwella.

Er mwyn sicrhau bod nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19 yn cael eu cofnodi'n gywir ac yn gyson yn y data ar gyfnodau yr ysbyty, atgoffwyd pob bwrdd iechyd i ddilyn y canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar SITREP, a gofynnwyd iddynt sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol i'w hadroddiadau dyddiol wedi cael eu gweithredu erbyn 12 Ebrill 2021. Yn groes i'r canllawiau, roedd rhai byrddau iechyd yn cyfrif cleifion arhosiad hir a oedd wedi gwella'n llwyr o COVID-19 yng nghategori gwella o COVID-19, yn hytrach na'r categori cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19, a oedd wedi chwyddo nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19. Arweiniodd y newid hwn at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy'n gwella (gostyngiad o tua 123 o gleifion ar y pwynt gweithredu). Er bod yr effaith wedi’i gweld ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, gwelwyd yr effeithiau pennaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau cyfnodau yn yr ysbyty.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19 yn debyg i’r lefelau isaf ar hyn o bryd ers dechrau adrodd ar 1 Ebrill 2020.
  • Cynyddodd cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 (wedi'u cadarnhau, eu amau a'u hadfer) o ddiwedd mis Medi 2020 a chyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 (2,879 o gleifion). Ers hynny, er gwaethaf rhai amrywiadau, mae cyfanswm y nifer wedi bod yn gostwng yn gyffredinol.
  • Cyrhaeddodd nifer y cleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID-19 a nifer y cleifion sy’n gwella o COVID-19 uchafbwynt ar wahanol adegau; gyda'r niferoedd uchaf o gleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID yn digwydd yn gynnar ym mis Ionawr 2021 (1,643 ar 4 Ionawr 2021) a'r niferoedd uchaf o gleifion sy'n gwella i’w gweld rhai wythnosau yn ddiweddarach (1,192 ar 31 Ionawr 2021).

Ar 8 Mehefin 2021

  • Mae nifer y cleifion y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt wedi parhau’n isel,ond cafwyd cynnydd bychan diweddar yn nifer y gwelyau oedd yn cael eu defnyddio gan y cleifion yma. Mae nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio gan gleifion yr amheuir bod COVID-19 arnynt bellach yn gymharol isel ac yn tueddu i amrywio. Mae nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio i adfer cleifion COVID-19 wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ac yn yr wythnosau diwethaf mae wedi parhau’n weddol gyson.
  • Roedd 146 o welyau yn cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19 (wedi'u cadarnhau, achos posibl ac yn gwella), sef 1.8% o'r holl gyfnodau yn yr ysbytai. O'r rhain, roedd 17 gwely yn llawn gyda chleifion COVID-19 wedi'u cadarnhau, 65 gwely yn llawn gyda chleifion COVID-19 posibl a 64 gwely yn llawn gyda chleifion sy’n gwella.

Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

Image
Mae Siart 3 yn dangos bod nifer y gwelyau â chymorth anadlu mewnwthiol a oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19, ar ôl cyrraedd brig ym mis Ebrill 2020, wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr cyn gostwng eto.

Nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Ystyr rhif gwaelod yw nifer y gwelyau oedd ar gael cyn y pandemig. Fel arfer mae 152 o welyau gofal critigol yng Nghymru. Mae nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn cynnwys capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro, a gwelyau y tu mewn a’r tu allan i amgylchedd gofal critigol. Mae cleifion COVID-19 yn y siart hon yn cynnwys cleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19, cleifion sydd â COVID-19 wedi’i gadarnhau, a chleifion sy’n gwella. Rhwng 26 Mai 2020 ac 17 Ionawr 2021 cafodd rhai cleifion eu categoreiddio fel ‘yn gwella’. O 18 Ionawr 2021 cafodd y cleifion hyn eu categoreiddio fel cleifion y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt. Ni chafodd y newid hwn effaith ar gyfanswm nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd nifer y gwelyau mewn defnydd lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn gyffredinol o fis Medi 2020, gan gyrraedd 150 ar 12 Ionawr 2021, ond mae wedi gostwng ers hynny i lefelau a welwyd ym mis Awst 2020.

Ar 8 Mehefin 2021

  • Roedd 2 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi'u cadarnhau ac achosion a amheuir), ac mae ar hyn o bryd yn debyg i’r lefelau isaf ers dechrau adrodd ar 1 Ebrill 2020. Mae hyn yn cymharu â 3 ar 1 Mehefin 2021 ac â 164 ar y brig ym mis Ebrill 2020.
  • Roedd 155 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion nad oeddent yn gysylltiedig â COVID-19. Mae hyn yn cymharu â 144 o welyau (11 yn fwy o wely llawn) ar 1 Mehefin 2021.
  • Roedd 58 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol gwag y gellid eu staffio. Mae hyn yn cymharu â 72 (14 yn llai o welyau ) ar 1 Mehefin 2021.

Mae gwybodaeth am ofal iechyd a gyflwynir ar ddangosfwrdd COVID-19 Llywodraeth y DU ac ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Derbyniadau i adrannau DacAB

Nid yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi gallu darparu’r set ddata ‘Derbyniadau yn adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru’ i Lywodraeth Cymru oherwydd mater prosesu data. Mae cyhoeddi’r set ddata yma wedi’i ohirio a byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hyn cyn gynted â phosibl. Felly, nid yw’r ffigurau a’r siart Damweiniau ac Achosion Brys wedi’u diweddaru ers y cyhoeddiad diwethaf.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Image
Mae Siart 4 yn dangos bod presenoldebau adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gostwng yn sydyn o ganol mis Mawrth 2020 ac wedi cynyddu'n raddol o fis Ebrill 2020 i gyfartaledd 2015 i 2019, ond mae bellach wedi cyrraedd lefelau tebyg i gyfartaledd 2015 i 2019.

Nifer y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, o 1 Ionawr 2015 (MS Excel)

Nodyn

Gan gynnwys derbyniadau i ysbytai Mawr a Bach, drwy bob dull cludo, ar draws Cymru. Nid yw rhai unedau bach Damweiniau ac Argyfwng yn gallu cyflwyno data dyddiol, felly mae'n debyg bod tangyfrif bach yn y cyfanswm sy’n mynychu. Mae'r cyfartaledd pum mlynedd yn defnyddio data o'r blynyddoedd 2015 i 2019. Ar gyfer y data ar 29 Chwefror, dim ond data o'r flwyddyn 2016 a 2020 sydd wedi'u cynnwys. Mae nifer is o dderbyniadau yn dueddol o gael eu cofnodi ar ddydd Sul o gymharu â ddyddiau eraill yr wythnos a nifer uwch o dderbyniadau yn cael eu cofnodi yn ystod yr haf o gymharu â’r gaeaf.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2020, bu gostyngiad sydyn yn nerbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ystod mis Mawrth, i lai na hanner y lefel arferol. Cynyddodd nifer y derbyniadau yn raddol o ddechrau mis Ebrill 2020, ond yn gyffredinol yn parhau'n is na'r cyfartaledd 2015 i 2019.
  • Ers canol mis Ionawr 2021, mae derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi bod yn cynyddu, ac yn cyrraedd lefelau tebyg i gyfartaledd 2015 i 2019.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Mae’n bosibl y bydd data hanesyddol wedi'u diwygio ac na fyddant, felly, yn union yr un fath â'r hyn a gyhoeddwyd o’r blaen.

Newidiadau i'r cynnwys ar gyfer datganiadau yn y dyfodol

Gyda nifer yr achosion o'r coronafeirws yn gostwng dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym yn newid cynnwys y datganiad hwn o 17 Mehefin 2021 ymlaen, fel yr amlinellir isod.

Absenoldeb a chyfradd hunanynysu staff y GIG

Cyhoeddir yr wybodaeth hon bob dydd Iau ar StatsCymru. Rydym yn bwriadu symud y casglu hwn o bob wythnos i bob pythefnos o 17 Mehefin 2021 ymlaen, ond rydym yn disgwyl adborth gan y darparwyr data. Os oes unrhyw newidiadau i’r dyddiad gweithredu, byddwn yn nodi hyn yn glir yn y datganiad.

Cyflwynwyd y casgliad data hwn ar ddechrau'r pandemig i helpu i ddeall a rheoli capasiti yn y GIG er mwyn ymateb yn gyflym i'r anghenion a'r blaenoriaethau newidiol. Mae'r gwaith o gasglu data yn ddwys o ran adnoddau i gyrff y GIG ac, er nad yw absenoldeb staff oherwydd COVID yn ffactor o bwys erbyn hyn wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol y GIG, rydym am leihau'r baich ar gyrff sy'n casglu ac yn cyflenwi'r data hwn.

Derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y GIG

Cyhoeddir yr wybodaeth hon ar hyn o bryd yn y datganiad ystadegol hwn a hefyd ar StatsCymru bob dydd Iau. O 17 Mehefin 2021 ymlaen, byddwn yn dileu'r adran hon o'r datganiad ystadegol ac yn rhoi'r gorau i ddiweddaru'r data hwn.

Ar ddechrau'r pandemig, cafodd ystadegau swyddogol ar dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys eu rhewi, a chyflwynwyd data wythnosol a dynnwyd o wybodaeth reoli. Er hynny, mae ystadegau swyddogol am dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn cael eu cyhoeddi unwaith eto bob mis fel rhan o'r datganiad ystadegol Gweithgarwch a Pherfformiad y GIG. Hefyd, yn y misoedd diwethaf dengys y data fod derbyniadau ar lefelau tebyg erbyn hyn i gyfartaledd 2015-19.

Galwadau a wnaed i 111 a Galw Iechyd Cymru

Cyhoeddir hyn ar hyn o bryd bob dydd Iau ar StatsCymru. O 17 Mehefin 2021 ymlaen, byddwn yn rhoi'r gorau i ddiweddaru'r data hyn.

Mae galwadau i 111 a Galw Iechyd Cymru'n cael eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ei Ddangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym COVID-19. Mae gwybodaeth ar gael am bob galwad a chyfran y galwadau sydd ar gyfer symptomau COVID-19. Mae'r wybodaeth ar gael ar lefel byrddau iechyd lleol

Galwadau ambiwlans argyfwng yn ôl dyddiad

Cyhoeddir hyn bob dydd Iau ar StatsCymru. O 17 Mehefin 2021 ymlaen, byddwn yn rhoi'r gorau i ddiweddaru'r data hyn.

Ar ddechrau'r pandemig, cafodd ystadegau swyddogol ar alwadau argyfwng i'r gwasanaeth ambiwlans eu rhewi, a chyflwynwyd data wythnosol a dynnwyd o wybodaeth reoli. Er hynny, mae ystadegau swyddogol am alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu cyhoeddi unwaith eto bob mis fel rhan o'r datganiad ystadegol Gweithgarwch a Pherfformiad y GIG.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Sylwch nad oedd Caerdydd a'r Fro yn gallu cyflenwi data ysbyty ar gyfer 25 Mai 2021 oherwydd methiant i uwchraddio systemau. Defnyddiwyd data ysbytai o Gaerdydd a'r Fro ar gyfer 24 Mai 2021 fel dirprwy ar gyfer 25 Mai 2021 a chaiff ei ddiwygio ar 26 Mai 2021. Cyhoeddir yr adolygiad hwn ar ein gwefan StatsCymru ar 27 Mai 2021.

Ar 13 Mawrth 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig.

Yn dilyn gwaith dilysu pellach, penderfynwyd nad oedd data derbyniadau a chyfnodau yn yr ysbyty cyn 1 Ebrill 2020 yn addas i’w gyhoeddi. Felly, mae’r gyfres amser yn dechrau ar 1 Ebrill 2020.

Mae ffigurau ar weithgarwch a chapasiti ysbytai a defnydd gwelyau yn cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen, ac yn eithrio data o ysbytai preifat.

Derbyniadau i ysbytai

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty rhwng 9am ar ddyddiad y diweddariad a 9am y diwrnod blaenorol. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Ers y 3ydd o Orffennaf 2020, diweddarwyd y canllawiau i gynnwys derbyniadau brys yn unig yn y ffigurau derbyniadau sy’n gysylltiedig â COVID-19.

O 29 Mehefin 2020 ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd.

O 29 Mehefin 2020, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty.

Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion a amheuir yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd.

Nifer y bobl yn yr ysbyty

Er mwyn sicrhau bod nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19 yn cael eu cofnodi'n gywir ac yn gyson yn y data ar gyfnodau yr ysbyty, atgoffwyd pob bwrdd iechyd i ddilyn y canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar SITREP, a gofynnwyd iddynt sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol i'w hadroddiadau dyddiol wedi cael eu gweithredu erbyn 12 Ebrill 2021. Yn groes i'r canllawiau, roedd rhai byrddau iechyd yn cyfrif cleifion arhosiad hir a oedd wedi gwella'n llwyr o COVID-19 yng nghategori gwella o COVID-19, yn hytrach na'r categori cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19, a oedd wedi chwyddo nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19. Arweiniodd y newid hwn at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy'n gwella (gostyngiad o tua 123 o gleifion ar y pwynt gweithredu). Er bod yr effaith wedi’i gweld ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, gwelwyd yr effeithiau pennaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

O 8 Mawrth 2021, sicrhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fod eu data yn fwy cydnaws â’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar y sefyllfa (SITREP). Cafodd y newid hwn effaith fach ar y ffigurau ar gyfnodau yn yr ysbyty, a arweiniodd at gynnydd bach yn nifer y cleifion gyda COVID-19 a gadarnhawyd a gostyngiad bach yn nifer y cleifion COVID-19 sy’n gwella.

O 1 Chwefror 2021, ailadroddwyd canllawiau i fyrddau iechyd y dylai cleifion a oedd eisoes yn yr ysbyty ac wedi contractio COVID-19, ond sydd bellach wedi gwella ac sydd yn ôl ar eu lleoliad gwreiddiol, gael eu hadrodd fel rhai nad ydynt yn COVID-19. Gall hyn fod wedi effeithio ar nifer fach o gleifion oedd mewn ysbytai acíwt neu leoliadau iechyd meddwl a gallai fod wedi arwain at ostyngiad yn nifer y cleifion sy'n gwella a chynnydd yn nifer y cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19.

O 16 Tachwedd 2020, cynhwysir data o ysbyty Athrofaol y Faenor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o oddeutu 450 yng nghyfanswm nifer y gwelyau sydd ar gael.

Cafodd data o unedau iechyd meddwl eu cynnwys yn ôl-weithredol o 10 Gorffennaf 2020 am y tro cyntaf yn natganiad 20 Awst 2020. Roedd cynnwys gwelyau iechyd meddwl wedi cael effaith fach ar ffigurau a oedd yn dangos nifer y gwelyau llawn gyda chleifion COVID-19, ond effaith fawr ar yr holl welyau llawn gyda chleifion heb COVID-19 a gwelyau gwag, gan nad yw’r rhan fwyaf o welyau iechyd meddwl yn cynnwys cleifion COVID-19. Caiff data unedau iechyd meddwl eu cyflwyno bob dydd Gwener, a chaiff y sefyllfa ar y dydd Gwener ei defnyddio fel procsi ar gyfer yr wythnos ganlynol, oni bai bod yr amgylchiadau’n newid yn ddirfawr.

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n amlinellu'n fanylach yn yr adran Ansawdd Allweddol.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar y adrodd cleifion sy’n gwella.

Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin 2020 ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai 2020 a 22 Mai 2020. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai 2020.

Ers Mehefin 2020, mae ysbytai wedi dechrau cau rhywfaint o’r capasiti ychwanegol a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer cynydd yn nifer y cleifion yn sgil pandemig COVID-19.

Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

O 18 Ionawr 2021, ni chyfrifir unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n ‘gwella’ gan fod angen lefel uchel o ofal arnynt o hyd. Caiff unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn ‘gwella’ ei gyfrif nawr o dan ‘wedi'u cadarnhau’. Arweiniodd y newid hwn at gynnydd yn nifer y cleifion COVID-19 ‘wedi’u cadarnhau’ a oedd yn defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt gweithredu) ac nid oedd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion sy’n ‘gwella’. Ni chafodd y newid hwn unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

O 13 Tachwedd 2020 ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio a gafodd eu cynnwys fel gwelyau oedd ar gael. Mae gwelyau wedi’u staffio yn golygu’r rheini y gellir eu staffio adeg y cyfrifiad. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

O 19 Hydref 2020, mae data ar gyfer gwelyau gofal critigol arbenigol (fel y rhai Llosgi a Phlastig yn Nhreforys) a gwelyau acíwt arbenigol eraill (fel rhai mamolaeth) dros safleoedd acíwt eraill wedi eu cynnwys. Mae’r gwelyau hyn wedi cael eu cynnwys yn y data gan eu bod yn rhan o’r stoc o welyau sydd ar gael, a gellid eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19 mewn amgylchiadau eithriadol. Nid oes cleifion COVID-19 yn y mwyafrif o’r gwelyau hyn. Nid yw cynnwys y rhain felly yn cael fawr effaith ar nifer y gwelyau â chleifion COVID-19 ond mae’r effaith yn fwy ar nifer y gwelyau gweigion a’r rheini sydd â chleifion sydd ddim â COVID-19.

Derbyniadau i adrannau DacAB

Gan gynnwys derbyniadau i ysbytai Mawr a Bach, drwy bob dull cludo, ar draws Cymru. Nid yw rhai unedau bach Damweiniau ac Argyfwng yn gallu cyflwyno data dyddiol, felly mae'n debyg bod tangyfrif bach yn y cyfanswm sy’n mynychu. Mae'r cyfartaledd pum mlynedd yn defnyddio data o'r blynyddoedd 2015 i 2019. Ar gyfer y data ar 29 Chwefror, dim ond data o'r flwyddyn 2016 a 2020 sydd wedi'u cynnwys. Mae nifer is o dderbyniadau yn dueddol o gael eu cofnodi ar ddydd Sul o gymharu â ddyddiau eraill yr wythnos a nifer uwch o dderbyniadau yn cael eu cofnodi yn ystod yr haf o gymharu â’r gaeaf.

Cymaroldeb

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU am wybodaeth am ofal iechyd ar lefel y DU. Sylwer: mae'r data gofal iechyd a gyflwynwyd yn dangosfwrdd y DU yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Mae’r data ar gyfer Cymru ar ddangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai llym yn unig a ddarparwyd yn wreiddiol er mwyn gallu cymharu'n well â gwledydd eraill. Ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai llym, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl er mwyn darparu darlun mwy cynhwysfawr o'r system yng Nghymru. O 11 Rhagfyr 2020 ymlaen, diweddarwyd data ar gyfer Lloegr a gyflwynwyd ar ddangosfwrdd y DU er mwyn cyd-fynd â chyhoeddiadau GIG Lloegr ac o ganlyniad diwygiwyd y gyfres amser cyfan ar gyfer yr eitem hon. Mae’r data ar gyfer Lloegr ar ddangosfwrdd y DU yn awr yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl. Oherwydd y newid mewn adrodd hon, rydym yn adolygu cyfaddasrwydd y data a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer Cymru. Cyhoeddir amcangyfrifon o nifer y bobl a gafodd y coronafeirws yng Nghymru a Lloegr hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr Arolwg o Heintiadau Coronafeirws

Sylwch fod y data gwyliadwraeth gofal iechyd a gyflwynir yn nangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r hyn sydd yn y cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio data a gesglir yn systematig drwy ICNET, y system data rheoli heintiau mewn ysbytai a ddefnyddir ledled Cymru. Mae'n cynnwys cleifion mewnol mewn ysbytai sydd wedi cael cadarnhad o’u prawf drwy labordy ac nid yw'n cyfrif unrhyw gleifion a gafodd eu derbyn a'u rhyddhau yr un diwrnod.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio data a geir o wybodaeth reoli ddyddiol a ddarperir gan fyrddau iechyd. Darparwyd canllawiau ar gwblhad a chyflwyniad y casgliad data i fyrddau iechyd lleol. Gall dulliau casglu data amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall. Mae'n cynnwys cleifion yr amheuir bod y clefyd arnynt, cleifion y cadarnhawyd ei fod arnynt a chleifion sy’n gwella ohono. Mae hefyd yn cynnwys cleifion nad yw COVID-19 arnynt.

Bydd y diffiniad culach a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn debygol o arwain at nifer lai o dderbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID o gymharu â'r hyn a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n ddull systematig o gynnal gwyliadwriaeth ar gleifion y mae angen iddynt aros yn yr ysbyty os cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol' sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf am 9.30yb Ddydd Iau 17 Mehefin 2021.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 173/2021