Neidio i'r prif gynnwy

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am gofal iechyd wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae'r datganiad yn cynnwys ffigurau ar welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, derbyniadau cleifion cysylltiedig â COVID-19 i'r ysbyty, a'r nifer a aeth i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd gyda COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd yn amrywio. O ystyried hynny, mae’r cyfartaledd treigl 7 diwrnod wedi gostwng ers dechrau Ionawr 2021, gyda lefelau nawr yr isaf ers dechrau’r cyfnod adrodd.
  • Yn y 7 diwrnod diwethaf chafodd 21 o bobl ar gyfartaledd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19, i’w cymharu â 48 yn yr wythnos hyd at 23 Mawrth 2021.
  • Mae cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi gweld cynnydd ers diwedd mis Medi 2020 a chyrhaeddodd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 gydag 2,879 o gleifion. Ers hynny, er gwaethaf amrywiadau mae nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 wedi lleihau.
  • Ar 30 Mawrth 2021, roedd cleifion cysylltiedig â COVID-19 (wedi'u cadarnhau, posibl ac sy’n gwella) mewn 635 o welyau gan gyfrif am 8% o'r holl dderbyniadau i'r ysbyty. Mae hyn yn ostyngiad o 729 o’i gymharu â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol (9% o’r holl gleifion) a bellach ar lefelau tebyg i fis Hydref 2020.
  • Ar 30 Mawrth 2021, bu gostyngiadau yn nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio gan gleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID-19 a cleifion COVID-19 posibl. Felly, mae gostyngiadau ym mhob un o’r tri chategori o gleifion COVID-19 wedi cyfrannu at y gostyngiad cyffredinol yn nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19.
  • Ar 30 Mawrth 2021, roedd 15 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (wedi'u cadarnhau, posibl ac sy’n gwella), a bellach ar lefelau tebyg i fis Medi 2020. Mae hon yn cymharu â 25 o welyau â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol ac yn cymharu â 164 ar y brig ym mis Ebrill 2020.
  • Ar 28 Mawrth 2021, cafwyd 1,936 o dderbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Mae hyn o gymharu â 2,187 ar yr un diwrnod yn yr wythnos flaenorol, ac o gymharu â’r cyfartaledd cyfatebol ar gyfer 2015-19 o 2,777 o dderbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Mae tablau cysylltiedig ar gael am y datganiad hwn, gan gynnwys yr holl ddata isod a hefyd data ar welyau cyffredinol ac acíwt.

Mae ystadegau am alwadau a wnaed i 111 a Galw Iechyd Cymru, absenoldeb staff y GIG a galwadau brys am ambiwlans ar gael ar StatsCymu yn ogystal â’r holl ystadegau eraill yn y datganiad hwn.

Oherwydd materion yn ymwneud â phrosesu data, dim ond hyd at 23 Chwefror 2021 y mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi gallu darparu data dyddiol ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys, yn hytrach na 28 Chwefror 2021. Byddwn yn diweddaru'r data hwn fel rhan o'n cyhoeddiad arfaethedig nesaf ddydd Iau 11 Mawrth 2021.

Yn ogystal, cyhoeddir gwybodaeth am welyau, nifer y cleifion yn yr ysbyty a derbyniadau i’r ysbyty ar ddyddiau'r wythnos ar StatsCymru am 12yp ac mae hyn yn cynnwys data hyd at y diwrnod cynt. Ar ôl 12yp ar ddydd Iau, ni fydd y data a ddangosir yn y datganiad yma yn cynnwys y data cyhoeddedig diweddaraf. Fodd bynnag, mae'r datganiad wythnosol yma yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar dueddiadau yn y data.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Mae'r adran hon yn sôn am nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 a gafodd eu derbyn i'r ysbyty, a'r gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r mathau o ysbytai mae’r adroddiad yn trafod wedi newid dros amser, am fwy o wybodaeth, gwelwch adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Derbyniadau i ysbytai

Image
Mae Siart 1 yn dangos gostyngiad cyson yn nifer y derbyniadau rhwng mis Ebrill 2020 a mis Awst 2020. Ar ôl hynny, cynyddodd nifer y derbyniadau yn gyffredinol gan gyrraedd uchafbwynt ar 30 Rhagfyr 2020 cyn gostwng eto.

Cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yr amheuir neu y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty rhwng 9am ar ddyddiad y diweddariad a 9am y diwrnod blaenorol. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Ar 13 Mawrth 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig. Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion a amheuir yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd.

O 29 Mehefin 2020, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty.

O 29 Mehefin 2020 ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd.

Ers y 3ydd o Orffennaf 2020, diweddarwyd y canllawiau i gynnwys derbyniadau brys yn unig yn y ffigurau derbyniadau sy’n gysylltiedig â COVID-19.

Ar 30 Mawrth 2021

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd gyda COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd yn amrywio. O ystyried hynny, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod wedi gostyngiad yn yr wythnos ddiwethaf, gyda lefelau nawr yr isaf ers dechrau’r cyfnod adrodd.
  • Yn y 7 diwrnod diwethaf cafodd 21 o bobl y dydd ar gyfartaledd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19. Mae hyn yn 27 yn lai o dderbyniadau ar gyfartaledd o gymharu â chyfartaledd o 48 yn yr wythnos hyd at 23 Mawrth 2021.

Nifer y bobl yn yr ysbyty

Image
Mae Siart 2 yn dangos gostyngiad cyson yn nifer y bobl yn yr ysbyty gyda COVID-19 o fis Ebrill 2020 ymlaen. Yn gyffredinol, mae’r nifer wedi cynyddu ers mis Medi 2020 gan gyrraedd uchafbwynt ar 12 Ionawr 2021 cyn gostwyng eto.

Nifer y bobl yn yr ysbyty fel rhai a posibl, a sydd wedi'u cadarnhau neu sy'n gwella gyda COVID-19, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n amlinellu'n fanylach yn yr adran Ansawdd Allweddol.

O 18 Ionawr 2021, ni ddylid cyfrif unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n "gwella" gan eu bod yn parhau i angen lefel uchel o ofal. Bydd unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn "gwella" yn cael ei gyfrif nawr o dan "wedi'u cadarnhau". Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y cleifion COVID-19 “wedi’u cadarnhau” sy’n defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt o weithredu) ac ni fydd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai sy’n cael eu defnyddio can gleifion sy’n “gwella”. Ni fydd y newid yma yn cael unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

O 1 Chwefror 2021, ailadroddwyd canllawiau i fyrddau iechyd y dylai cleifion a oedd eisoes yn yr ysbyty ac wedi contractio COVID-19, ond sydd bellach wedi gwella ac sydd yn ôl ar eu lleoliad gwreiddiol, gael eu hadrodd fel rhai nad ydynt yn COVID-19. Gall hyn effeithio ar nifer fach o gleifion sydd mewn ysbytai acíwt neu leoliadau iechyd meddwl a gall arwain at ostyngiad mewn cleifion sy'n gwella a chynnydd mewn cleifion nad ydynt yn COVID-19.

O 8 Mawrth 2021, mae bwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi alinio’u data yn agosach at y canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar y sefyllfa (SITREP). Caiff y newid hwn effaith fach ar y ffigurau a’n debygol o weld cynnydd bach yn nifer y cleifion gyda COVID-19 a gadarnhawyd a gostyngiad bach yn nifer y cleifion COVID-19 sy’n gwella.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar y adrodd cleifion sy’n gwella.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 (wedi'u cadarnhau, eu amau a'u hadfer) o ddiwedd mis Medi 2020 a chyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 (2,879 o gleifion). Ers hynny, er gwaethaf rhai amrywiadau, mae cyfanswm y nifer wedi bod yn gostwng yn gyffredinol.
  • Cyrhaeddodd nifer y cleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID-19 a nifer y cleifion sy’n gwella o COVID-19 uchafbwynt ar wahanol adegau; gyda'r niferoedd uchaf o gleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID yn digwydd yn gynnar ym mis Ionawr 2021 (1,643 ar 4 Ionawr 2021) a'r niferoedd uchaf o gleifion sy'n gwella i’w gweld rhai wythnosau yn ddiweddarach (1,192 ar 31 Ionawr 2021).
  • Mae nifer y cleifion COVID-19 wedi’u cadarnhau a nifer y cleifion sy’n gwella wedi bod yn gostwng yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Ar 30 Mawrth 2021

  • Roedd cleifion cysylltiedig â COVID-19 (wedi'u cadarnhau, posibl ac sy’n gwella) mewn 635 o welyau gan gyfrif am 8% o'r holl dderbyniadau i'r ysbyty. Mae hyn yn ostyngiad o 729 (94 llai o welyau) o’i gymharu â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol (9% o’r holl gleifion) a bellach ar lefelau tebyg i ganol mis Hydref 2020.
  • Bu gostyngiadau yn nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio gan gleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID-19, cleifion COVID-19 posibl a chleifion sy’n gwella o COVID-19. Felly, mae gostyngiadau ym mhob un o’r tri chategori o gleifion COVID-19 wedi cyfrannu at y gostyngiad cyffredinol yn nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19.
  • Roedd 123 cleifion COVID-19 sydd wedi'u cadarnhau. Mae hyn yn ostyngiad o 179 (56 llai o welyau sy’n llawn) â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol, a bellach ar lefelau tebyg i ddiwedd Medi 2020.
  • Roedd 473 o welyau sy’n llawn gyda chleifion sy’n gwella. Mae hyn yn ostyngiad o 504 (31 llai o welyau sy’n llawn) i'w gymharu â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol, a bellach ar lefelau tebyg i ddiwedd Tachwedd 2020.
  • Roedd 39 o welyau gyda chleifion posibl COVID-19, ostyngiad o 46 (7 llai o welyau sy’n llawn) i’w gymharu â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol.

Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

Image
Ar ôl gostyngiad cyson yn nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol a ddefnyddir ar gyfer claf COVID-19 ers yr uchafbwynt ym mis Ebrill 2020, mae Siart 3 yn dangos bod cynnydd wedi bod ers mis Medi 2020 gyda nifer y gwelyau a ddefnyddir yn cyrraedd lefel debyg ym mis Ionawr 2021 i’r uchafbwynt ym mis Ebrill 2020 cyn gostwyng eto.

Nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Ystyr rhif gwaelod yw nifer o welyau roedd ar gael cyn i’r pandemig. Fel arfer mae 152 gwelyau gofal critigol yng Nghymru. Mae nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn cynnwys capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro, a gwelyau y tu mewn a’r tu allan i amgylchedd gofal critigol. Cynhwysir cleifion COVID-19 yn y siart cleifion posibl o COVID-19, cleifion sydd wedi'u cadarnhau, a chleifion sy’n gwella.

Ers Mehefin 2020, mae ysbytai wedi dechrau cau rhywfaint o’r capasiti ychwanegol a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer cynydd yn nifer y cleifion yn sgil pandemig COVID-19.

Ers 19 Hydref 2020 mae gwelyau gofal critigol arbenigol wedi cael eu cynnwys yn y ffigurau hyn. Gweler yr adran Gwybodaeth ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.

O 13 Tachwedd 2020 ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio sy’n cael eu yna cynnwys fel gwelyau sydd ar gael. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen. Gweler yr adran Gwybodaeth ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.

O 18 Ionawr 2021, ni ddylid cyfrif unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n "gwella" gan eu bod yn parhau i angen lefel uchel o ofal. Bydd unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn "gwella" yn cael ei gyfrif nawr o dan "wedi'u cadarnhau". Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y cleifion COVID-19 “wedi’u cadarnhau” sy’n defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt o weithredu) ac ni fydd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai sy’n cael eu defnyddio can gleifion sy’n “gwella”. Ni fydd y newid yma yn cael unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

Ar 30 Mawrth 2021

  • Mae nifer y gwelyau ymledol a feddiannir gan gleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi lleihau ers uchafbwynt yng nghanol Ebrill 2020. Cynyddodd nifer y gwelyau mewn defnydd lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn gyffredinol o fis Medi 2020, gan gyrraedd lefel uchaf o 150 ar 12 Ionawr 2021, ond mae wedi gostwng ers hynny i lefelau a welwyd ym ddiwedd Medi 2020.
  • Roedd 15 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella). Mae hon yn cymharu â 25 o welyau (10 llai o welyau sy’n llawn) â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol ac yn cymharu â 164 (149 llai o welyau sy’n llawn) ar y brig ym ddiwedd mis Ebrill 2020.
  • Roedd 145 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion nad oeddent yn gysylltiedig â COVID-19, a bellach ar lefelau tebyg i dechrau Medi 2020. Mae hyn yn cymharu â 140 o welyau (5 mwy o welyau mewn defnydd) ar yr un diwrnod yn yr wythnos flaenorol.
  • Roedd 66 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol gwag y gellid eu staffio. Mae hyn yn cymharu â 62 (4 mwy o welyau) ar yr un diwrnod yn yr wythnos flaenorol.

Mae gwybodaeth am ofal iechyd a gyflwynir ar ddangosfwrdd COVID-19 Llywodraeth y DU ac ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Derbyniadau i adrannau DacAB

Mae'r adran hon yn sôn am dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Oherwydd materion yn ymwneud â phrosesu data, dim ond hyd at 23 Chwefror 2021 y mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi gallu darparu data dyddiol ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys, yn hytrach na 28 Chwefror 2021. Byddwn yn diweddaru'r data hwn fel rhan o'n cyhoeddiad arfaethedig nesaf ddydd Iau 11 Mawrth 2021.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Image
Mae Siart 4 yn dangos bod nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys wedi gostwng yn sydyn o ganol mis Mawrth ymlaen i oddeutu hanner y nifer blaenorol, gan gynyddu'n araf rhwng mis Ebrill 2020 a mis Awst 2020 i fod yn agos at y lefelau cyn y pandemig. Fodd bynnag, ym mis Medi 2020, dechreuodd nifer y mynychiadau ostwng ac mae wedi aros yn is na’r lefelau cyn y pandemig.

Nifer y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, o 1 Ionawr 2015 (MS Excel)

Nodyn

Gan gynnwys derbyniadau i ysbytai Mawr a Bach, drwy bob dull cludo, ar draws Cymru. Nid yw rhai unedau bach Damweiniau ac Argyfwng yn gallu cyflwyno data dyddiol, felly mae'n debyg bod tangyfrif bach yn y cyfanswm sy’n mynychu. Mae'r cyfartaledd pum mlynedd yn defnyddio data o'r blynyddoedd 2015 i 2019. Ar gyfer y data ar 29 Chwefror, dim ond data o'r flwyddyn 2016 a 2020 sydd wedi'u cynnwys. Mae nifer is o dderbyniadau yn dueddol o gael eu cofnodi ar ddydd Sul o gymharu â ddyddiau eraill yr wythnos a nifer uwch o dderbyniadau yn cael eu cofnodi yn ystod yr haf o gymharu â’r gaeaf.

Prif bwyntiau

  • Gwelwyd gostyngiad sydyn yn nifer y derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys o 3,134 ar 9 Mawrth 2020 i 1,066 ar 29 Mawrth 2020, sy’n llawer is na’r lefelau cyn y pandemig. Yna, dechreuodd nifer y derbyniadau gynyddu’n raddol o ddechrau mis Ebrill 2020 i gyfartaledd o 2,509 o dderbyniadau pob diwrnod ym mis Awst, ond ers hynny maent wedi parhau i aros yn is na’r cyfartaledd ar gyfer 2015-2019.
  • O ganol mis Ionawr 2021, mae derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi dechrau cynyddu eto o 1,406 o dderbyniadau ar 10 Ionawr 2021 i 2,720 o dderbyniadau ar 22 Mawrth 2021, sef y nifer uchaf o dderbyniadau mewn diwrnod hyd yma yn 2021.

Ar 28 Mawrth 2021

  • Cafwyd 1,936 o dderbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Mae hyn o gymharu â 2,187 (251 o dderbyniadau’n llai) ar yr un diwrnod yn yr wythnos flaenorol, ac o gymharu â’r cyfartaledd cyfatebol ar gyfer 2015-19 o 2,777 o dderbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys (841 o dderbyniadau’n llai).

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Mae’n bosibl y bydd data hanesyddol wedi'u diwygio ac na fyddant, felly, yn union yr un fath â'r hyn a gyhoeddwyd o’r blaen.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Mae ffigurau ar weithgarwch a chapasiti ysbytai a defnydd gwelyau yn cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen, ac yn eithrio data o ysbytai preifat.

Yn dilyn gwaith dilysu pellach, penderfynwyd nad oedd cwmpas data cyn 1 Ebrill 2020 ar gyfer derbyniadau, cyfnodau yn yr ysbyty a defnydd gwelyau yn addas i’w gyhoeddi. Felly, bydd y gyfres amser yn dechrau ar 1 Ebrill 2020.

O 8 Mawrth 2021, mae bwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi alinio’u data yn agosach at y canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar y sefyllfa (SITREP). Cafodd y newid hwn effaith fach ar y ffigurau ‘gosod mewn ysbyty’ gyda’r canlyniad o weld cynnydd bach yn nifer y cleifion gyda COVID-19 a gadarnhawyd a gostyngiad bach yn nifer y cleifion COVID-19 sy’n gwella.

O 1 Chwefror 2021, ailadroddwyd canllawiau i fyrddau iechyd y dylai cleifion a oedd eisoes yn yr ysbyty ac wedi contractio COVID-19, ond sydd bellach wedi gwella ac sydd yn ôl ar eu lleoliad gwreiddiol, gael eu hadrodd fel rhai nad ydynt yn COVID-19. Gall hyn effeithio ar nifer fach o gleifion sydd mewn ysbytai acíwt neu leoliadau iechyd meddwl a gall arwain at ostyngiad mewn cleifion sy'n gwella a chynnydd mewn cleifion nad ydynt yn COVID-19.

O 18 Ionawr 2021, ni ddylid cyfrif unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n "gwella" gan eu bod yn parhau i angen lefel uchel o ofal. Bydd unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn "gwella" yn cael ei gyfrif nawr o dan "wedi'u cadarnhau". Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y cleifion COVID-19 “wedi’u cadarnhau” sy’n defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt o weithredu) ac ni fydd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai sy’n cael eu defnyddio can gleifion sy’n “gwella”. Ni fydd y newid yma yn cael unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

O 16 Tachwedd 2020, bydd data’n cael eu cynnwys o’r ganolfan arbenigol a gofal critigol newydd; Ysbyty Athrofaol y Faenor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae agor yr ysbyty wedi arwain at gynnydd yn nifer y gwelyau sydd ar gael gan oddeutu 450 o welyau.

O 13 Tachwedd 2020 ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio sy’n cael eu cynnwys fel gwelyau sydd ar gael. Cyn hynny roedd pob gwely gofal critigol wedi cael ei gynnwys, p’un a ellid staffio’r gwely hwnnw ai peidio. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

O 19 Hydref 2020, mae data ar gyfer gwelyau gofal critigol arbenigol (fel y rhai Llosgi a Phlastig yn Nhreforys) a gwelyau acíwt arbenigol eraill (fel rhai mamolaeth) dros safleoedd acíwt eraill wedi eu cynnwys. Mae’r gwelyau hyn wedi cael eu cynnwys yn y data gan eu bod yn rhan o’r stoc o welyau sydd ar gael, a gellid eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19 mewn amgylchiadau eithriadol. Nid oes cleifion COVID-19 yn y mwyafrif o’r gwelyau hyn. Nid yw cynnwys y rhain felly yn cael fawr effaith ar nifer y gwelyau â chleifion COVID-19 ond mae’r effaith yn fwy ar nifer y gwelyau gweigion a’r rheini sydd â chleifion sydd ddim â COVID-19.

Cafodd data o unedau iechyd meddwl eu cynnwys yn ôl-weithredol o 10 Gorffennaf 2020 am y tro cyntaf yn natganiad 20 Awst 2020. Cafodd cynnwys gwelyau iechyd meddwl effaith fach ar ffigurau cleifion COVID-19 ond effaith fawr ar yr holl ffigurau ysbytai, gan nad yw’r rhan fwyaf o gleifion iechyd meddwl yn gleifion COVID-19.

Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin 2020 ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai 2020 a 22 Mai 2020. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai 2020.

Cymaroldeb

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU am wybodaeth am ofal iechyd ar lefel y DU. Sylwer: mae'r data gofal iechyd a gyflwynwyd yn dangosfwrdd y DU yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Mae’r data ar gyfer Cymru ar ddangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai llym yn unig a ddarparwyd yn wreiddiol er mwyn gallu cymharu'n well â gwledydd eraill. Ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai llym, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl er mwyn darparu darlun mwy cynhwysfawr o'r system yng Nghymru. O 11 Rhagfyr 2020 ymlaen, diweddarwyd data ar gyfer Lloegr a gyflwynwyd ar ddangosfwrdd y DU er mwyn cyd-fynd â chyhoeddiadau GIG Lloegr ac o ganlyniad diwygiwyd y gyfres amser cyfan ar gyfer yr eitem hon. Mae’r data ar gyfer Lloegr ar ddangosfwrdd y DU yn awr yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl. Oherwydd y newid mewn adrodd hon, rydym yn adolygu cyfaddasrwydd y data a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer Cymru. Cyhoeddir amcangyfrifon o nifer y bobl a gafodd y coronafeirws yng Nghymru a Lloegr hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr Arolwg o Heintiadau Coronafeirws

Sylwch fod y data gwyliadwraeth gofal iechyd a gyflwynir yn nangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r hyn sydd yn y cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio data a gesglir yn systematig drwy ICNET, y system data rheoli heintiau mewn ysbytai a ddefnyddir ledled Cymru. Mae'n cynnwys cleifion mewnol mewn ysbytai sydd wedi cael cadarnhad o’u prawf drwy labordy ac nid yw'n cyfrif unrhyw gleifion a gafodd eu derbyn a'u rhyddhau yr un diwrnod.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio data a geir o wybodaeth reoli ddyddiol a ddarperir gan fyrddau iechyd. Darparwyd canllawiau ar gwblhad a chyflwyniad y casgliad data i fyrddau iechyd lleol. Gall dulliau casglu data amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall. Mae'n cynnwys cleifion yr amheuir bod y clefyd arnynt, cleifion y cadarnhawyd ei fod arnynt a chleifion sy’n gwella ohono. Mae hefyd yn cynnwys cleifion nad yw COVID-19 arnynt.

Bydd y diffiniad culach a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn debygol o arwain at nifer lai o dderbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID o gymharu â'r hyn a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n ddull systematig o gynnal gwyliadwriaeth ar gleifion y mae angen iddynt aros yn yr ysbyty os cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf am 9.30yb ddydd Iau 8 Ebrill 2021.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 99/2021